Agenda item

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Altaf Hussain i’r Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet - Cymunedau:

Cynghorydd A Hussain I’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

Cynghorau yw'r llinell gymorth gyntaf ar gyfer adeiladu busnesau hunangyflogedig wrth gefn ar ôl y pandemig. I lawer o bobl hunangyflogedig, mae'r pandemig nid yn unig wedi bod yn argyfwng iechyd ond hefyd yn argyfwng incwm. Ni chafodd llawer o weithwyr llawrydd yng Nghymru gymorth ariannol  a chanfuwyd ymchwil y llywodraeth ac IPSE bod un o bob pedwar wedi gwario eu holl gynilon.

 

Sut mae Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi ym musnesau lleiaf ein hardaloedd a pha gymorth sydd ar gael i weithwyr llawrydd?

 

 

Cofnodion:

 

Cwestiwn

 

Cynghorau yw'r gwasanaeth cymorth cyntaf y mae busnesau hunangyflogedig yn troi atynt er mwyn ailadeiladu ar ôl y pandemig. I lawer o bobl hunangyflogedig, mae'r pandemig wedi bod yn argyfwng iechyd yn ogystal ag argyfwng incwm. Ceir llawer o weithwyr llawrydd yng Nghymru na chawsant gymorth ariannol oddi wrth y Llywodraeth, ac mewn ymchwil gan IPSE canfuwyd bod un o bob pedwar wedi gwario eu holl gynilion.

 

Sut mae Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi ym musnesau lleiaf ein hardaloedd, a pha gymorth sydd ar gael i weithwyr llawrydd?

 

Ymateb

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amrywiaeth o gymorth busnes, ac wedi ymroi i gefnogi twf busnes. Mae gan swyddogion wybodaeth a phrofiad i helpu'r rhai sy'n cynllunio i sefydlu neu ehangu busnes yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys sefydliadau o bob maint fel prosiectau bach sydd newydd ddechrau hyd at gwmnïau mawr amlwladol. Bydd swyddogion yn trosi cynifer o ymholiadau ag sy'n bosibl yn fusnesau llwyddiannus ac yn parhau i helpu'r busnesau i dyfu a datblygu.

 

Gall y tîm Menter roi cyngor a chymorth busnes parhaus, gan gynnwys:

 

           Cymorth yn gysylltiedig ag eiddo newydd

           Cyfleoedd i rwydweithio drwy Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

           Recriwtio

           Sgiliau

           Hyfforddiant

 

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda phobl gyflogedig a di-waith ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gall gynnig cymorth rhad ac am ddim yn gysylltiedig â mentora a hyfforddiant. Gan gynnwys pobl mewn swydd sydd am wella'u sefyllfa gyflogaeth, gallant gynnig cymorth i gynyddu oriau gwaith, symud i swydd wahanol, symud ymlaen i swydd well, ac ennill lefel uwch o incwm.  Ar ôl i fusnes fasnachu gall y prosiect roi cymorth yn gysylltiedig â recriwtio, yn ogystal â sgiliau i'r perchennog a'r staff.

 

Mae Ysgolion Busnes Rebel (Ysgol Fusnes Dros Dro) yn cynnwys 5 sesiwn diwrnod llawn sy'n helpu pobl i mewn i hunangyflogaeth a'u haddysgu ynghylch sut i sefydlu busnes yn rhad ac am ddim. Cynhelir y rhain yn flynyddol fel arfer. Mae Ysgolion Busnes Rebel hefyd yn datblygu cwrs 1 diwrnod i'w gynnal sawl gwaith y flwyddyn.  Mae'r dull hwn yn ddeniadol iawn ac yn rhoi hyder i bobl gymryd y camau cyntaf.

 

Mae Cronfa Dyfodol Economaidd y Cyngor yn cefnogi busnesau newydd ac addasiadau i eiddo busnes sy'n helpu i gefnogi'r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.

 

Maent yn cynnwys:

 

Mae cyllid Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu grantiau rhwng £250 a £4,000 i fentrau a busnesau newydd o fewn y 3 blynedd cyntaf o fasnachu. I ddechrau bydd £150,000 ar gael yn 2021/2022.

 

Cronfa Adfer Gwelliannau Awyr Agored Covid-19 sy’n darparu grantiau o hyd at £10,000 i addasu eiddo busnes er mwyn ymateb i gyfyngiadau'n deillio o bandemig y coronafeirws a datblygu cydnerthedd i'r dyfodol. I ddechrau, bydd £350,000 ar gael ar gyfer y Gronfa hon yn 2021/2022.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig cynllun grant hyblyg a ddarperir drwy bartneriaeth rhwng UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n darparu cymorth ariannol i ficrofusnesau newydd neu bresennol sydd wedi’u lleoli, neu sy’n bwriadu eu lleoli eu hunain, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gall y grant ddarparu hyd at 50% o gostau prosiect cymwys. Y grant lleiaf yw £250 a'r grant mwyaf sydd ar gael yw £4,000 felly uchafswm cost y prosiect yw £8000.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain

 

Faint o weithwyr llawrydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi gwneud cais am grant ariannol hyd yma? Faint sydd wedi derbyn grant o £250, pa fusnes a ddechreuwyd gyda'r swm hwn, ac a yw'r grant bellach ar gau i ymgeiswyr newydd?

 

Ymateb

 

Cytunwyd y byddai ateb yn cael ei roi i'r cwestiwn y tu allan i'r cyfarfod.