Agenda item

Cyflwyniad i'r Cyngor gan gynrychiolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a gyflwynai’r cynrychiolwyr Huw Jakeway a Chris Barton o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i’r Cyngor, iddynt roi diweddariad ar waith y Gwasanaeth, ac ati.

 

Yn gyntaf, rhoddodd Mr Jakeway gyflwyniad byr i Wasanaeth Tân De Cymru, cyn trosglwyddo'r awenau i Mr. Barton roi rhywfaint o'r cyd-destun ariannol.

 

Dywedodd fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gwasanaethu'r Bwrdeistrefi Sirol canlynol. Mae nifer y gorsafoedd/sefydliadau tân ym mhob un o'r ardaloedd wedi'i nodi mewn cromfachau:-

 

·         Pen-y-bont ar Ogwr (8)

·         Rhondda Cynon Taf (9)

·         Bro Morgannwg (4)

·         Caerffili (5)

·         Merthyr Tudful (2)

·         Blaenau Gwent (4)

·         Torfaen (4)

·         Trefynwy (5)

·         Caerdydd (4)

·         Casnewydd (3)

 

Cadarnhaodd fod pob un o'r Awdurdodau cyfansoddol wedi ymrwymo cyllideb tuag at weithredu Gwasanaeth Tân De Cymru a oedd yn gymesur â phoblogaeth pob ardal. Yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, roedd hyn i gyfrif am £7.5m (9.5%) o gyfanswm y gyllideb o £79m. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn cael ei gefnogi'n ariannol drwy ddyraniad grant penodol. Esboniodd fod 80% o'r gyllideb hon yn mynd tuag at gyflogwyr ac yn cynnwys adnoddau ar gyfer agweddau fel Trafnidiaeth, Cyflenwadau, Hyfforddiant, Eiddo, Pensiynau a Chyllid Cyfalaf.

 

Roedd cyllideb refeniw'r Gwasanaeth wedi cynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf, er bod hyn yn dal yn llawer is na chwyddiant. Roedd Gwasanaeth Tân De Cymru yn un o 3 Awdurdod Tân yng Nghymru. Y ddau wasanaeth arall oedd Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, yr oedd y naill wasanaeth a'r llall yn derbyn cyllideb fwy na rhanbarth De Cymru.

 

O ran pwysau cyllidebol eleni, roedd codiad cyflog o 1.5% wedi'i ddyfarnu, ond roedd rhai risgiau'n gysylltiedig â hynny oherwydd yr RPI cyfredol. Roedd yr holl gostau chwyddiant eraill wedi'u hamsugno o fewn Cyllidebau presennol y Gwasanaethau gan gynnwys ei Gronfeydd Wrth Gefn. Er bod tanwariant wedi'i ragweld o fewn y Gwasanaeth ar hyn o bryd, byddai'r arian hwnnw a oedd dros ben yn cael ei osod yn erbyn unrhyw risgiau'n gysylltiedig â chwyddiant cyflogau. Rhagdybiwyd y byddai cyllid grant oddi wrth Lywodraeth Cymru yn parhau.

 

Aeth Mr Jakeaway wedyn yn ei flaen i gyfeirio at broblemau gweithredol Gwasanaeth Tân De Cymru, gan ddweud fod yr holl fuddsoddiad a wnaed wedi mynd tuag at gadw cymunedau'n ddiogel.

 

Roedd atal yn cael ei ystyried yn eithriadol o bwysig, ac roedd swm sylweddol o arian yn cael ei ymrwymo i addysgu'r cyhoedd am agweddau ar ddiogelwch tân.

 

Roedd 20,000 o wiriadau'n cael eu cynnal ar gartrefi'n flynyddol, gyda chymorth cwmnïau cyfleustodau, ac asesiadau risg yn cael eu cynnal ar gartrefi'r rhai y tybiwyd eu bod yn fwyaf agored i niwed, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Cynhaliwyd gwiriadau'n gysylltiedig â diogelwch tân, yn ogystal â gwiriadau eraill ar gartrefi i atal problemau fel masnachu mewn pobl a sefyllfaoedd a oedd yn cynnwys cam-drin rhywiol neu ddomestig. Cafodd cartrefi'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed hefyd eu gwirio, i sicrhau nad oedd unrhyw beth ynddynt a allai waethygu unrhyw ddamweiniau, ee, baglu a chwympo.

 

Gyda chymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd synwyryddion mwg hefyd eu gosod mewn cartrefi lle'r oedd preswylwyr yn derbyn cyngor ynghylch sut i atal troseddwyr.

 

Bu Gwasanaeth Tân De Cymru hefyd yn cydweithio â'r ysgolion ym maes dysgu a datblygu er mwyn addysgu pobl ifanc, yn rhan o Rhaglen(ni) Ysgolion y cwricwlwm. Rhoddwyd cyngor ynghylch agweddau fel diogelwch tân a sut i fod yn ddefnyddiwr ffordd cyfrifol. Bu'r Heddlu a rhanddeiliaid allweddol eraill yn helpu i gefnogi'r mentrau hyn.

 

Roedd nifer o ganghennau Cadetiaid Tân hefyd yn cael eu cynnal ar draws rhanbarthau Awdurdod Tân De Cymru.

 

Mynegodd ddiolch i ochr Weithredol y gwasanaeth a oedd yn aml yn gweithio o'r golwg o gymharu â'r Diffoddwyr Tân.

 

Yr Ystafell Reoli oedd y man lle byddai digwyddiadau'n cael eu hadrodd yn gyntaf, ac roedd y ganolfan honno wedi'i chysylltu â gwasanaethau brys eraill fel yr Heddlu ac Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Roedd am i bawb wybod fod 80% o'r tanau a ddiffoddir gan yr Awdurdod yn danau wedi'u cynnau'n fwriadol. Gan hynny, roedd hi'n eithriadol o bwysig addysgu'r cyhoedd a dweud wrthynt fod hyn yn anghyfreithlon ac yn drosedd.

 

Roedd Awdurdod Tân De Cymru hefyd yn rhoi cymorth ar gyfer digwyddiadau llifogydd ac er mwyn achub o ddyfroedd mewndirol ac achub anifeiliaid. Roedd y Gwasanaeth hefyd wedi canolbwyntio ar adeiladau uchel a diogelwch y preswylwyr ynddynt (yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn bennaf). Roedd gan rai o'r rhain ddiffygion fel cladin nad oedd yn bodloni safonau ac a oedd yn achosi risg barhaus.

 

Wrth gymharu data ac ystadegau o 2003 a 2021, roedd y Gwasanaeth wedi gwella ym mhob maes perfformiad allweddol, ar wahân i fynychu Galwadau Gwasanaeth Arbennig a Galwadau Gwasanaeth Arbennig dosbarth ‘eraill’. Roedd y naill wedi cynyddu 9% a'r llall wedi cynyddu 37%. Roedd y rhain yn achosion lle'r oedd Gwasanaeth Tân De Cymru wedi cynorthwyo asiantaethau eraill i achub, ee y Gwasanaeth Ambiwlans a galwadau eraill lle gofynnwyd am gymorth meddygol.

 

Yn hytrach na thrafod holl sleidiau'r cyflwyniad a oedd wedi cael eu rhannu â'r Aelodau, er mwyn derbyn unrhyw gwestiynau, daeth â'r cyflwyniad i ben drwy gymeradwyo ymdrechion a gwaith cyflogeion y Gwasanaeth drwy gydol y pandemig. Roeddent wedi parhau i weithio ar y rheng flaen, yn eu peryglu eu hunain er mwyn cefnogi eraill mewn amgylchedd ansicr iawn a barodd bron i 2 flynedd. Roedd yr holl Orsafoedd Tân ym mhob un o'r deg rhanbarth wedi bod yn weithredol drwy gydol cyfnod Covid-19. Ychwanegodd Mr Jakeaway fod y staff hefyd wedi cefnogi gwasanaethau brys ac asiantaethau allweddol eraill o fewn y cyfnod, heb sôn am helpu i gefnogi rhaglen frechu Covid-19.

 

PENDERFYNWYD:                    Nodi'r adroddiad a'r cyflwyniad gan Wasanaeth Tân De Cymru.                              

 

Dogfennau ategol: