Agenda item

Cynllun Peilot Pleidleisio Ymlaen Llaw yn Etholiadau Lleol Mai 2022

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gymryd rhan yn y cynlluniau peilot Pleidleisio o Flaen Llaw, cynllun a fyddai’n caniatáu pleidleisio ar y dydd Mawrth a dydd Mercher cyn y Diwrnod Pleidleisio ar ddydd Iau 5 Mai 2022 mewn rhai Gorsafoedd Pleidleisio yn ystod Etholiadau Lleol Mai 2022.

 

Ar ôl ymgynghori ag arweinwyr grwpiau, dywedodd ei fod wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru fod gan Ben-y-bont ar Ogwr ddiddordeb mewn sefydlu cynllun peilot Pleidleisio Ymlaen Llaw, gan agor gorsafoedd pleidleisio mewn wardiau penodol ar y dydd Mawrth a dydd Mercher cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal â chynllun peilot ar wahân wedi’i leoli mewn ysgol ar gyfer disgyblion cymwys yr ysgol honno yn unig.

 

Roedd angen penderfyniad yn awr ynghylch a ddylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fwrw ymlaen â'r cynllun peilot pleidleisio ymlaen llaw.

Rhestrir y wardiau a ddewiswyd ar gyfer y cynllun peilot isod, gan ddefnyddio’r enwau newydd a ddefnyddir o fis Mai 2022, a chydag enwau’r wardiau fel y maent yn awr mewn cromfachau: -

 

·         Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf [Bracla, Llangrallo Isaf]

·         Canol Dwyrain Bracla [Bracla]                   

·         Gorllewin Brackla [Bracla]

·         Canol Gorllewin Bracla [Bracla]

·         Corneli [Corneli]

·         Y Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr [Y Pîl, Cefn Cribwr]

·         St Bride’s Minor ac Ynysawdre [Bryncethin, Bryncoch, Sarn ac Ynysawdre]

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y wardiau peilot gwreiddiol wedi’u dewis yn seiliedig ar gyfraddau pleidleisio Etholiadau Lleol 2017, a oedd yn nodi’r 5 ward gyda'r cyfraddau pleidleisio isaf yn gyffredinol a'r cyfraddau pleidleisio isaf mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae’r tabl ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad yn dangos y nifer a bleidleisiodd a'r safle’r ward ar y rhestr.

 

Ychwanegodd bod tair ward ychwanegol o Etholiadau Lleol yn 2017 wedi'u hychwanegu at y peilot, a hynny oherwydd adolygiad y Comisiwn Ffiniau sydd wedi eu cyfuno â’r wardiau a nodwyd ar gyfer y peilot. Y wardiau hyn yw Cefn Cribwr, Llangrallo Isaf ac Ynysawdre.

 

Ar wahân i hyn, gan fod Ysgol Gyfun Cynffig yn rhan o gynllun peilot ar wahân ar gyfer disgyblion cymwys yn yr ysgol honno yn unig, ychwanegwyd ward Corneli at y peilot gan fod dalgylch Ysgol Gyfun Cynffig bron yn gyfan gwbl o fewn ffiniau'r Pîl, Cefn Cribwr, a Chorneli, a byddai mwyafrif y disgyblion sy'n gymwys i bleidleisio yn cael eu cynnwys.

 

Daeth y Prif Weithredwr i'r casgliad drwy gadarnhau y bydd 20 o orsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 9pm ar draws y saith ward beilot ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher, gan roi dewis o 3 diwrnod i'r etholwyr fwrw eu pleidleisiau. Yn Ysgol Gyfun Cynffig, byddai 2 orsaf bleidleisio ar agor ar y dydd Mawrth rhwng 8.30am a 4.30pm ar gyfer y myfyrwyr cofrestredig 16+ yn unig. Bydd hyn yn caniatáu iddynt bleidleisio mewn amgylchedd cyfforddus a bydd yn meithrin yr arfer o bleidleisio, er y gallent ddewis pleidleisio yn un o'r gorsafoedd pleidleisio ward peilot pe dymunent.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a'r Peilot a’r ffordd y byddai'r newidiadau a gynigiwyd yn cyd-fynd â’r newidiadau mewn cymdeithas sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd, a'i bod yn galonogol gweld y byddai pobl 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn yr Etholiadau. Gobeithiai y byddai'r Peilot yn annog rhagor o bobl i bleidleisio.

 

PENDERFYNIAD:                             Bod y Cyngor yn cymeradwyo cymryd rhan yn y cynllun peilot Pleidleisio Ymlaen Llaw, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: