Agenda item

Monitro Cyllideb 2022-23 - Rhagolygon Refeniw Ch 2

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor ar 30 Medi 2022. Esboniodd gefndir yr adroddiad ac egluro bod amcanestyniadau'r gyllideb yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd gerbron y Cabinet bob chwarter, yn rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad. Roedd y gallu i sicrhau gostyngiadau cytunedig i'r gyllideb hefyd yn cael ei adolygu'n barhaus a'i adrodd gerbron y Cabinet yn rhan o'r broses hon.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid at gyllideb refeniw net y Cyngor a'r gwariant diwedd blwyddyn rhagamcanol ar gyfer 2022-23, fel

y dangoswyd yn Nhabl 1 yr adroddiad. Esboniodd mai’r sefyllfa gyffredinol a ragwelir ar 30 Medi 2022 oedd gorwariant net o £3.433 miliwn, a oedd yn cynnwys gorwariant net o £6.098 miliwn ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £2.665 miliwn ar gyllidebau’r Cyngor cyfan.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid oblygiadau’r gostyngiad sylweddol i gronfa Galedi LlC a'r ceisiadau i Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â Covid. Rhoddodd y newyddion diweddaraf i'r Cabinet ynghylch trosglwyddiadau cyllidebol ac addasiadau technegol, ac effaith chwyddiant ar gyflogau a phrisiau. Yn ystod y misoedd diwethaf roedd y Cyngor wedi wynebu costau ychwanegol nid yn unig o ganlyniad i’r pandemig, ond costau cynyddol hefyd o ganlyniad i Brexit, effaith y rhyfel yn yr Wcráin, a chynnydd mewn chwyddiant nas gwelwyd ers dros ddegawd.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid amlinelliad o'r cynigion ar gyfer lleihau'r gyllideb, gostyngiadau cyllidebol y flwyddyn gynt a gostyngiadau yn y gyllideb ar gyfer 2022-23. Rhoddodd grynodeb o'r sefyllfa ariannol ar gyfer pob prif faes gwasanaeth a'r amrywiadau mwyaf sylweddol, ac adolygiad o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid mai dyma'r tro cyntaf yn ei gyrfa mewn llywodraeth leol iddi orfod adrodd am bwysau cyllidebol mor sylweddol yn ystod y flwyddyn. Roedd hi am sicrhau'r Cabinet bod y pwysau hyn yn cael eu hadlewyrchu ledled Cymru, ac nad oeddent y unigryw i Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd pwysau sylweddol bellach ar gyllideb eleni, ac ychwanegodd eu bod yn monitro hyn o hyd ac y byddent yn dychwelyd gydag adroddiadau diweddaru a'r sefyllfa'r gyllideb. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, roedd pethau'n newid o'r naill ddiwrnod i'r nesaf, felly roeddent yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y sefyllfa wedi troi'n ddifrifol iawn, a'i fod yn sicr nad oedd wedi gweld rhagolygon ariannol fel hyn o'r blaen. Yn ei holl flynyddoedd yn ymateb i'r cyni ariannol, nid fu'r cyni hwnnw mor ddifrifol â'r heriau o'u blaen heddiw.

 

Eiliodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad, ond nid oedd yn hapus ynghylch sefyllfa'r gyllideb ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd hi am godi ymwybyddiaeth yr Aelodau ynghylch y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, gan dynnu sylw'n arbennig at y ffaith bod yr holl amcanestyniadau cyfredol yn dangos y byddai ganddi orwariant o £7.499 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd y gorwariant mewn meysydd fel anableddau dysgu, cyfleoedd dydd a gofal preswyl i bobl h?n, iechyd meddwl, cyfarpar gofal cartref, ac addasiadau ar gyfer anableddau dysgu. Roedd gorwariant eisoes yn yr holl feysydd hyn, ac roedd rhan o hynny'n deillio o'r galw am y gwasanaethau, gan fod y gwasanaethau'n seiliedig ar alw. Roedd yr her o'n blaenau yn sylweddol ac roedd angen i'r awdurdod godi ymwybyddiaeth y preswylwyr ynghylch hyn. Roedd hi'n bryderus iawn ynghylch sut y byddent yn gallu darparu'r gwasanaeth yn y dyfodol, a sut y byddent yn mynd ati i amddiffyn y preswylwyr a oedd yn fwyaf agored i niwed. Roedd angen i bob aelod, waeth beth fo'u hymlyniad gwleidyddol, godi hyn gyda'u pleidiau gan fod angen iddynt lobïo San Steffan ynghylch y canlyniadau.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod pob un awdurdod lleol yn wynebu'r rhagolygon ariannol hyn. Roedd gorwariant sylweddol o filiynau o bunnoedd yn ystod y flwyddyn, a dim dewisiadau hawdd. Ychwanegodd y byddent yn ceisio sicrhau'r arbedion hynny yr oeddent wedi ymrwymo i'w sicrhau ac yn ystyried unrhyw opsiynau neu offer a oedd ar gael iddynt i sicrhau arbedion pellach. Fel yr oedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wedi'i ddweud yn barod, roeddent eisoes wedi sicrhau dros £60 miliwn o arbedion a thoriadau dros y blynyddoedd cynt. Nid oedd yr arbedion a oedd yn dal i'w sicrhau yn ddigonol i gau'r bwlch.   

 

PENDERFYNWYD:        Bod y Cabinet yn nodi rhagolygon y sefyllfa refeniw ar gyfer 2022-23.

 

Dogfennau ategol: