Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar ddiweddariad Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) a gofynnodd am gymeradwyaeth i awdurdodi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBRhCT) i fod yn ‘Awdurdod Lleol Arweiniol’ ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU o Gynllun Buddsoddi Lleol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ar gyfer darparu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Gofynnodd hefyd am awdurdod i gyflwyno gwybodaeth Cynllun Buddsoddi Lleol Sir Pen-y-bont ar Ogwr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (fel ym mis Gorffennaf 2022) ar gyfer cyflawni dyraniad cyllid UKSPF Sir Pen-y-bont ar Ogwr i fwydo i mewn i ddatblygiad Cynllun Buddsoddi Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gyflwynir i Lywodraeth y DU. Gofynnwyd am awdurdod hefyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd drafod a llunio cytundeb ariannu rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda CBSRhCT yn gweithredu fel awdurdod arweiniol ac i ymrwymo i unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy’n ategol i’r cytundeb neu sy’n angenrheidiol i gyflawni’r UKSPF.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, ar ôl i’r DU dynnu’n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, mai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yw cronfa Llywodraeth y DU yn lle’r Cronfeydd Buddsoddi Strwythurol Ewropeaidd. Mae’r Gronfa yn rhan allweddol o agenda Codi’r Gwastad (‘Levelling Up’) llywodraeth y DU, gan ffurfio rhan o gyllid cyflenwol, gan gynnwys y Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Prif nod y gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU. Yn sail i’r nod hwn mae tair Blaenoriaeth buddsoddi: cymunedau a lle; cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod awdurdodau lleol o fewn y CCR wedi cael eu gwahodd i gydweithio a bwydo i mewn i un Cynllun Buddsoddi Lleol rhanbarthol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n nodi cynigion i gyflawni’r UKSPF hyd at fis Mawrth 2025 ac fel rhan o’r broses hon, cynigiwyd bod Cyngor RhCT yn cyflawni’r rôl hon. Dywedodd y bydd gan bob awdurdod lleol hyblygrwydd o ran sut y maent yn darparu UKSPF a bod cymysgedd o ddewisiadau ar gael, sef: cystadlaethau ar gyfer cyllid grant; caffael; comisiynu, a darpariaeth fewnol. Amlygodd drosolwg o’r cynigion, yn seiliedig ar wybodaeth a chanllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac wrth i wybodaeth a chanllawiau ddatblygu a rhagor o fanylion gael eu darparu, gall cynigion newid.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Adfywio i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a’r Tîm am ddod â chynigion cyffrous i’r Cabinet a gwnaeth sylwadau ar bwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Addysg a oedd y Cyngor wedi colli cyllid oherwydd bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol wrth sicrhau Cronfeydd Buddsoddi Strwythurol Ewropeaidd a thra bod y Cyngor wedi sicrhau cyllid o £23m o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, credwyd yn gyffredinol bod gan y Cyngor 45% yn llai o gyllid, ond y byddai serch hynny yn gorfod gweithio’n unol â hynny gyda’i bartneriaid ac ar lefel ranbarthol. Roedd yr Arweinydd yn siomedig iawn i drigolion y Fwrdeistref Sirol golli cyllid. Roedd yr Aelod Cabinet Cymunedau yn gobeithio y byddai cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl a phont ffordd Penprysg, a oedd yn rhan o raglen codi’r gwastad ehangach.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y cynlluniau, yr oedd llawer ohonynt yn ymwneud â mannau gwyrdd, wedi’u datblygu yn absenoldeb canllawiau cronfa manwl gan Lywodraeth y DU ac felly gallent newid.

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd am yr angen i gynlluniau gael eu darparu ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn arbennig yn y cymunedau llai. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y gellir defnyddio cyllid i adfywio canolfannau llai a bod y gronfa yn rhoi cyfle i swyddogion feddwl yn greadigol.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet wedi:

•Cytuno bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cymryd rôl yr ‘Awdurdod Lleol Arweiniol’ ar gyfer yr UKSPF ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

•Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wybodaeth Cynllun Buddsoddi Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Gorffennaf 2022), Atodiad 1, ar gyfer cyflawni dyraniad cyllid UKSPF Sir Pen-y-bont ar Ogwr i fwydo i mewn i ddatblygiad cyflwyniad Cynllun Buddsoddi Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Lywodraeth y DU. Os oes angen diwygiadau cyn 1 Awst 2022 o ganlyniad i ragor o wybodaeth a chanllawiau gan Lywodraeth y DU sy’n effeithio ar gyllid a/neu weithdrefnau cyfreithiol, mae’r rhain i’w cytuno mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Chorfforaethol. Polisi a Phrif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid.

•Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i drafod a llunio cytundeb ariannu rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda CBSRhCT yn gweithredu fel awdurdod arweiniol ac i ymrwymo i unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy’n ategol i’r cytundeb neu sy’n angenrheidiol i gyflawni’r UKSPF.

           Cytuno, yn amodol ar ofynion llywodraethu mewnol y Cyngor, y dylai’r Bwrdd Rhaglen Economaidd a’r Bartneriaeth Economaidd gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu a goruchwylio rhaglenni UKSPF yn lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.      

Dogfennau ategol: