Agenda item

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar raglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 (Atodiad A i'r adroddiad y cyfeiriwyd ato).

 

Adroddodd fod y Cyngor, ar 24 Chwefror 2021, wedi cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf a oedd yn ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021-22, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod rhwng 2020-21 a 2030-31 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).  Roedd y rhaglen gyfalaf wedi'i diweddaru yn ystod y flwyddyn gyda chynlluniau newydd, diwygiadau i becynnau ariannu presennol a newidiadau i broffiliau cyflenwi.  Roedd dyfarniadau grant newydd, canlyniadau prosesau tendro a diweddariadau ar gynlluniau presennol sydd angen eu cynnwys wedi digwydd ers i'r rhaglen gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ar 19 Ionawr 2022. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2021-22 hyd 2031-2032 yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor ar 22 a 23 Chwefror 2022, fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26, ochr yn ochr â'r Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022-23 i 2031-32.  Dywedodd fod sawl ffynhonnell o bwysau ariannol wedi codi o ganlyniad i amodau cyfredol y farchnad a’u bod wedi'u heffeithio gan y pandemig a Brexit.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22 i 2030-31 a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2002 yn £212.439m, a bod £118.094m o’r swm yn cael ei dalu o adnoddau'r Cyngor, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a benthyca, gyda'r £94.345m sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol.  Dywedodd wrth yr Aelodau fod bellach angen cynnwys y cynlluniau newydd canlynol yn y rhaglen gyfalaf, y mae rhai ohonynt yn cael eu hariannu'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan grantiau, ac eraill sydd angen eu diwygio:-

 

  • Fflyd Di-garbon Net
  • Metro Plus Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Ystâd Ddiwydiannol Heol Ewenni
  • Adfywio Porthcawl
  • Hyb Plant Brynmenyn
  • Rhaglen Diogelwch Ynni Cymunedol / Arbed Cam 1
  • Offer TGCh – Ysgolion
  • Cynllun Peilot Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu Llywodraeth Cymru
  • Llety Ychwanegol Ysgol Arbennig Heronsbridge

 

Roedd nifer fach o welliannau a newidiadau eraill hefyd i’r cymeradwyaethau grant, ac maent wedi’u hadlewyrchu yn y rhaglen gyfalaf sydd wedi'i diweddaru.

 

Daeth y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid i'r casgliad drwy gynghori bod y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, sy’n ymgorffori'r cynlluniau a amlinellir uchod ac sy’n cael ei drafod mewn mwy o fanylder yn yr adroddiad, wedi'i nodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gwaith a wnaed yn Ystâd Ddiwydiannol Heol Ewenni a’r dyraniad cyllid o £3.5m tuag ato o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gobeithiai bod rhai ffactorau allanol wedi derbyn sylw ac y byddai'r gwaith cywiro adeiladau a seilwaith ar y safle yn parhau yn unol â'r amserlen, a hynny rhag rhwystro cynnydd y gwaith datblygu canlynol sydd wedi’i gynllunio.

 

Hefyd, mynegodd ei siom o ran Prosiect Arbed a'r gwaith blaenorol a wnaed. Felly, roedd yn gobeithio y byddai trigolion yr ardal yn ogystal ag Aelodau’r Wardiau lleol yn cael gwybod am gynnydd y gwaith cywiro, gan gynnwys y rhaglen Gaffael, y deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer y gwaith ac ati, fel bod y prosiect yn dryloyw ac ar gael i graffu yn ystod oes (y prosiect).

 

O ran Heol Ewenni, cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd cynnydd y cynllun hwn yn cael ei fonitro, gan gynnwys unrhyw risgiau o ran costau ac amserlenni pob cam o'r gwaith angenrheidiol. Bydd holl gynlluniau'r Rhaglen Gyfalaf yn cael eu monitro am yr un rhesymau ac er mwyn sicrhau'r holl wahanol ffynonellau ariannu a ddyrennir i'r rhain. Byddai unrhyw oedi neu lithriadau o ran y prosiectau a'r cynlluniau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor er gwybodaeth i'r Aelodau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi rhoi eglurhad yng nghyfarfod y Cabinet ddoe ar y broses i'w dilyn mewn perthynas â'r Cynllun Arbed. Yn dilyn cyflwyniad achos busnes i Lywodraeth Cymru, a’i gymeradwyaeth gobeithio, byddai gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu â thrigolion lleol ac Aelodau lleol ynghylch y gwaith sydd i'w wneud, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer y rhain. Byddai cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf heddiw yn caniatáu i gyllid angenrheidiol y Cyngor gael ei gynnwys yn yr achos busnes. 

Cyfeiriodd Aelod at waith Metro Plus Porthcawl a oedd ag amcangyfrif cost gychwynnol o £400k. Fodd bynnag, roedd hyn bellach wedi'i addasu i £2m oherwydd bod adeilad mwy sylweddol wedi'i gynnig. Roedd D?r Cymru wedi cadarnhau bod pibell prif gyflenwad fertigol yn y man a gynigwyd ar gyfer y terminal bysiau. Gofynnodd a oedd y gwaith sy'n ofynnol o ran hyn wedi'i gynnwys yn yr amcangyfrif cyffredinol diwygiedig ar gyfer y cynllun, a pham nad oedd y Cyngor yn ymwybodol o'r bibell hon o'r blaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod ymchwiliad safle wedi'i gynnal i ddechrau, cyn i'r gwaith a gynigiwyd gael ei gynllunio, felly roedd y Cyngor yn ymwybodol o'r bibell yn flaenorol. Trafodwyd hyn gyda D?r Cymru, a chytunwyd y byddai lloches y Metro Link yn cael ei symud ychydig fetrau i mewn i’r safle er mwyn peidio ag ymyrryd â'r prif gyflenwad. Nid oedd y costau ychwanegol o ganlyniad i symud y loches, ond oherwydd uwchraddio ac i wneud gwaith pellach i wneud y cyfleuster yn well ac yn fwy ecogyfeillgar, a fydd yn ei dro yn rhoi mwy o fudd i'r dref na'r un a gynlluniwyd yn wreiddiol. Byddai'r £2m yn cynnwys y gost o symud y lloches oddi wrth y bibell prif gyflenwad.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau y byddai £1m hefyd yn cael ei ymrwymo i Gynllun Penprisk, ac yn y Pîl bydd ymrwymiad yn cael ei wneud i adleoli'r Orsaf Reilffordd yn unol â darpariaeth y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai unrhyw breswylwyr sydd wedi’u heffeithio gan y Prosiect Arbed yn cael eu had-dalu yn ariannol os ydynt wedi talu eu hunain i gywiro’r gwaith anfoddhaol a wnaed rai blynyddoedd yn ôl.

 

Roedd y Prif Weithredwr, er ei bod yn gresynu'n fawr wrth sefyllfa’r preswylwyr yng Nghaerau a effeithiwyd gan fethiant y gwaith inswleiddio waliau blaenorol, a chan bwysleisio ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb am eu rhan yn hyn, yn dymuno pwysleisio nad oedd y Cyngor wedi bod yn rhan o fwyafrif helaeth y gwaith a wnaed yn yr eiddo. Nid fu’r Cyngor yn rhan o’r gwaith insiwleiddio waliau a wnaed mewn 79 o'r 104 eiddo sydd bellach yn gymwys ar gyfer y cynllun arfaethedig.  Ni allai roi ymateb cywir i'r cwestiwn o ad-dalu ar hyn o bryd, gan nad oedd yr Awdurdod wedi cyflwyno'r Achos Busnes eto. Fodd bynnag, pwysleisiodd y byddai Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith yn debygol o ddod o'r Gronfa Effeithlonrwydd Ynni, a fyddai'n debygol o ganolbwyntio ar dynnu’r hen gladin a ddarparwyd 10 mlynedd yn ôl a gosod cladin newydd. 

 

Nododd Aelod fod ymrwymiadau amser o ran y gwaith o gyflawni'r Cynllun Metro Plus, ac felly roedd yn hanfodol bod y cynllun yn cael ei gwblhau'n brydlon er mwyn defnyddio’r cyllid a ddyrannwyd ar ei gyfer gan y Cyngor. Nododd fod angen gwneud cais i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd erbyn mis Mehefin eleni. Nododd hefyd fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ond newydd gael ei gwblhau, felly gofynnodd a oedd y dyddiad targed uchod yn rhy uchelgeisiol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod y Cyngor yn gwneud cais i'r Gronfa Codi’r Gwastad am gyllid ar gyfer prosiect Pont Pencoed. Er ein bod yn gweithio tuag at wneud cais erbyn mis Mehefin 2022, gallai’r dyddiad cyflwyno newid. Roedd y Cyngor yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad ar hyn o bryd ac yn gweithio gyda Network Rail ar ddyluniad y bont. Yna byddai'r cais yn cael ei gyflwyno tua mis Mai/Mehefin. Ni fydd y gwaith dylunio wedi’i gwblhau erbyn i'r cais gael ei gyflwyno, ond nid oedd hyn yn angenrheidiol o ran y cynllun yn gyffredinol. Roedd y cynllun yn sylweddol o ran ei faint ac o ran y gwaith seilwaith sydd ei angen, felly ni fyddai'n cael ei gwblhau o fewn amserlenni'r Cais/Grant Codi’r Gwastad.

 

O ran Arbed, nododd Aelod y gofynnwyd am £855k yn y rhaglen gyfalaf gan y Cyngor, ar dudalen 19 y pecyn adroddiad, ac y byddai cyflawni'r prosiect, gan gynnwys y cynigion tendro a chaffael, yn cymryd tua 2 flynedd. Gofynnodd felly pam yr oedd y £855k yn cael ei lwytho ymlaen llaw eleni, yn hytrach na chael ei rannu dros eleni a'r flwyddyn nesaf i gyd-fynd ag amcangyfrif oes holl waith y prosiect. Gofynnodd hefyd, a fyddai’r prosiect angen mwy o arian pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo, ac o ran y cais am gyllid trwy Gynllun Eco Llywodraeth y DU, a yw’n debygol o gael ei sicrhau ac, os felly, faint fyddai hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn cytuno y gallai’r dyraniad o £855k fod angen ei adolygu unwaith y bydd yr achos busnes wedi'i gymeradwyo, gan y gallai’r angen am arian fod yn llai yn y flwyddyn gyntaf oherwydd ei bod yn anochel y byddai llawer o'r flwyddyn yn cael ei dreulio ar y cynllun ymgysylltu, yn arolygu'r cartrefi ac yn caffael contractwyr arbenigol. Nid oedd yn hysbys ar hyn o bryd a fyddai Llywodraeth y DU yn darparu unrhyw gyllid ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wthio hyn yn galed gan fod y Cynllun Arbed Ynni Cymunedol [ CESP ] yn rhaglen a noddir gan Lywodraeth y DU ac roedd y gwaith yn y rhan fwyaf o’r cartrefi wedi’i wneud o dan y cynllun hwnnw. Ychwanegodd fod cyfanswm yr amcangyfrif diwygiedig o £3.5m ar gyfer yr holl waith y prosiect bellach yn cael ei ystyried yn rhesymol, gan fod cost cyfalaf y gwaith i bob eiddo wedi cynyddu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Byddai darparwyr allanol yn ymgymryd â'r gwaith. Cyfeiriodd Aelod at dudalen 25 o'r pecyn adrodd a’r Cronfeydd sydd heb eu Neilltuo. Nododd y bu amrywiad sylweddol yn y ffigur hwn dros y blynyddoedd diwethaf, gan amrywio o £3m mewn rhai blynyddoedd i £300k mewn blynyddoedd eraill. Gofynnodd pam fod cymaint o amrywiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod Cronfeydd Heb eu Neilltuo yn rhan o'r gyllideb gyffredinol er mwyn delio ag unrhyw bwysau annisgwyl wrth symud ymlaen. Roedd y rhain yn aml yn newid o flwyddyn i flwyddyn, gan ddibynnu ar setliadau'r awdurdod lleol. Er bod dyraniad yn y Gronfa ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, bydd yn cael ei drosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf os na fydd angen ei ddefnyddio. Roedd y Cyngor, fel awdurdodau eraill, yn profi cryn dipyn o bwysau ariannol, megis cynnydd mewn costau materol ar gyfer prosiectau a gwariant ychwanegol ar gyfer Agenda Datgarboneiddio 2030, felly efallai y bydd angen y gronfa i roi cefnogaeth ariannol i'r rhain. Daeth i'r casgliad drwy ddweud ei bod yn gronfa amcangyfrifedig a fyddai'n newid yn ôl amser a gofynion.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai trigolion a allai fod wedi dioddef yn gorfforol oherwydd y gwaith a wnaed yn eu heiddo fel rhan o Brosiect Arbed yn cael eu had-dalu'n ariannol drwy daliad digolledu, am gyflyrau'r ysgyfaint er enghraifft.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hawliadau fel hyn fel arfer yn cael eu gwneud drwy Hawliad Yswiriant, ac nad hyn oedd diben y cynllun a'r cyllid hwn.

 

Daeth yr Arweinydd â’r ddadl ar yr adroddiad i ben trwy ymddiheuro i’r trigolion yr effeithiwyd arnynt gan y gwaith a wnaed fel rhan o’r Prosiect Arbed yng Nghaerau. Sicrhaodd y byddai'r Cyngor yn gweithio ar Gynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda deiliaid tai ac Aelodau lleol yr ardal o ddechrau’r gwaith newydd hyd at ei gwblhau.

 

Rhoddodd sicrwydd hefyd i’r Aelodau fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwbl gefnogol o ariannu’r Prosiect Metro Plus ac yn croesawu’r cynlluniau eraill a amlinellwyd yn y Rhaglen Gyfalaf, megis Ysgol Arbennig Heronsbridge, yr Hyb Plant ym Mrynmenyn a'r Prosiect Fflyd Di-garbon Net.       

 

PENDERFYNIAD:                            Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig a geir yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: