Agenda item

Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr - Arddangoswr Technoleg Hydrogen

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am drafodaethau ar y cyfle i ddatblygu Prosiect Arddangoswyr Hydrogen yng Nghymru gan ddarparu hydrogen gwyrdd lleol er mwyn cefnogi datgarboneiddio asedau'r Cyngor a'r rhanbarth ehangach.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cefndir. Yn 2021, cysylltodd Marubeni, arbenigwr byd-eang mewn prosiectau ynni adnewyddadwy a hydrogen, â Llywodraeth Cymru (LlC), i ofyn a oedd ganddynt ddiddordeb mewn cyfle buddsoddi ar gyfer Prosiect Arddangswr Hydrogen yng Nghymru. Addawodd Sefydliad Datblygu Ynni a Thechnoleg Ddiwydiannol Newydd Llywodraeth Japan (NEDO) tua £13m i gyd-ariannu Prosiectau Arddangoswyr P?er Hydrogen gyda Chorfforaeth Marubeni yn y DU. Yr allwedd i'r prosiect hwn oedd cyflenwi p?er Hydrogen Gwyrdd ar gyfer gwres a chludiant gan ddefnyddio ffynonellau ynni gwyrdd. Dewiswyd Pen-y-bont ar Ogwr fel y lleoliad mwyaf priodol a'r partner buddsoddi posibl.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn ac esboniodd y gallai'r prosiect ddod â chyfanswm o £26 miliwn o gronfeydd buddsoddi allanol i'r fwrdeistref drwy'r NEDO (£13M) a Marubeni (£13M) a fyddai'n datblygu system ynni a rheoli leol unigryw sy'n darparu ynni a gwres cost isel gwyrdd. Roedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn egwyddor wedi cytuno i ystyried y cyfle i fuddsoddi ar ôl derbyn cynnig manwl ac roeddent yn ymwneud â'r prosiect. Roedd Llywodraeth Cymru, ar ôl cyflwyno'r cyfle, yn awyddus i weld y prosiect yn dwyn ffrwyth ac i gefnogi ei ddatblygiad hefyd. Roedd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft yn cael ei baratoi a oedd yn nodi ymrwymiad nad yw'n gyfreithiol rwymol i gydweithredu'n ddidwyll a'r fframwaith y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Marubeni Corporation yn cydweithio'n agos oddi tano yn ystod unrhyw gam datblygu. Byddai angen penderfynu ar gyllid yn ystod y cyfnod hwn a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno'n ôl i'r Cabinet.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod hwn yn gyfnod cyffrous gyda buddsoddiad o £26 miliwn a chyfleoedd di-ben-draw a chyfle i arwain y ffordd.

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau’r prosiect ac ychwanegodd y byddai hyn yn rhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn sefyllfa dda i leihau ei ôl troed carbon. Gofynnodd i'w ddiolch i'r Aelod Cabinet blaenorol a'r Arweinydd gael ei gofnodi ar gyfer meithrin cydberthnasau i helpu i ennill y prosiect hwn.

 

Talodd yr Arweinydd deyrnged i ymdrechion a gwaith yr Aelod Cabinet blaenorol, y Cynghorydd Young, a oedd yn hyrwyddwr brwdfrydig ac angerddol iawn dros y gwaith arloesol a wnaed gyda phartneriaid. Roedd yn bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i'r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn a'r gwaith a fyddai'n cael ei wneud yn y dyfodol. Roedd hyn yn hanfodol oherwydd gallent ddarparu cyllid i ddatblygu'r cynllun. Byddent yn edrych ar ffyrdd o friffio pob Aelod ac yn darparu sesiynau briffio manwl ar gyfer aelodau lleol pan nodwyd safleoedd.

 

DATRYSWYD:           Cabinet:

·           Nodi'r cynnydd i'w ddatblygu; Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr – Prosiect Arddangoswr Hydrogen

·           Awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid a Phrif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, i weithio gyda'r

Marubeni Corporation i ddatblygu'r Prosiect Arddangoswr Hydrogen a thrafod telerau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ac ymuno â'r ddogfen.

·           Awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid a'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, i gomisiynu cyngor arbenigol gan ddefnyddio adnoddau a fydd ar gael o Gronfa Wrth Gefn y Gyfarwyddiaeth Gymunedau (EMR) 2022-23 ar gyfer gweithredu Strategaeth Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030 o gyllideb y Gyfarwyddiaeth Gymunedau yn ôl y gofyn ac adrodd yn ôl i'r Cabinet ar gynnig llawn y prosiect.

Nodwyd y bydd adroddiad pellach yn cael ei dderbyn ar ôl diwedd cyfnod yr MoU i ystyried hyfywedd manwl y prosiect.   

Dogfennau ategol: