Agenda item

Cynllun Strategol 3 Blynedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gynllun strategol 3 blynedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr i’w gymeradwyo. 

 

Dywedodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod gwasanaethau gofal cymdeithasol plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sylfaenol i gyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddiogelu, amddiffyn a gwella canlyniadau ar gyfer y plant mwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref Sirol. Roeddent wedi gweld cynnydd yn angen a chymhlethdod plant a theuluoedd ers y pandemig, gyda chynnydd o 40% yn y rhai oedd yn cysylltu â gofal cymdeithasol plant. Dywedodd wrth y Cabinet fod gofal cymdeithasol plant, fel mewn llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ledled y DU, wedi profi heriau o ran cadw a recriwtio gweithwyr  cymdeithasol plant.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y cynllun strategol 3 blynedd ar gyfer gofal cymdeithasol plant Pen-y-bont ar Ogwr yn egluro pwrpas gofal cymdeithasol plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliant, ymddygiad a gwerthoedd wrth gyflawni'r diben hwnnw yn ogystal â'r camau strategol y manylir arnynt yn y cynllun. Dywedodd y caiff y cynllun ei lywodraethu drwy ‘Fwrdd Gwella Canlyniadau i Blant’ dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr. Bydd y Bwrdd yn darparu adroddiadau rheolaidd ar gynnydd i Fwrdd Rheoli Corfforaethol y Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Bydd y Bwrdd yn darparu goruchwyliaeth, her a chyfeiriad rheolaidd ac yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu hargymell i wneud cyflawni'r cynllun hwn yn bosibl. Bydd y Bwrdd yn elwa o gyngor arbenigol annibynnol a ddarperir gan arbenigwr mewn gofal cymdeithasol Plant, fydd yn cynghori ar y blaenoriaethau a nodwyd, y mesurau a’r cynnydd.

 

Wrth ganmol y cynnig, gwnaeth Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar sylwadau ar yr angen am y cynllun strategol 3 blynedd oherwydd y cynnydd o 40% yn nifer y plant oedd angen gofal. Dywedodd fod angen adeiladu ar y partneriaethau yr oeddent wedi eu datblygu a bod yn rhagweithiol er mwyn rhoi sefydlogrwydd i blant.  

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau at yr heriau o ran recriwtio a chadw staff a gofynnodd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai un o'r pethau allweddol i fynd i'r afael â recriwtio a chadw yn gadarnhaol yw i'r Cyngor ddatblygu ei staff ei hun, drwy'r secondiadau a'r hyfforddeiaethau. Roeddent yn edrych ar y cyfuniad o weithwyr cymdeithasol a staff nad oeddent yn staff gwaith cymdeithasol, gan ystyried arfer da mewn awdurdodau lleol eraill. 

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau pa gamau oedd yn cael eu cymryd i dorri’r cylch fel bod plant sydd â phrofiad o ofal yn cael cyfleoedd bywyd a chyflogaeth. Soniodd am bwysigrwydd rhoi’r un cymorth i blant â phrofiad o ofal ag a gâi ei roi i blant pobl eu hunain er mwyn iddynt gael y cyfleoedd gorau oll. Dywedodd y byddai cylch gorchwyl y Swyddog Rhianta Corfforaethol newydd a’r Strategaeth Rianta Gorfforaethol yn cynnwys sicrhau bod plant sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un mynediad at gyfleoedd â phlant nad ydynt wedi bod mewn gofal. 

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau ar bwysigrwydd a llwyddiant gwaith yr Hwb Diogelu Aml-asiantaeth a gofynnodd a oedd cyfle i gynnwys cynrychiolwyr o blith partneriaid y Cyngor yn y trefniadau llywodraethu. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y gwasanaeth ar ei gryfaf pan fydd yn gweithio gyda'i bartneriaid.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a oeddent wedi gofyn am gyngor pobl ifanc wrth lunio’r strategaeth. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y pandemig wedi cyfyngu ar gynnwys pobl ifanc wrth lunio'r strategaeth ond rhoddodd sicrwydd y byddai ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn amlwg yn y strategaeth. Roedd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn siomedig i nodi nad oedd ymgysylltu wedi digwydd gyda phobl ifanc ar ddatblygiad y strategaeth, yn enwedig gan fod y Cyngor Ieuenctid wedi parhau i gyfarfod yn ystod y pandemig. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y bydd pobl ifanc yn helpu i siapio’r ffordd y caiff y cynllun ei weithredu. Dywedodd fod gr?p ffocws wedi'i gynnal gyda phobl ifanc, ond nad oedd llawer yn bresennol. Hysbysodd y Cabinet mai cylch gorchwyl y Swyddog Rhianta Corfforaethol fydd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a oedd cyfle i adolygu’r cynllun. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod angen sicrhau bod gan y cynllun fomentwm, ond y caiff ei adolygu, ac y caiff lleisiau plant a phobl ifanc eu clywed. 

 

Holodd y Dirprwy Arweinydd a oedd plant a phobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau eiriol annibynnol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y câi gwasanaethau eiriol annibynnol eu comisiynu ar gyfer plant oedd â phrofiad o ofal a'i fod yn rhan o broses y gyfraith deuluol. Dywedodd pan fyddai’r Swyddog Rhianta Corfforaethol yn ei swydd y byddai posibilrwydd o gynnwys person â phrofiad o ofal ar Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet. Gwnaeth y Prif Weithredwr sylw ynghylch pwysigrwydd cynnal momentwm ar gyfer y cynllun ac y byddai modd ei siapio a'i newid wrth iddo symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet wedi ystyried a chymeradwyo’r cynllun strategol 3 blynedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad.

Dogfennau ategol: