Agenda item

Rheoli Trysorlys - Chwarter 1 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad ar ragamcan o'r

Dangosyddion Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022-23. Esboniodd gefndir yr adroddiad a rhoi diweddariad ynghylch y sefyllfa gyfredol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod y Cod Rheoli Trysorlys yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor bennu nifer o Ddangosyddion Rheoli Trysorlys ac adrodd arnynt. Roedd manylion yr amcangyfrifon ar gyfer 2022-23 wedi'u nodi yn Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor, yn erbyn rhagamcanion cyfredol, wedi'u dangos yn Atodiad A. Dangosai'r rhain fod y Cyngor yn gweithredu'n unol â'r terfynau cymeradwy.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid ychydig o fanylion ychwanegol am y 2 fuddsoddiad o £8 miliwn gyda Chyngor Thurrock mewn ymateb i'r pryderon a godwyd o sawl tu ynghylch a ddylent fod yn buddsoddi yn y Cyngor ai peidio, gan ei fod yn profi problemau ar hyn o bryd. Rhoddodd sicrwydd i'r Cabinet fod y ddau fuddsoddiad wedi'u gwneud yn unol â'r Strategaeth Rheoli Trysorlys, a hefyd yn unol â'r rhestrau benthyca a oedd wedi'u hargymell gan y Rheolwr Trysorlys a chynghorwyr allanol. Cafwyd cyngor ynghylch benthyca i Gyngor Thurrock yn achos y ddau fuddsoddiad, a gwnaed y buddsoddiadau hynny cyn y cafwyd unrhyw newid i'r cyngor ynghylch y Cyngor hwnnw. Roeddent wedi buddsoddi gyda'r Cyngor hwnnw ers blynyddoedd ac roedd y Cyngor bob amser wedi ad-dalu ar amser ac yn unol â'r cytundebau a sefydlwyd. Ychwanegodd fod Cyngor Swydd Essex bellach wedi'i benodi i rôl Comisiynydd ac Arolygydd Gwerth Gorau yn Thurrock, a olygai mai Cyngor Swydd Essex a oedd bellach yn rheoli materion ariannol Cyngor Thurrock. Roedd Cyngor Swydd Essex wedi cadarnhau y byddai Thurrock yn ad-dalu'r holl arian a fuddsoddwyd iddo, a phe bai angen, byddai'n benthyca drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, i gymryd lle'r buddsoddiadau hynny. Roedd sicrwydd wedi'i roi bod y ddau fuddsoddiad yn ddiogel, ac y byddent yn derbyn yr arian hwnnw'n ôl. Yr ail fater oedd ei bod hi ar hyn o bryd yn anodd iawn rhagweld sut y byddai'r fini-gyllideb ddiweddaraf yn effeithio ar y Cyngor, a beth oedd ei heffaith ar y marchnadoedd. Roedd yr hyn a oedd yn digwydd mewn marchnadoedd cenedlaethol a byd-eang yn dylanwadu'n fawr ar waith rheoli trysorlys, felly byddent yn monitro hynny, ac roedd y cyfraddau llog a oedd yn cael eu cynnig am fuddsoddiadau'n cynyddu, felly byddai'r arian yn gweithio ychydig caletach i'r awdurdod. Pe bai cyfraddau'n codi'n uwch na'r disgwyl, ychwanegodd y byddent yn adolygu'r benthyciadau a oedd ganddynt, yn derbyn cyngor allanol ac yn adrodd gerbron y Cabinet cyn dod i benderfyniad terfynol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Adnoddau i'r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid am esbonio sut roedd y broses rheoli trysorlys yn gweithio. Roedd yn elfen hollbwysig ym mhroses ariannol unrhyw awdurdod lleol, ac roeddent yn derbyn cyngor ariannol arbenigol annibynnol. Roeddent yn aml yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru cyn bod angen ei dynnu i lawr, ac yn gwneud y defnydd gorau o'r cyllid hwnnw.

 

Er mwyn bod mor dryloyw ac agored ag a oedd yn bosibl, esboniodd y Prif Weithredwr ei bod hi'n bwysig iawn bod enghraifft Thurrock wedi'i chrybwyll. Roedd pob awdurdod lleol yn buddsoddi eu harian, weithiau am gyfnod byr gan wybod y byddai arnynt ei angen cyn hir, ond am gyfnod byr roedd hi'n gwneud synnwyr ei fuddsoddi yn rhywle arall, gan greu enillion. Nid oedd yn y lle hwnnw fel arian y gellid ei wario, gan ei fod eisoes wedi'i ymrwymo i ddiben gwahanol, ar ffurf cronfa wedi'i chlustnodi.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd eu bod hefyd yn defnyddio'r asiantaethau statws credyd, Standard and Poor's, Moody's a Fitch - cwmnïau â chydnabyddiaeth ryngwladol, ac roedd cryn ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r asiantaethau hynny wrth benderfynu ymhle i roi arian.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn nodi gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor ar gyfer 2022-23 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 hyd 30 Mehefin 2022, a'r Dangosyddion Rheoli Trysorlys a ragamcanwyd ar gyfer 2022-23.

 

Dogfennau ategol: