Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid ar Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 wedi'i ddiweddaru a diweddariad ar y achosion o Ddigwyddiadau a Methiant Agos (nad ydynt yn ymwneud ag iechyd a diogelwch).

 

Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod yr Asesiad Risg Corfforaethol wedi'i adolygu mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol.  Nododd y prif risgiau sy’n wynebu’r Cyngor, eu cysylltiad â’r amcanion llesiant corfforaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac effaith debygol y risgiau hyn ar wasanaethau’r Cyngor, y Fwrdeistref Sirol ehangach.  Nododd hefyd yr hyn sy’n cael ei wneud i reoli’r risgiau a phwy sy’n gyfrifol am ymateb y Cyngor.  Mae'r asesiad risg yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod dwy risg newydd wedi'u hychwanegu at y gofrestr Risg Gorfforaethol a bod 14 o risgiau ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ar hyn o bryd.  O'r risgiau hynny, mae 7 yn cael sgôr uchel, 5 yn cael sgôr canolig, a 2 yn cael sgôr isel.  Dywedodd fod Risg SS-2019-01 wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r cynllun gwella a weithredwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a phenodiad Swyddog Diogelu Corfforaethol newydd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid fod archwiliad gan SWAP Gwasanaethau Archwilio Mewnol wedi argymell rhoi’r gorau i’r Weithdrefn Adrodd am Ddigwyddiadau a Methiant Agos gan ei bod yn cyflwyno haen ddiangen ac amhriodol o reolaeth ac mai ychydig iawn o ddigwyddiadau a adroddwyd dros y blynyddoedd.  Roedd y Bwrdd Rheoli Corfforaethol wedi cefnogi'r farn hon a chytunwyd y dylid rhoi'r gorau i'r Weithdrefn Adrodd am Ddigwyddiadau a Methiant Agos ar y ddealltwriaeth eu bod yn cael eu rheoli ar lefel Cyfarwyddiaeth yn hytrach na lefel gorfforaethol.  Dywedodd os oes risgiau penodol yr hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth amdanynt, y gellid cynllunio ymlaen llaw ac y byddai'r swyddogion perthnasol yn mynychu'r Pwyllgor i ateb ymholiadau a allai fod gan y Pwyllgor ar reoli risgiau.    

 

Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor a oedd y sgoriau risg mor gyfredol â phosibl oherwydd y sefyllfa sy’n symud yn gyflym gyda’r argyfwng costau byw a chyfradd chwyddiant yn cynyddu a goblygiadau hynny i’r Cyngor ac i ofynion o ran y gweithlu, yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid fod risgiau’n cael eu diweddaru cyn gynted â phosibl, ond mae chwyddiant cynyddol wedi effeithio ar allu’r Cyngor i gyflawni cynlluniau allweddol.  Bydd swyddogion yn ymdrechu i sicrhau bod sgorau risg yn parhau'n ddilys a byddai swyddogion yn ailymweld â hwy pe teimlid nad ydynt yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.  Gofynnodd y Pwyllgor am i wybodaeth gael ei darparu i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol bod y sicrwydd a'r adolygiad o sgoriau risg yn parhau.  Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion gael digon o amser i baratoi ymatebion.            

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor, o ystyried bod yr awdurdod 9 mis i mewn i'r strategaeth caffael corfforaethol newydd, pa gamau a gymerwyd ers i'r strategaeth ddod i rym.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu'n ysgrifenedig i'r Pwyllgor ar y camau a gymerwyd o fewn y Strategaeth Caffael Corfforaethol. 

 

Cyfeiriodd aelod o'r Pwyllgor at y rhestr weithredu a gofynnodd a ellid rhestru'r swyddogion cyfrifol ynghyd â dyddiadau rhagamcanol ar gyfer cwblhau ac i gamau gweithredu gael eu seilio ar fetrigau er mwyn gallu barnu a oedd camau lliniaru wedi'u cymryd.  Gofynnodd y Cadeirydd am sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i fonitro a chytuno ar fframwaith o risgiau allweddol a chamau lliniaru sy'n cael eu cymryd gan swyddogion ar y Gofrestr Risg.  

 

Mynegodd aelod o'r Pwyllgor bryder bod methiannau agos a digwyddiadau yn cael eu dirwyn i ben ac y gallai digwyddiadau gael eu methu.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd methiannau agos yn parhau i gael eu monitro a’u cofnodi trwy dimau rheoli’r Gyfarwyddiaeth ac os yw’n parhau i fod yn risg byddai’n cael ei gofnodi ar gofrestr risg y Gyfarwyddiaeth.      

 

Cyfeiriodd aelod o'r Pwyllgor at y ffaith bod cynlluniau gweithredu seilwaith yn risg uchel ac yn dangos eu bod wedi'u cwblhau, a oedd y cynlluniau gweithredu cywir yn eu lle.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid ei fod yn cael ei reoli, fodd bynnag mae chwyddiant a materion cadwyn gyflenwi wedi effeithio ar gynlluniau’r Cyngor ac yn cael eu monitro. 

 

Holodd aelod o’r Pwyllgor pa mor aml y caiff y Gofrestr Risg ei diweddaru.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn cael ei hadolygu bob chwarter a'i bod yn dod gerbron y Pwyllgor yn rheolaidd. 

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor yn:

 

· Ystyried yr Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 (Atodiad A) 

· Nodi bod y Bwrdd Rheoli Corfforaethol wedi cytuno i roi'r gorau i'r Weithdrefn Adrodd am Ddigwyddiadau a Methiant Agos.

Dogfennau ategol: