Agenda item

Strategaeth Archwilio Mewnol Flynyddol a Chynllun Seiliedig ar Risg 2022-23

Cofnodion:

Gofynnodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol am gymeradwyaeth i'r Strategaeth Archwilio Mewnol Flynyddol a'r Cynllun Seiliedig ar Risg ar gyfer 2022-23.

 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod y ddogfen Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft ar gyfer 2022-23 yn dangos sut y bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cael ei ddarparu a'i ddatblygu yn unol â'r Cylch Gorchwyl ac y bydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n flynyddol mewn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid.  Hysbysodd y Pwyllgor fod Cynllun gwaith drafft seiliedig ar risg blynyddol 2022-23 wedi'i lunio yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS).  Dywedodd fod y Cynllun Blynyddol arfaethedig yn parhau i gydnabod risgiau penodol sy'n codi o ffyrdd o weithio o bell a'i fod hefyd yn hyblyg i ganiatáu ar gyfer amgylchiadau a digwyddiadau sy'n newid.  Bydd gwaith Archwilio Mewnol yn cael ei wneud o bell gan ddefnyddio fideo-gynadledda a datrysiadau digidol fel sail ar gyfer cyfarfodydd a rhannu dogfennau a data ond bydd hefyd yn cynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb a chyfarfodydd yn ôl yr angen ar gyfer pob archwiliad. 

 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y bydd y Cynllun Blynyddol arfaethedig yn cynnig digon i allu rhoi barn ar ddiwedd 2022-23 a bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau ar sut mae’r Cynllun yn cael ei gyflawni ac unrhyw newidiadau y gall fod eu hangen.

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd modd cyflawni'r cynllun, ac a fyddai'n cysylltu â'r Gofrestr Risg, systemau ariannol a monitro'r gyllideb ac a fyddai adroddiadau pellach yn cael eu derbyn ar y cynnydd a wnaed ar y cynllun.  Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod y cynllun wedi'i lunio'n seiliedig ar gyflenwad llawn o staff, ond bod cynlluniau wrth gefn yn yr ystyr y gellid comisiynu Gwasanaethau Archwilio Mewnol SWAP i wneud rhywfaint o'r gwaith archwilio.  Dywedodd y bydd y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau chwarterol ar gynnydd y cynllun.  Byddai'r cynllun hefyd yn cysylltu â'r Gofrestr Risg ac mae'r archwiliad o systemau ariannol a monitro'r gyllideb wedi’i gynnwys yn y cynllun. 

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd rheswm dros beidio â chynnwys yr arolygiad priffyrdd yn y cynllun. Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod nifer cyfyngedig o ddiwrnodau ar gael ar gyfer archwiliadau, ac yn dilyn penderfyniadau gyda’r Uwch Reolwyr o fewn y Gyfarwyddiaeth cytunwyd bod cyfiawnhad dros ganolbwyntio adnoddau ar feysydd gwasanaeth eraill yr ystyriwyd eu bod yn risg uwch, ac felly blaenoriaeth uwch, ond bydd priffyrdd yn cael eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod.

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd gan y Cyngor y capasiti ar gyfer lefel y newid a gynigir.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod gan y Cyngor hanes da o weithredu argymhellion a gwneud y newidiadau y gofynnwyd amdanynt.  Gofynnodd y Cadeirydd a oes digon o gapasiti o fewn y Gwasanaeth Archwilio Mewnol i gyflawni'r cynllun ac a ddylid ei resymoli.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y gellir prynu cymorth allanol pan fo angen a bod angen sicrhau bod y meysydd allweddol yn cael sylw.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo'r Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft (Atodiad A) a'r Cynllun Archwilio Blynyddol ar Sail Risg drafft ar gyfer 2022-23 (Atodiad B).        

Dogfennau ategol: