Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Canlyniad Hysbysiad Statudol Ysgol Heronsbridge

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu'r Cabinet ynghylch canlyniad yr hysbysiad statudol a gyhoeddwyd ar gyfer adeilad newydd Ysgol Heronsbridge, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i newid dyddiad gweithredu'r cynnig i ddechrau tymor y gwanwyn 2026, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi ac anfon llythyr penderfyniad, fel y rhagnodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018 (y Cod).

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir y cynnig, ac egluro bod yr adroddiad ymgynghori, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 14 Mehefin 2022, wedi cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a'r rhanddeiliaid wedi cael gwybod am hynny. Daeth cyfnod yr hysbysiad statudol i ben ar 27 Gorffennaf 2022, ac ni chafwyd unrhyw sylwadau yn erbyn y cynnig. Eglurodd fod adolygiad manwl wedi cael ei gynnal o'r rhaglen gyflawni ar gyfer yr ysgol newydd, a chyngor wedi'i dderbyn gan ymgynghorwyr mewnol ac allanol ynghylch hynny. Oherwydd natur arbenigol yr ysgol, byddai angen digon o amser i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnal rhaglen strwythuredig i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys y corff llywodraethu, staff a disgyblion. Roedd yn hanfodol  ysgol a chydweithwyr Iechyd gael mewnbwn yn y cam pwysig hwn o'r broses. Gan hynny, dylid newid y dyddiad agor a gynigiwyd ar gyfer yr ysgol newydd i ddechrau tymor y gwanwyn 2026, er mwyn caniatáu amser o fewn y rhaglen i ymgysylltu mewn modd priodol â rhanddeiliaid. Ychwanegodd fod yr awdurdod lleol wedi ymgynghori â Chorff Llywodraethu Ysgol Heronsbridge ynghylch y newid arfaethedig, ac roedd y Cadeirydd wedi cadarnhau bod y dyddiad diwygiedig wedi'i dderbyn. Ar yr un pryd, fodd bynnag, pwysleisiodd pa mor bwysig oedd defnyddio'r cyfnod ymgynghori estynedig i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau y byddai'r adeilad newydd yn gwneud cyfiawnder â'r disgyblion a'r Fwrdeistref Sirol. Dywedodd y Cadeirydd fod y corff llywodraethu yn disgwyl y gorau i'w ddisgyblion, ac roedd hynny i ddechrau'n golygu cynnal ymgynghoriad manwl a'r holl rhanddeiliaid yn y cam dylunio cyn dechau'r gwaith adeiladu.

 

Roedd gofyn i'r Cabinet nawr ystyried canlyniad y broses statudol a phenderfynu a ddylid gweithredu'r cynnig. Gallai'r Cabinet naill ai benderfynu derbyn, gwrthod neu addasu'r cynnig.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd yn newyddion gwych bod hyn yn symud ymlaen ar y cyd â’r Pennaeth, y Corff Llywodraethu, y rhieni a'r disgyblion fel ei gilydd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr achos o blaid hyn yn gryf, a bod angen taer am adeilad llawer mwy i'r ysgol. Byddent yn sicrhau bod y dyluniad o'r ansawdd uchaf, ac yn edrych ar arfer gorau ledled Cymru. Yr oedd newydd ymweld â Th? Hafan a oedd wedi elwa’n ddiweddar ar waith moderneiddio ac estyniad. Roedd hyn yn gyfle gwirioneddol i ystyried yr amgylchedd yr oeddent wedi'i greu yno i blant ag anghenion cymhleth.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a fyddai modd trefnu i'r Cabinet ymweld â'r ddarpariaeth gyfredol, fel y gallent werthfawrogi'r diffygion yn llawn, a sicrhau bod y ddarpariaeth newydd yn bodloni'r anghenion dan sylw.  

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Addysg eu bod ar ganol ystyried dyddiad ar gyfer ymweliad.

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Cabinet:

·yn nodi canlyniad yr hysbysiad statudol a gyhoeddwyd i wneud addasiadau rheoledig i Ysgol Heronsbridge er mwyn cynyddu nifer y disgyblion y mae'r ysgol yn darparu ar eu cyfer i 300 ac adleoli'r ysgol o'i leoliad presennol ar Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr i Fferm yr Ynys (Island Farm), Pen-y-bont ar Ogwr;

·am newid dyddiad gweithredu'r cynnig i ddechrau tymor y gwanwyn 2026; ac

·yn cymeradwyo cyhoeddi ac anfon llythyr penderfyniad, fel sy'n ofynnol yn y Cod.

Dogfennau ategol: