Agenda item

Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Domestig, Ward Caerau 2012 a 2013

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gymeradwyaeth i gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru erbyn 28 Chwefror 2022, i sicrhau cynnig dros dro o gyllid tuag at wneud gwaith adfer hanfodol sydd ei angen ar eiddo yng Nghaerau yn dilyn methiant y gwaith inswleiddio waliau a wnaed yn 2012/13. Gofynnodd hefyd am gefnogaeth y Cabinet i wneud cais i ddyraniad cyfalaf y Cyngor gael ei gymeradwyo a'i gynnwys fel rhan o'r achos busnes a gyflwynid, er mwyn sicrhau y câi cynllun cynhwysfawr ei ddatblygu i fynd i'r afael â phob eiddo yr effeithiwyd arno.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cabinet wedi cael gwybod o’r blaen ym mis Tachwedd 2020 a mis Mawrth 2021 am fethiant y gwaith inswleiddio waliau, a oedd wedi dangos arwyddion sylweddol o dd?r yn mynd i mewn a lleithder i dai yng Nghaerau. Roedd wedi derbyn awdurdod dirprwyedig gan y Cabinet i ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol oedd yn ymwneud â'r rhaglenni gwaith i osod inswleiddiad waliau yng Nghaerau yn 2012/13 ac edrych i mewn i’r dewisiadau i fynd i'r afael â'r gwaith oedd wedi bod yn fethiant a’i gywiro. Cytunwyd hefyd y dylid cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet yn amlinellu canlyniad ymgysylltu parhaus â sefydliadau fel OFGEM, y rheoleiddiwr ynni, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn neilltuol, pan fyddai unrhyw atebion wedi cael eu cytuno.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith inswleiddio waliau wedi cael ei wneud ar 104 eiddo yng Nghaerau bryd hynny, gyda'r Cyngor yn gweinyddu'r cyllid ar gyfer 25 o'r tai hyn gan ddefnyddio cynllun Arbed, drwy arian a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod gwaith wedi'i gwblhau ar y 79 eiddo arall gan ddefnyddio'r rhaglen arbed ynni cymunedol (CESP) a noddir gan Lywodraeth y DU, heb unrhyw ran gan y Cyngor yn y gwaith. Dywedodd wrth y Cabinet mai safbwynt y Cyngor oedd dod o hyd i ateb cynhwysfawr gyda’r rhanddeiliaid eraill er mwyn mynd i’r afael â’r holl waith inswleiddio waliau oedd wedi methu, ni waeth pwy a wnaeth ariannu na gweinyddu’r gwaith gwreiddiol.

 

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid mewn egwyddor ar yr amod fod y Cyngor yn cyflwyno achos busnes manwl i’w gymeradwyo erbyn y dyddiad cau, sef 28 Chwefror 2022. Mae'r cynnig o gyllid yn seiliedig ar achos busnes amlinellol cychwynnol a gyflwynwyd gan y Cyngor y llynedd ac ar y sail y bydd y Cyngor hwn hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol tuag at y cynllun yn ei gyfanrwydd. Dywedodd ei bod yn anodd iawn ar hyn o bryd amcangyfrif yn gywir gyfanswm cost y rhaglen lawn gan fod nifer o bethau anhysbys, oherwydd, yn dilyn arolwg a gynhaliwyd yn 2019, fod y problemau’n bodoli i wahanol raddau yn y cartrefi a arolygwyd. Dywedodd wrth y Cabinet y gallai'r gost o dynnu'r cladin presennol a gosod peth newydd fod yn seiliedig ar hyd at £30,000 y cartref, gyda chyfanswm cost y rhaglen lawn yn £3.5 miliwn. Ar sail hynny, câi cais ei wneud i'r Cyngor gyfrannu £855,000 o gyllid. Dywedodd fod trafodaethau’n parhau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o gyllido drwy gynllun ‘Eco’ Llywodraeth y DU, a fyddai’n lleihau’r gost gyffredinol i bob cyfrannwr. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai bwriad y cynllun arfaethedig yw gwella tai mewn ward etholiadol sydd â rhai o'r problemau economaidd-gymdeithasol mwyaf difrifol yng Nghymru ac y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar amodau economaidd, cymdeithasol ac iechyd trigolion lleol. Dywedodd hefyd wrth y Cabinet y bydd y rhaglen waith arfaethedig yn effeithio'n gadarnhaol ar lesiant trigolion lleol ac yn sicrhau bod bwriadau gwreiddiol y cynlluniau effeithlonrwydd ynni a gynhaliwyd yn 2012/13 yn cael eu gwireddu, gan gynnwys cartrefi wedi'u hinswleiddio'n well a biliau ynni is, fydd yn helpu i fynd i’r afael â materion tlodi tanwydd. Amlinellodd oblygiadau ariannol y gwaith adfer, gyda dyfarniad mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru o £2.65 miliwn o gyllid, gyda chyfraniad arian cyfatebol y Cyngor yn dod o gronfa wrth gefn a glustnodwyd eisoes.    

 

Wrth gymeradwyo'r cynnig dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn ateb cyflawn ar gyfer y tai yr effeithiwyd arnynt ac ymddiheurodd yn llaes i'r preswylwyr am fethiannau'r gwaith inswleiddio waliau. Roedd yn ddiolchgar am waith y swyddogion yn sicrhau cyllid i gywiro'r diffygion yn yr adeiladau yng Nghaerau.    

 

Holodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol pa mor hir y byddai’n rhaid i breswylwyr ddisgwyl i’r gwaith adfer gael ei wneud. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cabinet y byddai'n rhaid cyflwyno achos busnes llwyddiannus yn gyntaf, a phe bai hwnnw'n llwyddiannus, y câi cyllid ei ddyrannu dros 2 flynedd. Y gobaith oedd y byddai'r Cyngor yn derbyn cyllid erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon i’w gwneud yn bosibl cynnal ymgynghoriad gyda phreswylwyr, cyn cynnal arolwg ar yr eiddo. Dywedodd y rhagwelid y byddai’r gwaith yn dechrau yn 2022/23, gyda’r rhan helaethaf o’r gwaith yn digwydd yn 2023/24. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi derbyn dyfarniad cyllid mewn egwyddor a'i fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried yr achos busnes yn ddi-oed er mwyn ei gwneud yn bosibl dechrau ymgynghori â phreswylwyr er mwyn symud ymlaen â'r gwaith adfer. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â'r gwaith ar yr eiddo cyn gynted â phosibl. 

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cydnabod yr heriau yr oedd y gwaith ar y tai yn eu hachosi a gofynnodd a oedd posibilrwydd o dderbyn cyllid gan Lywodraeth y DU. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cabinet y gwnaed gwaith ar 79 o'r 104 t? gan ddefnyddio'r Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol (CESP) a noddir gan Lywodraeth y DU ac na fu gan y Cyngor unrhyw ran yn y gwaith hwnnw ac efallai y byddai cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i gyllid, a allai yn ei dro weld rhywfaint o symudiad o du Llywodraeth y DU. Hysbysodd y Cabinet o bwysigrwydd peidio ag oedi nes cael gwybodaeth am gyllid Llywodraeth y DU ac y dylai'r Cabinet symud ymlaen fel yr argymhellwyd. 

 

Holodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol pa ddulliau a ddefnyddid i gaffael y gwaith adfer, o ystyried y prinder deunyddiau adeiladu a gofynnodd hefyd am yr amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y gwaith adfer yn un arbenigol ei natur ac y byddent yn chwilio am gwmnïau oedd yn arbenigwyr yn y maes hwn fel rhan o'r broses gaffael. Dywedodd wrth y Cabinet y byddent yn ymgysylltu â'r preswylwyr cyn y broses gaffael ac, i fod yn realistig, y câi'r rhan fwyaf o'r gwaith adfer ei wneud yn ystod 2023/24, gan osgoi misoedd y gaeaf. Holodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ai Llywodraeth Cymru oedd wedi pennu’r amserlen dynn iawn. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi derbyn sicrwydd ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru, oedd wedi cydnabod yr amgylchiadau unigryw yng Nghaerau. Dywedodd hefyd y gallai'r cyllid gael ei symud ymlaen pe bai angen.   

 

Gofynnodd yr Arweinydd a fyddai’r adran Rheoli Adeiladu yn ymwneud â sicrhau ansawdd o'r cychwyn cyntaf. Dywedodd y Prif Weithredwr fod safonau ansawdd gwahanol i'w dilyn ac y byddai monitro yn rhan bwysig o'r broses. Dywedodd hefyd fod yna gydnabyddiaeth fod angen cael y bobl iawn yn ymwneud â Rheoli Adeiladu ac y câi’r gwaith adfer ei wneud yn dda.

 

Ategodd yr Arweinydd ar ran y Cyngor yr ymddiheuriadau a roddwyd gan Aelod y Cabinet dros Gymunedau a sicrhaodd y trigolion y câi'r gwaith adfer ei wneud yn gywir. Dywedodd y câi rhagor o wybodaeth am y gwaith adfer ei rhannu gyda thrigolion ac aelodau lleol.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

1.  Yn nodi’r dyfarniad o hyd at £2.65 miliwn mewn egwyddor oddi wrth Lywodraeth Cymru i gwblhau gwaith adfer hanfodol oedd ei angen ar gyfer eiddo yng Nghaerau, yn dilyn methiant gwaith inswleiddio waliau a wnaed yn 2012/13.

 

2.  Yn cymeradwyo bod y Cyngor yn cyflwyno achos busnes manwl, fel sy’n ofynnol yn y cynnig o gyllid gan Lywodraeth Cymru, erbyn 28 Chwefror 2022, i sicrhau’r cyllid ac yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid ar gyfer cyflwyno’r achos busnes ac i dderbyn unrhyw gynnig terfynol.

 

3.  Yn cymeradwyo cynnwys swm o £855,000 fel cyfraniad amcangyfrifedig y Cyngor tuag at gyfanswm cost rhaglen waith o £3.5 miliwn, fydd yn cael ei gynnwys yn adroddiad y Rhaglen Gyfalaf a ddiweddarwyd i’w argymell i’r Cyngor ar 9 Chwefror 2022.  

 

4.  Yn cymeradwyo gweithredu’r cynllun adfer, gan gynnwys unrhyw drefniadau caffael a threfniadau cysylltiedig ac yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr i wneud y trefniadau angenrheidiol, yn amodol ar dderbyn y cyllid gan Lywodraeth Cymru a bod y Cyngor yn cymeradwyo’r cyfraniad cyfalaf.                    

 

Dogfennau ategol: