Agenda item

Adfywio Glannau Porthcawl: Neilltuo Tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn hysbysu'r Cabinet ynghylch y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i'r hysbyseb am y bwriad i neilltuo tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay i gefnogi Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl. Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd i'r Cabinet ystyried y sylwadau a gafwyd o ganlyniad i'r hysbysiadau cyhoeddus ac ymatebion y swyddogion i'r sylwadau hynny, ac i'r Cabinet roi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r gwaith o neilltuo tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay i ddibenion cynllunio, fel yr oedd wedi'i amlinellu'n goch ar y Cynllun Neilltuo, er mwyn hwyluso cyflawniad Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gefndir y cynigion gan gynnwys manylion yr ymgyngoriadau a gynhaliwyd. Amlinellodd y tir i'w neilltuo a'r broses o neilltuo, a thrafod angen y cyhoedd am y defnydd presennol a'r defnydd cynllunio arfaethedig. Eglurodd sut yr aethpwyd ati i hysbysebu'r bwriad i neilltuo'r tir, ac amlinellodd y sylwadau a gafwyd a sylwadau'r swyddogion mewn ymateb i'r materion a godwyd. Eglurodd y byddai angen ystyried yr holl ystyriaethau ariannol fesul prosiect, ac y byddai adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl i'r Cabinet a/neu'r Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw gynllun yn y dyfodol i waredu/neu ddatblygu'r tir a fyddai'n cael ei neilltuo a'r ardal adfywio ehangach. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Cymunedau i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol a'r swyddogion am yr adroddiad ac am esbonio'r broses. Ychwanegodd fod ymweliad wedi cael ei gynnal â'r safle dan sylw yn ddiweddar, gyda Chynghorwyr eraill a swyddogion Nid oedd hyn golygu lleihau'r man agored a cholli Parc Griffin ond, yn hytrach, creu estyniad i ddyblu'r hyn a oedd yno'n bresennol. Roedd yr ardal ochr yn ochr â Maes Parcio Hi Tide, yr hen Monster Park, yn adnodd nad oedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Byddai'r ardal honno'n datblygu i fod yn rhan o Barc Griffin, ac o gymorth i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd rhai mân newidiadau i’r cynlluniau gwreiddiol, ac un o'r newidiadau hynny oedd creu llwybr hir llinol ar hyd Llyn Halen, a oedd mor hir a 2 gae pêl droed. Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen i weld y canlyniad terfynol.

 

Eiliodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad ac ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen i weld cynlluniau manylach. Nid oedd yn deall peth o'r data technegol yn y cyfoeth o wybodaeth a oedd yn cael ei ddarparu i'r Aelodau Cabinet, a chan aelodau o'r cyhoedd a oedd yn gwrthwynebu neilltuo'r tir. Roedd hi'n falch o allu cymryd rhan yn y daith gerdded ac o allu dychmygu'r ardal. Ar ôl cael negeseuon e-bost a oedd yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn unig, roedd hi'n falch o weld bod rhai preswylwyr yn eu cefnogi. Roedd Porthcawl yn edrych yn arbennig o flêr, ac nid oedd rhyw lawer o arian wedi cael ei fuddsoddi yno ers blynyddoedd lawer, felly i sicrhau bod Porthcawl yn parhau i fod yn gyrchfan i ymwelwyr, ac i sicrhau hyfywedd Porthcawl ym mhob tywydd am flynyddoedd i ddod, roedd y cynnig hwn yn wirioneddol dda.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod hyn yn rhan o gyfres o ddatblygiadau ym Mhorthcawl a bod y gwaith ar Bromenâd y Dwyrain eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar ymddangosiad yr ardal. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol am y cyflwyniad maith a chynhwysfawr. Roedd yn cydnabod y negeseuon e-bost niferus a oedd wedi dod i law yn gwrthwynebu'r cynigion, ac ychwanegodd nad oedd wedi darllen unrhyw beth yn y negeseuon hynny a fyddai'n effeithio ar ei benderfyniad. Gofynnodd am eglurhad ynghylch y gwahaniaeth rhwng yr awdurdod lleol fel tirfeddiannwr a'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Gofynnodd hefyd a oedd unrhyw hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad y byddent yn ei wneud. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, yn rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y gallent neilltuo tir fel Cyngor, ac nad oedd unrhyw hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. O ran statws yr awdurdod fel tirfeddiannwr ac Awdurdod Cynllunio Lleol, fel tirfeddiannwr byddai'n ofynnol iddo sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer cais cynllunio manwl, yn yr un modd ag unrhyw dirfeddiannwr arall. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol a'i thîm am yr adroddiad.  Roedd y cynllun gyffrous, gan fod llu o gyfleoedd i breswylwyr lleol, o ran addewid am swyddi a gweithgareddau hamdden.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am gadarnhad bod y cyd-destun cynllunio wedi'i sefydlu ar gyfer y ddau safle, nid yn unig yn y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol hwn, ond hefyd yn y Cynllun Datblygu Unedol blaenorol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymunedau Corfforaethol fod hyn yn gywir.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn ymwybodol eu bod wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar fannau agored cyhoeddus, a bod y llwybr glan môr llinellol yn ychwanegiad ac yn ganolbwynt i'r datblygiad. Cadarnhaodd fod sesiwn wedi'i threfnu ar gyfer y cadeiryddion craffu perthnasol a'u bod yn gwerthfawrogi'r diddordeb a'r mewnbwn gan yr aelodau lleol.   

 

 PENDERFYNWYD:      Bod y Cabinet:

·      wedi ystyried y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i'r hysbyseb ynghylch y cynnig i neilltuo tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay ac ymatebion y swyddogion i'r sylwadau hynny a nodir yn Atodiad 5.

yn cymeradwyo neilltuo'r tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay a amlinellir yn goch ar y Cynllun Neilltuo (Atodiad 1) i ddibenion cynllunio.

Dogfennau ategol: