Agenda item

Prosiectau Blaenoriaeth y Gronfa Ffyniant Bro

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

Delyth Webb – Rheolwr Grwp Adfywio Strategol

Jonathan Parsons - Rheolwr Gr?p Gwasanethau Cynllinio a Datblygu

Richard Hughes – Prif Weithredwr, Awen

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr adroddiad gan egluro mai ail hanner Agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU oedd y gronfa, a oedd wedi’i gyhoeddi yn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU yn 2020. Roedd yn rhaglen o waith cyfalaf yn bennaf, gydag ychydig o refeniw hyd at 2025, gyda dyraniad o £4 biliwn ledled y DU, a £800 miliwn ar gyfer Cymru. Nododd y gallai pob awdurdod lleol gyflwyno cais am hyd at £20 miliwn ar gyfer pob etholaeth AS - roedd dau ym Mhen-y-bont; Pen-y-bont ac Ogwr.  Yn ail, gellid cyflwyno cais trafnidiaeth fawr am hyd at £50 miliwn. Roedd yn gronfa gyfalaf gyda meini prawf penodol iawn, megis cefnogi asedau diwylliannol, adfywio canol trefi a threfi a chymunedau, a thrafnidiaeth. Nododd bod rhaid darparu 10% arian cyfatebol ar gyfer pob cais, felly byddai angen sicrhau cyllid gan naill ai trydydd parti, cyllid y Loteri Genedlaethol neu’r Cyngor ei hun. Roedd dau fid wedi’u cyflwyno; un er mwyn adnewyddu’r Pafiliwn ym Mhorthcawl, ac un ar gyfer Pont Ffordd Penprysg ym Mhencoed i waredu’r groesfan a gosod pont ffordd a llwybr cerdded newydd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Economi, Cyfoeth Naturiol a Chynaliadwyedd drosolwg o’r adroddiad, ac ar ôl hynny, trafodwyd y canlynol: 

 

Gofynnodd Aelodau a fyddai £20M yn ddigon ar gyfer y prosiect adnewyddu’r Pafiliwn, o ystyried prisiau cynyddol. Os na, o ble byddai angen i’r arian ychwanegol ddod, ac a oedd Cadw’n awyddus ac yn derbyn yr addasiadau arfaethedig i’r cynllun.

 

Nododd Swyddogion bod problemau annisgwyl yn gallu dod i’r amlwg wrth ddechrau gwneud gwaith ar hen adeiladau, fodd bynnag, roedd gwersi wedi’u dysgu o gynlluniau blaenorol ac roedd wedi’i gydnabod bod llawer o gynlluniau wrth gefn o ran y cynllun hwn, a llawer o fesurau i wneud yn iawn am risgiau pe byddai’r rheiny’n dod i’r amlwg. Pe byddai unrhyw amgylchiadau annisgwyl neu gostau cynyddol, byddai angen ail-edrych ar y dyluniad a pheirianneg eto, gan nad oedd cyllid ychwanegol i wario ar yr adeilad. Drwy beirianneg o werth, byddent yn edrych ar yr adeilad a pha waith all gael ei wneud tuag at ddiwedd y cynllun pe byddai rhagor o arian yn dod ar gael. Nododd y Rheolwr Gr?p Adfywio Strategol bod Cadw yn ymwybodol o’r adeilad, a’u bod yn derbyn y newidiadau yn yr un modd â Thîm Cadwraeth a Dylunio yr Awdurdod ei hun.

 

Nododd yr Aelodau bryder y gallai’r Pafiliwn fod ar gau am hyd at ddwy flynedd pe byddai’r prosiect yn mynd yn ei flaen. Gofynnwyd am opsiynau o ran sicrhau bod rhai digwyddiadau’n gallu cael eu cynnal ym Mhorthcawl. 

 

Atebodd y Swyddogion drwy ddweud y byddai hynny’n amodol ar yswiriant risg ac atebolrwydd y contractwr ar ôl dechrau ar y gwaith adeiladu, felly er ei fod wedi’i ystyried, ni fyddai’n bosibl caniatáu defnydd o’r adeilad bryd hynny. Fodd bynnag, byddant yn gweithio gydag Awen sy’n gweithredu’r cyfleuster o ran sicrhau lleoliadau eraill.

 

Eglurodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mai’r flaenoriaeth fyddai’r defnyddwyr lleol bob tro, ac y byddant yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cyngor i geisio gweld beth maen nhw’n ei wneud, gyda chyfuniad posibl o weithio ag ysgolion a sefydliadau eraill i weld beth all gael ei roi ar waith i gefnogi a sicrhau bod y celfyddydau’n parhau ar lefel gymunedol hefyd. 

 

Gofynnodd Aelodau o ran cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y Pafiliwn, a oedd unrhyw bosibilrwydd o gynnal gwneud dichonoldeb ynghylch adeilad arall rhywle ym Mhorthcawl, e.e. cae chwarae Rest Bay neu rentu gae neu ddefnyddio maes parcio, yn dibynnu ar beth fyddai ei bwrpas o ran adfywio. Roedd diddordeb mewn gweld unrhyw adroddiad neu ddeilliannau, os oedd y trafodaethau hynny wedi’u cynnal, gan fod Aelodau o’r farn y gellid creu incwm tra bod y prosiect Pafiliwn yn mynd rhagddo. Awgrymwyd hefyd y dylid archwilio i ddulliau eraill, megis agwedd budd cymunedol y contract caffael a Chytundeb Adran 106.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a’r Aelod Cabinet dros Adfywio bod trafodaethau wedi bod ar waith ynghylch archwilio lleoliadau ond yn anffodus, doedd dim modd defnyddio arian o’r gronfa Ffyniant Bro ar gyfer gwaith dichonoldeb ar y cam hwn, gan fod angen gwario’r cyllid i gyd ar y prosiect ac roedd proffil gwariant wedi’i gyflwyno.

 

Gofynnodd Aelodau a fyddai’r nifer o seddi a ragwelwyd yn cynyddu unwaith i’r prosiect Pafiliwn ddod i ben, ac a fu unrhyw ystyriaeth i ddarparu cyfleusterau parcio ychwanegol ar y safle neu ger y safle. Os na, gallai hynny fod yn rhywbeth i’w ystyried a’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau nad oedd unrhyw gynlluniau ar y gweill i gynyddu nifer y lleoedd parcio ar y safle, ond nid oedd yn credu eu bod yn gwaredu’r cyfleusterau parcio presennol ar y safle. Eglurodd eu bod wedi comisiynu astudiaeth parcio ar gyfer Porthcawl a oedd yn rhan bwysig o’r adfywio.

 

Gofynnodd Aelodau am eglurder ar yr un cais fesul ardal AS, a phryd y byddai’r cylch cyllid nesaf. Roeddent hefyd yn ymwybodol bod Neuadd Tref Maesteg wedi profi rhai cymhlethdodau a oedd yn golygu cynnydd i gostau a therfynau amser, felly roeddent am wybod a fyddai cyfnod o amser pan fyddai’r ddau ddim ar gael, neu’n dibynnu ar y cais yn llwyddo, a fyddai’r Pafiliwn Grand yn aros ar agor nes i Neuadd Dref Maesteg ail-agor. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod angen i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2025, felly roedd yn tybio y byddai’r cylch nesaf yn dechrau bryd hynny, ond y byddai ar agor mae’n si?r yn yr ychydig o flynyddoedd nesaf er mwyn gallu prosesu ymlaen llaw. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen y byddai Neuadd Dref Maesteg yn agor cyn i’r Pafiliwn gau, oherwydd pe bydden nhw’n llwyddiannus, byddai angen cadarnhau’r dyluniadau, cyflwyno dyluniadau i gael caniatâd cynllunio, mynd allan i dendr, dewis contractwr ac aros iddynt gyrraedd y safle. 

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a’r Rheolwr Gr?p ar gyfer Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu’r cynnig ar gyfer Pont Ffordd Penprysg, gan egluro eu bod wedi gwneud cais am o leiaf £25 miliwn i’r Gronfa Ffyniant Bro i osod y bont. Cafwyd dyluniadau cychwynnol ar gyfer y bont, ac roeddent wedi dechrau mynd drwy’r broses Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WeITAG) yn ogystal ag ymgynghori cyhoeddus. Roedd yn gynllun cymhleth gan y byddant yn disodli hen seilwaith o oes Fictoria, gosod pont fodern a gwaredu’r bont bresennol ym mhen yr orsaf drenau o Bencoed, a disodli hwnnw gyda phont hygyrch, teithio llesol ac addas i gerddwyr.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder o ran a fyddai £25 miliwn yn ddigon ar gyfer y prosiect, a fyddai wedi dod i ben erbyn 2025 a’r ffaith nad oedd opsiwn i gamu’n ôl oherwydd natur y prosiect. Gofynnwyd hefyd a oedd unrhyw ffynonellau cyllid eraill a all gael eu harchwilio. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y byddent yn caniatáu i fid trafnidiaeth fynd ymlaen i 2026 mewn amgylchiadau eithriadol. Nododd y gallai’r holl gostau fod yn fwy na’r uchafswm cais, ond nad oedd ganddynt ddyluniad llawn wedi’i gostio, ac roedd agweddau a allai effeithio’r swm o gyllid a fyddai angen. Nododd ei fod yn brosiect cymhleth a bod llawer o bethau anhysbys ar hyn o bryd, ond y byddent yn ddibynnol iawn ar bartneriaid eraill ac asiantaethau partner i chwarae rhan, gan y byddai sicrhau’r seilwaith yn cael effaith ranbarthol.  

 

O ran yr elfen ranbarthol, holodd Aelodau a oedd cais wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Network Rail am gyllid. Er eu bod nhw’n llwyr gefnogol o’r prosiect, roeddent yn awyddus i gael sicrwydd na fyddai’r groesfan yn achosi problemau traffig yn y lonydd cefn wrth ei waredu, yn enwedig drwy Hendre a Coety.

 

Nododd y Swyddogion o ran yr elfen ranbarthol, roedd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi bod ynghlwm wrth y gr?p llywio a sefydlwyd, ac yn cefnogi’r prosiect, ond ni fyddant yn cynnig cyllid. Er mwyn bwrw ymlaen â’r prosiect, roedd ganddynt gyllid gan Brifddinas-ranbarth Caerdydd (CCR). Doedden nhw ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd gyda chyllid CCR, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, ond byddant yn chwilio am raglenni cyllid wrth iddynt ddod i’r amlwg. Wrth i’r prosiect ddod yn ei flaen gan arwain at ragor o sicrwydd, byddai rhagor o gyfle i ddenu cyllid ychwanegol posibl drwy ddulliau eraill. O ran sicrwydd am draffig, cyn edrych ar gynigion datblygu i’r dyfodol, roedd rhaid cael syniad o’r effaith, ni fyddai’n bosibl gwybod hyn nes bod y bont newydd wedi’i osod. Fodd bynnag, roedden nhw’n cadw llygad arno ac yn cydnabod y byddai angen gwneud darn o waith arall ar hyn gyda’r prosiect hwn.

 

Gofynnodd Aelodau a fyddai modd cynnwys cynnig ar gyfer etholaeth Ogwr yn y cylch nesaf o gynlluniau a chyllid?

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau eu bod wedi creu tri chynllun ar gyfer etholaeth Ogwr dros y 12 mis diwethaf, ond yn anffodus nid oedd y Swyddogion Cronfa Ffyniant Bro o’r farn bod unrhyw gynllun yn bodloni’r meini prawf. Roedd hi eisiau gwneud yn glir eu bod wedi gweithio’n galed, a’i fod wedi bod yn siom mawr i’r Tîm. 

 

Gofynnodd Aelodau a oedd gwers wedi’i dysgu o ran bod angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod â chynllun buddsoddi strategol cynhwysfawr, fel bod dyheadau a phrosiectau yn barod ac yn addas pan fyddai cyfle’n codi?

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei bod wedi bod yn anodd oherwydd pan gyhoeddwyd y Gronfa Ffyniant Bro, ni ryddhawyd unrhyw feini prawf neu ganllawiau manwl, doedden nhw ddim yn nabod yr unigolion ynghlwm ac roedden nhw’n dîm newydd, felly roedd rhaid iddynt weithio ar sail cynlluniau blaenorol. Nododd bod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn rhagorol am ysgrifennu ceisiadau cyllid, felly nid oedd y broblem oherwydd diffyg sgiliau ysgrifennu, ond oherwydd y diffyg meini prawf a oedd ar gael. Cyfeiriodd at y Strategaeth 2030 a’r Strategaeth Datblygu Economaidd a oedd gerbron y Cyngor ym mis Mawrth, a oedd yn cynnwys nifer sylweddol o brosiectau, felly roedden nhw’n gwybod beth oedd y prosiectau ac yn awyddus i symud ymlaen â nhw a sicrhau eu bod yn barod, ond yn anffodus roedd y Tîm eisoes yn brysur yn datblygu beth oedd ar gael o’u blaenau nhw. Fodd bynnag, roedd hi’n gobeithio y bydden nhw mewn sefyllfa well yn y dyfodol.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, argymhellodd y Pwyllgor y canlynol:

 

1.    Yn debyg i’r trafodaethau ynghylch SPF, dylid mynegi pryder ynghylch y terfynau amser byr o ran y ceisiadau i’r Gronfa Ffyniant Bro, yn ogystal â’r terfynau amser i gyflawni’r prosiectau, yn enwedig os na chaniateir unrhyw estyniad. Roedd Pont Reilffordd Penprysg yn risg benodol oherwydd lefel y gwaith y byddai ei angen er mwyn dod i ben.

2.    Roedden nhw’n llwyr gefnogol o’r gwaith ynghylch trefniadau amgen neu dros dro a lleoliadau yn ystod y cyfnod pan fyddai’r Pafiliwn Grand ym Mhorthcawl ar gau. Fodd bynnag, rhoddwyd pwyslais penodol ar sicrhau na fyddai Porthcawl yn colli nifer yr ymwelwyr a refeniw. Gofynnodd Aelodau am adborth ar y cynlluniau hyn ac am fesurau lliniaru pan fyddent ar gael, ond ymhellach i hyn, argymhellwyd y dylid cynnal astudiaeth o ddichonoldeb yn rhan o’r gwaith hwn o ran gosod cyfleuster dros dro ym Mhorthcawl tra bod y Pafiliwn ar gau. Cynigiwyd defnyddio’r elfen Adran 106 o’r contract datblygu o ran lleihau effaith cau’r adeilad ar y gymuned. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor:

 

1.    Terfyn amser o ran cwblhau prosiect Neuadd Dref Maesteg. Codwyd pryderon ynghylch a fyddai’r Neuadd Dref wedi dod i ben cyn i’r Pafiliwn gau ar gyfer ailddatblygu. Gofynnodd Aelodau hefyd am wybodaeth o ran beth oedd hyn yn ei olygu i refeniw Awen.

 

2.    Gwybodaeth bellach (gan gynnwys astudiaeth o ddichonoldeb posib a nodwyd yn yr argymhellion uchod) am unrhyw gyfleuster dros dro arfaethedig a threfniadau amgen tra bod y Pafiliwn ar gau.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch cyllid a chyflawniad y prosiect Pont Reilffordd Penprysg, a’r effaith bosibl o draffig yn yr ardal. Gofynnodd y Pwyllgor am bapur briffio unwaith y byddai’r prosiect wedi’i gymeradwyo, gan nodi’r cynlluniau a fyddai ar waith i fonitro a lleddfu effaith traffig ar ddwy ochr y bont arfaethedig. O ran parcio ym Mhorthcawl yn gysylltiedig â phrosiectau ailddatblygu megis y Pafiliwn Grand a’r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr i’r ardal, cafodd y Pwyllgor wybod am astudiaeth Parcio sydd ar waith ym Mhorthcawl yn rhan o’i gynlluniau Adnewyddu a Chreu Lleoedd. Gofynnodd y Pwyllgor iddynt fod ynghlwm wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Strategol ar gyfer Porthcawl, a bod hyn yn cael ei ychwanegu at Flaenraglen waith y Pwyllgor.

Dogfennau ategol: