Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn ymweld â nifer o unigolion a grwpiau i gyflwyno Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer iddynt ac mae hi wedi bod yn bleser cael cwrdd â nhw i gyd. Mae yna nifer ar ôl i'w cyflwyno o hyd a bydd pob un wedi'i chyflwyno o fewn tua wythnos.

 

Ddydd Llun nesaf byddaf yn agor Cofeb y Glowyr yn Nant-y-moel yn swyddogol. Mae'r gofeb wrth ymyl hen safle Canolfan Berwyn sydd bellach wedi'i dymchwel, ac rwy'n si?r mai dyma fydd un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn fel Maer. Ar ôl cael fy magu yn Nant-y-moel bydd hi'n anrhydedd dychwelyd i nodi'r digwyddiad arbennig hwn a thalu teyrnged i'r llu o lowyr (fy nhad yn eu plith) a dreuliai oriau lawer bob dydd o dan y ddaear yn y tywyllwch, ond a wnaeth gyfraniad gwirioneddol at adeiladu'r cwm.

 

Mae hi wedi bod yn brofiad ac yn bleser Cadeirio cyfarfodydd y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf, hyd yn oed os oedd hi'n siom braidd nad oedd modd inni ond dychwelyd i siambr y Cyngor drwy drefniant hybrid. Fodd bynnag, gobeithio y bydd hyn yn newid yn fuan. Hoffwn ddiolch ichi i gyd am beidio â bod yn rhy galed arnaf yn y cyfarfodydd hyn, ond dim ond megis dechrau ar gyfarfod heddiw yr ydym ni felly pwy ?yr beth wnaiff ddigwydd.

 

Gan mai dyma fydd cyfarfod olaf y Cyngor cyn yr etholiad, meddyliais y byddai'n syniad gofyn i chi i gyd unwaith eto wneud cyfraniad at y ddau gr?p yr wyf yn codi arian ar eu cyfer eleni - Lads & Dads a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Byddaf yn cymryd rhan yn her 3 Chopa Cymru ddydd Sadwrn 2 Ebrill, ynghyd â 21 o bobl eraill, ac rydym ni i gyd yn gobeithio codi arian i'r ddau gr?p hyn. Bydd y digwyddiad yn dechrau tua 4.00am ar y dydd Sadwrn ac mae’n debygol y byddwn yn cwblhau’r digwyddiad ar yr Wyddfa yn y tywyllwch, ond gan wneud y cyfan o fewn 24 awr. A fyddech cystal â gwneud cyfraniad drwy Wefan CBSP ar dudalen y Maer os gallwch chi, a llawer o ddiolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.

 

I gloi, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol bod cyfarfodydd canlynol y Pwyllgor wedi'u canslo gan y bydd y cyfnod cyn yr etholiad yn dechrau ar 21 Mawrth 2022:-

 

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – 24 Mawrth

Pwyllgor Safonau – 29 Mawrth

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - 31 Mawrth

 

Bydd cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei gynnal ynghynt ar 15 Mawrth am 2pm, gyda chytundeb y Cadeirydd. Caniateir cynnal Pwyllgorau Rheoleiddio yn y cyfnod cyn yr etholiad.

 

Bydd staff y Gwasanaethau Democrataidd yn tynnu'r digwyddiadau uchod o galendrau'r Aelodau a'r Swyddogion yn unol â hyn. Mae dyddiad diwygiedig y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eisoes wedi'i osod yng nghalendrau Aelodau/Swyddogion

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Efallai yr hoffai'r Aelodau rybuddio eu hetholwyr ein bod yn derbyn galwadau unwaith eto gan ddeiliaid tai pryderus sydd wedi cael eu targedu gan sgamwyr.

 

Mae'r troseddwyr hyn yn anfon negeseuon e-bost a galwadau ffôn uniongyrchol i ddweud wrth bobl, yn gelwyddog, fod ganddynt hawl i dderbyn ad-daliadau helaeth o'u treth gyngor.

 

Mae'r sgamwyr wedyn yn trefnu i dalu'r arian yn ôl i'r preswylwyr yn gyfnewid am ffi o tua £140.

 

Sgam yw hwn, a chynghorir deiliaid tai i fod ar eu gwyliadwraeth.

 

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch y modd y mae'r cyngor yn ymdrin â thaliadau ac ad-daliadau'r dreth gyngor ar y wefan gorfforaethol, neu drwy Fy Nghyfrif.

 

Yr Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Mae prosiect ar y gweill yn Ne Corneli a fydd yn si?r o fod o ddiddordeb i'r aelodau, gan mai prosiect ydyw sy'n anelu i greu'r pentref carbon isel cyntaf yng Nghymru.

 

Mae'r prosiect, a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y cyd â Challoch Energy, NuVision Energy Wales Ltd, Passive UK a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys menter arloesol sy'n anelu i rannu ynni gwyrdd rhwng cartrefi lleol.

 

Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy osod cyfuniad o baneli solar, systemau awyru solar a batris ynni ar dai, gan gysylltu'r cyfan â'i gilydd fel bo modd dosbarthu ynni drwy'r holl gymuned.

 

Mae'r cynllun yn un o lawer o brosiectau y mae'r cyngor yn gweithio arnynt yn rhan o'n strategaeth datgarboneiddio gyffredinol, Pen-y-bont 2030.

 

Os bydd yr arbrawf yn parhau i greu canlyniadau cadarnhaol, gallem fynd ati'n fuan i roi'r dechnoleg ar waith mewn cymunedau eraill o fewn y bwrdeistref sirol.

 

Yr Aelod Cabinet - Y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Gan mai dyma fydd cyfarfod olaf y Cyngor llawn nes ar ôl etholiadau mis Mai, rwyf am hysbysu'r aelodau y byddwn yn agor canolfan newydd yn fuan lle bydd ein timau cymorth cynnar a gwasanaethau cymdeithasol plant o Hyb y Dwyrain wedi'u lleoli.

 

Cafodd ein hybiau eu creu yn ôl yn 2015, pan sefydlwyd tri thîm amlddisgyblaeth a fyddai'n gallu rhannu sgiliau ac adnoddau i ddarparu cymorth mwy effeithiol i blant lleol a'u teuluoedd.

 

Roedd Coleg Cymunedol y Dderwen yn gartref addas i dîm Hyn y Gogledd, a sefydlwyd tîm Hyb y Gorllewin yng Nghanolfan Bywyd y Pîl.

 

Bu'r Swyddfeydd Dinesig yn ganolfan dros dro i dîm Hyb y Dwyrain tra'r oeddem yn chwilio am ofod priodol iddynt.

 

Yn sgil ymdrechion ein partneriaid, ac yn enwedig pennaeth, staff, disgyblion a chorff llywodraethu Ysgol Gyfun Brynteg, mae adeilad unllawr newydd sengl wedi cael ei ddylunio a'i adeiladu ar dir yr ysgol. Mae'n barod i groesawu nid yn unig aelodau'r tîm cymorth cynnar, ond hefyd ein tîm lleol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol plant hefyd.

 

Mae’r ddau dîm yn gwneud gwaith rhagorol i’r gymuned, a bydd yr adeilad newydd yn dod ag arbenigwyr ym meysydd cymorth teuluoedd, rhianta ac ymgysylltu, llesiant addysgol, seicoleg a chwnsela, cymorth a chyswllt cymunedol yr heddlu, diogelu, iechyd a mwy ynghyd.

 

Drwy gydleoli'r gwasanaethau gyda'i gilydd, ceir cyfleoedd gwych i'n timau diogelu statudol gydweithio mwy â'i gilydd.

 

Bydd Hyb y Dwyrain yn gyfleuster newydd rhagorol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl leol, felly da iawn bawb a gyfrannodd at wneud hyn yn bosibl.

 

Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Gall pobl ifanc 16-18 oed sy'n byw yng nghymoedd Ogwr, Galw a Llynfi fanteisio ar 8 wythnos o aelodaeth gym am ddim yn rhan o fenter Gaeaf Llawn Lles.

 

Mae'r rhaglen wedi'i chyllido gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Halo Leisure a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a'i nod yw annog pobl ifanc i fyw bywydau iachach a mwy egnïol.

 

Am ragor o wybodaeth gallwch fynd i wefan Halo neu ymweld ag un o'r lleoliadau sy'n cymryd rhan cyn y dyddiad cau, sef 31 Mawrth 2022.

 

Yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Rwy’n si?r y bydd yr aelodau’n falch o nodi bod Coleg Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi cyflwyno cynnig cynllunio cyn ymgeisio yn ffurfiol ar gyfer sefydlu campws newydd, gwerth miliynau o bunnoedd, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Fel y gwyddoch, mae'r cynnig yn rhan o Uwchgynllun Adfywio'r Cyngor, sy'n nodi cyfres o brosiectau uchelgeisiol a chyflawnadwy dros y 10 mlynedd nesaf a fydd yn cefnogi twf economaidd yn y dyfodol ac yn sicrhau mwy o fuddion a chyfleoedd.

 

Mae’r coleg am ddatblygu campws dysgu a sgiliau cwbl newydd yn Cheapside gan ddefnyddio'r tir lle mae gorsaf heddlu canol y dref ar hyn o bryd. Mae'r cyngor eisoes wedi prynu'r orsaf i'r diben hwn, ynghyd â'r hen faes parcio aml-lawr gerllaw y bu'n rhaid ei gau ym mis Ebrill 2021 oherwydd diffygion strwythurol difrifol.

 

Wrth i weithgarwch yr heddlu ar y safle symud i eiddo arall yng nghanol y dref, a'u prif swyddfeydd ar Heol y Bont-faen, rydym yn gweithio'n agos gyda'r coleg gan fod addewid i'r campws dysgu a sgiliau newydd hwn weithredu fel prosiect angori o fewn y cynlluniau adfywio, a gwneud tref Pen-y-bont ar Ogwr yn gyrchfan unigryw ar gyfer cyfleoedd dysgu a hyfforddi o'r radd flaenaf.

 

Gan fanteisio ar gynlluniau cyfochrog i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwell o fewn canol y dref, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio ei gyfleusterau, bwriedir i'r campws newydd gefnogi busnesau lleol a chynhyrchu buddsoddiadau newydd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr yn sylweddol.

 

Yn ei hanfod, mae'r cynnig yn ceisio dod ag addysg uwch ac addysg bellach i mewn i ganol y dref, lle bydd yn nes at ganolfannau manwerthu, hamdden a thrafnidiaeth, ac mae'n gonglfaen i'n strategaeth adfywio sy'n addo sicrhau newid cadarnhaol hirdymor.

 

Uchelgais a gweledigaeth yr uwch gynllun yw sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn Dref Sirol wirioneddol. Mae'r agwedd hon ar yr uwchgynllun yn cadarnhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn lle ar gyfer addysg dechnegol, yn lle ar gyfer sgiliau a dysgu gydol oes ac, i bob pwrpas, yn dref prifysgol.

 

Y Prif Weithredwr

 

Rwy'n si?r y bydd yr aelodau’n ymwybodol iawn mai hwn yw cyfarfod olaf y Cyngor llawn cyn i’r etholiadau llywodraeth leol gael eu cynnal ym mis Mai.

 

Fel Prif Weithredwr, rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi’r perthnasoedd gwaith adeiladol sydd gennym yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a’r parch a geir rhwng swyddogion ac aelodau.

 

Gwn fod rhai ohonoch eisoes wedi penderfynu peidio sefyll yn yr etholiadau sydd ar ddod, ac oherwydd natur gwleidyddiaeth, efallai y byddwn hefyd yn gweld mwy o wynebau newydd y tro nesaf inni gwrdd yn y siambr hon.

 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch ichi ar ran yr holl swyddogion am eich ymdrechion, eich ymrwymiad a'ch ymroddiad tuag at y cymunedau yr ydych yn eu cynrychioli.

 

Hoffwn hefyd ddymuno pob lwc i'r Aelodau a phob dymuniad da i'r dyfodol.