Agenda item

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2021-2022

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu’r Cabinet am ganlyniadau’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP), ac y gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Dadansoddiad o Fylchau a'r Cynllun Gweithredu i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn rhan o ADGP 2021-2022.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei bod hi'n ofynnol yn ôl y rheoliadau i gyflwyno ADGP llawn a Chynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru bum mlynedd ar ôl yr asesiad cyntaf. Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau, hyd y bo'n rhesymol ymarferol, darpariaeth gofal plant a oedd yn ddigonol i fodloni gofynion rhieni yn eu hardal, i'w galluogi i ddechrau gweithio neu aros yn eu gwaith; neu dderbyn addysg neu hyfforddiant lle gellid disgwyl yn rhesymol i hynny fod o gymorth iddynt gael gwaith.' Roedd y dadansoddiad o fylchau (Atodiad 1 yr adroddiad) yn crynhoi prif ganlyniadau'r ADGP, yn nodi bylchau mewn darpariaeth ar draws y fwrdeistref sirol, ac yn llywio'r cynllun gweithredu pum mlynedd (Atodiad 2 yr adroddiad).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bodloni ei ddyletswydd statudol i ddarparu gofal plant digonol i deuluoedd a oedd yn gweithio. Fodd bynnag, roedd yr ADGP wedi canfod bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant ac yn yr wybodaeth a oedd ar gael. Roedd y bylchau hyn yn cyd-fynd â'r rhai a nodwyd gan Dîm Gofal Plant yr awdurdod lleol, a oedd yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth weithredol ac arbenigedd yn y sector gofal plant. Roedd y dadansoddiad bylchau yn sail i’r cynllun gweithredu pum mlynedd a byddai’n llywio’r blaenoriaethau a nodwyd gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yr awdurdod lleol, gan sicrhau bod yr awdurdod lleol yn parhau i gyflawni ei ddyletswydd statudol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd hwn yn adroddiad rheolaidd a luniwyd yn rhan o'r ddyletswydd statudol tuag at sicrhau Gofal Plant Digonol. Er nad oedd dyraniad CBSP wedi'i gadarnhau hyd yma, byddai'r arian yn dod i'r amlwg i gefnogi'r bylchau a oedd wedi'u nodi.

 

Eiliodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a chytuno bod hwn yn gynnig hael iawn gan Ben-y-bont ar Ogwr i'r preswylwyr. Roedd ganddi bryderon ynghylch yr elfen cyllid grant. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid grant i'r awdurdod am 3 i 5 mlynedd, ond nid oedd y cyllid hwn yn hirdymor, a sut oeddent am sicrhau darpariaeth wedi hynny? Roedd angen i Lywodraeth Cymru roi syniad o'r amserlen, a sut y byddent yn ei gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw. Ychwanegodd ei bod yn hapus i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi'r pryderon hyn.    

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn fuddsoddiad i'w groesawu gan Lywodraeth Cymru ac y dylem ganfod beth oedd y graddfeydd amser a'r gofynion cyn gynted ag a oedd yn bosibl. Gallai hwn fod yn swm mawr o arian y byddai angen ei ddefnyddio o fewn cyfnod byr.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r dadansoddiad o fylchau a'r cynllun gweithredu (a oedd wedi'u cynnwys yn atodiadau 1 a 2 yr adroddiad) i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn rhan o Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2021-2022.

 

Dogfennau ategol: