Agenda item

Strategaeth Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu Strategaeth Economaidd newydd a gofynnodd am gymeradwyaeth i'r Strategaeth Economaidd.  Gofynnodd hefyd am gymeradwyaeth i gylch gorchwyl Bwrdd Partneriaeth Economaidd Sirol newydd Pen-y-bont ar Ogwr ac ar gyfer y defnydd arfaethedig o'r Gronfa Ddyfodol Economaidd.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2020 wedi cymeradwyo creu Tasglu Economaidd, dan gadeiryddiaeth yr Arweinydd, a'i fod mewn ymateb i ansicrwydd economaidd a heriau sy'n deillio o bandemig y coronafeirws.  Rhoddwyd mandad i swyddogion gan y Tasglu ddatblygu cynllun economaidd ar gyfer dyfodol y Fwrdeistref Sirol a fydd yn cynnwys camau i helpu busnesau i addasu i'r dirwedd economaidd newidiol ac i wella gwytnwch, yn ogystal â rhoi cymorth i drigolion ddatblygu sgiliau newydd, derbyn hyfforddiant, a chanfod cyfleoedd cyflogaeth.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai'r Strategaeth Economaidd arfaethedig a ddatblygwyd yn dilyn adolygiad manwl o ddata ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, fyddai'r sail neu'r ddeialog ar gamau gweithredu wedi'u blaenoriaethu gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, amrywiaeth o ffynonellau ariannu, buddsoddwyr a datblygwyr.  Byddai hyn yn cefnogi uchelgeisiau parhaus y Cyngor i chwarae rôl lawn a gweithredol wrth gefnogi'r economi leol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet fod Adroddiad Data'r Strategaeth Economaidd yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o'r ymchwil, y dystiolaeth a'r setiau data cyhoeddedig presennol fel rhan greiddiol o'r sail y mae'r Strategaeth Economaidd yn seiliedig arni ac yn cyd-fynd â'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.  Dywedodd y cynigiwyd datblygu model llywodraethu newydd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Economaidd, gan gynnwys datblygu Bwrdd Partneriaeth Economaidd Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel esblygiad o'r Tasglu Economaidd presennol. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y Strategaeth Economaidd arfaethedig yn nodi gweledigaeth strategol hirdymor a oedd yn mynegi uchelgeisiau twf Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer economi'r Fwrdeistref Sirol yn glir.  Roedd hefyd yn nodi cynllun gweithredu clir, gan gryfhau cysylltiadau ym mhob sector o'r economi a bydd yn cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol yn y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet y cynigiwyd iddi, mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a Phrif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid gyflwyno cynigion i sicrhau adnoddau ar gyfer rhaglenni, prosiectau a gweithgareddau gan gyllidwyr ar lefel y DU, Cymru a'r rhanbarthau. Mae hyn nid yn unig i'r Gronfa Lefelu i Fyny (LUF) a Chronfa Ffyniant a Rennir arfaethedig y Deyrnas Unedig (UKSPF) ac os yw'n llwyddiannus, byddai'n cefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu a gynhwysir yn y Strategaeth Economaidd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd wrth y Cabinet, yn amodol ar gymeradwyo'r Strategaeth Economaidd, y byddai swm o £1.197m (gan gynnwys y dyraniad presennol o £200k) yn cael ei ddyrannu tuag at ddarparu Cronfa Arloesi well drwy fecanwaith mewnol y panel y cytunwyd arno'n flaenorol gan y Cabinet.  Bydd gwariant o'r rhaglen gyfalaf yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor a chaiff ei fonitro drwy'r rhaglen gyfalaf.

 

Soniodd Cymunedau'r Cabinet am bwysigrwydd sefydlu strategaeth lefel uchel a diolchodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a'r Tîm am ddrafftio'r Strategaeth.  Ychwanegodd yr Arweinydd ei gefnogaeth i'r Strategaeth a ddatblygwyd gyda phartneriaid a busnesau a chyda ffocws ar fusnesau bach a chanolig.  Roedd yn arbennig o falch bod £2m wedi'i nodi i'w fuddsoddi mewn busnesau micro a bach.

 

PENDERFYNIAD:          Bod y Cabinet wedi:

 

  1. Nodi'r cynnydd i ddatblygu Strategaeth Economaidd;

 

  1. Cymeradwyo a mabwysiadu'r Strategaeth Economaidd, a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

  1. Nodi Adroddiad Data'r Strategaeth Economaidd, a nodwyd yn y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Strategaeth Economaidd;

 

  1. Cymeradwyo cylch gorchwyl Bwrdd Partneriaeth Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a nodir yn Atodiad 3, a;

 

Chymeradwyo'r defnydd arfaethedig o'r Gronfa Ddyfodol Economaidd, fel y nodir yn adran 8.5 o'r adroddiad.    

Dogfennau ategol: