Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Canlyniad yr Ymgynghoriad ar Gynnig y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion i Ehangu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Cofnodion:

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2021, wedi ystyried canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb a chymeradwyo cychwyn proses ymgynghori statudol ynghylch ehangu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig i fod yn ysgol â dau ddosbarth derbyn a meithrinfa â 75 o leoedd i'w lleoli ar safle’r ysgol iau ac i agor o fis Medi 2025. Yn unol â hynny, cynhaliwyd ymarferiadau ymgynghori rhwng 30 Tachwedd 2021 a 12 Ionawr 2022 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol. 

 

Dywedodd fod y ddogfen ymgynghori yn gwahodd safbwyntiau a sylwadau i'w cyflwyno mewn perthynas â'r cynnig ac y byddai angen i'r Cabinet ystyried yr adroddiad ymgynghori a phenderfynu pa ffordd ymlaen a ffefrid. Dywedodd pe bai'r Cabinet yn symud ymlaen â'r cynnig, mai’r cam nesaf fyddai cyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu'r cynigion, y byddai angen ei gyhoeddi am gyfnod o 28 diwrnod ac y câi unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol eu gwahodd yn ystod y cyfnod hwn. Dywedodd wrth y Cabinet pe na bai gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus yna gellid gweithredu'r cynnig gyda chymeradwyaeth y Cabinet. Pe bai yna wrthwynebiadau yn ystod cam yr hysbysiad cyhoeddus hwn, cyhoeddid adroddiad yn crynhoi’r gwrthwynebiadau ac ymateb yr awdurdod i’r gwrthwynebiadau hynny. Dywedodd y byddai angen i'r Cabinet ystyried y cynnig yng ngoleuni'r gwrthwynebiadau ac y gallai wedyn dderbyn, gwrthod neu addasu'r cynnig.

 

Wrth ganmol yr argymhellion, dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y cynigion wedi cael eu hailystyried oherwydd pryderon a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Dywedodd y bydd y cyfleuster newydd arfaethedig yn wych i Fynydd Cynffig a diolchodd i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, oedd wedi bod o gymorth i lunio dyfodol datblygiad ysgol iau bresennol Mynydd Cynffig. Dywedodd hefyd fod trafodaethau'n parhau gyda deiliaid y rhandiroedd a’r Corfflu Hyfforddiant Awyr i sicrhau y câi eu hanghenion eu bodloni. Soniodd am gynaladwyedd y cynnig gan y lleolir yr ysgol am y tro cyntaf ar un safle, fydd o fudd i’r staff a’r disgyblion. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y cynigion wedi cael eu croesawu â brwdfrydedd gwirioneddol pan oedd ef ynghyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio a Chadeirydd y Llywodraethwyr ac un o aelodau'r Ward wedi ymweld â'r ysgol. Dywedodd y bydd yr ysgol yn cynnwys 2 faes chwarae pob tywydd ac y byddai hefyd o fudd i'r gymuned ehangach. Cyfeiriodd at y pryderon a fynegwyd gan Rieni dros Addysg Gymraeg nad oedd yr effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi derbyn sylw gyda'r cynnydd yn nifer y lleoedd fydd ar gael ym Mynydd Cynffig. Dywedodd y bydd y Cyngor yn ehangu’r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg yn y clwstwr hwnnw gyda’r bwriad i ehangu Ysgol y Ferch o’r Sgêr a’r cynigion ar gyfer egin-ysgol ym Mhorthcawl. Gwnaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylwadau ar bwysigrwydd bod y cynigion ar gyfer ehangu Mynydd Cynffig yn gweithio er budd y gymuned. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu addysg gyfrwng Cymraeg a Saesneg gref iawn yn y clwstwr gyda’i gynigion ar gyfer Ysgol y Ferch o’r Sgêr a’r egin-ysgol ym Mhorthcawl. Dywedodd wrth y Cabinet y bydd y cynigion ar gyfer Ysgol y Ferch o’r Sgêr yn gyfleuster o’r radd flaenaf gyda lleoedd gwag yn yr ysgol ac nid oedd yn rhagweld y byddai’n andwyol o gwbl i ddarpariaeth addysg gyfrwng Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

  • Yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad gyda phartïon â diddordeb fel y manylwyd yn yr adroddiad ymgynghori a'r atodiadau i'r adroddiad eglurhaol;
  •  Yn cymeradwyo'r adroddiad ymgynghori i'w gyhoeddi; ac yn

Awdurdodi cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus ar y cynnig.   

Dogfennau ategol: