Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ac yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru.
Fel gwybodaeth gefndir, dywedodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, mai proses ragweithiol a chydweithredol o greu a rheoli lleoedd yw Creu Lleoedd. Er y gellir ystyried yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel y prif gynigydd, mae’r agenda creu lleoedd i bob pwrpas yn mynd y tu hwnt i swyddogaethau Cynllunio a swyddogaethau cysylltiedig y Cyngor, ac yn cynnwys cysylltiadau trawsddisgyblaethol â meysydd gwasanaeth lluosog ar draws llywodraeth leol a’i phartneriaid cysylltiedig er mwyn cyfrannu at greu a rheoli lleoedd yn effeithiol.
Cafodd y Siarter Creu Lleoedd, a lansiwyd ym mis Medi 2020, ei
datblygu gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru mewn
cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys
rhanddeiliaid sy'n cynrychioli ystod eang o fuddiannau a sefydliadau sy'n gweithio oddi mewn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Bwriedir i'r Siarter adlewyrchu ymrwymiad y sefydliadau hyn, yn unigol ac ar y cyd, i gefnogi datblygu lleoedd o ansawdd uchel ledled Cymru er budd cymunedau.
Aeth yn ei flaen i gadarnhau bod llofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cytuno i hyrwyddo'r egwyddorion canlynol wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a lleoedd sy'n bodoli eisoes:-
Manylwyd ar ddisgrifydd a oedd yn ymhelaethu ar bob un o'r rhain yn adroddiad y Swyddog.
Aeth y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yn ei flaen i ddweud y byddai'r Cyngor yn addo, fel llofnodwr y Siarter Creu Lleoedd:
· Cynnwys y gymuned leol wrth ddatblygu cynigion;
· Dewis lleoliadau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd;
· Blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus;
· Creu strydoedd a mannau cyhoeddus cynhwysol, diffiniedig, diogel a chroesawgar;
· Hyrwyddo cymysgedd gynaliadwy o ddefnyddiau i wneud lleoedd yn fywiog;
· Gwerthfawrogi a pharchu rhinweddau a hunaniaeth unigryw lleoedd presennol.
Ychwanegodd fod dogfen 'Dyfodol Cymru 2040' Llywodraeth Cymru yn darparu'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol ac yn cynnwys polisi penodol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r sector cyhoeddus ddangos arweiniad a chymhwyso egwyddorion creu lleoedd i gefnogi twf ac adfywiad er budd cymunedau. O dan Bolisi 2, mae'n datgan: “Rhaid i’r sector cyhoeddus arwain drwy esiampl a rhoi egwyddorion creu lleoedd ar waith er mwyn creu datblygiadau sy'n dangos esiampl. Yn arbennig, rhaid i'r sector cyhoeddus flaenoriaethu gwaith dylunio o ansawdd, arloesedd a chynaliadwyedd."
Dywedodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, fod Creu Lleoedd bellach wedi'i gydnabod ymhlith swyddogaethau'r Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yng Nghynllun Busnes y Gyfarwyddiaeth Cymunedau 2021/22. Y Pwyllgor Rheoli Datblygu a'r Gwasanaeth Cynllunio sydd yn y sefyllfa orau i weithredu fel hyrwyddwyr creu lleoedd y Cyngor, er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn cydymffurfio â'r egwyddorion a nodir yn y Siarter. Ceir dyhead i sefydlu 'Uned Creu Lleoedd' o fewn y tîm, gan fanteisio ar arbenigedd sy'n bodoli eisoes, yn ogystal â sicrhau adnoddau ychwanegol a threfnu hyfforddiant addas er mwyn rhoi'r mewnbwn creu lleoedd angenrheidiol i gynlluniau newydd. Byddai hyn yn cynnwys prosiectau'r Cyngor ei hun yn ogystal ag unrhyw bartner o'r sector cyhoeddus a datblygiad y sector preifat yn y dyfodol.
Yn ymarferol, gallai hyn gynnwys, ymhlith pethau eraill, y gofyniad i ddatblygwyr gael arbenigwr Creu Lleoedd yn rhan o’r gwaith cyn ymgeisio a datblygu cyfres o ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol cyfredol. Bydd hyn yn galluogi Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn Awdurdod enghreifftiol yn nhermau
creu lleoedd.
Daeth â’r adroddiad i ben, drwy ddweud bod llofnodi'r Siarter Creu Lleoedd felly'n cynnig cyfle i'r Cyngor gadarnhau ei ymrwymiad i sicrhau lleoedd o ansawdd, a chydnabod cyfraniad allweddol hynny at wella iechyd a llesiant ei gymunedau a'i drigolion ymhell i'r dyfodol. Ar gyfer hyn bydd angen ymagwedd 'un Cyngor' sydd eisoes wedi'i chefnogi mewn egwyddor gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau - y byddai'r Siarter Creu Lleoedd yn cydweddu'n briodol â nifer o gynlluniau a strategaethau'r Cyngor, yn enwedig y rhai hynny sy'n ymwneud â'r economi ac, yn enwedig, y Cynllun Datblygu Lleol y byddai ganddi berthynas uniongyrchol ag ef. Byddai'r Siarter hefyd yn cefnogi mentrau cadarnhaol fel Teithio Egnïol a ffyrdd iachach o fyw.
Roedd Aelod yn cefnogi’r Siarter ac yn gobeithio y byddai’n datrys problemau fel datblygiadau newydd a oedd yn cael eu hadeiladu a'u cwblhau heb gynnwys gofynion hanfodol, er enghraifft llwybrau troed i gysylltu ag ardaloedd eraill o'r gymuned, siopau lleol ac ardaloedd chwarae i blant ac ati. Pwysleisiodd y dylai'r rhain gael eu cynnwys yn rhan o ddatblygiadau newydd yn y gwaith adeiladu cychwynnol.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y byddai egwyddorion y Siarter o gymorth i sicrhau bod enghreifftiau fel yr uchod yn berthnasol yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau newydd, ynghyd â'r ffaith y byddai Uwchgynlluniau a chytundebau cyfreithiol i gefnogi'r Siarter er mwyn atgyfnerthu hyn.
Dywedodd Aelod ei bod yn gobeithio y byddai'r Siarter Creu Lleoedd hefyd yn berthnasol i Gynghorau Tref a Chymuned.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y gallai Cynghorau Tref a Chymuned lofnodi'r Siarter, ynghyd â sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus a phreswylwyr o'r diwydiant Datblygu.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ac yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru.
Dogfennau ategol: