Cofnodion:
Gofynnodd y Rheolwr Hawliau Tramwy am awdurdodiad i wneud Gorchymyn yn unol ag Adran 257 (gwyriad) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ar dir yn Moor Lane Porthcawl.
Dywedodd y byddai gweithredu caniatâd cynllunio P/16/497/FUL a P/17/554/RLX yn gofyn am ddargyfeirio rhan o Lwybr Troed 12, Porthcawl. Er mwyn gwneud ei ddargyfeirio yn bosibl, byddai angen dargyfeirio rhan ychwanegol o Lwybr Troed 12 Porthcawl, nad yw ym mherchnogaeth yr ymgeisydd, hefyd. Dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod y cynllun a gyflwynwyd yn dangos cwrtil y caniatâd cynllunio, tra roedd y rhan o Lwybr Troed 12 Porthcawl o'r gwyriad arfaethedig yn cael ei ddangos rhwng Pwyntiau A-B ar y cynllun.
Dywedodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod y rhan o Lwybr Troed 12 sydd i gael ei gwyro, ar hyn o bryd, yn cychwyn ym Mhwynt A (Cyfeirnod Grid SS 81657916), fel y dangosir ar y cynllun yn Atodiad B, ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad gogledd ddwyreiniol am tua 265 metr hyd at ei bwynt terfyn ym Mhwynt B (Cyf. Grid SS 81827936). Lled swyddogol y llwybr ar hyn o bryd yw 1.2 metr gyda wyneb naturiol llwybr troed. Dywedodd fod y llwybr presennol wedi'i rwystro gan wrych aeddfed ar bwynt tua 13 metr i'r gorllewin o Bwynt B (Cyf. Grid SS 81827936). Hysbysodd yr Is-bwyllgor am lwybr amgen arfaethedig Llwybr Troed 12, Porthcawl a dywedodd mai cyfanswm hyd y llwybr newydd yn fras fyddai 391 metr gyda lled o 5 metr (Pwyntiau A-C-D) ac 1.2 metr rhwng Pwyntiau D-E-B. Byddai’r arwyneb rhwng Pwyntiau A-C-D-E yn arwyneb naturiol a rhwng Pwyntiau E-B yn arwyneb craidd caled. Awgrymodd yr ymgeisydd y lled o 5 metr (Pwyntiau A-C-D) fel isafswm lled ar gyfer llain tirwedd/ecoleg o amgylch y safle datblygu yn unol â chais cynllunio P/16/497/FUL. Gosodir giât mochyn ym Mhwynt X (Cyfeirnod Grid SS 81817937).
Dywedodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y nodwyd yn ystod y broses ymgynghori cyn y gorchymyn, er mwyn i’r gwyriad arfaethedig fod yn llwyddiannus, y byddai hyn yn gadael Llwybr Troed 12, Porthcawl fel llwybr ag anomaledd, sef bod yr aliniad diffiniol yn cael ei rwystro ar hyn o bryd gan wrych aeddfed. Gwnaed cais ysgrifenedig i asiant yr ymgeisydd yn gofyn a fyddai’n cytuno i gynnwys rhan ychwanegol o Lwybr Troed 12, Porthcawl, nad yw ym meddiant yr ymgeisydd, i ddatrys yr anghysondeb. Roedd yr asiant wedi cadarnhau bod y diwygiadau yn dderbyniol iddo, a derbyniwyd cadarnhad ysgrifenedig gan y tirfeddiannwr cyfagos, Clwb Golff y Grove, yn cytuno i wyro’r rhan ychwanegol o Lwybr Troed 12, Porthcawl, yn amodol ar farn ymgyngoreion eraill. Dywedodd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn deillio o'r broses ymgynghori.
Dywedodd y Rheolwr Hawliau Tramwy, er mwyn hwyluso’r datblygiad ac amrywio amod 2 P/16/497/FUL yn ymwneud â deiliadaeth cabanau ar dir yn Moor Lane Porthcawl CF36 3EJ, y byddai angen dargyfeirio rhan o Lwybr Troed 12, Porthcawl. Amlinellodd Ganllawiau Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol wrth wneud Gorchymyn, a'r ystyriaethau canlynol y dylid eu hystyried: buddiannau'r cyhoedd yn gyffredinol; effeithiau posibl y Gorchymyn ar rai aelodau o’r cyhoedd, megis meddianwyr eiddo sy’n agos i’r briffordd ac unrhyw golled ariannol bosibl i aelodau’r cyhoedd. Dywedodd y Rheolwr Hawliau Tramwy wrth yr Is-bwyllgor, o ran y tair ystyriaeth a amlinellwyd, fod y Cyngor yn gwybod y bydd y llwybr newydd 126 metr yn hwy na'r llwybr presennol. Yn y tymor hir bydd y gwyriad arfaethedig yn ei gwneud yn bosibl gwarchod y rhwydwaith Hawliau Tramwy rhag rhwystr er mwynhad y cyhoedd. Mae hefyd yn ei gwneud yn bosibl cofnodi’r rhwydwaith a’i gynnal a’i gadw’n gywir a bydd yn caniatáu i’r llwybr troed barhau fel llwybr cerdded di-dor oddi ar y ffordd i aelodau’r cyhoedd rhwng Moor Lane a’r A4229. Ystyrid bod y bwriad er budd y cyhoedd a gellir dweud i’r prawf gael ei fodloni. Nid oedd yn ymddangos y byddai unrhyw effeithiau ychwanegol i’r Gorchymyn ar unrhyw eiddo cyfagos. Nid yw'r Cyngor yn ymwybodol o unrhyw golled ariannol bosibl i aelodau'r cyhoedd. Y datblygwr fydd yn gyfrifol am unrhyw waith sydd ei angen i greu'r gwyriad a darparu'r llwybrau newydd.
Arddangosodd y Rheolwr Hawliau Tramwy ffotograffau a golygfeydd o'r safle o'r awyr er budd yr Is-bwyllgor.
Gofynnodd aelod o’r Is-bwyllgor beth oedd arwyddocâd gwyro’r llwybr troed o ganol y cae i’w ymyl. Dywedodd y Rheolwr Hawliau Tramwy wrth yr Is-bwyllgor fod y datblygwr yn adeiladu cabanau ac na fyddai modd cerdded i lawr canol y cae.
PENDERFYNWYD: (1) Rhoi awdurdod i'r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol wneud y Gorchymyn angenrheidiol i geisio dargyfeirio Llwybr Troed 12, Porthcawl fel y dangosir ar y cynllun yn Atodiad B i'r adroddiad, a chadarnhau'r Gorchymyn ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiadau na sylwadau yn cael eu gwneud o fewn y cyfnod rhagnodedig, neu os caiff unrhyw rai a wneir felly eu tynnu'n ôl;
(2) Awdurdodi'r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol i anfon y Gorchymyn(Gorchmynion) ymlaen at Lywodraeth Cymru i'w penderfynu, os na châi unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnid eu tynnu'n ôl.
(3) Bod y Gorchymyn/Gorchmynion yn eithrio unrhyw ran o’r gwyriad, sy’n defnyddio priffyrdd a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan fod hawliau cyhoeddus yn bodoli drostynt eisoes.
Dogfennau ategol: