Agenda item

Monitro Cyllideb 2022-23 - Rhagolwg Refeniw Chwarter 1

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ar ddiweddariad ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor ar 30 Mehefin 2022 a gofynnodd am gymeradwyo unrhyw drosglwyddiadau dros £100,000 sydd angen eu cymeradwyo gan y Cabinet fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Hysbysodd y Cabinet fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2022, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £319.510m ar gyfer 2022-23 ac oherwydd addasiad technegol, roedd Grant Cynnal Refeniw (RSG) y Cyngor wedi gweld cynnydd o £4,336, gan gynyddu’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2022-23 i £319.514m. Crynhodd y gyllideb refeniw net a’r alldro rhagamcanol ar gyfer 2022-23, a oedd yn dangos tanwariant net o £745k, yn cynnwys gorwariant net o £889k ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £1.634m ar gyllidebau’r cyngor cyfan.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn rhy gynnar yn y flwyddyn i roi arwydd realistig o’r dreth gyngor a ragwelir ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac a oedd y Cyngor yn debygol o weld gostyngiad yn incwm y dreth gyngor dros flwyddyn ariannol 2022-23 wrth i fwy o bobl ddioddef caledi ariannol drwy’r pandemig, ochr yn ochr â’r argyfwng costau byw presennol. Dywedodd wrth y Cabinet fod y Cyngor wedi derbyn cyllid o £1.151m o gronfa caledi Covid-19 Llywodraeth Cymru yn 2021-22 i gydnabod y cyfraddau casglu is. Nid oedd unrhyw arwydd eto o unrhyw gefnogaeth ar gyfer 2022-23. Gallai gostyngiad o 1% yn y gyfradd gasglu gyfateb i bwysau ychwanegol o £1m ar y Cyngor.  

 

Hysbysodd y Cabinet fod y Cyngor wedi llwyddo i hawlio £14.682m mewn hawliadau gwariant a thros £1.762m mewn hawliadau colli incwm yn 2021-22. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod yr angen i sicrhau llety digartrefedd ymlaen llaw er mwyn parhau â’r ymrwymiad i ganolbwyntio ar gymorth i unigolion digartref, gan ddarparu llety iddynt, ac wedi cymeradwyo £1.479 miliwn i dalu’r costau hyn am chwe mis cyntaf 2022- 23. Wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu dileu yng Nghymru o 18 Ebrill 2022, a bod cronfa caledi Llywodraeth Cymru yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022, cymeradwyodd y Cyngor bwysau cyllidebol o £1m yn 2022-23 fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) i gwrdd â phwysau parhaus, oherwydd pwysau costau ychwanegol a cholli incwm parhaus. Mae’r balans ar y gronfa hon wedi’i gario i 2022-23 gyda’r defnydd o’r gronfa wedi’i gymeradwyo i gefnogi’r cynnig parcio am ddim ar gyfer canol trefi hyd at ddiwedd mis Medi.  

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ar y trosglwyddiadau cyllidebol a’r addasiadau technegol a wnaed ers cymeradwyo’r MTFS ym mis Chwefror 2022. Roedd dyraniad o £500k o bwysau cyllidebol wedi’i wneud i liniaru’r pwysau oedd yn dod i’r amlwg. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid hefyd wrth y Cabinet am effaith chwyddiant tâl/pris ac oherwydd effaith y pandemig, Brexit a’r rhyfel yn yr Wcrain, byddai’r gyllideb yn cael ei monitro’n agos weddill y flwyddyn.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ar y cynigion i leihau’r gyllideb oedd yn dod i £631k. Lle’r oedd cynigion i fodloni’r gofyniad hwn wedi’u gohirio neu lle nad oedd modd eu cyflawni, rhoddwyd y dasg i’r cyfarwyddiaethau nodi cynigion amgen i fodloni eu gofynion, megis rheoli swyddi gwag neu gyflwyno cynigion eraill i leihau’r gyllideb. Dywedodd hefyd, yn ogystal â chynigion lleihau cyllideb 2021-22 o £1.760m, roedd balans o £65k i’w dalu. Roedd hi’n debygol y byddai diffyg o £310k a thynnodd sylw at y cynigion na fyddai’n dal yn debygol o gael eu cyflawni. Gofynnwyd i Gyfarwyddwyr nodi a oedd unrhyw rai o’r cynigion hyn yn dal yn annhebygol o gael eu cyflawni’n llawn yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, ac i nodi’r camau lliniaru a gymerir i’w cyflawni. Adroddodd hefyd ar y gostyngiadau yn y gyllideb ar gyfer 2022-23, a oedd yn dangos diffyg rhagamcanol ar y targed arbedion o £273k. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn anodd iawn gwneud rhagolygon cyllideb cywir oherwydd y pandemig a chyfraddau chwyddiant uchel. Cwestiynodd y rheswm am y gorwariant mewn pecynnau Byw â Chymorth, a oedd wedi mynd y tu hwnt i’r gyllideb. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y gorwariant i’w briodoli i anghenion cynyddol unigolion sy’n derbyn cymorth iechyd meddwl trwy fyw â chymorth.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet wedi nodi bod y sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer 2022-23 yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r trosglwyddiadau dros £100,000 fel yr amlinellir ym mharagraffau 4.1.9 a 4.1.10 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: