Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ein bod yn aml, fel cyngor, yn rhybuddio pobl i aros yn effro am sgamiau sydd wedi’u cynllunio i ddarbwyllo pobl i roi eu harian neu i ddatgelu manylion bancio preifat.

 

Roedd yn si?r y gallai cydweithwyr ddychmygu ei syndod, ar ôl iddo gael ei hysbysu’n ddiweddar gan breswylydd fod ei enw ei hun a’i swydd fel Maer yn cael eu defnyddio’n dwyllodrus.

 

Daeth i'r amlwg bod y preswylydd dan sylw wedi derbyn e-bost o gyfrif ffug a sefydlwyd i edrych fel petai'n perthyn i Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn yr e-bost, gofynnodd y sgamiwr sy’n defnyddio fy enw i’r preswylydd a allent wneud cymwynas i ‘fi’ drwy brynu gwerth cannoedd o bunnoedd o gardiau rhodd digidol ac addawodd eu had-dalu ar unwaith.

 

Wrth weld y negeseuon gan y sgamiwr, roedd sawl peth yn sefyll allan ar unwaith. Y peth cyntaf i mi sylwi oedd bod yr e-bost yn llawn o gamgymeriadau sillafu a gramadeg gwael ac wedi cael ei roi at ei gilydd yn wael.

 

Y cliw mawr arall oedd y cyfeiriad e-bost ffug, nad oedd yn diweddu gyda chyfeiriad gov-dot-UK, ac rwyf wedi fy arswydo bod rhywun wedi ceisio defnyddio fy enw a fy swydd fel Maer mewn modd mor droseddol.

 

Yn anffodus, mae'n ymddangos bod hwn yn sgam eithaf cyffredin sydd bron bob amser yn golygu dynwared rhywun ac anfon e-bost at eu ffrindiau, aelodau o'u teulu, pobl y maent wedi'u cefnogi trwy swydd gyhoeddus neu gwsmeriaid y gallent fod wedi gwneud busnes â nhw.

 

Anogodd y Maer bobl i aros yn wyliadwrus ac i roi gwybod am bob sgam a amheuir i wefan Action Fraud, yn ddi-oed.

 

Ar nodyn hapusach, roedd wrth ei fodd yn mynychu llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y cyngor ac arbenigwyr ynni gwyrdd o Japan, Marubeni.

 

Roedd hwn yn gytundeb partneriaeth nad oedd yn rhwymol a oedd yn nodi sut mae'r ddau sefydliad yn bwriadu cydweithio i archwilio a datblygu menter ynni hydrogen newydd ar raddfa fawr.

 

Dewiswyd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn benodol gan Marubeni fel y lleoliad a ffefrir yn y DU ar gyfer prosiect arddangos hydrogen gwyrdd, yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru.

 

Ei nod oedd creu safle a allai gynhyrchu a chydbwyso cyflenwad a storio ynni gwyrdd cost isel a gallai weithredu fel arloeswr trwy gynhyrchu tanwydd glân ar gyfer cerbydau fflyd, yn amrywio o lorïau graeanu cynghorau i lorïau ailgylchu a chasglu sbwriel.

 

Gellid ei ymestyn hefyd i gynnwys cerbydau ymateb brys a ddefnyddir gan wasanaethau golau glas a bydd yn ystyried sut y gellir defnyddio tanwydd hydrogen i wresogi adeiladau a chyfleusterau fel ysgolion, cartrefi preswyl Gofal Ychwanegol, pyllau nofio lleol a mwy.

 

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cefnogi datblygiad y prosiect ac wrth i’r prosiect ddatblygu, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd wedi cytuno mewn egwyddor i ystyried y cyfle i wneud buddsoddiad pellach.

 

Gan ddibynnu ar ba mor llwyddiannus yw'r cynllun, yna gellid ei gyflwyno ledled y DU.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi llenwi eu car yn ddiweddar yn gwybod ei bod yn dod yn fwyfwy pwysig dod o hyd i ffynonellau amgen o ynni glân, gwyrdd rhad.

 

Mae gan y cynllun hwn y potensial nid yn unig i gyfrannu at ein targedau datgarboneiddio ein hunain, ond gallai helpu i gyrraedd targedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a sefydlu safleoedd cynhyrchu hydrogen adnewyddadwy fel rhan o agenda Cymru Sero Net.

 

Roedd y Maer yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn gwneud cynnydd yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

 

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, fod Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf yn ddiweddar a wedi bod yn myfyrio ar flwyddyn a neilltuwyd i wella gofal maeth i blant ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Fel y bydd yr aelodau’n gwybod efallai, mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o rwydwaith maethu Cymru gyfan o wasanaethau maethu dielw, sy’n cynnwys pob un o’r 22 tîm awdurdod lleol.

 

Dros y 12 mis diwethaf, mae gofalwyr maeth awdurdodau lleol wedi dod at ei gilydd i ddarparu cymorth hanfodol i bobl ifanc a rhieni agored i niwed, gyda 163 o deuluoedd maethu newydd wedi’u ffurfio.

 

Fodd bynnag, mae angen recriwtio oddeutu 700 o ofalwyr maeth a theuluoedd newydd ledled Cymru o hyd, tra bod y wlad yn wynebu argyfwng parhaus o ran costau byw.

 

Mae tîm Maethu Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr am annog mwy o bobl i ddechrau maethu drwy eu hawdurdod lleol, fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a'u teuluoedd ac yn eu hysgolion.

 

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 84 y cant o bobl ifanc sy'n cael eu maethu gan eu hawdurdod lleol wedi aros yn eu hardal leol gyfagos y llynedd.

Mewn cymhariaeth, symudwyd 77 y cant o blant sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol o'u hardal leol i ddod o hyd i leoliadau maeth. Symudwyd bron i chwech y cant o blant allan o Gymru yn gyfan gwbl.

 

Mae ein tîm maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr am gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei nod i gael gwared ar yr elfen elw o’r system ofal, gan sicrhau bod buddiannau pobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd y broses a chynnig sefydlogrwydd i ofalwyr maeth drwy dimau awdurdod lleol hirsefydlog a phrofiadol.

 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr maeth ymroddedig, gweithgar trwy wneud bywyd hyd yn oed yn well i blant a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.

 

Byddwn yn edrych ar gynnig y cymorth ariannol sydd ei angen ar ofalwyr i ddarparu cyfleoedd a sefydlogrwydd i blant a pharhau ag arfer gorau ar gyfer paru, trwy gael cronfa eang o deuluoedd maeth i ddewis y rhai sy'n gweddu orau er lles y gofalwr maeth a'r plentyn. Hyd yn oed pan drefnir lleoliadau mewn argyfwng, galluogi gweithwyr cymdeithasol i gyflwyno'r plentyn i'w gofalwr maeth cyn cael ei groesawu i'r cartref.

 

Dyma pam mae gwasanaethau maethu dielw awdurdodau lleol yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion a gweithwyr cymdeithasol plant i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r cyfleoedd neu’r heriau penodol yn ein hardal leol.

Wrth gloi, dywedodd ein bod yn gwneud hyn ar gyfer y tymor hir, am y rhesymau cywir, ac yn bennaf oll, i'r plant eu hunain.

 

Aelod Cabinet – Addysg

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg fod cam nesaf y cynllun talebau talu digidol newydd ar fin cael ei ddosbarthu i deuluoedd cymwys.

 

Wedi’i gynllunio i sicrhau na fydd plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn llwglyd dros wyliau’r haf, bydd y talebau £39 yn cael eu rhoi mewn tri cham a byddant yn darparu hyd at bythefnos o fwyd yr un.

 

Bydd hi’n bosibl eu defnyddio yn unrhyw un o’r 28,000 o siopau Pay Point yn y DU, a bydd y talebau’n parhau’n ddilys tan y cyntaf o Fedi, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor.

 

Roedd yn sicr y byddai'r aelodau hefyd am ymuno ag ef i longyfarch nifer o'n staff ysgol ar orchestion arwyddocaol diweddar.

 

Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru wedi enwi Meurig Jones o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn Bennaeth y Flwyddyn eleni, tra bod Gill Sullivan o Ysgol Maesteg hefyd wedi’i henwebu yn eu categori ‘Cefnogi Addysgu a Dysgu’.

 

Draw yn Ysgol Gynradd Penybont, mae’r athrawes Jemma Evans wedi cipio gwobr ‘Athro’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Into Film am ymgorffori technegau ffilm yn ei gwersi.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg i'r tri unigolyn am ennill y gwobrau hyn.

 

Cabinet Member – Adfywio

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Adfywio, yn falch o gadarnhau bod cwmni Cymreig John Weaver Contractors Ltd wedi’i benodi i ddarparu cyfleusterau cymunedol cwbl newydd yn Cosy Corner, Porthcawl.

 

Mae gweithwyr ar fin dechrau gosod y sylfaen ar gyfer adeilad cwbl newydd wedi'i orchuddio â cherrig a gwydr ac ardal allanol wedi'i thirlunio y gall ymwelwyr a thrigolion ei mwynhau.

 

Bydd y prosiect £2.4 miliwn hwn yn ymgorffori adeiladau sy'n addas ar gyfer pum uned fanwerthu fechan, toiledau cyhoeddus, mannau cyfarfod at ddefnydd y gymuned, swyddfeydd ar gyfer yr harbwrfeistr, cyfleusterau newid ar gyfer defnyddwyr y marina gerllaw a mwy.

 

Bydd y safle hefyd yn cynnwys ardal chwarae awyr agored i blant, digonedd o seddi cyhoeddus, lle ar gyfer llwyfannu digwyddiadau a chanopi pob tywydd a all ddarparu lloches awyr agored gyfforddus rhag glaw a’r haul.

 

Mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a disgwylir iddo fod yn barod erbyn gwanwyn 2023.

 

Bydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn cefnogi ein cynlluniau parhaus ar gyfer datblygu’r Llyn Halen ac ardaloedd y glannau a bydd yn ategu prosiectau adfywio eraill fel y marina newydd, amddiffynfeydd morol newydd, Adeilad Jennings a adferwyd yn ddiweddar a gwelliannau i’r morglawdd dwyreiniol.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Cymunedau yn si?r y bydd yr aelodau’n falch o glywed bod gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar y rhaglen fuddsoddi sy’n adnewyddu ardaloedd chwarae ar draws y fwrdeistref sirol ac yn darparu offer newydd.

 

Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan y tîm Mannau Gwyrdd, ac erbyn diwedd y mis, rydym yn rhagweld y bydd ardaloedd chwarae wedi’u lleoli yng Nghwm Ogwr, Nottage, Evanstown, Wildmill a Chaerau wedi’u cwblhau.

 

Yna, ym mis Medi, bydd y gwaith yn symud ymlaen i ardaloedd chwarae yng Nghwm Ogwr, Porthcawl, Abercynffig a Thondu.

 

Unwaith y bydd y cyfarpar newydd wedi'i osod, mae gwaith pellach ar y gweill a fydd yn darparu dodrefn stryd wedi'u hadnewyddu er budd plant a theuluoedd lleol.

 

Byddai newyddion pellach am y rhaglen fuddsoddi yn cael ei drosglwyddo i'r aelodau, wrth iddi fynd rhagddi.

 

Roedd hefyd yn sicr y byddai'r aelodau wedi nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i adnewyddu ac uwchraddio'r goleuadau traffig ar y gyffordd rhwng Stryd yr Angel a Stryd y Parc.

 

Dyma hefyd oedd y system goleuadau traffig dros dro gyntaf o’i bath i gael ei threialu yng Nghymru, ac mae dadansoddiad cynnar o’i pherfformiad wedi datgelu iddi fod yn llwyddiant mawr.

 

Wedi'i chynllunio i ddynwared gosodiad y goleuadau traffig gwreiddiol, mae'r system yn sicrhau bod llif y cerbydau drwy'r gyffordd brysur yn gallu parhau mor normal â phosibl ac yn cyfyngu ar yr angen i giwio’n ddiangen.

 

Mae hyn wedi cefnogi'n fawr y gwaith o adnewyddu'r goleuadau traffig presennol, sy'n angenrheidiol gan eu bod bellach yn fwy na 25 mlwydd oed, ac mae hefyd yn helpu gyda'n hymdrechion i wella ansawdd aer.

 

Mae’n sicr wedi bod o fudd mawr o ran lleihau aflonyddwch i yrwyr, ac rwy’n si?r y gallwn ddisgwyl gweld y trefniadau hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith tebyg yn y dyfodol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau i'r Swyddogion yn y tîm Goleuadau Stryd am gyflwyno'r fenter hon.

 

Aelod Cabinet – Adnoddau

 

Absennol - Dim cyhoeddiadau

 

Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant

 

Absennol - Dim cyhoeddiadau

 

Prif Weithredwr

 

Absennol - Dim cyhoeddiadau