Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod yn ymwybodol bod sïon ar led am ddatblygiad siop fwyd Aldi ym Mhorthcawl, gyda rhai’n honni bod y cwmni wedi tynnu’n ôl oherwydd materion yn ymwneud â halogi tir.

 

Roedd yn hapus i gadarnhau nad oedd hyn yn wir o gwbl.

 

Nid oes unrhyw broblemau gyda thir y safle, ac mae'r prosiect yn symud ymlaen i fel y cynlluniwyd ar y cyfan.

 

Yn ddiweddar, cadarnhaodd y cwmni i ni fod y paratoadau cychwynnol ar fin cael eu cwblhau, a bod contractwyr yn cael eu paratoi ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar y safle dwy erw.

 

Fel y gwyddai'r aelodau, bwriad y datblygiad yw darparu porth nodedig i'r dref tra'n creu hyd at 40 o swyddi llawn amser i bobl leol.

 

Mae’r holl arian a gynhyrchir o werthu’r tir yn cael ei ail-fuddsoddi ym Mhorthcawl i gefnogi gwelliannau seilwaith lleol a chamau pellach y cynlluniau adfywio cyffrous.

 

Yn ystod y gwaith o adeiladu’r siop, bydd maes parcio cyhoeddus yn parhau i fod ar gael yn Salt Lake a Hillsboro Place, ac mae cynlluniau ar wahân yn cael eu datblygu ar gyfer creu adeilad aml-lawr cwbl newydd yn Hillsboro Place.

 

Os bydd popeth yn mynd rhagddo fel y cynlluniwyd, gallwn ddisgwyl gweld siop newydd Aldi yn agor ei drysau yn haf 2023.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn falch o fynychu digwyddiad yn ddiweddar ynghyd â'r Dirprwy Arweinydd, y Maer a chydweithwyr yn y Cabinet i nodi deng mlynedd ers y bartneriaeth barhaus rhwng y cyngor a Halo Leisure, Menter Gymdeithasol.

 

Pan ffurfiwyd y bartneriaeth yn ôl yn 2012, mae'n bosibl y bydd aelodau'n cofio iddi gael ei beirniadu fel un a fyddai’n siwr o fethu.

 

Diolch byth, mae'r gwrthwyneb wedi profi i fod yn wir, ac yn y deng mlynedd o weithredu, mae ymweliadau cwsmeriaid wedi cynyddu 2.35 miliwn o bobl y flwyddyn.

 

Mae wedi galluogi mwy na £7 miliwn i gael ei fuddsoddi yn ôl mewn mentrau lleol ac wedi arwain at waith adnewyddu mawr a chyflwyno cyfleusterau newydd ar safleoedd Halo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cwm Garw, Cwm Ogwr, Pencoed, y Pîl, Maesteg ac Ynysawdre.

 

Mae mwy na 32,900 o wersi nofio wedi’u darparu i 2.1 miliwn o blant lleol yn yr amser hwnnw, a phe na bai cyfyngiadau symud y pandemig wedi gorfodi canolfannau i gau eu drysau, rwy’n si?r y byddem hefyd yn edrych ar fwy na miliwn o ddosbarthiadau ymarfer corff gr?p wedi’u darparu ar gyfer bobl leol.

 

Mae’r bartneriaeth hon wedi cyflawni popeth yr oeddem ei eisiau a mwy ac fe’i cydnabuwyd yn 2016 pan ddaeth y gyntaf yng Nghymru i gael sgôr ‘Rhagorol’ gan wasanaeth meincnodi cenedlaethol y diwydiant.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn ystod y deng mlynedd nesaf, a diolchodd i bawb sydd wedi helpu i wneud hwn yn llwyddiant ysgubol.

 

Yn olaf, efallai yr hoffai aelodau hysbysu eu hetholwyr y bydd y rhaglen flynyddol o weithgareddau i blant – yr Haf o Hwyl – yn rhedeg eto eleni mewn partneriaeth â sefydliadau fel Halo a’n cynghorau tref a chymuned lleol.

 

Yn ogystal â chefnogi rhieni a theuluoedd, mae hyn yn sicrhau y gall plant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau hwyliog, cyffrous yn ystod gwyliau ysgol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae amrywiaeth enfawr o weithgareddau cymunedol yn cael eu cynnal, felly p'un a yw plant yn mynd i feicio BMX, pêl-droed neu eisiau rhoi cynnig ar syrffio a byw yn y gwyllt, mae rhywbeth at ddant pawb, ychwanegodd.

 

Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau’n cynnwys cynlluniau Active 4 Life ym Mhorthcawl, Bracla, Maesteg a Phencoed, a Sialens Ddarllen yr Haf boblogaidd sy’n cael ei darparu gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ym mhob un o Lyfrgelloedd Sir Arwen.

 

Mae Halo Leisure yn darparu gweithgareddau fel sesiynau nofio am ddim ac am y tro cyntaf, bydd Clwb Plant newydd yn cynnal digwyddiadau am ddim gan ddefnyddio’r sgwâr ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ym Mharc Gwledig Bryngarw, bydd plant yn cael mwynhau gweithgareddau sy’n amrywio o rwydo mewn pyllau i sioeau fel ‘Awful Auntie’ David Walliams, a bydd sefydliadau fel Menter Bro Ogwr a’r Urdd hefyd yn darparu gweithgareddau i blant Cymraeg eu hiaith.

 

Mae gweithgareddau newydd yn cael eu hychwanegu drwy'r amser, a dylai unrhyw un sydd eisiau darganfod mwy gael eu cyfeirio at dudalennau gwe Haf o Hwyl yn www.bridgend.gov.uk