(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)
(ii) Aelodau’r Cabinet
(iii) Prif Weithredwr
Cofnodion:
Y Maer
Rydym bellach yn trefnu sut i gyflwyno’r gwobrau, a bydd naill ai ymweliad personol gen i neu gyflwyniad ym Mharlwr y Maer, yn amodol ar yr asesiadau risg priodol a fydd wedi’u cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Hoffwn ddiolch i'r swyddogion a’r Dirprwy Faer am eu cymorth yn y broses, ac am nodi fy sylwadau mewn perthynas â diwygiadau posibl i'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dirprwy Arweinydd
Gan fod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn cael ei chynnal yr wythnos hon, rwyf am roi diweddariad byr iawn i'r aelodau ar sut mae cynllun prentisiaeth y Cyngor ei hun yn dod yn ei flaen.
Ers ei lansio yn 2013 rydym wedi cefnogi 116 o brentisiaid, ac mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i weithio gyda'r cyngor yn llawn amser.
Ar hyn o bryd mae gennym 27 o brentisiaid yn gweithio ar draws ystod o adrannau, o gymorth busnes a marchnata i ofal cymdeithasol a chaffael, ac maent yn gwneud cyfraniad gwerthfawr.
Mae'r cynllun prentisio yn ein galluogi ni, fel awdurdod lleol, i recriwtio talent newydd. Mae'n galluogi pobl i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac i ennill profiad gwerthfawr, a hynny wrth ennill cyflog a gweithio tuag at gymhwyster achrededig.
Efallai bydd yr Aelodau yn awyddus i ddweud wrth etholwyr am ein rhaglen brentisiaid, a'u cynghori i chwilio tudalennau swyddi'r wefan gorfforaethol am gyfleoedd yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch hefyd i'n holl brentisiaid am eu gwaith caled, yn enwedig yn ystod amgylchiadau anodd y ddwy flynedd ddiwethaf, ac i ddymuno pob lwc iddynt gyda'u gyrfaoedd.
Aelod Cabinet – Cymunedau
Rwy'n si?r y bydd cynghorwyr yn ymwybodol o'r problemau a achosir gan ffyrdd heb eu mabwysiadu o fewn y fwrdeistref sirol.
Dyma’r strydoedd nad yw’r Cyngor wedi'u mabwysiadu, lle mae'r preswylwyr a’r perchnogion yn parhau i fod yn gyfrifol am y gwaith o gynnal a chadw.
Mae cynllun peilot newydd gan Lywodraeth Cymru wedi darparu £230,000 i wella stryd heb ei mabwysiadu leol fel ei bod yn cyrraedd safon lle gallai’r cyngor gymryd cyfrifoldeb.
Bwriad y cynllun yw gwella dealltwriaeth cynghorau a Llywodraeth Cymru o’r goblygiadau o ran cost o fynd i'r afael â'r ôl-groniad hanesyddol o strydoedd o'r fath ledled Cymru. Dewiswyd Ynyslas ym Mhorthcawl yn seiliedig ar ffactorau megis cyflwr gwael ei phalmentydd a'r ffordd goncrid, a nifer yr eiddo y mae'n eu gwasanaethu.
Erbyn hyn, mae’r llwybrau troed a’r lôn wedi'u hailadeiladu, mae draeniad y priffyrdd wedi'i atgyweirio ac mae gwaith pellach yn cael ei wneud i sicrhau bod Ynyslas yn addas i'w mabwysiadu.
Rydym wedi cael rhai sylwadau cadarnhaol iawn o ran y gwaith gan ddeiliaid tai, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr.
Mae adolygiad o strydoedd eraill heb eu mabwysiadu ar y gweill, ac rydym yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y cynllun.
Gobeithio y bydd hyn yn arwain at sicrhau bod rhagor o arian ar gael a fydd yn ein galluogi i dargedu rhagor o strydoedd heb eu mabwysiadu yn y fwrdeistref sirol, a gobeithiaf ddod â mwy o newyddion ichi am hyn yn fuan.
Aelod Cabinet – Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Efallai fod yr Aelodau wedi gweld y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn dweud eu bod am gynyddu faint o gymorth sydd ar gael trwy ei chronfa cymorth i aelwydydd.
Mae wedi'i gynllunio i helpu cymunedau i ymdopi â'r cynnydd enfawr mewn biliau ynni, ac mae'r taliad rhyddhad o £100 bellach wedi'i gynyddu i £200.
Mae ar gael i aelwydydd lle mae rhywun yn hawlio buddion cyffredinol, cymhorthdal incwm, credydau treth gwaith, budd-daliadau lles sy'n seiliedig ar brawf modd, lwfans ceisio gwaith sy'n gysylltiedig ag incwm, neu lwfans cyflogaeth a chymorth.
Afraid dweud, gobeithiaf fod pob aelod yn rhoi cyhoeddusrwydd i hyn yn eu wardiau lleol ac yn annog pob aelwyd gymwys i wneud cais.
Mae'r cyngor eisoes wedi cysylltu â miloedd o bobl yr ydym yn credu sydd â hawl i dderbyn y taliad, a gellir gwneud ceisiadau ar-lein drwy gyfleuster 'Fy Nghyfrif' y cyngor hefyd.
28 Chwefror yw’r dyddiad cau i wneud cais, ac ni fydd angen i’r rhai sydd eisoes wedi derbyn taliad o £100 o dan y cynllun wneud cais eto gan y byddant yn derbyn y gweddill yn awtomatig o fewn yr wythnosau nesaf.
Ni ddylai neb fod heb gynhesrwydd a gwres dros y gaeaf, a gobeithiwn y bydd hyn yn cefnogi rhai o drigolion tlotaf a mwyaf agored i niwed Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Lles
Mae rhaglen seibiant byr newydd ar gael i ofalwyr di-dâl lleol ac efallai bydd aelodau yn awyddus i roi gwybod i'w hetholwyr.
Mae'r rhaglen, a lansiwyd mewn partneriaeth ag Halo Leisure, BAVO, y Cyngor a Llywodraeth Cymru, yn galluogi gofalwyr i gael mynediad at ystod eang o gyfleusterau yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhad ac am ddim bob dydd Mawrth rhwng 2pm a 4pm.
Gyda chyfleusterau fel ystafell stêm, sawna ac ystafell iâ, gwelyau lolfa wedi'u gwresogi ac ystafell hoenuso, gall gofalwyr fanteisio i'r eithaf ar therapïau ymlacio arbenigol a chyngor ar ddiet a maeth.
Yn bwysicaf oll, mae'r rhaglen yn cynnwys darpariaeth ofal ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru i alluogi gofalwyr di-dâl i gymryd seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu.
Os yw aelodau'n gwybod am ofalwyr di-dâl yn eu wardiau a fyddai'n elwa o'r fenter rad ac am ddim hon, gofynnwch iddynt gysylltu â Chanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr a gofyn am y swyddog Cymorth Cymunedau gweithredol.
Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio
Mae arolygwyr Estyn wedi ymweld â rhai o'n hysgolion lleol yn ddiweddar, a hoffwn dynnu sylw'r aelodau at y canlyniadau.
Yn sgil ymweliadau ym mis Tachwedd 2021, barnwyd bod Ysgol Gynradd Plasnewydd ac Ysgol Gynradd Cwm Ogwr wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn argymhellion yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant fel y gellid eu tynnu o fesurau arbennig yn ffurfiol.
Mae Ysgol Gynradd Cefn Cribwr hefyd wedi'i thynnu oddi ar y rhestr o ysgolion y mae angen eu hadolygu gan Estyn gan eu bod wedi gwneud cynnydd priodol o ran gweithredu materion allweddol.
Yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd ychydig cyn y Nadolig, mae arolygwyr wedi cadarnhau bod yr ysgol wedi datblygu digon o gapasiti i sicrhau gwelliannau pellach.
Adolygwyd Ysgol Uwchradd Gatholig Archbishop McGrath hefyd ym mis Rhagfyr. Mae arolygwyr wedi nodi bod cynnydd da wedi'i wneud a’u bod yn parhau i fonitro'r ysgol am y tro er mwyn sicrhau y gall hyn barhau.
Mae pob ysgol leol arall wedi'u dyfarnu naill ai'n dda neu'n foddhaol, a hoffwn longyfarch athrawon a staff am eu hymdrechion parhaus.