Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a hysbysai'r Cyngor am Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ("y Panel") mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y byddai'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w aelodau etholedig ar gyfer blwyddyn 2022/23 y Cyngor.
I esbonio rhywfaint o'r cefndir, cadarnhaodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 yn cynnwys darpariaeth i sefydlu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Dyma oedd pedwerydd adroddiad blynyddol ar ddeg y Panel, a'r unfed adroddiad ar ddeg i gael ei gyhoeddi'n unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad). Roedd y Mesur yn ymestyn cyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.
Dangoswyd Penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2022/23 yn Atodiad 1 yr Adroddiad Blynyddol (tudalen 61 ymlaen). Mae adran 153 o’r Mesur yn rhoi p?er i’r Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol gydymffurfio â’r gofynion a osodir arno gan yr Adroddiad Blynyddol.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod Adroddiad Blynyddol y Panel 2022/23 yn cynnig rhai newidiadau i'r gydnabyddiaeth bresennol a ragnodir ar gyfer aelodau etholedig ar lefel Prif Gyngor (Bwrdeistref Sirol) ac ar lefel Cynghorau Tref a Chymuned.
Roedd paragraffau yn yr adroddiad, o 4.2 i 4.17 yn rhoi grynodeb o brif elfennau'r Adroddiad cyffredinol, ac ymhelaethodd y Swyddog Monitro rywfaint ar yr wybodaeth hon, er budd yr Aelodau.
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Adroddiad Blynyddol y Panel ddod i rym o 1 Ebrill. Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, mae hyn yn cyd-fynd â threfniadau ariannol a gweinyddol yr holl awdurdodau. Fodd bynnag, pan gaiff cynghorau newydd eu hethol, dylai rhai o benderfyniadau'r Panel fod yn weithredol ar gyfer tymor newydd y Cyngor. Ar 9 Mai 2022, bydd trefniadau newydd yn dod i rym ar gyfer y Cyngor, yn dilyn etholiadau llywodraeth leol. Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn felly'n cynnwys dau ddyddiad gwahanol pan ddaw'r penderfyniadau i rym, fel y nodir isod:
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai'r drafodaeth hon yn digwydd yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ym mis Mai.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn nodi Adroddiad Blynyddol 2022/23 ac yn cymeradwyo:
1 . Mabwysiadu Penderfyniadau perthnasol y Panel sydd yn yr Adroddiad Blynyddol (ynghlwm yn Atodiad 1);
2 . Y swyddi hynny (a ddangosir yn fersiwn ddiwygiedig Atodlen Tâl Cydnabyddiaeth yr Aelodau yn Atodlen 1 o Atodiad 2) a fydd yn derbyn cyflog uwch / dinesig;
3. Fersiwn ddiwygiedig Atodlen Tâl Cydnabyddiaeth yr Aelodau (Atodiad 2) a bod yr atodlen honno'n dod i rym o 9 Mai 2022;
4. Diweddaru Rhestr Tâl Cydnabyddiaeth yr Aelodau drwy gynnwys unrhyw newidiadau i swyddi cyflog uwch / dinesig a wneir gan y Cyngor yn ystod blwyddyn 2022/23 y Cyngor.
Dogfennau ategol: