Agenda item

Gwelliant arfaethedig i Amodau’r Drwydded Cerbydau Hacni, Amodau Cerbydau Llogi Preifat ac Amodau’r Drwydded Gyrrwr Llogi Preifat

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad â’r nod o ddiwygio amodau trwyddedau Cerbydau Hacni a Llogi Preifat ynghyd ag amodau’r drwydded ddeuol Gyrrwr Llogi Preifat/Cerbyd Hacni, a hynny er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd ac i geisio cymeradwyaeth i ymgynghori'n ffurfiol â'r fasnach tacsis.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno canllawiau cenedlaethol ar gyfer tacsis, ond bod angen cyflwyno’r gwelliannau hyn yn y cyfamser er mwyn cryfhau’r amodau presennol. Y gred yw na fydd y diwygiadau arfaethedig y maent eisiau eu cyflwyno yn cael effaith andwyol ar broses y Llywodraeth. Roedd yr amod cyntaf yn ymwneud â thrwyddedau cerbyd. Roedd amod yn cael ei gynnig a fyddai yn ei gwneud yn ofynnol i Ddeiliaid Trwydded/Perchnogion sy'n rhentu, prydlesu, llogi neu fenthyg eu Cerbyd Hacni neu Gerbyd Llogi Preifat i ddarparu ac i gadw cofrestr addas lle nodir y manylion canlynol sy'n ymwneud â’r gyrrwr sydd yn rhentu, llogi, prydlesu neu fenthyg y cerbyd.

 

          a) Enw a chyfeiriad y gyrrwr.

 b) Rhif Bathodyn a dyddiad dod i ben Trwydded Cerbyd Hacni/Llogi Preifat y gyrrwr.

 c) Rhif plât a rhif cerbyd y cerbyd sy’n cael ei rentu, ei logi, ei brydlesu neu ei fenthyg.

d) Y dyddiad(au) a’r amser(oedd) pan gafodd y cerbyd ei rentu, ei logi, ei brydlesu neu ei fenthyg gan y gyrrwr.

 

Ychwanegodd y dylid cadw'r cofnodion am o leiaf 12 mis, a hynny mewn trefn gronolegol, a rhaid eu cynhyrchu ar gais i gael eu harchwilio gan swyddogion awdurdodedig o'r Cyngor neu Gwnstabl Heddlu.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod yr ail amod hefyd yn ymwneud â Thrwyddedau Gyrwyr. Y cynnig oedd ychwanegu:

 

Amod i’w gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded i hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod os ydynt:

 a) yn cael euogfarn am unrhyw drosedd neu'n derbyn rhybudd, rhybuddiad, hysbysiad cosb benodedig neu unrhyw fath arall o hysbysiad cosb.

 b) yn destun unrhyw ymchwiliad troseddol arfaethedig

 b) yn cael eu hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad troseddol arfaethedig

 

Byddai hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar ddeiliaid trwyddedau i hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o unrhyw euogfarnau neu euogfarnau/ymchwiliadau arfaethedig yn ystod cyfnod eu trwydded.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu ei bod yn ofynnol i ymgeiswyr ac i ddeiliaid trwyddedau ddarparu tystysgrif feddygol pan roddir trwydded a phan adnewyddir trwydded. Roedd angen tystysgrif feddygol er mwyn sicrhau bod iechyd y gyrwyr yn ddigon da i gynnal diogelwch y cyhoedd ar y ffyrdd. Roedd gyrwyr cerbydau Hacni a Llogi Preifat yn destun safonau meddygol uwch o gymharu â gyrwyr cyffredin. Roedd gofyniad cyfreithiol arnynt i ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os bydd unrhyw newidiadau yn eu cyflwr meddygol fel bo modd cynnal asesiad o effaith hynny ar eu gallu cyfreithiol i yrru'n ddiogel, ond byddai’r cynnig hwn hefyd yn gosod cyfrifoldeb arnynt i adrodd i'r Awdurdod Trwyddedu hefyd os bydd unrhyw newidiadau. Roedd cynnig pellach i ychwanegu’r amod canlynol i amodau presennol y Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Llogi Preifat:

 

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod o:

a) unrhyw newid neu ddirywiad yn eu hiechyd sydd angen cael ei adrodd i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

b) Mae’r Cyngor yn cadw'r hawl i'w gwneud yn ofynnol i ddeiliad trwydded presennol i gynhyrchu tystiolaeth feddygol gan eu meddyg teulu neu gan feddyg ymgynghorol (fel sy’n briodol) i ddangos eu bod yn parhau i fod yn addas i yrru yn ystod cyfnod y drwydded. Bydd tystiolaeth feddygol o'r fath yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor gan ddeiliad y drwydded o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r cais amdano.

 

Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu bod cais i'r Pwyllgor awdurdodi ymgynghoriad 14 diwrnod gyda'r diwydiant tacsis a llogi preifat i drafod ychwanegu'r amodau uchod.

 

Gofynnodd yr Uwch Gyfreithiwr pam mai dim ond cyfnod ymgynghori o 14 diwrnod a gynigiwyd ar gyfer newidiadau mor sylweddol. Atebodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu eu bod yn cynnig cyfnod ymgynghori o 14 diwrnod oherwydd eu bod yn cyfathrebu â’r fasnach yn gyson. Nid amodau safonedig Llywodraeth Cymru yn eu cyfanrwydd yw’r rhain, dim ond rhan ohonynt, felly roedden nhw o'r farn y byddai ymgynghoriad 14 diwrnod yn ddigonol.

 

Cytunodd aelod gyda'r cyngor cyfreithiol a roddwyd ac ychwanegodd nad oedd yn rhoi llawer o amser i ddeiliaid trwyddedau i ystyried eu hopsiynau. O ran diffyg cofnodion i ddangos pwy sydd wedi rhentu, prydlesu, llogi neu fenthyg cerbydau, gofynnodd pa brosesau fu ar waith yn y gorffennol a pha broblemau a gafwyd o ran erlyn neu ymchwilio gyda’r achosion hyn. Hefyd, o ran yr amod sy'n ymwneud â newid neu ddirywiad iechyd y mae angen ei adrodd i'r DVLA, pam fod angen i'r awdurdod lleol gael y wybodaeth honno, a pham fod y Cyngor eisiau cadw'r hawl i geisio tystiolaeth feddygol o ffitrwydd gyrwyr.

 

Atebodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu, mewn perthynas â'r amod cyntaf ac ymchwilio cwynion, nad oes gofyniad presennol ar berchnogion i gadw cofnod o enw a chyfeiriad y sawl sy’n gyrru, er y dylent gynghori pwy sydd wedi'u hyswirio i yrru eu cerbyd pan fyddant yn derbyn eu trwydded. Roedd hyn yn arafu'r broses o ymchwilio i gwynion. Pe bai gofyniad arnynt i gadw cofnod o enw, rhif bathodyn a rhif trwydded gyrwyr, byddai'n hwyluso’r broses ymchwilio i'r Tîm Gorfodi. Nid allai gadarnhau os bu unrhyw erlyniadau aflwyddiannus, ond fe allai’r Tîm Gorfodi ddarparu'r wybodaeth honno. Roedd hyn wedi bod yn broblem mewn awdurdodau cyfagos, fel Bro Morgannwg.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu bod rhaid i bob gyrrwr ddatgan unrhyw newid neu ddirywiad yn eu hiechyd i'r DVLA, ond bod gyrwyr tacsis a llogi preifat yn destun safonau meddygol uwch na'r gyrrwr arferol. Roedd gofyn iddyn nhw gyrraedd safon feddygol gr?p dau, sydd yn uwch. Roedden nhw'n gyrru llawer mwy o oriau na pherson arferol, ac â chyfrifoldeb am gludo teithwyr yn y car. Roedd yn rhaid i'r awdurdod gymryd y materion hyn o ddifrif ac i geisio cyngor pellach gan feddygon teulu os oedd angen.

 

 

Mynegodd aelodau bryderon am yr ymgynghoriad 14 diwrnod. Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu mai gwelliant bach oedd hwn o'i gymharu â'r newidiadau sylweddol a gynigiwyd ar gyfer dyfodol. Roeddent yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda grwpiau masnach cydnabyddedig a byddent yn rhoi sylw i hyn yn ystod y cyfarfodydd. Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr na fyddai'n cynghori'r Pwyllgor i dderbyn y cyfnod ymgynghori 14 diwrnod o dan unrhyw amgylchiadau gan ei fod yn erbyn canllawiau Cyfraith Achosion a'r Llywodraeth Ganolog. Cynghorodd i roi cyfnod ymgynghori hirach yn eu penderfyniad.

 

Cyfeiriodd Aelod at y prinder tacsis a gyrwyr ledled y wlad a gofynnodd sut y byddai'r gofyniad hwn am waith papur ychwanegol yn effeithio ar yrwyr ac ar fusnesau ar hyn o bryd. Gofynnodd hefyd pwy fyddai'n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith papur yn cael ei gofnodi yn gywir. Atebodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu mai’r perchennog fyddai’n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith papur yn gywir.

 

Gofynnodd aelod a oedd gofyniad cyfreithiol i gadw manylion am 

bwy sy’n gyrru cerbyd a pha bryd. Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr wrth y Pwyllgor bod gofyniad cyfreithiol i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i'r Heddlu ac y gallent erlyn os na ellir adnabod gyrrwr, fodd bynnag mae’r achos hwn yn ymwneud â dibenion tacsi o fewn yr awdurdod felly roedd yn wahanol i bwerau'r Heddlu.

 

Cyfeiriodd aelod at anfodlonrwydd cyffredinol ymhlith gyrwyr, a gofynnodd a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud i'w gwneud i hwyluso pethau i ddeiliaid trwydded, megis dileu'r cyfyngiad ar nifer y modurdai y gellid eu defnyddio ar gyfer profion MOT. Atebodd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd y mater hwnnw'n rhan o'r adroddiad dan sylw ac na ellid ei ystyried bryd hynny. Ychwanegodd y Cadeirydd bod cyfarfod wedi ei drefnu gydag SRS i drafod y mater hwnnw

 

Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr, pe bai'r Pwyllgor yn cytuno i gymeradwyo'r adroddiad, y byddai'n argymell cyfnod ymgynghori o 12 wythnos.

 

PENDERFYNIAD:   Ystyriodd y pwyllgor gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd awdurdod i swyddogion gynnal ymgynghoriad 12 wythnos gyda'r fasnach tacsis a llogi preifat ynghylch:

 

1) Diwygio amodau Cerbydau Hacni a Llogi Preifat i gynnwys yr amod:

 

Pan fo Deiliaid Trwydded/Perchnogion yn rhentu, yn prydlesu, yn llogi neu’n benthyg eu [Cerbyd Hacni] [Gerbyd Llogi Preifat], bydd Deiliad y Drwydded/Perchennog yn darparu ac yn cadw cofrestr addas lle nodir y manylion canlynol sy'n ymwneud â’r gyrrwr sydd yn rhentu, llogi, prydlesu neu’n benthyg y cerbyd.

 

a) Enw a chyfeiriad y gyrrwr.

b) Rhif Bathodyn a dyddiad dod i ben Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Llogi Preifat y gyrrwr.

c) Rhif plât a rhif cerbyd y cerbyd sy’n cael ei rentu, ei logi, ei brydlesu neu ei fenthyg.

d) Y dyddiad(au) a’r amser(oedd) pan gafodd y cerbyd ei rentu, ei logi, ei brydlesu neu ei fenthyg gan y gyrrwr.

 

Rhaid cadw'r cofnodion am o leiaf 12 mis, a hynny mewn trefn gronolegol, a rhaid eu cynhyrchu ar gais i gael eu harchwilio gan swyddogion awdurdodedig o'r Cyngor neu gan gwnstabl heddlu.

 

2) Diwygio amodau’r Drwydded Ddeuol ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni/Llogi Preifat i gynnwys yr amodau canlynol:

 

Amod i’w gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded i hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod os ydynt:

 

a) yn cael euogfarn am unrhyw drosedd neu'n derbyn rhybudd, rhybuddiad, hysbysiad cosb benodedig neu unrhyw fath arall o hysbysiad cosb.

b) yn destun unrhyw ymchwiliad troseddol arfaethedig

b) yn cael eu hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad troseddol arfaethedig

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod o:

c) unrhyw newid neu ddirywiad yn eu hiechyd sydd

angen cael ei adrodd i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

d) Mae’r Cyngor yn cadw'r hawl i'w gwneud yn ofynnol i ddeiliad trwydded presennol i gynhyrchu tystiolaeth feddygol gan eu meddyg teulu neu feddyg ymgynghorol (fel sy’n briodol) sy’n dangos eu bod yn parhau i fod yn addas i yrru yn ystod cyfnod y drwydded. Bydd tystiolaeth feddygol o'r fath yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor gan ddeiliad y drwydded o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r cais amdano.

 

Dogfennau ategol: