Agenda item

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

1.    Cyng Martin Williams i'r Arweinydd

A yw'r Arweinydd yn cytuno y dylai'r Cabinet wrthdroi ei bolisi o adennill costau llawn ar gyfer clybiau chwaraeon a digwyddiadau elusennol, gan roi terfyn ar orfodi clybiau a threfi i orfodi cynghorau cymuned i ymgymryd â throsglwyddiadau asedau neu wynebu cynnydd o hyd at 500% mewn ffioedd meysydd chwarae?

 

Ymhellach, ar ôl canslo'r polisi, a yw'n cytuno i barhau i gynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal y mannau chwarae i’r safon angenrheidiol ar gyfer cynnal chwaraeon wrth weithio gyda phob tîm ym mhob un o’r chwaraeon, y cyrff llywodraethu a chynghorau tref a chymuned i ddatblygu a gweithredu strategaeth chwaraeon a hamdden gynhwysfawr sy'n gweithio i bawb. Y nod yw sefydlu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod lleol mwyaf blaenllaw ar gyfer cynnal chwaraeon a hamdden yng Nghymru?

 

2.    Cyng Steven Bletsoe  i'r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Pa feini prawf y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu defnyddio i benderfynu bod person wedi'i ddynodi'n "berson sy’n cysgu ar y stryd" ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? A fyddai’r aelod cabinet yn gallu nodi sut y mae person sy'n cael ei ystyried yn "cysgu ar y stryd" wedi'i gofrestru a'i ddogfennu at ddibenion adrodd swyddogol ac a allai'r aelod cabinet roi rhifau'r rhai a gafodd eu dynodi’n "bobl sy'n cysgu ar y stryd" a’u cofrestru a’u dogfennu ym mis Medi 2021, Ionawr 2022, Ebrill 2022 a'r wybodaeth ddiweddaraf (os yn hwyrach nag Ebrill 2022).

 

3.    Cyng Ross Thomas i'r Aelod Cabinet Adfywio

Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud i gefnogi’r stryd fawr yng nghanol trefi ar draws y fwrdeistref sirol?

 

4.    Cyng Alex Williams i'r Arweinydd

A fyddai’r Arweinydd yn gallu cadarnhau a yw'n disgwyl y bydd yr holl ymrwymiadau a gafodd eu cynnwys ym maniffesto Plaid Lafur Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Etholiad Llywodraeth Leol 2022 yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlen a'r gyllideb a nodwyd?

 

5.    Cyng Della Hughes i'r Aelod Cabinet Cymunedau

Beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu hynysu gan ddiffyg darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus?

Cofnodion:

Cynghorydd Martin Williams i’r Arweinydd

 

A yw'r Arweinydd yn cytuno y dylai'r Cabinet wrthdroi ei bolisi o adennill costau llawn ar gyfer clybiau chwaraeon a digwyddiadau elusennol, gan roi terfyn ar orfodi clybiau a threfi i orfodi cynghorau cymuned i ymgymryd â throsglwyddiadau asedau neu wynebu cynnydd o hyd at 500% mewn ffioedd meysydd chwarae?

 

Ymhellach, ar ôl canslo'r polisi, a yw'n cytuno i barhau i gynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal y mannau chwarae i’r safon angenrheidiol wrth weithio gyda phob tîm ym mhob un o’r chwaraeon, y cyrff llywodraethu a chyngorau tref a chymuned i ddatblygu a gweithredu strategaeth chwaraeon a hamdden gynhwysfawr sy'n gweithio i bawb. Y nod yw sefydlu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod lleol mwyaf blaenllaw ar gyfer cynnal chwaraeon a hamdden yng Nghymru?

 

Ymateb

 

Ni fydd unrhyw glwb chwaraeon ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn profi adennill costau llawn yn eu ffioedd. Dyna’r sefyllfa ers 2020.

 

Cadarnhaodd y cyngor mewn adroddiad cyhoeddus i'r Cabinet yn 2020 na fyddai'n cyflwyno taliadau adennill costau llawn ar gyfer unrhyw glybiau ar yr amod eu bod yn ymrwymo i ymgymryd â hunanreoli naill ai trwy brydles lawn neu drwydded. Dywedwyd wrth y Cabinet bod y Cyngor yn 2020 wedi derbyn datganiadau o ddiddordeb ar gyfer ei holl feysydd chwarae a phafiliynau parciau naill ai gan Gynghorau Tref a Chymuned a/neu glybiau chwaraeon. Felly, ni fydd unrhyw glwb yn profi adennill costau llawn.

 

Ymhellach, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y Cyngor, am y 2 flynedd ddiwethaf (tymhorau 2020-21 a 2021-22), wedi ildio’r holl daliadau llogi ar gyfer defnyddio Pafiliynau Chwaraeon a Chaeau Chwarae a reolir gan yr Adran Parciau i gynorthwyo clybiau chwaraeon yn ystod cyfnod pandemig covid.  Yn ogystal, creodd y Cyngor Gronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr yn 2019-20, gan ddarparu cyllid o £75,000 i leihau effaith covid gyda grantiau o hyd at £1,000 i glybiau chwaraeon i gynorthwyo gyda chostau gweithredu o ddydd i ddydd.  Darparwyd cyllid tebyg eto yn 2021-22 o dan Gronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr gyda grantiau o hyd at £2,000 (Datblygu Clybiau) neu £3,500 (Datblygu Asedau) i gynorthwyo clybiau chwaraeon i adfer ar ôl y pandemig.

 

Mae asedau fel Pafiliynau Chwaraeon a Chaeau Chwarae ym Mryncethin a Rest Bay, Canolfannau Cymunedol a Mannau Chwarae a drosglwyddwyd o dan y rhaglen CAT wedi gweld gwelliannau sylweddol gyda chyllid cyfalaf o dan Gronfa CAT y Cyngor a buddsoddiad allanol o tua  £1M gan Lywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru, y Loteri Genedlaethol a Chronfa Etifeddiaeth Gymunedol Ford. Mae’r Tîm CAT a’n partneriaid Cwmpas (Co-op Cymru gynt) ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ar hyn o bryd yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol ledled Pen-y-bont ar Ogwr fel y gellir cyflawni canlyniadau tebyg mewn mwy o ardaloedd.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Williams

 

Wrth ateb y cwestiwn mae'r Arweinydd wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu newid y polisi adennill costau llawn ac mae'r gorfodaeth ar glybiau i ymgymryd â threfniadau trosglwyddo asedau yn parhau. Fodd bynnag, nid atebodd fy mhwynt yngl?n â digwyddiad elusennol ond dyna natur fy nghwestiwn atodol beth bynnag, felly mae ganddo gyfle i fyfyrio ar hynny.

 

Edrychais ar gyfarfod diwethaf y Cyngor Cyllideb ym mis Chwefror a hynny o bell. Cytunwyd bryd hynny gan y Cyngor hwn i gynyddu'r gost i adlewyrchu costau llawn digwyddiadau dydd arbennig fel Diwrnodau Hwyl Cymunedol a Race for Life ar eiddo CBSPAO neu ar gaeau chwarae CBSPAO. Nodaf gyda diddordeb y bydd picnic cymdeithasol a digwyddiad gwleidyddiaeth haf Llafur Ifanc Pen-y-bont ac Ogwr yn cael ei gynnal yng Nghaeau Trecelyn ddydd Sadwrn yma am 1:00PM. A gaf fi ofyn i’r Arweinydd, a fydd gr?p cymdeithasol haf Llafur Ifanc Pen-y-bont ac Ogwr yn talu’r ffioedd a godir ar sefydliadau eraill, fel Race for Life?

 

Ymateb

 

Nid wyf yn aelod o gr?p Llafur Ifanc Pen-y-bont ac Ogwr ac felly, nid wyf yn gwybod am y digwyddiad hwn. Gallaf ymchwilio iddo wrth gwrs, ond rwy'n cymryd ei fod yn gyfarfod anffurfiol, gan fod pobl yn aml yn ymgynnull mewn mannau fel meysydd chwarae cyhoeddus a/neu fannau agored gwyrdd sydd ar gael at ddibenion hamdden i'r cyhoedd. Ond byddaf yn mynd ar drywydd hyn ac yn darganfod ychydig mwy am y digwyddiad. Dim ond i gadarnhau, Mr Maer, nid oes unrhyw gydgynllwynio. Mae gennym bartneriaeth gyda chlybiau chwaraeon ar draws y Fwrdeistref Sirol ac rwy’n falch o hynny.

 

Gwneir partneriaethau yma hefyd gyda Chynghorau Tref a Chymuned yn ogystal â sefydliadau ac rydym wedi gwneud cynnydd yma o ran buddsoddi mewn clybiau chwaraeon ar draws y Fwrdeistref Sirol, ynghyd ag unrhyw gyfleusterau cysylltiedig.

 

Rydym hefyd wedi gweld mwy na £1,000,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau fel y rhain a byddwn yn parhau i weithio gyda’n holl Glybiau Chwaraeon a Chynghorau Tref a Chymuned i’r perwyl hwn, oherwydd eu bod wedi mynegi diddordeb mewn cyflawni’r gwelliannau pellach hynny i gyfleusterau o’r fath ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd I Williams

 

A fyddech cystal â rhoi gwybod i mi beth yw’r weithdrefn os bydd clwb yn penderfynu tynnu ei fuddiant yn y broses trosglwyddo asedau cyfalaf yn ôl am ba bynnag reswm, efallai anallu i gynnal yr asedau a gymerwyd drosodd, er enghraifft, caeau chwaraeon ac ystafelloedd newid.

 

Efallai oherwydd na allant ymrwymo i'r cyfrifoldeb o gymryd prydles am unrhyw gyfnod penodol o amser. Beth fyddai hynny'n ei olygu i'r clwb hwnnw petaent yn tynnu allan a hefyd pe bai clwb yn cael ei orfodi i ddwylo'r gweinyddwyr neu wynebu methdaliad, a fyddai'r Awdurdod yn cymryd y brydles honno yn ôl drosodd?

 

Hefyd a yw'r cynnydd o 500% mewn llogi meysydd chwaraeon yn dechrau neu beidio, sut fydd hyn yn berthnasol?  Pam na wnewch chi ddileu'r ffi hon os nad yw CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu ei gorfodi?

 

Ymateb

 

Dyna gwpl o gwestiynau gan y Cynghorydd Williams. Mae sefyllfa'r brydles yn golygu bod amodau'r rhain yn amlwg wedi'u teilwra i wahanol safleoedd unigol, oherwydd bod pob un ychydig yn wahanol yn ei rinwedd ei hun. Byddai'r ased mewn achosion o'r fath wedyn yn dychwelyd i gyfrifoldeb yr awdurdod lleol.

 

Nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle mae hyn yn broblem o ran Clybiau neu Gynghorau Tref a Chymuned gan nad yw wedi codi eto.

 

Rydym wedi gweithio’n llwyddiannus iawn gyda Chyngor Tref Pencoed fel partneriaeth, fodd bynnag, pe bai sefyllfa o’r fath fel y cyfeirir ati uchod yn codi, byddem yn edrych ar y rhain fesul achos gydag ymrwymiad hollbwysig i sicrhau y byddai chwaraeon yn parhau yn y lleoliadau hyn, er mwyn hyrwyddo ac annog cyfranogiad parhaus a chynyddol mewn chwaraeon ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Hefyd, ni fydd unrhyw glwb yn wynebu’r cynnydd o 500%, oherwydd bod pob clwb wedi mynegi diddordeb yn yr ystyriaeth o gymryd drosodd asedau chwaraeon a phan gefais ddiweddariad ar CAT yr wythnos hon, nid oes yr un Clwb na Chyngor Tref/Cymuned wedi nodi nad ydynt yn barod i ymgymryd â threfniant partneriaeth. Felly, rydym yn sôn am sefyllfa ddamcaniaethol nad yw’n bodoli ar hyn o bryd.

 

Gan nad oes unrhyw ffioedd wedi'u cynyddu rydym yn gweithio'n llwyddiannus iawn gyda'r sefydliadau uchod, i adeiladu ar y llwyddiannau hyn mewn perthynas â'r holl safleoedd hyn. Mae rhai clybiau yn gwneud cynnydd pellach nag eraill, ond byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gyda phob un ohonynt, er mwyn adeiladu ar y capasiti presennol ac mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ymgorffori yn y rhaglen yn gyffredinol.

 

Mae’r Clybiau hefyd yn cael cymorth annibynnol gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a’r Ganolfan Cydweithredol i helpu i gryfhau’r capasiti hwnnw, oherwydd mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod bod rhai Clybiau mewn gwell sefyllfa ariannol nag eraill.

 

Cynghorydd Steven Bletsoe i’r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Pa feini prawf y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu defnyddio i benderfynu bod person wedi’i ddynodi’n “berson sy’n cysgu ar y stryd” ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?  A fyddai’r aelod cabinet yn gallu nodi sut y mae person sy'n cael ei ystyried yn "berson sy’n cysgu ar y stryd" wedi'i gofrestru a'i ddogfennu at ddibenion adrodd swyddogol ac a allai'r aelod cabinet roi rhifau'r rhai a gafodd eu dynodi’n "bobl sy'n cysgu ar y stryd" a’u cofrestru a’u dogfennu ym mis Medi 2021, Ionawr 2022, Ebrill 2022 a'r wybodaeth ddiweddaraf (os yn hwyrach nag Ebrill 2022).

 

Ymateb

 

Nid yw ‘Person sy’n Cysgu ar y Stryd’ wedi’i ddiffinio yn Neddf Tai (Cymru) 2014, ond at ddibenion ystadegol, dilynodd Llywodraeth Cymru yn agos y diffiniad a ddefnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y pryd (yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau bellach) ac mae wedi ei ddefnyddio ers 2016:

 

Argymhellir y diffiniad canlynol o berson sy’n cysgu ar y stryd:

  1. Pobl sy'n cysgu, ar fin cysgu (yn eistedd ar/yn neu'n sefyll wrth ymyl eu dillad gwely), yn gorwedd yn yr awyr agored (fel ar y strydoedd, mewn pebyll, drysau, parciau, llochesi bysiau neu wersylloedd);
  1. Pobl yn gorwedd mewn adeiladau neu fannau eraill nad ydynt wedi'u cynllunio i fyw ynddynt (e.e. grisiau, ysguboriau, siediau, meysydd parcio, ceir, cychod segur).

 

Ers dechrau pandemig Covid 19, mae Llywodraeth Cymru wedi bod â ‘dull cyfannol’ i sicrhau bod pobl sy’n cysgu ar y stryd yn cael llety dros dro. Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi mabwysiadu'r dull hwn ac mae llety dros dro wedi'i ddarparu i bobl sy'n cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref. Fel rhan o ymateb CBS Pen-y-bont ar Ogwr i’r ‘dull cyfannol’ mae cyfarfod Cell Digartrefedd wythnosol wedi’i greu. Mynychir hwn gan amrywiaeth o bartneriaid statudol a thrydydd sector ac mae'n galluogi dull aml-asiantaeth o nodi a chefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd.

 

Mae Tîm Ymyriadau y Wallich ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd (RSIT) yn allweddol i'n cefnogaeth i bobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae elfen Brecwast y gwasanaeth yn gweithredu 365 diwrnod y flwyddyn. Mae staff yn cefnogi cleientiaid trwy ddarparu cymorth dyngarol ar ffurf brecwast, diodydd poeth, dillad cynnes, pethau ymolchi gan gysylltu â darpariaeth leol bellach. Mae'r gwasanaeth hefyd yn ymateb i unrhyw hysbysiadau a wneir drwy'r ap Street Link neu wefan (https://www.streetlink.org.uk/). Mae elfen canolfan galw heibio y gwasanaeth (10 Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AX) yn darparu amgylchedd diogel, oddi ar y stryd i hwyluso gwaith cymorth. Mae yna gyfleusterau ymolchi a hefyd mynediad i ffôn a chyfrifiadur. Gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad o ddydd Llun i ddydd Gwener yma.

 

Yn ogystal â'n darpariaeth ddigartrefedd statudol, mae'r Cyngor hefyd yn comisiynu ystod eang o wasanaethau cymorth tai a ariennir drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaethau hyn yn cefnogi'r Awdurdod Lleol yn ei ymdrechion i atal a lleddfu digartrefedd. Darparwyd manylion y gwasanaethau a ariannwyd yn 2022-23 i'r Cabinet ar 08 Mawrth 2022.

 

Er gwaethaf y dull hwn, mae nifer fach o achosion cymhleth yn parhau lle mae’r cymorth a gynigir wedi’i wrthod oherwydd amgylchiadau personol unigolyn.  Yn fras, mae unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn aml yn gwneud hynny trwy ddewis neu lle mae unigolion wedi cael cais i adael llety, oherwydd risg annerbyniol barhaus i staff, eiddo neu breswylwyr eraill.

 

Lle nad oes unrhyw ymgysylltu â chymorth, gwneir pob ymdrech i atal lleoliadau rhag chwalu, gan gynnwys symud pobl i leoliadau eraill. Defnyddir ymagwedd aml-asiantaeth trwy aelodau'r Gell Ddigartref y cyfeiriwyd ati yn flaenorol. Mae Heddlu De Cymru a'r Gwasanaeth Prawf yn aelodau allweddol o'r Gell Ddigartref ac mae trafodaethau yn bwydo i mewn i'r agenda diogelwch cymunedol ehangach. Mae hyn yn sicrhau, lle cymerir camau gorfodi, fel hysbysiadau o dan A.35 o'r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, y gwneir hynny gyda gwir ddealltwriaeth o amgylchiadau ac i beidio â throseddoli cysgu ar y stryd.

 

Mae pob unigolyn mewn llety dros dro yn cael cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i ddiwallu eu hanghenion unigol – gall hyn gynnwys cymorth gan dîm allgymorth iechyd a gomisiynir yn rhanbarthol, sy’n darparu cymorth arbenigol i’r rheini â phroblemau iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau.

 

Yn ogystal â llety dros dro traddodiadol, mae CBSPAO hefyd yn darparu lloches sylfaenol ar ffurf PODS brys a ‘gofod llawr’. Mae'r rhain wedi'u lleoli ochr yn ochr â phrosiectau llety â chymorth sy'n bodoli eisoes ac fe'u defnyddir fel dewis olaf yn unig, lle mae'r holl opsiynau eraill wedi'u hystyried. Dim ond nifer fach o achosion y gellir estyn cymorth iddynt

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal arolwg cipolwg ‘un noson’ o’r rhai sy’n cysgu ar y stryd ar un noson benodol yn yr hydref.  Y ffigurau diweddar ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yw 2018/19 = 5, a 2019/20 = 7.  Ers Covid, mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r rhai sy’n cysgu ar y stryd yn fisol ac ym mis Medi 2021 = cofnodwyd 2 achos, Ionawr 2022 = cofnodwyd 6 achos ac Ebrill 2022 = cofnodwyd 3 achos. Mae’r gr?p bach yma o unigolion yn adnabyddus iawn, ac mae gwasanaethau’n parhau i weithio i ddarparu’r cymorth gorau iddynt, yn dibynnu ar eu hanghenion cymhleth tra’n cydbwyso hynny ag anghenion cymuned ehangach Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gall unrhyw un sy’n pryderu am rywun sy’n cysgu ar stryd roi gwybod amdano drwy’r gwasanaeth https://www.streetlink.org.uk/ a fydd yn hysbysu’r Awdurdod a’r Wallich yn uniongyrchol. 

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd S Bletsoe

 

Cyn fy nghwestiwn atodol, hoffwn gadarnhau yn yr ymateb uchod ei fod yn datgan y cyfnodwyd ym mis Ebrill ym Mhen-y-bont ar Ogwr bod tri unigolyn yn cysgu ar y stryd yn y Fwrdeistref Sirol y mis penodol hwnnw.

 

Fodd bynnag, nododd cyngor Llywodraeth Cymru ar hyn a’r rhai sy’n cysgu ar y stryd yn y Fwrdeistref Sirol a Bwrdeistrefi Sirol cyfagos eraill fod CBSPAO wedi darparu ffigur iddynt, sef bod wyth o bobl mewn gwirionedd wedi bod yn cysgu ar y stryd yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod y mis hwn. Felly yn amlwg, mae gwahaniaeth rhwng y ddau ffigur hynny.

 

Mae’n bosibl mai’r bobl sy’n cysgu ar y stryd yn ein Sir yw rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yr ydym yn gyfrifol am ofalu amdanynt ac rwyf wedi siarad â nifer o bobl a sefydliadau allweddol yn ein Bwrdeistref sy’n gweithio ar y rheng flaen gyda’r rhai sy’n cysgu allan. Dywedant fod y ffigwr o wyth ac yn arbennig y ffigwr o dri yn tangofnodi'n sylweddol y ffigyrau yn eu profiad personol hwy. Nid oes gennyf unrhyw reswm i amau hynny.

 

Rwyf hyd yn oed wedi siarad â phobl sy’n cysgu ar y stryd, sydd wedi rhoi enwau mwy nag wyth o bobl a oedd yn cysgu ar y stryd yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr i mi, heb sôn am Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ebrill eleni.

 

O ystyried bod hwn yn beth mor anodd i’w fesur, sut y gallwn ni, fel awdurdod, wella’r ffordd yr ydym yn adrodd ar y ffigurau hyn fel y gallwn ymdrin â hwy yn briodol ac mewn ffordd sy’n cynrychioli ac yn gofalu am y rheiny sy’n rhai o’r pobl fwyaf agored i niwed yn ein Bwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Nid wyf wedi gweld y llenyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, byddaf yn gwirio hyn yn erbyn gwybodaeth y Cyngor fel y dyfynnir uchod. Byddwn yn awyddus i glywed gan y gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes hwn, i weld sut mae’r wybodaeth am ffigurau yn wahanol i’r awdurdodau lleol.

 

Rydym yn comisiynu'r Elusen Wallich i ddarparu gwasanaeth 365 diwrnod y flwyddyn, i gefnogi pobl ddigartref ac rydym hefyd yn gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i nodi maint y broblem wrth symud ymlaen. Mae yna bobl ddigartref sy’n byw mewn llety dros dro ac nid yw’r unigolion hyn yn cysgu ar y stryd, er ein bod yn drasig wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr o 308 ym mis Mehefin y llynedd o gymharu â 321 ar gyfer yr un mis eleni.

 

Fodd bynnag, rydym yn cynnal y cymorth, drwy ddarparu llety dros dro i rai. Er bod y bobl hyn yn cael eu dosbarthu'n ddigartref, nid ydynt yn cysgu ar y stryd. Gall pobl eraill gael eu lletya mewn podiau neu lety ar y llawr.

 

Mae camau gweithredu cadarnhaol wedi’u rhoi ar waith hefyd, sef cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a £2m ychwanegol y rhoddwyd cyfrif amdano yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i gefnogi pobl ddigartref, ynghyd â chyllid pellach gan y Cyngor eto ar gyfer V2c, er mwyn iddynt uwchraddio 35 eiddo gwag.

 

Dylid cofio hefyd y cymorth parhaus yr ydym hefyd yn ei ddarparu i’r rheini sy’n ddigartref sydd â phroblemau iechyd meddwl, dibyniaethau ac anghenion cymhleth eraill.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Hughes

 

Edrychais ar y Cabinet ddoe a nodi o adroddiad a ystyriwyd fel rhan o fusnes yr agenda, fod cyllid ychwanegol wedi'i roi i Lanmau, sefydliad sy'n cefnogi'r digartref a'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. A allai'r Arweinydd gadarnhau beth fydd y cyllid ychwanegol hwn yn ei gynnig i fynd i'r afael â digartrefedd ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Ymateb

 

Mae Llanmau yn darparu gwasanaethau cymorth cyfryngu teuluol, oherwydd yn anffodus yr 2il rheswm uchaf dros ddigartrefedd yn y Fwrdeistref Sirol yw perthnasoedd sy'n chwalu rhwng rhieni a phlant yn eu harddegau yn yr un cartref.

 

Bydd y cyllid pellach hwn, gobeithio, yn helpu i ymyrryd a datrys y sefyllfa drwy sefydliadau fel hyn, gyda’r bwriad o ailadeiladu’r berthynas a dorrwyd i bwynt lle nad yw’r teulu’n chwalu’n gyfangwbl a lle y byddai hynny’n arwain at y person ifanc yn gadael y cartref teuluol.

 

Rydym wedi cefnogi 72 o aelwydydd yma a oedd yn y sefyllfa hon y llynedd gyda Llanmau ac wedi cyflawni cyfradd llwyddiant o 57% o deuluoedd o’r fath naill ai’n parhau’n gyfan, neu’r person ifanc dan sylw yn gadael, ond wedyn yn dychwelyd adref ar ôl cyfnod byr o adael a chael ei ddosbarthu fel person digartref. Cynigiwyd llety symud ymlaen i 89% o'r bobl hyn a adawodd y cartref teuluol a dangosodd yr adborth ganddynt fod 100% yn teimlo eu bod wedi cael canlyniad boddhaol, un ffordd neu'r llall.

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd E Winstanley

 

Pa gymorth rydyn ni’n ei roi i bobl ddigartref Pen-y-bont ar Ogwr drwy bartneriaid fel The Wallich.

 

Ymateb

 

Mae’r Wallich yn cefnogi’r rhai sy’n cysgu ar y stryd ac yn helpu i ddarparu lle iddynt gael mynediad i gyfleusterau ymolchi, yn ogystal â mynediad at fwyd a gwasanaethau cymorth eraill. Maent hefyd yn cynorthwyo gyda llety symud ymlaen lle dymunant dderbyn hyn (yn hytrach na llety parhaol a wrthodir weithiau).

 

Mae'r sefydliad wedi cefnogi 36 o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ddiweddar i'r perwyl hwn ac maent yn parhau i gefnogi unigolion ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan ac nid yn unig y rhai sy'n cysgu ar y stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chanol trefi eraill.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd R Thomas i’r Aelod Cabinet Adfywio

 

Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud i gefnogi’r stryd fawr ynghanol trefi ar draws y fwrdeistref sirol?

 

Ymateb

 

Mae gan CBSPAO gyfres o ymyriadau ar waith sy'n anelu at gefnogi ein strydoedd mawr sy'n cynnwys buddsoddi mewn busnesau a menter; cymorth i fasnachwyr a pherchnogion; buddsoddi mewn adeiladau ac amgylchedd canol y dref a chyflawni ymgyrchoedd marchnata. O flwyddyn i flwyddyn, rydym yn adolygu ac yn addasu cyfleoedd i ymateb yn well i faterion ac i fanteisio ar raglenni grant neu gyllid newydd a chyfleoedd i weithio gyda chydweithwyr ar draws y Fwrdeistref Sirol a Llywodraeth Cymru.

 

Fel rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Thargedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) blaenorol, rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 22, sicrhawyd a gwariwyd £1,572,620 ar eiddo stryd fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg drwy’r rhaglen Gwella Eiddo Canol Trefi.  Roedd y prosiectau hyn yn canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau ffisegol a chymdeithasol trwy ailddatblygu adeiladau segur ac adeiladau gwag, o ansawdd gwael, nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon neu adfeilion, gyda'r bwriad o greu cyfleoedd cyflogaeth; darparu lleoliadau amlwg ac addas ar gyfer defnydd masnachol a manwerthu; diogelu a chynnal ardaloedd siopa lleol, cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref a sicrhau bod tai addas ar gael yng nghanol y dref.

Mae cynigion prosiect ar gyfer Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi 2022-2025 yn cael eu llunio ar hyn o bryd gyda’r nod o fuddsoddi’n uniongyrchol yng nghanol y tair tref sef Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg, a fydd yn cynnwys cyfleoedd pellach ar gyfer cymorth grant a buddsoddiad mewn eiddo.

Dros y 2 flynedd ddiwethaf mae dau ar bymtheg o eiddo canol tref ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl hefyd wedi elwa o £113,247 o gyllid Grant Gwelliannau Awyr Agored Covid.

Bydd cwblhau ailddatblygiad £8.9miliwn Neuadd y Dref Maesteg yn cynnwys creu atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mesanîn, a llyfrgell fodern. Bydd y cyfleuster aml-ddefnydd yn darparu gofod i gymdeithasu, dysgu, cyrchu gwybodaeth, gwella sgiliau, creu swyddi a dathlu'r dreftadaeth arwyddocaol y mae'r adeilad hwn yn ei gwmpasu.

Mae cais yn cael ei baratoi ar hyn o bryd i gefnogi buddsoddiad tebyg ym Mhafiliwn Porthcawl, i greu gweithgarwch, cyfleoedd creadigol a chynyddu nifer yr ymwelwyr ym Mhorthcawl. Mae buddsoddi mewn adeiladau ac asedau allweddol yng nghanol trefi a'r stryd fawr yn rhan fawr o'r rhaglen i ddatblygu gweithgareddau a nifer yr ymwelwyr yn ein trefi. Yn ogystal â'r Pafiliwn, mae swyddogion hefyd yn gweithio ar Bont Ffordd newydd ar gyfer Penprysg, a fyddai'n gweld problemau traffig sylweddol yn cael eu lleddfu a gwelliannau i amgylchedd canol y dref.

Yn benodol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae’r Astudiaeth Mynediad i Ganol y Dref, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, yn adolygu astudiaethau blaenorol a pholisi/canllawiau diweddaraf y DU yn ogystal â’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig presennol er mwyn darparu opsiynau posibl ar gyfer gwell mynediad i ganol y dref a gwell mynediad gweithredol i fusnesau.

Hefyd, ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, i ddod â champws dysgu newydd i ganol y dref. Byddai'r prosiect gwerth miliynau hwn ynddo'i hun yn dod â mwy na mil o fyfyrwyr a staff i ganol y dref yn ddyddiol, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a gweithgarwch dyddiol yn y dref a gweithredu fel catalydd ar gyfer gwariant, datblygiad a buddsoddiad.

Y bwriad yw darparu ystod o ymyriadau Seilwaith Gwyrdd (SG) ar draws y tair prif ganol tref fel rhan o Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi 2022-2025 Llywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwelliannau Seilwaith Gwyrdd gwerth £117,000 a wnaed ar Commercial Street Maesteg.       

Bydd Strategaeth Gwella Seilwaith Gwyrdd ar gyfer Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cael ei chwblhau ar hyn o bryd, yn darparu strategaeth gyffredinol ar gyfer darparu ymyriadau Seilwaith Gwyrdd amlswyddogaethol. Ystyrir bod y ddogfen yn arf allweddol i hysbysu ac addysgu rhanddeiliaid allweddol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau bod SG trefol yn hanfodol i fywiogrwydd a chynaliadwyedd canol trefi yn y dyfodol ac i hyrwyddo cydweithio. Yn ogystal â’r manteision amgylcheddol a llesiant, bydd SG yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad economaidd ac yn hybu buddsoddiad wrth gynyddu gwerth tir ac eiddo.

Cynigir grantiau lluosog a chymorth i fusnes a menter drwy ein Tîm Cymorth Busnes. Dros y 2 flynedd ddiwethaf, dyfarnwyd dros £50m o gymorth grant i gefnogi busnes drwy gyfnod o gyfyngiadau Covid, gyda llawer o’r hyn a ddyfarnwyd i fusnesau a masnachwyr annibynnol a manwerthwyr ar y stryd fawr, nid yn unig i gefnogi eu busnes presennol ond i helpu iddynt newid ac addasu ar gyfer y dyfodol.

Mae cam cyntaf y ceisiadau Cronfa Cychwyn Busnes newydd yn cael eu prosesu ar hyn o bryd a bydd y rownd nesaf o geisiadau yn cael ei hailagor tua diwedd mis Gorffennaf.

Dyma gynllun grant hyblyg a ddarperir trwy bartneriaeth gyda UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'n darparu cymorth ariannol i ficrofusnesau newydd neu bresennol sydd wedi'u lleoli, neu'n bwriadu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cronfa Grant POP-UP CYMRU - Mae hwn yn gynllun grant penodol a ddarperir gan CBSPAO ar gyfer cyfranogwyr Prosiect Pop-Up Cymru. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Adfywio Cymunedol.  Pwrpas y grant yw darparu cymorth ariannol i fusnesau newydd, mentrau cymdeithasol a busnesau sydd wedi’u lleoli, neu sy’n bwriadu lleoli yn CBSPAO ac sydd wedi cofrestru gyda Pop-Up Wales ar gyfer cymorth busnes parhaus, bydd y grant hwn yn cefnogi 100% o gostau prosiectau cymwys.

Mae'r math o weithgaredd a chefnogaeth y mae ein grantiau busnes yn darparu ar eu cyfer yn cynnwys offer; datblygu gwefan; costau marchnata a chyhoeddusrwydd; gwella adeiladau ar raddfa fach; costau staff; ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol ac mewn rhai achosion ardrethi busnes 1 mis.

Mae cyfle hefyd i fasnachwyr a busnesau’r stryd fawr fanteisio ar aelodaeth Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Fel aelod o Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, mae gennych gyfle i farchnata eich busnes a’ch cynnig, manteisio ar ddigwyddiadau am ddim a chyfleoedd rhwydweithio, cynigion i aelodau.

Trwy swyddogaeth rheoli canol trefi, mae'r awdurdod yn sicrhau bod materion gweithredol o fewn canol trefi yn cael eu rheoli a'u datrys.  Cefnogir ymholiadau a materion gan fasnachwyr, y cyhoedd a darpar fuddsoddwyr. Targedir buddsoddwyr a rhoddir cyhoeddusrwydd i gyfleoedd.  Hefyd amrywiol weithgareddau hyrwyddo ar draws canol trefi fel cyrchfannau i ymwelwyr, cynigion tymhorol a chyfleoedd marchnata a buddsoddi fel ymgyrchoedd Nadolig a Treuliwch yr Haf yng Nghanol eich Tref. Mae cynlluniau i gefnogi masnachwyr gydag apiau marchnata ar gyfer cynigion tymhorol hefyd wedi'u darparu'n llwyddiannus.

Mae Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a gwblhawyd yn ddiweddar yn crynhoi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy’n siopa, yn gweithio, yn byw, yn ymweld ac yn mwynhau canol y dref ac yn ceisio gwella cyfleoedd manwerthu, creu gofodau masnachol a swyddfeydd newydd, cyflwyno gwaith parth cyhoeddus newydd a darparu gwell cyfleusterau trafnidiaeth. Mae’n nodi cyfres o brosiectau uchelgeisiol y gellir eu cyflawni ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a fydd yn cefnogi twf economaidd yn y dyfodol ac yn sicrhau mwy o fanteision a chyfleoedd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn yr un modd, mae Strategaeth Creu Lleoedd ar gyfer Porthcawl hefyd wedi’i chwblhau’n ddiweddar, a fydd yn cefnogi datblygiad mawr ar draws y dref ehangach, ond gyda’r bwriad o gysylltu datblygiad â thref ffyniannus a chefnogi a buddsoddi ynddi. Bydd gwaith ar strategaeth creu lleoedd ar gyfer Maesteg hefyd yn dechrau yn ddiweddarach eleni, eto i gefnogi’r cyfleoedd buddsoddi amrywiol ar draws y dref.

Mae'r awdurdod yn parhau i gefnogi cynigion parcio ym Mhorthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr i alluogi parcio am ddim i gael mynediad i'n canolfannau masnachol.

Mae nifer yr ymwelwyr ar draws y tair prif dref yn CBSPAO wedi cynyddu o wythnos i wythnos ers i gyfyngiadau covid ddod i ben, ac er nad yw'n cyrraedd y lefelau cyn pandemig, mae'n mynd i'r cyfeiriad hwnnw. Mae cyflwyno marchnadoedd stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl wedi bod yn hynod lwyddiannus, ynghyd â chefnogaeth i gynigion, gweithgareddau a digwyddiadau a drefnwyd gan fasnachwyr a sefydliadau lleol eu hunain ym marchnad Pen-y-bont ar Ogwr a chanol y dref. 

Mae mwy o gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad wedi’i dargedu, cymorth a chyngor ar gyfer y stryd fawr yn cael eu creu o fewn y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) 2022 – 2025 newydd, y gellir ei darparu ar draws pob stryd fawr ac ardal fasnachol yn y Fwrdeistref Sirol.

Bydd y pecyn buddsoddi sy'n cael ei greu yn cynnwys mwy o grantiau cyfalaf a buddsoddiad ar gyfer eiddo masnachol gwag presennol; cyfres fwy o grantiau busnes a menter; pop-up a chyngor ar ddefnydd yn y cyfamser, cllid a marchnata a chyllid ar gyfer digwyddiadau.

Mae swyddogion yn parhau i weithio i sicrhau bod pob llwybr cymorth a buddsoddiad yn cael ei archwilio i gefnogi gwelliannau i'r Stryd Fawr.  Rydym yn gweld rhai newidiadau cadarnhaol fis ar ôl mis, gyda 12 busnes stryd fawr newydd yn gweithredu ers mis Ebrill eleni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl. 

Hyrwyddir yr holl gyfleoedd i ymgysylltu â CBSPAO i gael mynediad at gyngor, cymorth a grantiau trwy ein sianeli cyfathrebu, yn bennaf gwefan CBSPAO, Twitter, Facebook.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R Thomas

 

Yn gyntaf, hoffwn gydnabod gwaith parhaus Tîm Adfywio’r Cyngor sydd, er eu bod yn adran fach iawn, yn cymryd camau breision o ran ceisio buddsoddiad allanol a sicrhau grantiau, ac ati.

 

Rwy’n cydnabod yr ymdrechion a wnaed yn lleol ac yn genedlaethol yn wyneb y cynnwrf economaidd a brofwyd yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, yn ogystal â’r ansicrwydd sy’n dod yn sgil y ffordd ymlaen. Felly, pa wersi adeiladol sydd wedi’u dysgu o’r Fenter Ardal Gwella Busnes flaenorol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac er bod hon wedi’i dirwyn i ben, a oes unrhyw gynlluniau i’r Cyngor hwn yn y tymor presennol edrych ar fidiau/mentrau tebyg i gronni buddsoddiadau a sicrhau bod y bunt leol yn aros yn lleol.

 

Hoffwn hefyd wahodd yr Aelod Cabinet – Adfywio i ymweld â Threorci gyda mi, i weld eu llwyddiant i’r perwyl hwn.

 

Ymateb

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau nad oedd hi'n gallu gwneud sylw ar y bid blaenorol y cyfeiriwyd ato, o ystyried bod hyn wedi digwydd cyn iddi gael ei chyflogi gan y Cyngor. Fodd bynnag, byddai'n trefnu bod ymateb addas yn cael ei lunio gan un o'i Swyddogion a'i anfon at yr Aelod y tu allan i'r cyfarfod, neu'n cyfarfod ag ef i drafod y mater hwn ymhellach.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Adfywio hefyd y byddai'n hapus i fynd ar yr ymweliad â Threorci.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd G Walter

 

Pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran cyflwyno Wi-Fi am ddim yng nghanol ein trefi

 

Ymateb

 

Rydym yn cyflwyno Wi-Fi am ddim ym mhob un o’n pedair canol tref ac mae hyn yn cael ei ddarparu drwy fuddsoddiad mawr yn ein darpariaeth teledu cylch cyfyng a fydd yn cadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn atal troseddu. Bydd hyn yn gaffaeliad i ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol a thrigolion fel ei gilydd.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R Collins

 

Fel rhywun sydd â phrofiad hirdymor yn y fasnach adwerthu yng nghanol tref Maesteg, a allwch gadarnhau bod y gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig ac unig fasnachwyr yn cael sylw digonol gan CBSPAO er mwyn sicrhau bod ein strydoedd mawr yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel fel pwynt cyswllt gweladwy.

 

Ymateb

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod nifer sylweddol o fasnachwyr a busnesau bach a chanolig yn nhref Maesteg ac ardal y farchnad, lle'r oedd nifer o siopau bach annibynnol, a fyddai'n cael eu diogelu yn y dyfodol ac mae ein Rheolwr canol tref ym Maesteg yn angerddol dros hyn. Rydym wedi gweithio’n galed i ddiogelu’r busnesau hyn drwy gymorth yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf drwy roi Cymorth Covid a Grantiau Gwella Busnes, fel y gallai masnachwyr gael cymorth gyda’u modiwlau busnes. Roedd y rhain wedi galluogi rhai busnesau i barhau i weithredu yn yr awyr agored yn ogystal â darparu ar gyfer llwybrau manwerthu ar-lein. Roedd y rhain yn allweddol i weithrediad effeithiol busnesau yn y dref a byddai CBSPAO yn parhau i gefnogi masnachwyr lleol a busnesau bach a chanolig fel hyn. Mae siopa’n lleol wedi’i gynnal a hyd yn oed symud ymlaen ymhellach ers ac yn ystod Covid, lle dangoswyd gwerthfawrogiad i fasnachwyr gan gwsmeriaid, gan amlygu gwerth siopau llai. Cynlluniwyd buddsoddiad pellach hefyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer busnesau bach o’r natur hwn.   

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Alex Williams i'r Arweinydd

 

Dywedodd y Cynghorydd Williams ei fod yn dymuno tynnu ei gwestiwn yn ôl.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Della Hughes i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Gan fod y cyfnod o 30 munud ar gyfer cwestiynau gan Aelodau i'r Pwyllgor Gwaith bellach wedi'i gyrraedd, dywedodd y Maer y byddai'r cwestiwn uchod, fel y'i dangoswyd yn fanwl ar agenda'r cyfarfod, yn trosglwyddo i gyfarfod mis Medi'r Cyngor.