Agenda item

Rhoi Siarter Gofalwyr Maeth Ar Waith

Cofnodion:

Fe wnaeth y Rheolwr Tîm — Gofal gan Berthnasau a Sefydlogrwydd gyflwyno adroddiad, a'i bwrpas oedd rhoi diweddariad i Bwyllgor y Cabinet Rhianta Corfforaethol ar ddatblygu Siarter Gofalwyr Maeth ar gyfer Gwasanaeth Maethu Pen-y-bont ar Ogwr a chymeradwyo mabwysiadu a gweithredu'r Siarter ar ran y Cyngor fel Rhieni Corfforaethol.

 

Eglurodd, fel rhan o Gynllun Datblygu Gwasanaeth Maethu Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2022/23, fod holiadur wedi'i ddatblygu ar y cyd â gofalwyr maeth cyswllt ac wedi’i anfon at bob gofalwr maeth yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau iddynt. Roedd y cwestiynau'n cynnwys pa mor fodlon yw gofalwyr maeth gyda'r Gwasanaeth, beth sy'n gweithio'n dda a meysydd i'w gwella.

 

Roedd yr adborth a dderbyniwyd mewn perthynas â'r holiadur wedi'i gynnwys yn adran gefndir yr adroddiad.

 

Yn ogystal â'r uchod, fe wnaeth yr arolwg Cyflwr y Genedl a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Maethu yn 2021, dynnu sylw at y ffaith bod gofalwyr maeth a gwasanaethau maethu yn cytuno mai gwella statws gofalwyr maeth yn y tîm o amgylch y plentyn yw'r prif beth a fydd yn newid profiad plant o ofal maeth er gwell, wrth symud ymlaen.   

 

Ar ben hynny, cynghorodd y Rheolwr Tîm — Gofal gan Berthnasau a Sefydlogrwydd, ers 2011, mae'r Rhwydwaith Maethu wedi bod yn ymgyrchu i bob gwasanaeth maethu ymrwymo i’r Siarter Gofalwyr Maeth, gan nodi disgwyliadau clir o ran sut y dylai gofalwyr maeth gael eu trin, eu hyfforddi a'u cefnogi, a chytunwyd ar y rhain gan Rieni Corfforaethol, gwasanaeth maethu a gofalwyr maeth. Gall Siarter hefyd helpu i feithrin dealltwriaeth rhwng y rhai sy'n ymwneud â darparu gofal i blant, gan hyrwyddo gweithio mwy cydlynol yn y tîm o amgylch y plentyn a gwella profiadau a chanlyniadau i blant mewn gofal.

 

Mae'r Siarter Gofalwyr Maeth yn cefnogi cyfrifoldebau awdurdodau lleol fel Rieni Corfforaethol ac yn gosod fframwaith o hawliau a disgwyliadau ar gyfer gofalwyr maeth. Mae'n nodi rolau a chyfrifoldebau ar y cyd, sy'n cael eu 'perchnogi' gan ofalwyr maeth a'r gwasanaeth maethu. Mae'n cwmpasu materion fel goruchwyliaeth, ymwneud â chynllunio a gwneud penderfyniadau, gwybodaeth a thaliadau.

 

Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r meysydd i'w gwella a nodwyd yn yr adborth Gofalwyr Maeth ac i wella statws gofalwyr maeth, cynigiwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi Siarter Gofalwyr Maeth (sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad) ar waith yn unol â gwaith ac argymhellion Y Rhwydwaith Maethu yn dilyn eu hadroddiad Cyflwr y Genedl yn 2021.

 

Mae'r Siarter arfaethedig yn nodi Datganiad Gweledigaeth Gwasanaeth Maethu Pen-y-bont ar Ogwr (a lansiwyd gyda'n Gofalwyr Maeth yn y Digwyddiad Gwybodaeth, Ymgynghori ac Ymgysylltu (ICE) ar 19 Mai 2022

 

Ychwanegodd fod y Siarter yn nodi'r ymrwymiad canlynol:

 

'Mae'r Siarter Gofalwyr Maeth yn cynrychioli ymrwymiad ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei rôl fel y Rhiant Corfforaethol, y gwasanaeth maethu a'r gofalwr maeth i weithio mewn partneriaeth er budd gorau'r plant maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae'n addewid, sy'n eiddo i bawb dan sylw, i ymdrechu bob amser i sicrhau arfer gorau.'

 

Rhannwyd y Siarter arfaethedig gyda gofalwyr maeth yng nghyfarfod ICE ar 19 Mai 2022, gan roi cyfle i ofalwyr drafod a rhoi adborth. Yn gyffredinol, cafodd y cynnig a'r Siarter ei dderbyn yn dda gan y rhai oedd yn bresennol a chytunwyd y byddai sefydlu hyn o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu i godi statws gofalwyr maeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm — Gofal gan Berthnasau a Sefydlogrwydd, os bydd y cynnig a'r Siarter yn cael eu cynnig gan Bwyllgor y Cabinet, y camau nesaf fyddai datblygu Cynllun Gweithredu a fydd yn cynnwys hunanasesiad ar gyfer Cynghorwyr a Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) a Gofalwyr Maeth, a fyddai yn eu tro, yn sefydlu llinell sylfaen ac yn nodi'r camau i'w cymryd i wella ar y llinell sylfaen hon.

 

Cymeradwyodd Aelod y Siarter a'i chynnwys, gan gynnwys y fenter Darparu ar gyfer Chwaraeon a oedd, yn ei farn ef, yn ardderchog. Teimlai hefyd ei bod yn bwysig cydnabod canmoliaeth i blant a oedd yn ymwneud â Gofalu Maeth yn y ddogfen ac roedd y Siarter hefyd yn cydnabod hyn.

 

Ategodd y Cadeirydd y teimladau hyn, gan ychwanegu ei bod yn falch o gadarnhau mai BCBC oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r Siarter Gofalwyr Maeth.

 

Daeth yr Arweinydd â'r ddadl i ben drwy ddweud y byddai'n ddefnyddiol derbyn adroddiad pellach maes o law, ar sut yr oedd y Siarter a'i nodau a'i hamcanion yn mynd rhagddynt.

 

PENDERFYNWYD:                    Y dylai’r Pwyllgor nodi'r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad a chymeradwyo mabwysiadu a gweithredu'r Siarter Gofalwyr Maeth ar ran y Cyngor fel Rhieni Corfforaethol.

 

Dogfennau ategol: