Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr adroddiad ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) sef yr hyn yr oedd Llywodraeth y DU wedi’i roi ar waith i ddisodli Cronfa Fuddsoddi Strwythurol Ewrop (ESIF), yn dilyn y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (EU) ar 31 Ionawr 2020. Nododd bod dyraniad Pen-y-bont hyd yma yn £23 miliwn a oedd yn rhaid ei wario dros dair blynedd, ac roedd oddeutu hanner yr hyn yr oeddent wedi arfer ei gael gan yr EU. Felly, roedd creu’r cynllun buddsoddi wedi bod yn heriol. Roedd hi’n bwysig i’r Pwyllgor ddeall ei fod ar gyfer mentrau ledled y Sir, roeddent wedi gweithio gyda’r trydydd sector a’r colegau er mwyn creu’r cynllun. Dylent fod â phenderfyniad ar y cynllun buddsoddi erbyn canol mis Hydref.

 

Nododd Rheolwr Gr?p yr Economi, Cyfoeth Naturiol a Chynaliadwyedd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar waith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a throsolwg yn Atodiad Un o’r cynigion a allai gael eu cyflwyno. Dywedodd bod adnodd penodol ochr yn ochr â’r flaenoriaeth Pobl mewn Sgiliau yn benodol ar gyfer ymyrraeth ledled y DU o’r enw Multiply. Nod Multiply oedd gwella sgiliau rhifedd oedolion yn y rhanbarth. 

 

Eglurodd bod awdurdodau lleol wedi’u gwahodd i gydweithio a chreu un cynllun buddsoddi lleol ar gyfer y rhanbarth. Yn rhan o hyn, cytunwyd y byddai Rhondda Cynon Taf yn cymryd rôl awdurdod lleol arweiniol ar gyfer y rhanbarth. Golyga hyn y byddai gan Lywodraeth y DU un cytundeb cyllid yn uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac y byddai ganddyn nhw gytundebau wedyn gyda phob awdurdod yn y rhanbarth. Roedd peth hyblygrwydd o ran sut y byddai’n cael ei gyflawni mewn Canllawiau gan Lywodraeth y DU, gydag opsiynau ar gyfer cyllid grant at ddibenion caffael, comisiynu a darpariaeth fewnol.

 

Nododd er nad oedden nhw fel Awdurdod angen datblygu cynllun buddsoddi, roedd hi’n bwysig datblygu’r wybodaeth yn Atodiad Un a oedd yn nodi’r blaenoriaethau a’r lleoedd gorau i ddyrannu arian y gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedd yn awyddus i bwysleisio bod y cynigion wedi’u datblygu heb ganllawiau manwl am y gronfa gan Lywodraeth y DU, ac yn hynny o beth, gallai newid yn enwedig gan fod rhai o’r gweithgareddau arfaethedig, modelau cyflawni a gwerthoedd cyllid yn debygol o amrywio. O ran cyflawni, roedd y Cabinet wedi cytuno ar strwythur llywodraethu â dwy haen, partneriaeth economaidd a fyddai’n denu partneriaid aml-sector o bob rhan o’r Sir, y rhanbarth a Chymru, a bwrdd rhaglen economaidd mewnol. Eglurodd er bod ganddynt ddyraniad cyffredinol o £23 miliwn, roedd £3.99M o hwnnw wedi’i ddyrannu i’r Rhaglen Multiply, a oedd yn gadael £19.1 miliwn ar gyfer yr hyn a oedd y cael ei ystyried yn weithgarwch cronfa ffyniant gyffredin craidd dan dair thema. Roedd Llywodraeth y DU yn awgrymu y gellid rhannu’r cyllid i ddyraniadau blynyddol sefydlog a oedd cyfwerth ag oddeutu 12% yn y flwyddyn gyntaf, 24% yn yr ail flwyddyn, a 64% yn y drydedd flwyddyn. Doedd dim gwybodaeth o ran a oedd modd cario cyllid drosodd, neu a oeddent am weld dyraniadau aml-flynyddol. Roedd hyn yn rhywbeth roeddent yn frwd yn lobio ar ei gyfer, yn ogystal ag archwilio mecanweithiau gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth a Llywodraeth y DU o ran sut gellid datblygu peth hyblygrwydd o’i gwmpas.

 

Nododd y gellid defnyddio 4% o’r dyraniadau at ddibenion gweinyddol. Roedd y proffil presennol a oedd wedi’i nodi yn cynnwys y 4% hwnnw gan Multiply, a dyraniad gan Gronfa Ffyniant a Rennir Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer cyflawni prosiectau cydweithwyr ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, gan olygu bod oddeutu £2.5 miliwn dros y proffil. Ym mis Medi, roedd y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi cyflwyno pwysau twf yn rhan o broses MTFS 2023-2027 i geisio bodloni’r diffyg mewn cyllid i sicrhau y gellid cyflawni’r holl weithgareddau. Pe byddai’r rhaglen yn parhau i fod wedi’i or-ddyrannu, yr arweinwyr perthnasol ym mhob Adran fyddai’n gyfrifol am nodi’r bylchau hynny. Os na fyddai hyn yn bosibl, dim ond y cyllid a ddyrennir fyddai’r cyllid ar gael, oherwydd doedd dim modd mynd y tu hwnt i'r cyllidebau a oedd ar gael. Crynhodd trwy ddweud mai Argymhelliad yr adroddiad oedd i’r Pwyllgor nodi’r cynnwys ochr yn ochr ag Atodiad Un.

 

Gofynnwyd pam fod y dyraniad o £330k i Fargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd (CCRD) wedi’i gytuno, beth fyddai Pen-y-bont yn ei dderbyn o’r cyllid hwn a pham nad oedd modd ei ariannu o gyfraniadau yr oedd yr Awdurdod a’r naw Awdurdod partner arall eisoes wedi’u rhoi.

 

Gan gyfeirio at yr Atodiad, nododd Aelodau er ei fod yn llawn bwriadau da, doedd fawr ddim manylion e.e. doedd hi ddim yn glir beth oedd y farchnad werdd neu sero net a drafodwyd yn ei chynnwys. Yn olaf, o ran y llywodraethu dwy haen, gofynnodd Aelodau pam nad oedd unrhyw sôn am Gynghorau Tref a Chymuned. Gofynnwyd beth fyddai eu rôl nhw o ran llywodraethu a’u gallu i helpu i gyflawni.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Rheolwr Gr?p, Economi, Cyfoeth Naturiol a Chynaliadwyedd bod elfen fach o £330k yn mynd i CCR gan fod elfen ranbarthol ar y Cais Ffyniant Gyffredin, ac roedd cydnabyddiaeth er bod y gronfa’n ymwneud ag anghenion lleol a chyflawni, roedd rhai pethau a oedd yn gallu cael eu cyflawni’n well yn rhanbarthol ac ar draws ffiniau Awdurdodau Lleol. Byddai CCR yn edrych ar gau rhai bylchau, drwy ddod â’r cyllid at ei gilydd a chael Rhaglen Ranbarthol effeithiol. Doedd dim modd cynnwys manylion pob cynllun unigol yn yr adroddiad, a chrynodebau gweithredol oedd yr atodiadau, er bod achosion manwl y tu ôl i bob un. Y bwriad oedd cyflwyno i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned, gan ofyn i Aelodau’r Fforwm sut roedden nhw’n meddwl y byddai ymgysylltiad eu sefydliad yn gweddu orau i gyflawniad y rhaglen.

 

Cyfeiriodd Aelodau at y brig-doriad (top slice) gan nodi ei fod yn swm cyfatebol o arian os oedd wedi’i luosi â 10 i gyflawni’r fargen, ac ym mharagraff 8.2, Tabl 1, roedd canran y dyraniad yn nodi dyraniad rhanbarthol o 8.3%, ond roedd cyfraniad yr Awdurdod at Fargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn 9.4166%. Gofynnwyd am y gwahaniaeth o 1%? Gofynnwyd hefyd pam roedd canran dyraniad Pen-y-bont yn 8.3% o’r dyraniad rhanbarthol, er bod yr Awdurdod Gweinyddol yn derbyn 16.2%.  

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Gynllun Llywodraeth y DU a bod Bargen Ddinesig CCR a’u cyfraniad yn bethau hollol wahanol ac amherthnasol i hyn. Llywodraeth y DU oedd wedi gosod y dyraniad. 

 

Gofynnodd Aelodau am ragor o fanylion ynghylch cymorth digwyddiadau Twristiaeth yn y Sir a gwaith rheoli cyrchfan a marchnata lleol o ran Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Nododd Swyddogion y byddai’r gronfa ddigwyddiadau yn adnodd i gefnogi trefnwyr digwyddiadau ac i wella a datblygu digwyddiadau newydd o fewn y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â gwella gweithgareddau presennol i ddenu rhai newydd. Eglurwyd bod yr ochr rheoli cyrchfan yn gweithio yn rhan o’r elfen farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo’r cyrchfan yn ogystal â chyfleoedd i weithio ledled y busnesau gwahanol i ddatblygu cynnyrch a phecynnau newydd. Byddai Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet cyn bo hir er mwyn iddynt ei ystyried.

 

Gofynnodd Aelodau ar ba sail oedd yr Awdurdod yn cael 8.3% o’r dyraniad rhanbarthol, pwy oedd wedi gwneud y penderfyniad hwnnw a phwy gyflwynodd yr achos. Nodwyd y byddai 8.3% yn dro gwael gan Lywodraeth y DU os mai 9.4% oedd canran Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd.

 

Eglurodd swyddogion y metrigau a ddefnyddiodd Llywodraeth y DU wrth bennu’r dyraniad: roedd 40% o’r penderfyniad ar sail ‘per capita’; defnyddiwyd 30% i ddefnyddio’r un mynegai ar sail anghenion a ddefnyddiwyd ar gyfer y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, a; cafodd 30% ei ddyrannu’n defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i greu cyfanswm y dyraniad a nodwyd.

 

Gan droi at dudalen 26 yn yr adroddiad, gofynnodd yr Aelodau beth yn union roedd y gronfa yn ei roi i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd roedd wedi’i nodi bod angen gwella.

 

Nododd y Rheolwr Gr?p, Economi, Cyfoeth Naturiol a Chynaliadwyedd nad oedd manylion fesul Ward am yr arian am ddau reswm: roedd yn bennaf yn gronfa ar sail refeniw, a, chynilo ar gyfer y cynigion cyfalaf, y byddai pob un yn digwydd ledled Tîm y sir yn gyffredinol. Er y byddai manylion o ran faint o fusnesau o’r Canol Tref a oedd wedi gwneud cais am y gronfa ar gael, ar y pwynt hwnnw, nid oedd wedi’i ddyrannu. 

 

Gofynnodd Aelodau am eglurder ar sail a llinach sut roedd pethau’n mynd drwy Awdurdod Rhondda Cynon Taf fel yr Awdurdod Arweiniol, o’r pwynt cyflwyno’r cais, pwy sy’n gwneud y cais a rôl yr Awdurdod gweinyddu. 

 

Nododd Swyddogion bod cytundeb cyfreithiol drafft gan Rhondda Cynon Taf wedi dod i law a oedd yn nodi sut y byddai’r hawliadau a’r prosesau adrodd yn gweithio, a phwy fyddai’n atebol. Eglurwyd bod penderfyniadau ar y dyraniad a’r rhaniadau ledled y rhanbarth yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn gyntaf, ac yna o fewn y rhanbarth, a bod yr awdurdodau lleol eu hunain yn cytuno pwy ddylai fod yn Awdurdod Arweiniol.

 

Gofynnodd Aelodau pa mor hyderus oedden nhw’n gallu bod y gallent gyflawni £23 miliwn mewn dwy a hanner i dair blynedd gyda rhaglen mor amrywiol.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y byddai’n heriol iawn gan y byddai’r £23M yn cael ei rannu i flynyddoedd 1, 2 a 3, ac ni fyddai penderfyniad yn cael ei wneud tan fis Hydref. Byddai angen gwario’r canran gofynnol erbyn mis Ebill nesaf. Er nad oedd ganddynt yr adnoddau yn y Gyfarwyddiaeth, roedd opsiynau’n cael eu harchwilio o ran symud Swyddogion o weithgareddau eraill i hyn, i sicrhau’r defnydd gorau posibl o bob adnodd. Lle bo parhad o ran refeniw, roedd hyder, ond gyda refeniw a chyfalaf newydd byddai heriau. Fodd bynnag, roedd Swyddogion wedi ymrwymo i sicrhau y byddai’n gweithio a byddai symud o ddyraniad blynyddol sefydlog i ddyraniad aml-flynyddol yn gwneud gwahaniaeth mawr. 

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad, argymhellodd y Pwyllgor y canlynol:

 

1.    Dylid mynegi pryder ynghylch y risgiau ynghlwm wrth gyllid annigonol i gyflawni’r prosiect a chyflawni cynigion y prosiect o fewn y cyfnod a nodwyd. 

 

2.    Dylid mynegi pryder pellach o ran y diffyg adnoddau ac arbenigedd yn y Gyfarwyddiaeth, a’i gallu i ymdopi â’r gwaith ychwanegol ynghlwm wrth y prosiect. Nid oedd Aelodau o’r farn ei bod hi’n briodol symud staff o rolau a phrosiectau eraill, gan y byddai hyn yn wrthgynhyrchiol. Nododd y Pwyllgor hefyd bod y dirwedd o ran Awdurdodau Lleol yn gwneud ceisiadau am gyllid yn newid, gyda therfynau amser yn fyr iawn a’r meini prawf yn cael eu cyflwyno’n hwyr yn y broses, sy’n golygu bod gan yr Awdurdod fawr ddim amser i ddatblygu a chreu cheisiadau sylweddol. Felly argymhellodd y Pwyllgor bod angen blaenoriaethu adnoddau yn y gyfarwyddiaeth Cymunedau i sicrhau nid yn unig ei fod yn gallu bwrw ymlaen â’r prosiect hwn yn llwyddiannus, ond i sicrhau bod seilwaith ar waith i alluogi’r Awdurdod i wneud cais a manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd cyllid. Yn ogystal â datblygu cynllun strategol, argymhellodd yr Aelodau y dylid drafftio prosiectau posibl o dan hyn. Felly, pan mae’r cyfle’n dod i’r amlwg, byddai ganddynt sail am y cais eisoes.

 

3.    Dylid mynegi pryderon difrifol ynghylch elw gwael Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu dyraniad o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) a’r annhegwch o ran y dull cyllido y tu ôl i hyn. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n uniongyrchol i’r rhai yn Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am SPF i nodi materion gan gynnwys:

 

a.    Y ffaith nad yw’r dyraniad yn ystyried bod Pen-y-bont yn un o’r ardaloedd sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru;

b.    Mae’r cyfnod prin o amser a gafodd yr Awdurdod i greu cynigion a defnyddio’r gronfa a bodloni ei anghenion yn afresymol, ac o bosibl yn rhoi’r prosiect a chyllid y cyhoedd mewn perygl. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor i’r llythyr hwn gael ei anfon at y ddau AS lleol; Dr Jamie Wallis a Chris Elmore.

 

Gofynnodd y Pwyllgor:

 

1.    I gael gweld copi o unrhyw gyflwyniad i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned ar gynigion Cynllun Buddsoddi Lleol Pen-y-bont ar Ogwr.

2.    Am ragor o wybodaeth ar sut caiff hawliadau eu prosesu gan RCT fel yr Awdurdod Arweiniol yn ogystal â manylion ar y broses adrodd ac atebolrwydd.

3.    Rhagor o fanylion ar y cynigion prosiect pan fyddant ar gael, gan gynnwys manylion am gyllid o fewn pob cynnig.

4.    Eglurder o ran a fyddai modd cadw peth o’r cyllid pe na byddai’r allbynnau fel y’i nodwyd yn y cynigion yn cael eu cyflawni.

 

Dogfennau ategol: