Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ysgol Heronsbridge, Caffael

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y strategaeth caffael i ddylunio ac adeiladu'r ysgol newydd; yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen â'r broses gaffael;  yn hysbysu'r Cabinet y bydd yn derbyn adroddiad yn y dyfodol ynghylch canlyniad arfarniad o opsiynau mewn perthynas â darpariaeth breswyl a seibiannol y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant; ac yn hysbysu'r Cabinet y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno iddo yn y dyfodol cyn dyfarnu'r prif gontract adeiladu, yn nodi'r sefyllfa o ran costau a chyllideb y prosiect.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir y cynigion ac wedyn egluro'r sefyllfa gyfredol ac amlinellu'r opsiynau amrywiol. Esboniodd y byddai swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gweithio gyda'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth ddylunio'r ysgol newydd, i ystyried opsiynau gyda chostau cysylltiedig i adleoli'r gwasanaeth preswyl a seibiannol ochr yn ochr â'r ysgol newydd. Byddai adroddiad yn cael ei roi ar ganlyniad y broses hon yn un o gyfarfodydd nesaf y Cabinet. Gan mai proses dau gam fyddai'r gwaith dylunio ac adeiladu, ychydig o gostau a fyddai'n cael eu creu yn gysylltiedig â dylunio, ac ni fyddai unrhyw ymrwymiad i fwrw ymlaen i'r ail gam. Atgoffodd y Cabinet fod yr Adran Landlord Corfforaethol ar ganol caffael safle Fferm yr Ynys ar gyfer yr ysgol arfaethedig. Roedd hi'n bwysig nodi bod elfen o risg yn gysylltiedig â'r broses hon. Pe na bai'r pryniant hwn yn mynd rhagddo, byddai'r mater yn cael ei adrodd yn un o gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol, gan ofyn am gymeradwyaeth i roi'r gorau i'r cynnig fel yr oedd wedi'i gyhoeddi. Heblaw am yr uchod, argymhelliad y Bwrdd oedd y dylid cychwyn y broses o ddylunio'r ysgol newydd, a'i chynnal ar yr un pryd â chwblhau pryniant y safle.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol a daeth i'r casgliad y byddai'n rhaid defnyddio arian o gyllidebau refeniw'r Cyngor i dalu unrhyw ffioedd/costau dylunio ofer yn gysylltiedig â'r datblygiad. Eglurodd fod y goblygiadau ariannol wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Dywedodd mai dyma'r gwariant cyfalaf mwyaf i'r Cyngor ei ysgwyddo erioed, ac roedd yn fenter enfawr. Ar ôl cymeradwyo'r adroddiad blaenorol, eu cyfrifoldeb hwy oedd sicrhau bod yr ysgol yn barod i ddisgyblion cyn gynted ag a oedd yn bosibl.

 

Ar ôl cwrdd â phreswylwyr presennol Harwood House, dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y llety yn gyfyngedig. Byddai'r galw am y cyfleuster hwn yn cynyddu, a byddai lleoli'r cyfan gyda'i gilydd yn golygu y gellid sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau. 

 

Gallai'r Arweinydd weld eu bod yn amlwg wedi gorfod rhoi ystyriaeth ofalus i effaith sylweddol pwysau chwyddiant ar y diwydiant adeiladu. Roedd hyn yn wahanol i brosiectau blaenorol lle bu'r prisiau'n fwy sefydlog. Roedd hon yn ffordd deg a thryloyw o nodi costau ychwanegol wrth iddynt godi, ac roedd yn cefnogi'r dull hwn o gaffael.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

·      yn cymeradwyo'r strategaeth a ffafrir ar gyfer caffael, fel y nodwyd ym mharagraffau 4.2, 4.3 a 4.16 mewn perthynas â phenodi tîm dylunio a phrif gontractwr ar gyfer Ysgol Heronsbridge;

·      yn rhoi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r broses gaffael;

·      yn nodi y byddai'r Cabinet yn cael adroddiad yn y dyfodol ar ganlyniad yr arfarniad o opsiynau mewn perthynas â darpariaeth breswyl a seibiannol y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant; ac

·      yn nodi y byddai'r Cabinet yn cael adroddiad yn y dyfodol cyn dyfarnu'r prif gontract adeiladu, yn nodi'r sefyllfa o ran costau a chyllideb y prosiect.

 

Dogfennau ategol: