Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Gwn fod yr holl aelodau wedi'u tristau a'u syfrdanu gan ymosodiad Rwsia ar Wcrain, sy'n achosi argyfwng dyngarol a welir yn datblygu bob dydd, yn fyw ar ein sgriniau teledu.

 

Mae pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cyngor hwn yn parhau i sefyll ochr yn ochr â phobl Wcrain wrth iddynt frwydro'n ddewr yn erbyn lluoedd arfog Putin.

 

Fel ardal sydd eisoes yn gartref i wladolion Rwsia ac Wcrain, rydym yn cydsefyll â'n cymdogion o Wcrain, ac ni allwn ddychmygu sut maent yn teimlo nac yn ymdopi, heb wybod a yw eu hanwyliaid yn Wcrain yn ddiogel, ac a fyddant yn goroesi'r bomiau a'r sieliau.

 

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi a chefnogi ein preswylwyr o Rwsia sydd, fel ni, wedi condemnio'r ymosodiadau anghyfreithlon a direswm a orchmynnwyd gan yr Arlywydd Putin, ac sy'n parhau i gydsefyll â Wcrain.

 

Yn union fel y mae Cymru’n genedl noddfa, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hithau'n ardal sy'n cynnig noddfa, ac mae hi wedi bod yn galonogol gweld ein cymunedau lleol yn dod at ei gilydd i gynnig eu cefnogaeth i bobl Wcrain gyda’u negeseuon, eu gweddïau a'r arian, y meddyginiaethau a'r hanfodion eraill y maent wedi'u cyfrannu.

 

Cynhaliwyd gwylnos gyhoeddus emosiynol yn Dunraven Place yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener diwethaf a chafwyd cefnogaeth dda iawn gyda chyfraniadau teimladwy iawn gan bobl o Wcrain sy'n byw yng Nghymru. Bydd ail wylnos yn cael ei chynnal yn sgwâr marchnad Maesteg ddydd Sadwrn yma 12 Mawrth am 10.00am.

 

Mae nifer o gymunedau lleol yn trefnu eu casgliadau eu hunain ar gyfer bwyd, meddyginiaethau a hanfodion eraill, ac mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn derbyn nwyddau ymolchi a hylendid personol ac eitemau meddygol yn ei hyb cymunedol.

 

Fel arall, a dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o helpu, gall pobl gyfrannu arian i'r Disasters Emergency Committee  fel bo modd prynu eitemau i Wcrain heb orfod eu cludo o'r DU.  Mae ein pobl wedi dangos eu haelioni, eu caredigrwydd a’u parodrwydd i weithredu, gan gynnig eu cartrefi eu hunain hyd yn oed i ffoaduriaid sy'n ffoi rhag erchylltra rhyfel.  Mae angen sicrhau'r un ymrwymiad gan lywodraeth y DU ag ymrwymiad y bobl.

 

Yr wythnos diwethaf cyfarfu holl Arweinwyr Cynghorau Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i drafod ein hymateb ar y cyd i’r argyfwng dyngarol sy'n tyfu bob dydd o fewn y wlad.Cadarnhaodd yr arweinwyr fod pob cyngor lleol yng Nghymru yn barod i wneud beth bynnag a oedd o fewn eu gallu i helpu’r rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcrain, a'u bod yn gwneud paratoadau. Fodd bynnag mae ein gallu i baratoi'n gyfyngedig, gan nad ydym wedi derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnom ar frys gan Lywodraeth y DU.

 

Dros y penwythnos ysgrifennodd ein Arweinydd CLlLC, Andrew Morgan, at Brif Weinidog y DU ynghylch y rhyfel, a’r wythnos hon fel Llywydd, ynghyd â holl Arweinwyr y Grwpiau mewn ymateb trawsbleidiol unfrydol, galwodd eto ar i Lywodraeth y DU fod yn llawer mwy eglur a gweithredu'n llawer cynt er mwyn ymateb i'r argyfwng ffoaduriaid.Rydym wedi galw am ddileu’r cynllun fisa cyfyngol a biwrocrataidd presennol ar unwaith er mwyn galluogi’r bobl hynny sy’n ceisio dianc o’r rhyfel yn yr Wcrain i ddod i Gymru a chael hyd i le diogel mor hawdd ac mor gyflym â phosibl.

 

Mae ein cymdogion Ewropeaidd wedi symud yn gyflym iawn, gan symleiddio prosesau a rheolau ac agor eu drysau, agor eu ffiniau, agor eu cartrefi i ffoaduriaid Wcrain. Dylai Llywodraeth y DU wneud yr un peth a gwneud hynny ar unwaith. Byddwn yn barod pan fydd hynny’n digwydd. 

 

Wrth inni nesáu at ddwy flynedd ers dechrau'r pandemig coronafeirws yng Nghymru, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y ceir newidiadau mawr i gyfyngiadau coronafeirws yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Mae'r newidiadau'n cael eu cyflwyno yn sgil cyfraddau brechu uchel a lefelau heintio isel, a byddant yn golygu na fydd angen i drigolion lleol wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd o 28 Mawrth, na hunanynysu ychwaith.

 

Tra bydd busnesau a chyflogwyr yn parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau iechyd a diogelwch, ni fydd bellach yn ofynnol yn gyfreithiol iddynt gynnal asesiadau risg penodol ar gyfer Covid, na chymryd camau ataliol rhesymol.

 

Bydd ysgolion yn parhau i weithredu drwy ddefnyddio'r fframwaith cenedlaethol ac yn gallu pennu eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer defnyddio gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cyffredin dan do.

 

Bydd y defnydd arferol o brofion PCR ar gyfer y cyhoedd yn dod i ben, a bydd safleoedd profi symudol cau'n raddol yn y cyfnod cyn hynny.

 

Bydd profion yn parhau i gael eu cynnal ar bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, ar breswylwyr cartrefi gofal, carcharorion â symptomau a staff iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Bydd profion llif unffordd hefyd yn parhau i fod ar gael i unrhyw un â symptomau, a byddant ar gael yn rhad ac am ddim.

 

Mae’r newidiadau hyn yn cynrychioli’r ymdrechion y mae pobl wedi’u gwneud i ddod at ei gilydd fel un gymuned a gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad y coronafeirws.

 

Er nad yw hyn yn golygu bod y pandemig drosodd, mae'n ddychweliad i normalrwydd sy'n cael ei groesawu.

 

Yn olaf, rydym wedi derbyn peth newyddion cadarnhaol yr hoffwn eu rhannu â’r aelodau.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi’i gydnabod yn swyddogol fel cyflogwr ag achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol gan y Living Wage Foundation. Sefydliad yw'r Living Wage Foundation sy'n defnyddio ffactorau ehangach yn gysylltiedig â chostau byw i gyfrifo cyfraddau cyflog fesul awr mwy realistig i bobl 23 oed a throsodd.

 

Nod y Living Wage Foundation yw rhoi meincnod gwirfoddol i gyflogwyr, fel bod staff yn gallu ennill y cyflog y gallant fyw arno. Mae'r sefydliad yn amcangyfrif bod bron i un o bob pump o weithwyr yng Nghymru ar hyn o bryd yn ennill llai nag sydd ei angen i gael dau ben llinyn ynghyd, a bod tua 223,000 o swyddi'n talu llai na'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Mae cyflogwyr sy'n cytuno i'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cytuno i dalu isafswm o £9.90 yr awr i'w staff, yn hytrach na'r gyfradd genedlaethol o £8.91.

 

Er bod dros ddwy flynedd bellach ers i'r cyngor hwn ymrwymo'n wreiddiol i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol, mae ennill achrediad swyddogol yn cyfleu'n glir wrth ddarpar gyflogeion ein bod yn gyflogwr cyfrifol.

 

Daw'r achrediad yn dilyn llawer iawn o waith caled a gyflawnwyd ochr yn ochr â Cynnal Cymru.

 

Mae’n adlewyrchu ein dymuniad i wella telerau ac amodau, ac i sicrhau bod staff yn cael eu trin yn briodol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig, a hynny'n aml i'r aelodau sydd yn fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

 

Drwy arwain drwy esiampl, rydym yn annog ein contractwyr a'n cyflenwyr hwythau i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, yn unol â'n hymrwymiadau yn y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

 

Rwy’n si?r y bydd yr Aelodau am ymuno â mi i longyfarch pawb sydd wedi helpu’r cyngor i ennill yr achrediad hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p – Cynghrair Annibynnol y byddai'n hoffi cysylltu'r Gr?p â geiriau'r Arweinydd wrth ddarparu ein cefnogaeth unedig mewn undod â phobl Wcráin wrth iddyn nhw ddioddef y cyrch llym a di-sail hwn o Rwsia ar eu cenedl ddemocrataidd annibynnol.

 

Rhaid inni gondemnio gweithredoedd yr Arlywydd Putin yn y termau cryfaf ond hefyd gefnogi dewrder y bobl hynny o Rwsia sydd wedi cael y gwedduster moesol i siarad yn erbyn ei gieidd-dra.

 

Hoffwn hefyd longyfarch yr holl arweinwyr cymunedol gan gynnwys y Cynghorydd David White ac eraill am eu gwaith yn trefnu'r wylnos a gafodd ei chynnal yr wythnos diwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Hoffem ddweud diolch i’r holl drigolion hynny sydd wedi dangos cymaint o garedigrwydd haelionus wrth roi cyflenwadau hanfodol drwy'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau ac elusennau eraill fel y Groes Goch Brydeinig.

 

Mae'r golygfeydd o Wcráin wedi bod yn dorcalonnus sy'n gwneud i anwadalwch a biwrocratiaeth Llywodraeth y DU yng Nghalais hyd yn oed yn fwy cywilyddus wrth i ni weld ein ffiniau'n cau i bobl Wcráin pan maen nhw wir angen cefnogaeth tra bod pobl ddiniwed yn marw yn eu mamwlad.

 

Byddwn yn ein hannog fel "Un Cyngor" i orfodi Llywodraeth y DU i wneud pob ymdrech i lacio amodau mewnfudo ar unwaith ac arwain y byd (yn hytrach na’i ddilyn) pan ddaw'n fater o dderbyn ffoaduriaid o Wcráin sy'n ffoi rhag erledigaeth. Yn ogystal â hyn mae angen darparu mwy o gymorth dyngarol i'r bobl ddewr a herfeiddiol sy’n dangos penderfynoldeb anhygoel wrth iddyn nhw aros yn Wcráin.

 

Os bydd Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy yn y pen draw, gallem weld miloedd lawer o ffoaduriaid yn glanio yng Nghaerdydd. Felly byddai'n ddefnyddiol pe byddai asesiad cywir yn cael ei wneud i faint o ffoaduriaid o Wcráin y gallwn eu cymryd a sicrhau ein bod ni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn sefyllfa i arwain Cymru yn yr ymdrech hon. Mae gweision a swyddogion sifil y Swyddfa Dramor wedi dysgu llawer drwy ddatblygu sgiliau a rhwydweithiau i gefnogi dinasyddion Affganistan sydd wedi dod i Ben-y-bont ar Ogwr. Gall y gwersi hyn fod o fudd wrth gefnogi pobl Wcráin sy'n chwilio am ddiogelwch rhag erledigaeth. Rwyf hefyd yn cefnogi'r Arweinydd yn ei sicrwydd y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r unigolion o Wcráin sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn barod.

 

Rydym i gyd yn sefyll gydag Wcráin yn awr ac i aralleirio Anthem Genedlaethol Wcráin: "Nid yw Wcráin wedi marw eto, na'i gogoniant, na'i rhyddid. Bydd tynged yn gwenu arni unwaith eto. Bydd ei gelynion yn diflannu, fel y gwlith yn yr haul, a bydd hi hefyd yn rheoli, yn ei thir rhydd ei hun."

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p – Cynghrair Annibynnol y byddai'n hoffi cysylltu'r Gr?p â geiriau'r Arweinydd wrth ddarparu ein cefnogaeth unedig mewn undod â phobl Wcráin wrth iddyn nhw ddioddef y cyrch llym a di-sail hwn o Rwsia ar eu cenedl ddemocrataidd annibynnol.

 

Rhaid i ni gondemnio gweithredoedd yr Arlywydd Putin yn y termau cryfaf ond hefyd gefnogi dewrder y bobl hynny o Rwsia sydd wedi cael y gwedduster moesol i siarad yn erbyn ei gieidd-dra.

 

Hoffwn hefyd longyfarch yr holl arweinwyr cymunedol gan gynnwys y Cynghorydd David White ac eraill am eu gwaith yn trefnu'r wylnos a gafodd ei chynnal yr wythnos diwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Hoffem ddweud diolch i’r holl drigolion hynny sydd wedi dangos cymaint o garedigrwydd haelionus wrth roi cyflenwadau hanfodol drwy'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau ac elusennau eraill fel y Groes Goch Brydeinig.

 

Mae'r golygfeydd o Wcráin wedi bod yn dorcalonnus sy'n gwneud i anwadalwch a biwrocratiaeth Llywodraeth y DU yn Calais hyd yn oed yn fwy cywilyddus wrth i ni weld ein ffiniau'n cau i bobl Wcráin pan maen nhw wir angen cefnogaeth tra bod pobl ddiniwed yn marw yn eu mamwlad.

 

Byddwn yn ein hannog fel "Un Cyngor" i orfodi Llywodraeth y DU i wneud pob ymdrech i lacio amodau mewnfudo ar unwaith ac arwain y byd (yn hytrach na’i ddilyn) pan ddaw'n fater o dderbyn ffoaduriaid o Wcráin sy'n ffoi rhag erledigaeth. Yn ogystal â hyn mae angen darparu mwy o gymorth dyngarol i'r bobl ddewr a herfeiddiol sy’n dangos penderfynoldeb anhygoel wrth iddyn nhw aros yn Wcráin.

 

Os bydd Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy yn y pen draw, gallem weld miloedd lawer o ffoaduriaid yn glanio yng Nghaerdydd. Felly byddai'n ddefnyddiol pe byddai asesiad cywir yn cael ei wneud i faint o ffoaduriaid o Wcráin y gallwn eu cymryd a sicrhau ein bod ni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn sefyllfa i arwain Cymru yn yr ymdrech hon. Mae gweision a swyddogion sifil y Swyddfa Dramor wedi dysgu llawer drwy ddatblygu sgiliau a rhwydweithiau i gefnogi dinasyddion Afghanistan sydd wedi dod i Ben-y-bont ar Ogwr. Gall y gwersi hyn fod o fudd wrth gefnogi pobl Wcráin sy'n chwilio am ddiogelwch rhag erledigaeth. Rwyf hefyd yn cefnogi'r Arweinydd yn ei sicrwydd y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r unigolion o Wcráin sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn barod.

 

Rydym i gyd yn sefyll gydag Wcráin yn awr ac i aralleirio Anthem Genedlaethol Wcráin: "Nid yw Wcráin wedi marw eto, na'i gogoniant, na'i rhyddid. Bydd tynged yn gwenu arni unwaith eto. Bydd ei gelynion yn diflannu, fel y gwlith yn yr haul, a bydd hi hefyd yn rheoli, yn ei thir rhydd ei hun."

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p – Llynfi Independents ei fod am gysylltu ei hun ac aelodau o'i gr?p â sylwadau a theimladau'r Arweinydd. 

Wrth wneud hynny, roeddem yn cydnabod undod pwrpas dwfn nid yn unig yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu yng Nghymru, neu'r DU, ond yn fyd-eang. Y diben hwnnw yw cefnogaeth ac undod â phobl Wcráin. 

 

Cefais fy nghalonogi wrth fynychu'r wylnos yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr nos Wener lle'r oedd o leiaf ddau gant o bobl yn sefyll ochr yn ochr â'n cymdogion yn Wcráin. Rwy'n hyderus y bydd lefel debyg o gefnogaeth ym Maesteg fore Sadwrn nesaf. 

 

O ryfel, mae'r gwaethaf o ddynoliaeth yn dod i'r amlwg, ond y gorau ohono hefyd. Rwyf wedi derbyn galwadau ffôn a negeseuon gan drigolion yn fy etholaeth dros y dyddiau diwethaf yn awyddus i gynnig lloches i ffoaduriaid o Wcráin yn eu cartrefi eu hunain. Mae hynny'n siarad cyfrolau am y cymunedau croesawgar yn ein Bwrdeistref Sirol. 

 

Yn anffodus, mae'r teimlad hwnnw'n cwrdd â rhwystrau pan ydych yn ystyried yr ymateb truenus o annigonol a difaterwch Llywodraeth y DU. Rydym yn embaras i weddill Orllewin Ewrop lle mae ffoaduriaid yn cael eu croesawu â breichiau agored.  

 

Ond gadewch ni beidio ag anghofio'r miliynau lawer o bobl yn Rwsia y mae'r rhyfel hwn yn groes i’w credoau. Bydd y canlyniadau economaidd yn arbennig o enbyd iddyn nhw. 

 

Mae hanes yn edrych yn beryglus o agos at ailadrodd ei hun yn Nwyrain Ewrop. Ond wrth i ni obeithio a gweddïo am ymdrechion diplomataidd pellach a dad-ddwysáu'r rhyfel, rwy'n falch o fod yn aelod o Gyngor sy'n barod i weithredu er budd dynoliaeth a thosturi fel yr ydym wedi'i wneud gyda ffoaduriaid o Afghanistan a Syria yn ddiweddar. 

 

Slava Ukraini.

 

Cafodd y teimladau uchod eu hadleisio gan arweinwyr grwpiau'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.