Agenda item

Datganiad Polisi Cyflogau - 2022/2023

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Polisi Tâl 2022/2023 (Atodiad 1 yr adroddiad). Roedd yr adroddiad yn ymateb i ofynion deddfwriaethol ac yn sicrhau bod y Cyngor yn agored ac yn atebol o ran y modd y mae'n gwobrwyo ei staff.

 

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol ei bod hi'n ofynnol yn statudol i'r Cyngor, o dan y Ddeddf Lleoliaeth, i baratoi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, y mae angen ei gymeradwyo a'i gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2022.

 

Mae amseriad yr adroddiad yn fodd i sicrhau bod yr wybodaeth mor gyfredol ag sy'n bosibl. Mae hyn yn cynnwys Cytundeb Tâl y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021, y cytunwyd arno mor ddiweddar â 28 Chwefror 2022.

 

Mae’r Datganiad Polisi Tâl yn darparu’r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch tâl ac, yn enwedig, penderfyniadau ynghylch tâl uwch swyddogion.

 

Er mai'r hyn a oedd yn ofynnol yn y Ddeddf Lleoliaeth oedd bod yr holl awdurdodau'n datblygu a chyhoeddi eu polisi ar holl dâl Prif Swyddogion, cadarnhaodd fod manylion tâl yr holl grwpiau perthnasol wedi'u cynnwys, er mwyn sicrhau tryloywder.

 

O ran Atodiad 1 yr adroddiad, hy y Datganiad Polisi Tâl, datganiadau Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol, tynnodd sylw'r Aelodau at Baragraff 6.6 a esboniai fod Polisi Taliad Atodol ar sail y Farchnad, fel y gwyddai'r Aelodau, wedi cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor ers y Datganiad Polisi Tâl diwethaf.

 

Roedd paragraff 8 o'r adroddiad wedyn yn rhoi gwybodaeth am Berthynoleddau Cyflogau y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu cyhoeddi yn rhan o'r adroddiad. Ychwanegodd fod y rhain wedi cael eu diweddaru o'r flwyddyn flaenorol yn unol â chyflogau a ddiwygiwyd yn dilyn dyfarniad cyflog 2021. 

Nododd Aelod fod Cynghorydd Tref wedi dweud yn gyhoeddus yn ddiweddar fod CBSPO yn talu cyfraddau cyflog gwahanol i ddynion a merched sy'n gwneud yr un swydd. Gofynnodd i Reolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol a oedd y datganiad hwn yn gywir, a hefyd i esbonio neu ymhelaethu ar y gwahaniaeth rhwng anghyfartaledd cyflog a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

 

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol ei bod yn ofynnol i'r Cyngor adrodd bob blwyddyn ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedrig neu ganolrifol) dynion a merched ar draws y gweithlu.

 

Yn yr adroddiad diweddaraf a gyflwynwyd ar 31 Mawrth 2022, dangoswyd bwlch cyflog o 13% wrth gymharu cyflogau canolrifol.

 

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw mesuriad o'r gwahaniaeth yng nghyflog cyfartalog dynion a merched, waeth beth fo'u gwaith, ar draws y sefydliad. Mae'n wahanol i gyflog cyfartal, sy'n cymharu sut mae dynion a merched yn cael eu talu am gyflawni'r un rolau, neu rolau tebyg.

 

Mae'r Cyngor yn ceisio bodloni'r gofynion am gyflog cyfartal o fewn y Strwythur Cyflogau a Graddfeydd drwy werthuso unrhyw rolau newydd, neu rolau sydd wedi newid, drwy ei Gynllun Gwerthuso Swyddi. Drwy hyn bydd modd sicrhau bod unrhyw wahaniaethau o ran cyflog wedi'u cyfiawnhau'n wrthrychol.

 

Mae gan y Cyngor fwlch cyflog, ac mae nifer o ffactorau'n dylanwadu ar hyn, gan gynnwys cyfansoddiad a dosbarthiad y gweithlu, yn hytrach nag anghyfartaledd cyflog.

 

Hynny yw, mae gweithwyr sy'n cyflawni'r un rolau yn derbyn yr un cyflog, hy, am yr un swydd, felly roedd y datganiad a wnaed gan y Cynghorydd Tref, ac yr ymhelaethodd yr Aelod arno yn ei gwestiwn, yn anghywir.

 

PENDERFYNWYD:                      Bod y Cyngor yn cymeradwyo Datganiad Polisi Cyflogau 2022/2023, yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: