Agenda item

Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi trosolwg byr i’r Cyngor o’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (MSR), fel sy’n ofynnol dan Adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Fel gwybodaeth gefndir, dywedodd fod deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoliadau sy’n nodi ffurf y rhain, materion i’w cynnwys, a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer cynnal asesiadau o sefydlogrwydd y farchnad fel y’i nodwyd yn Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021.

 

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, fel bod yn rhaid i’r gwaith o baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad gael ei wneud ar sail rhanbarthol, gydag awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio gyda’i gilydd drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad bob pum mlynedd, gyda'r adroddiadau cyntaf i'w cyhoeddi erbyn 1 Mehefin 2022. Roedd yr Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022 yn golygu nad oedd yn bosibl cael cymeradwyaeth i'r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad nes bod Cynghorau newydd yn cael eu ffurfio.

 

Ychwanegodd y bydd yr adroddiad yn helpu i lywio a llunio’r cynllun ardal pum mlynedd nesaf, ynghyd ag asesiad anghenion poblogaeth Cwm Taf Morgannwg (CTM) 2022.

 

Wrth baratoi ar gyfer ymgymryd â’r adroddiad hwn, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol a phartneriaid eraill y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, wedi cynnal asesiad o’r canlynol:

 

·         Digonolrwydd - asesiad o ddigonolrwydd gofal a chymorth i ddiwallu'r anghenion a'r galw am ofal cymdeithasol fel y nodir yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth. a

·         Sefydlogrwydd - asesiad o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig sy'n darparu gofal a chymorth.

 

Esboniodd fod pandemig COVID19 wedi bod yn her ddigynsail ac wedi newid y math o alw a’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn darparu gofal a chymorth. Cydnabyddir yr effaith ar bobl sydd angen gofal, a’u gofalwyr, ynghyd â’r pwysau parhaus ar y gweithlu ac ansicrwydd yn y farchnad.

 

Ym mis Ionawr 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn yn nodi eu huchelgais i ail-gydbwyso gofal a chymorth gan ddarparu economi gymysg gan sicrhau nad oedd gorddibyniaeth ar y sector preifat. Nod yr uchelgais oedd symleiddio'r trefniadau comisiynu presennol, cryfhau ansawdd a gwerth cymdeithasol a rheoli'r farchnad yn weithredol drwy drefniadau partneriaeth effeithiol.

 

Pwysleisiodd y dylid nodi ymhellach fod y Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’ (tymor Senedd nesaf 2026-2031).

 

Roedd y diagram ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad yn dangos y berthynas rhwng pob un o wahanol elfennau'r MSR, sut y byddant yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus cynlluniau rhanbarthol a strategaethau a datganiadau comisiynu.

 

Yna dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod adran nesaf yr adroddiad yn adlewyrchu’r negeseuon allweddol o’r adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad, ac y byddai’r argymhellion yn cael eu harchwilio ymhellach o fewn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, byrddau oedolion a phlant o fewn rhaglenni gwaith y dyfodol, fel y bo'n briodol.

 

Cyn derbyn cwestiynau o'r llawr, rhoddodd grynodeb o'r negeseuon allweddol a'r camau gweithredu a argymhellwyd yn deillio o wahanol elfennau'r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (MSR), er budd yr Aelodau.

 

Roedd fersiwn llawn yr MSR ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1, gyda fersiwn gryno i’w gweld yn Atodiad 2.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Swyddog am yr adroddiad rhanbarthol hwn. Cadarnhaodd nad oedd yn syndod yn y maes hwn o waith i weld materion yn ymwneud ag anhawster recriwtio a chadw staff, o ystyried y galwadau ar y gwasanaeth a oedd wedi cynyddu'n sylweddol, yn enwedig ers dechrau'r pandemig.

 

Roedd hyn wedi arwain at beth anhawster o ran rhoi ymrwymiad llawn i'r amrywiol gynlluniau a strategaethau yn ymwneud â chomisiynu mecanweithiau cymorth gofal yn y dyfodol, gan gynnwys y math dielw ar gyfer pobl ifanc. Os yw awdurdodau lleol yn gallu ymrwymo’n llawn i ddarparu’r gwasanaethau hyn, mae angen darparu cymorth digonol gan y Llywodraeth Ganolog.

 

Gofynnodd Aelod pa fesurau ataliol oedd gan y Cyngor wrth symud ymlaen ar gyfer teuluoedd sydd angen ymyrraeth gynnar, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o risg. Hefyd, gofynnodd a oedd y Cyngor wedi edrych ar unrhyw opsiynau o gefnogaeth well i Ofalwyr Maeth, er enghraifft tocynnau bws am ddim, mynediad am ddim/llai i gyfleusterau hamdden, ac ati.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd bod y Cabinet ddoe wedi ystyried adroddiad dan y teitl diweddariad Lwfansau Gofal Maeth ac os bydd y Cynghorydd yn darllen hwn, bydd yn gweld bod cryn dipyn o wybodaeth ynddo, gan gynnwys barn Gofalwyr Maeth am ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor.

 

Ychwanegodd fod gofynion gwasanaeth wedi cynyddu tua 200% yn ddiweddar a bod hyn yn profi'n anodd iawn i'w reoli, yn enwedig gan y dylai cefnogaeth i'r ddau Ofalwr Maeth fod yn hygyrch 24/7.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, bod ystod eang o gefnogaeth ar gael drwyddi hi a'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, o ran cymorth cynnar a gwasanaethau atal a lles, gan gynnwys cefnogaeth gan staff ailuno a oedd yn amhrisiadwy.

 

Roedd y staff hyn yn cyflawni gwaith â ffocws mawr i gefnogi plant i ailuno â’u teuluoedd a sefydlogi lleoliadau a oedd mewn perygl o chwalu. Ychwanegodd fod ymdrechion hefyd yn cael eu gwneud yn barhaus, i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal, lle mae hyn yn ddiogel ac er lles gorau'r plentyn. Ychwanegodd fod y Cyngor hefyd wedi cyflwyno Siarter Gofal Maeth a fyddai'n cefnogi Gofalwyr Maeth i ofalu am rai o'r plant mwyaf heriol, sydd wedi profi digwyddiadau anffodus yn gynnar yn eu bywydau.

 

Yn olaf, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod arolwg a gynhaliwyd fel rhan o’r Siarter Gofalwyr Maeth, yn cynnwys adborth ganddynt ar eu perthynas a’u profiadau gyda darparwyr eraill, ac y gellid rhannu’r canlyniadau llawn gyda’r Aelodau yn maes o law.

 

PENDERFYNWYD:                                  Bod y Cyngor:

 

  • Yn nodi’r negeseuon allweddol a'r argymhellion; ac

Yn cymeradwyo'r adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol

Dogfennau ategol: