Agenda item

Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) adroddiad a oedd yn darparu amlinelliad i’r Fforwm o’r newidiadau i bolisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CAT), ynghyd â’r cymorth a’r cyfleoedd a oedd ar gael ar hyn o bryd i Gynghorau Tref a Chymuned (CTaCh) weithio gyda’r Cyngor a grwpiau cymunedol i gyflawni’r trefniadau rheoli gorau ar gyfer asedau a gwasanaethau yn y sector cyhoeddus.

 

Eglurodd y swyddog CAT y cymeradwywyd y Polisi CAT, sydd wedi’i ddiweddaru, gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019 ac roedd yn ystyried argymhellion y Gr?p Tasg a Gorffen CAT. Y prif newidiadau i’r polisi oedd y rheiny o safbwynt blaenoriaethu asedau: blaenoriaeth 1, pafiliynau chwaraeon, caeau chwarae a chanolfannau cymuned; blaenoriaeth 2, meysydd chwarae, meysydd parcio am ddim a rhandiroedd; ac yna blaenoriaeth 3, a oedd yn cynnwys popeth nad oedd wedi’i gynnwys o dan flaenoriaeth 1 a blaenoriaeth 2. Eglurodd bod y ddogfen yn cyflwyno system llwybr carlam, gan mai un o’r beirniadaethau mwyaf a dderbyniwyd ganddynt oedd ynghylch yr amser a gymerwyd i gwblhau CATau. Yn flaenorol, roedd angen cynlluniau busnes manwl, ond bellach nid oeddynt ond yn gofyn am gyflwyno amcanestyniadau incwm a gwariant am gyfnod o o leiaf 5 mlynedd ar gyfer y mwyafrif o CATau (ond y byddid yn dal i ofyn am gynlluniau busnes manwl ar gyfer prosiectau mwy cymhleth, e.e. adeiladau newydd).

 

Roedd y swyddog CAT yn amlinellu’r sefyllfa o ran cyllid ac adnoddau ar gyfer CATau, ac ychwanegodd, ym mis Hydref 2020, cymeradwywyd Achos Busnes am gymorth o dan Gronfa Rheoli Newid y Cyngor o £266,461 gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (BRhC). Roedd hyn yn cynnwys creu tair swydd newydd am gyfnod penodol i fwrw ymlaen â sawl CAT, ac i gyflawni’r arbedion ariannol o dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Eglurodd bod paragraff 4.12 o’r adroddiad yn rhoi amlinelliad cryno o’r cynnydd a wnaed, yn enwedig yn ystod dwy flynedd ddiwethaf y pandemig COVID, ac roedd Atodiad B hefyd yn darparu gwybodaeth fanwl am y trosglwyddiadau oedd ar waith. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion wyth trosglwyddiad a oedd wedi’u cwblhau hyd yma, ynghyd ag un arall ers cyhoeddi’r adroddiad.                                                                  

 

Eglurodd y swyddog CAT mai un o agweddau mwyaf dymunol y Trosglwyddiadau o Asedau Cymunedol yn ystod y pandemig oedd bod 10 allan o 12 o glybiau bowls wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith o reoli 11 o lawntiau bowls eu hunain, o 1 Tachwedd 2020, tra bo prydlesi hirdymor yn cael eu cwblhau.

 

Amlinellodd y swyddog CAT y cynnydd o ran adolygiad strategol y 3 parc mawr. Cwblhawyd y cam cyntaf o’r adolygiad ym mis Mai 2021. Dylid datblygu’r cylch gorchwyl ar Gam Dau o’r Adolygiad mewn ymgynghoriad â

Just Solutions er mwyn ystyried yr egwyddorion a gytunwyd gan y Cabinet / CMB, ynghyd â galluogi bwrw ymlaen â fframweithiau priodol ar gyfer strategaethau unigol ar gyfer Caeau Newbridge a Pharc Lles Maesteg.

 

Eglurodd y swyddog CAT bod adnoddau staff CAT wedi cynyddu yn yr ychydig fisoedd diwethaf ac y cafwyd cynnydd cyfatebol o ran y cynnydd a wnaed yn y cyfnod byr hwnnw. Yn anffodus, roedd un aelod staff wedi ymddiswyddo ar ddiwedd mis Rhagfyr ac roeddynt yn y broses o geisio recriwtio rhywun yn ei le. I gloi, fe gawsant brofiadau da iawn yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned, ac roeddynt yn edrych ymlaen at gael gwneud mwy o waith mewn partneriaeth wrth fynd ymlaen.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn wirioneddol falch cael gweld y cynnydd a wnaed, a diolchodd i’r tîm bach a oedd yn gweithio ar hyn, am yr hyn a gyflawnwyd trwy weithio mor agos â chlybiau a’r Cynghorau Cymuned. 

 

Dywedodd aelod fod Cyngor Tref wedi gofyn am argostau amryw agweddau mewn perthynas â’r Parc Lles, ond na dderbyniwyd unrhyw beth. Roedd cwmni’n edrych ar ffordd ymlaen, ond nid oeddynt yn gallu bwrw ymlaen neb yr argostau. Atebodd y swyddog CAT y byddai gweithio gyda’r Cyngor Tref yn gam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, byddai’n anodd darparu argostau, ac fel ffordd ymlaen, roeddynt yn edrych ar y gost o gynnal pob agwedd arbennig. Roedd ymgynghorwyr eisoes yn cael trafodaethau â Tennis Cymru ynghylch ail-wynebu’r cyrtiau tennis. Roeddynt yn bwriadu darparu gwybodaeth ystyrlon wrth fynd ymlaen.

 

Dywedodd aelod bod gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr 5 trefniant prydlesu ar gyfer rhandiroedd, a gofynnodd p’un ai’r bwriad oedd trosglwyddo hawliau i’r Cyngor Tref, ar gyfer y rheiny nad oeddynt yn destun cytundeb prydlesu. Atebodd y swyddog CAT nad oeddynt yn bwriadu newid y rhai presennol.

 

Daeth yr arweinydd i’r casgliad y cydnabuwyd bod y tîm yn gweithio’n eithriadol o galed, a gofynnodd am gael cyflwyno adroddiad ychwanegol i’r Fforwm mewn 6 i 12 mis, gan fod hwn yn destun sydd o ddiddordeb arbennig i Gynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD    Roedd aelodau’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned yn nodi’r canlynol o safbwynt y Cyngor:

·      Polisi CAT diwygiedig sydd wedi’i ddylunio i symleiddio’r broses a lleihau oedi.

·      Cyllid cysylltiedig o dan y Gronfa CAT, a neilltuwyd i annog a chefnogi’r trosglwyddiad o asedau Blaenoriaeth 1.    

·      A chydnabuwyd y gallai modelau cyflenwi sy’n eiddo i’r gymuned, ac yn cael eu rheoli ganddynt, adfywio asedau cymunedol, a gellid eu datganoli i’r lefel leol yr oeddynt yn gweithredu arni. Roedd llwyddiant CAT yn dibynnu ar gyfranogiad rhagweithiol rhai oedd yn barod i gymryd rhan - Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol - ynghyd â’u gallu a’u capasiti i reoli’r ased.

·      Roedd ymroddiad a pharodrwydd i ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol er mwyn bwrw ymlaen â CATau.

 

Dogfennau ategol: