Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, er mwyn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu CCA5 - Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored a Datblygiadau Tai Newydd fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr.
I roi rhywfaint o'r cefndir, dywedodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol fod ardaloedd hamdden yn hollbwysig i'n hiechyd, ein llesiant ac i amwynder, a'u bod yn cyfannu at seilwaith gwyrdd ardaloedd. Maent yn cynnig lle i chwarae, i gymryd rhan mewn chwaraeon, i wneud gweithgareddau corfforol iach ac i ymlacio, a hynny'n aml yng nghanol byd natur.
O ganlyniad i ddatblygiad tai newydd yn y Fwrdeistref Sirol, a'r cynnydd yn y boblogaeth yn sgil hynny, dywedodd fod galw i wella cyfleusterau hamdden presennol, ac i ddarparu cyfleusterau newydd.
Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol y bydd CCA5 yn arf allweddol i ateb y galw hwnnw, drwy roi cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr ynghylch sut y gellir bodloni'r safonau sy'n ofynnol ym mholisi'r Cynllun Datblygu Lleol.
I grynhoi, mae’r CCA yn nodi:
· Y cyd-destun Polisi Cynllunio lleol a chenedlaethol ar gyfer darpariaeth hamdden awyr agored;
· Polisi ac arferion y Cyngor yn gysylltiedig â gofodau hamdden;
· Nodiadau canllaw i esbonio'r amgylchiadau, y mecanweithiau, y mathau a maint y gofod hamdden a geisir ar ddatblygiadau preswyl;
· Eglurhad o'r amgylchiadau lle gellir ceisio cyfraniadau ariannol tuag at gyfleusterau hamdden;
· Anogaeth i ddatblygwyr a darpar ymgeiswyr gynnwys yr Adran Gynllunio mewn trafodaethau cyn ymgeisio; a
· Chanllawiau ar y dull o weinyddu'r polisi.
Ar 16 Ionawr 2020 cymeradwyodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu fersiwn drafft o’r CCA fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus; awdurdododd swyddogion i wneud trefniadau priodol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus; a chytunodd i ddisgwyl am adroddiad pellach ar ganlyniad y broses ymgynghori.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos o hyd rhwng 21 Chwefror a 3 Ebrill 2020. Hysbysebwyd yr ymgynghoriad yn unol â darpariaethau paragraff 4.2 yr adroddiad.
Erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, roedd naw sylw wedi dod i law ar ddrafft y CCA. Ceir crynodeb o'r sylwadau hyn yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Ar 3 Mawrth 2022, ystyriodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yr holl sylwadau a chytuno ar newidiadau i'r ddogfen yn sgil y sylwadau a ddaeth i law. Cafodd y rhain eu cynnwys ar ffurf diwygiadau i'r CCA a geir yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol y byddai'r Aelodau'n sylwi o'r pwyntiau bwled ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, fod y diwygiadau arfaethedig wedi'u cyfyngu i bwyntiau eglurhaol cymharol syml, ac ychwanegodd fod hyn yn adlewyrchu swmp y gwaith a wnaed i gwblhau drafft y CCA yn y lle cyntaf. Cydnabu fewnbwn y Maer i hyn, a oedd wedi galw am gyflwyno CCA ers sawl blwyddyn, a bu ei gyfraniad personol a phroffesiynol yn amhrisiadwy ac yn fodd i sicrhau bod gan holl Aelodau'r Fwrdeistref Sirol lais yn y broses.
Daeth y Swyddog â’i gyflwyniad i ben drwy ychwanegu bod y CCA yn ymhelaethu ar y fframwaith polisi cynllunio defnydd tir presennol sydd wedi’i gynnwys yn y CDLl, gan roi sicrwydd i’r cyhoedd a datblygwyr ynghylch disgwyliadau’r Cyngor o ran sicrhau lefel briodol o Gyfleusterau Hamdden Awyr Agored i wasanaethu datblygiadau preswyl newydd.
Gofynnodd yr aelodau gwestiynau am yr adroddiad, a atebwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a Swyddogion o Adran Gynllunio'r Cyngor. Ar ôl hynny,
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor:
1 . Yn mabwysiadu CCA 5 - Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored a Datblygiadau Tai Newydd (Atodiad 2 yr adroddiad) fel Canllawiau Cynllunio Atodol i Gynllun Datblygu Lleol mabwysiedig Pen-y-bont ar Ogwr.
2 . Yn awdurdodi'r Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i wneud mân newidiadau i'r cyflwyniad cyn cyhoeddi'r CCA ar wefan y Cyngor.
Dogfennau ategol: