Agenda item

Agwedd at Gyflogadwyedd yn y Dyfodol

Cofnodion:

Adroddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau am y llwyddiant ledled y Sir drwy gyflenwi Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a gofynnodd am gymeradwyaeth i’r Fframwaith ar gyfer Cyflogadwyedd yn y Dyfodol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, oedd yn adeiladu ar gynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cynigiwyd defnyddio’r fframwaith fel sail i swyddogion weithio ar y cyd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru i sicrhau adnoddau addas yn y dyfodol ar gyfer gwaith cyflogadwyedd, fydd yn cymryd lle’r rhai oedd ar gael o’r blaen drwy gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE). 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd y Cyngor yn arwain ar drafodaethau gyda rhanddeiliaid priodol wrth ddatblygu gweithio mewn partneriaeth a threfniadau cysylltiedig. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai hi, mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid yn cyflwyno cynigion i sicrhau adnoddau ar gyfer cyflogadwyedd drwy gronfeydd priodol ac yn cytuno ar waith partneriaeth a chytundebau cysylltiedig y gall y Cyngor gytuno iddynt, yn unol â'r Cynllun Dirprwyo. Dywedodd y câi unrhyw gynigion ariannu, a ddeuai o ganlyniad, eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol fel yr ystyrid yn briodol er gwybodaeth neu i gael penderfyniad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod pob un o'r 10 awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar hyn o bryd yn darparu gweithgaredd cyflogadwyedd i gynorthwyo pobl i mewn i gyflogaeth neu i'w helpu i symud ymlaen i gyflogaeth fwy cynaliadwy neu â chyflog gwell. Ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE, ni fydd Cyllid Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gael mwyach i gefnogi prosiectau i sicrhau buddion parhaus i unigolion, cymunedau ac economi’r Fwrdeistref Sirol. Mae'r prosiectau a ariennir gan ESF sy'n dal i fod yn weithredol bellach yn dod i mewn i gyfnod cau a rhaid i bob prosiect gau, yn unol â rheolau'r UE, erbyn Rhagfyr 2023.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, er mwyn osgoi bwlch mewn darparu gwasanaethau cyflogadwyedd, fod Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol (RSP) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi mabwysiadu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau, sy’n gosod gweledigaeth glir ynghylch anghenion sgiliau dyfodol y CCR a'r gweithgareddau y mae angen i bartneriaid rhanbarthol eu darparu i gyflawni hyn. Dywedodd, er mwyn adeiladu ar hyn, fod 10 Awdurdod Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cydweithio i greu un fframwaith clir a chyson ar gyfer prosiectau cyflogadwyedd yn y dyfodol yn y rhanbarth, yn seiliedig ar weledigaeth a rennir, egwyddorion cyffredin, ac offer cyffredin. Dywedodd wrth y Cabinet fod y fframwaith yn seiliedig ar egwyddorion a rennir, sy’n adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd o dros 20 mlynedd o brofiad o gyflawni prosiectau cyflogadwyedd ar draws y rhanbarth.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau na ellid gorbwysleisio pwysigrwydd y cynigion cyflogadwyedd, a dywedodd yr hoffai weld ymgysylltu â phobl sydd wedi elwa o’r blaen ar gymorth Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr i ddychwelyd i gyflogaeth. Dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn gyfle mawr i'r Fwrdeistref Sirol ac anogodd drigolion oedd mewn perygl o golli eu gwaith i gysylltu â'r Tîm Cyflogadwyedd. Dywedodd eu bod wedi llwyddo i ddod â'r llu o raglenni at ei gilydd ac na ddylai trigolion fod yn araf i gysylltu â'r Tîm ac y byddent hwy’n dod o hyd i'r rhaglen orau ar eu cyfer.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

·         Yn nodi’r llwyddiant sydd wedi cael ei sicrhau, a’r gwahaniaeth a wnaed i fywydau pobl ledled y Sir, drwy gyflawni Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr;

 

·         Yn cymeradwyo’r Fframwaith ar gyfer Cyflogadwyedd yn y Dyfodol yn y CCR fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad, sy’n adeiladu ar gynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac yn cytuno y dylid defnyddio’r fframwaith fel sail i swyddogion gydweithio ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru i sicrhau adnoddau addas yn y dyfodol ar gyfer gwaith cyflogadwyedd fydd yn disodli’r adnoddau hynny oedd ar gael drwy gronfeydd yr UE o’r blaen; 

 

·         Yn nodi y bydd Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd yn arwain ar drafodaethau gyda rhanddeiliaid priodol drwy Gr?p Clwstwr yr ALl a nodir yn Atodiad 1 wrth ddatblygu gweithio mewn partneriaeth a threfniadau cysylltiedig yn seiliedig ar egwyddor dull a gydlynir yn rhanbarthol a’i ddarparu’n lleol o gynnig cyflogadwyedd yn dilyn gadael yr UE;

 

·         Yn nodi, yn unol  â’r Cynllun Dirprwyo, y bydd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid yn cyflwyno cynigion i sicrhau adnoddau drwy’r UKSPF a chronfeydd priodol eraill yn ymwneud â chyflogadwyedd ac unrhyw brosiectau eraill a ddatblygwyd o gwmpas cyflogadwyedd yn unol â’r fframwaith yn Atodiad 1 (i’r adroddiad) ac yn cytuno ar unrhyw waith partneriaeth o ganlyniad a chytundebau cysylltiedig y mae gan y Cyngor y p?er i gytuno iddynt

 

Yn nodi y cyflwynir unrhyw gynigion ariannu dilynol i gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol fel yr ystyrir yn briodol.

Dogfennau ategol: