Agenda item

Pencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn, Clwb Golff Brenhinol Porthcawl 2023

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau am gymeradwyaeth i gyfraniad o gyllid a chymorth swyddogion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Bencampwriaeth Agored Golffwyr H?n 2023, i ymrwymo i Gytundeb Hawliau ac i barhau â gwaith i sefydlu Clwb Brenhinol Porthcawl fel lleoliad a all gynnal y Bencampwriaeth Agored.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal y brif bencampwriaeth golff gyntaf yng Nghymru pan gynhaliodd Clwb Brenhinol Porthcawl y Bencampwriaeth Agored i Bobl H?n yn 2014, gyda thros 43,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad, a chreu effaith economaidd amcangyfrifedig o £2.16 miliwn. At hynny, cyfrifwyd bod gwerth cyfatebol y cyfryngau drwy sylw teledu cynhwysfawr ar gyfer Porthcawl a'r Fwrdeistref Sirol yn £5.2 miliwn pellach. Dychwelodd y digwyddiad i Glwb Brenhinol Porthcawl yn 2017, a mynychwyd ef gan dros 32,000 o bobl, gyda gwerth cyfatebol y cyfryngau byd-eang ar gyfer Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Clwb Brenhinol Porthcawl, wedi’i gyfrifo yn £7.8 miliwn. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai Pencampwriaeth Agored Golffwyr H?n yn dychwelyd i Glwb Brenhinol Porthcawl yn 2023 ac er bod y digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd, y deuai â buddion i'r economi leol ac y byddai’n hyrwyddo Porthcawl fel cyrchfan ar draws y byd. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi darparu’r tair Pencampwriaeth Agored Golffwyr H?n rhwng 2014 a 2024 â grant o £5 miliwn a bod trefnwyr y digwyddiad wedi gwneud cais am gyfraniad o £50 mil gan y Cyngor. Y cyfraniad arfaethedig o £50 mil yw cyfanswm y pecyn cyllid wedi’i gapio y gofynnwyd amdano gan y Cyngor tuag at y digwyddiad i dalu’r costau sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu’r cyfan o’r costau a nodir yn yr adroddiad, fel y’u hystyrid yn briodol gan y Daith Ewropeaidd (ET), yn gyfnewid am y buddion, a nodir yn yr adroddiad, i'r Cyngor a'r effaith sylweddol a amcangyfrifid ar yr economi leol. Tynnodd sylw at y manteision y byddai’r Bencampwriaeth yn eu dwyn i'r Cyngor.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y caiff gr?p cyswllt ei sefydlu gyda chynrychiolaeth swyddogion perthnasol a chynrychiolydd y Daith Ewropeaidd. Bydd y gr?p yn ceisio darparu cyngor ac arweiniad i’r Daith Ewropeaidd i’w helpu i wneud penderfyniadau, meithrin perthynas rhwng y Daith Ewropeaidd a rhanddeiliaid lleol a nodi cyfleoedd mewn perthynas â datblygu partneriaethau lleol, ymgysylltu â busnesau a hyrwyddo a marchnata, y gallai’r Daith Ewropeaidd eu datblygu.

 

Wrth gymeradwyo'r cynigion, gwnaeth Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio sylwadau ar arwyddocâd y digwyddiad i Borthcawl, y Fwrdeistref Sirol ac yn genedlaethol, na ellid ei orbwysleisio. Dywedodd fod dychweliad Pencampwriaeth Agored Golffwyr H?n wedi dangos y record sydd gan y Cyngor o gynnal y digwyddiad gyda'i bartneriaid. Dywedodd hefyd y byddai’r gr?p cyswllt yn ymdrechu i gael buddion i'r gymuned gyda'r posibilrwydd o docynnau am ddim ar gael i blant dan anfantais. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cefnogi'r syniad o wneud y gamp yn fwy hygyrch a chynhwysol i blant dan anfantais.

 

Holodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau sut y câi’r digwyddiad ei hybu o’r M4 i’w wneud yn fwy hygyrch a gweladwy. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod cael cynllun rheoli traffig yn bwysig i lwyddiant y digwyddiad, i gynnwys parcio a theithio a'r gobaith oedd y byddai'r cyswllt Metro yn weithredol erbyn amser cynnal y twrnamaint.

 

Dywedodd yr Arweinydd na ellid gor-bwysleisio pwysigrwydd y twrnamaint i'r economi, oherwydd lefel y sylw yn y cyfryngau fyddai'n dod yn ei sgil fyddai'n annog ymwelwyr i ddychwelyd i'r ardal am wyliau.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

·        Yn cymeradwyo'r cyfraniad arfaethedig o £50,000 i’r dibenion a nodir ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad;

 

·        Yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a'r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid i arwyddo Cytundeb Hawliau ar ran y Cyngor; 

 

  Yn rhoi awdurdod i Swyddogion i sefydlu a chefnogi gr?p cyswllt Pencampwriaeth Agored Golffwyr H?n i’r dibenion a nodir ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: