Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 tan 2025-26

Cofnodion:

Er gwybodaeth, cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151) gopi i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned o’r adroddiad a aeth i’r Cabinet ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2022-23 tan 2025-26, ar 18 Ionawr 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151), oherwydd yr oedi o ran canlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar gyfer 2021, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb ddrafft tan 20 Rhagfyr 2021, na’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro tan 21 Rhagfyr 2021. Roedd hyn yn unol â’r flwyddyn flaenorol, ond mae’n dal i fod yn tua 2 fis yn hwyrach nag arfer. O ganlyniad i’r oedi o ran cyhoeddiadau, ni chafodd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ei chyflwyno i’r Cabinet tan 18 Ionawr 2022, cyn ei chyflwyno ar gyfer ei chraffu gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Cyngor. Caiff y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig derfynol ei chyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor ar                           22 a 23 Chwefror 2022, yn y drefn honno, i’w chymeradwyo. Byddai’r dreth gyngor arfaethedig ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor hefyd, i’w chymeradwyo ar 23 Chwefror 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151), wrth geisio parhau i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Cyngor, ynghyd â diogelu ei fuddsoddiad mewn Addysg ac ymyrraeth gynnar, y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, ynghyd â blaenoriaethu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, eu bod yn cynnig nifer o newidiadau yng nghyllideb 2022-23. Cyfeiriodd at gyfleoedd i godi incwm ychwanegol, ynghyd â modelau cyflenwi eraill i sicrhau mwy o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd, effeithlonrwydd ac arbedion o ran eiddo, ynghyd â newidiadau o safbwynt darpariaeth gwasanaeth.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151) bod MTFS y Cyngor wedi’i gosod o fewn cyd-destun cynlluniau gwariant economaidd a chyhoeddus y DU, blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Roedd y MTFS yn mynegi’r modd yr oedd y Cyngor yn cynllunio i ddefnyddio ei adnoddau i gefnogi’r gwaith o gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol a’i ddyletswyddau statudol, gan gynnwys rheoli pwysau ariannol a risgiau dros y pedair blynedd nesaf. Amlinellodd Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Llywodraeth Cymru 2022-23, oblygiadau’r setliad ar gyfer 2023 i 2026, trosglwyddiadau i mewn ac allan o Setliad Refeniw 2022-23, ynghyd â grantiau penodol.            

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151) bod sawl math o bwysau sylweddol o ran costau yr oedd angen iddynt eu hariannu o fewn y cynnydd. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol i gwrdd â’r cytundeb tâl ar gyfer gweddill y flwyddyn gyfredol ac ar gyfer y flwyddyn nesaf, i gyflawni’r gofynion newydd o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac i ariannu cyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol a’r llynedd, derbyniodd y Cyngor arian gan Lywodraeth Cymru trwy gronfa galedi a oedd wedi helpu’r awdurdod i gwrdd â’r costau ychwanegol a’r incwm a gollwyd, a brofwyd o ganlyniad i’r pandemig. Ni fyddai’r grant hwn ar gael mwyach yn 2022/23, felly byddai angen i’r gyllideb a osodwyd ystyried unrhyw wariant ychwanegol sydd ganddynt efallai o safbwynt y pandemig.

 

Daeth y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151) i’r casgliad y cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Cabinet ar 18fed Ionawr, a’i fod bellach wedi bod i bob un o’r pwyllgorau craffu yn ystod mis Ionawr. Byddai’r cynigion terfynol o ran y gyllideb yn mynd i’r Cabinet ar 22ain Chwefror, ac yna i’r Cyngor am benderfyniad terfynol ar 23ain Chwefror.       

 

Diolchodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran        151) i’r Cynghorau Tref a Chymuned am anfon y praeseptau a gytunwyd ganddynt ymlaen ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, fel y gofynnwyd iddynt wneud. Byddai’r rhain yn cael eu cynnwys fel rhan o’r adroddiad terfynol i’r Cyngor ddiwedd Chwefror.

 

Cyfeiriodd aelod at atodiad B i’r adroddiad, COM2, a oedd yn ymwneud â therfynu’r cytundeb twristiaeth ag AMA Associates a oedd yn hyrwyddo Pen-y-bont ar Ogwr gydag amrywiaeth o gyhoeddwyr. Dywedodd yr ymddengys y byddai’r sylw i Ben-y-bont ar Ogwr yn y wasg yn lleihau, gyda’r posibilrwydd o oblygiadau o ran niferoedd yr ymwelwyr a’r economi leol. Gofynnodd p’un ai hwn oedd yr unig fodd o hyrwyddo twristiaeth yn yr ardal, a pha effaith a gaiff hyn ar adeg pan roedd gwyliau gartref wedi gweld cynnydd o 40%. Atebodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog 151) bod y Cyngor yn defnyddio sawl modd o hyrwyddo twristiaeth, ac mai dim ond un agwedd oedd hon. Roedd gwaith yn parhau i sicrhau y caiff Pen-y-bont ar Ogwr ei hyrwyddo cymaint â phosibl, yn fewnol trwy’r wefan, ac yn allanol. Roedd hyn yn cael effaith gadarnhaol, ac roedd mwy o ymwelwyr yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr erbyn hyn.

 

Roedd aelod yn pryderu mai dim ond ychydig iawn o ddeunydd hyrwyddo oedd ar gael o gwmpas De Cymru, gan gynnwys yn y gorsafoedd gwasanaethau ar y M4.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd bod hwn yn un maes gwaith yr ymgymerwyd ag ef i hyrwyddo Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan i dwristiaid, a byddent yn parhau i ddefnyddio’r rhai eraill. Roedd nifer y twristiaid a oedd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed dros y 12 mis diwethaf, ac roedd y cyfraniad at economi Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed hefyd.

 

PENDERFYNWYD           Derbyniodd ac ystyriodd y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 18 Ionawr 2022, a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) drafft 2022-23 tan 2025-26 (Atodiad 1).

Dogfennau ategol: