Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ysgol Gynradd Coety - Caniatâd i Ddechrau Ymgynghoriad Statudol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn proses ymgynghori statudol mewn perthynas â newid rheoledig i ehangu Ysgol Gynradd Coety i fod yn ysgol 2.5 dosbarth mynediad gyda blwyddyn feithrin ac ynddi 88 o leoedd cyfwerth ag amser llawn. O gymeradwyo'r cynnig, byddai'n dod i rym o ddechrau tymor y gwanwyn 2025.

 

Er mwyn ymateb i'r galw am leoedd yn Ysgol Gynradd Coety, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod swyddogion wedi cynnal arfarniad o opsiynau a ddangosai fod angen cynyddu darpariaeth yn yr ysgol. Arweiniodd yr arfarniad at nodi opsiwn a ffafrir ar ffurf estyniad deulawr a fyddai'n cynnwys pedair ystafell ddosbarth, ac ar 15 Mehefin 2022 cafwyd cymeradwyaeth y Cyngor i gynnwys y cynllun yn y rhaglen gyfalaf.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai'r cynnig yn arwain at gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Coety o 420 i 520 o leoedd i ddisgyblion 4 i 11 oed (hynny yw, ysgol 2.5 dosbarth mynediad). Nifer derbyn cyhoeddedig yr ysgol ar ôl yr ehangu fyddai 75. Hefyd, o ganlyniad i'r datblygiad, byddai cyfle i gynyddu'r ddarpariaeth feithrin bresennol o 76 o leoedd cyfwerth ag amser llawn i 88 o leoedd cyfwerth ag amser llawn. Ar gyfer y cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Coety, ychwanegodd fod angen i'r awdurdod lleol wneud addasiad rheoledig o dan God Trefniadaeth Ysgolion 2018. Roedd yn ofynnol cynnal ymarfer ymgynghori llawn â rhanddeiliaid, gan gynnwys corff llywodraethu'r ysgol, staff, rhieni, disgyblion a phartïon eraill â buddiant. Byddai'r ddogfen ymgynghori yn nodi goblygiadau'r cynnig ac yn dilyn y cyfnod hwn o ymgynghori, byddai adroddiad pellach ar ganlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i ystyried canlyniad y broses honno. Byddai angen i'r Cabinet wedyn benderfynu a ddylid awdurdodi cyhoeddi rhybudd statudol. Pe bai rhybudd o'r fath yn cael ei gyhoeddi, byddai'n gofyn am wrthwynebiadau ffurfiol yn ystod y cyfnod statudol o 28 diwrnod.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd hyn yn newyddion gwych i Ysgol Gynradd Coety a phreswylwyr Coety a Pharc Derwen. Dyma oedd y cam cyntaf yn y broses, a byddent yn cydweithio'n agos â'r gymuned a'r Aelodau a Chorff Llywodraethu'r Ysgol i sicrhau bod yr ysgol hon yn addas i bawb.

 

Yn ogystal â'r broses statudol o ymgynghori ynghylch ysgolion, ychwanegodd yr Arweinydd fod proses gynllunio statudol hefyd a fyddai'n gyfle i'r gymuned roi adborth. Roedd argaeledd mannau yn yr awyr agored eisoes yn fater a oedd wedi codi, a byddai hyn yn cael ei ystyried yn rhan o'r broses.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd bryderon ynghylch recriwtio staff i'r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a gofynnodd sut y byddai'r broses honno'n cael ei rheoli.

Atebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg drwy ddweud bod staffio yn her yn yr holl ysgolion, ac mai un o'r heriau yn Ysgol Gynradd Coety yn arbennig oedd canfod staff ar gyfer y ddarpariaeth brecwast. Roedd llawer o waith yn mynd rhagddo i recriwtio, a hefyd wrth wneud defnydd mwy hyblyg o staff ar draws lleoliadau. Cadarnhaodd eu bod yn gweithio ar hyn, ond yn wynebu cryn her.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cymeradwyo dechrau proses ymgynghori statudol i wneud addasiad rheoledig i ehangu Ysgol Gynradd Coety i fod yn ysgol 2.5 dosbarth mynediad, gyda darpariaeth feithrin cyfwerth ag 88 o leoedd amser llawn o ddechrau tymor y gwanwyn 2025.

Dogfennau ategol: