Agenda item

Adolygu Targedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-23 fel yr amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad, cyn eu cyflwyno i'r Cyngor i'w cymeradwyo ar 19 Hydref 2022.

 

Yn rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer y Cynllun Corfforaethol ar ei newydd wedd, esboniodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn y cyfnod adfer ar ôl COVID-19, a bod cydnabyddiaeth o'r ffaith bod hynny'n dal i effeithio ar y cylch cynllunio, gan ei gwneud hi'n fwy heriol gosod targedau ar gyfer 2022-23 mewn rhai achosion. Cytunodd y Cyngor fod angen dull hyblyg o osod targedau'r cynllun corfforaethol er mwyn sicrhau bod y broses o gynllunio busnes yn gadarn ac effeithiol. Eglurodd fod atodiad A yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol, a phe baent yn cael eu cefnogi gan y Cabinet a'u cymeradwyo gan y Cyngor, byddent yn cael eu cyhoeddi ar ffurf atodiad i'r Cynllun Corfforaethol cyfredol.

 

Cefnogodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am rywfaint o esboniad ynghylch pam bod targedau wedi'u gostwng, yn enwedig mewn ymateb i'r tîm adnoddau cymunedol. O ran y tîm adnoddau cymunedol, atebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddweud bod gweithgarwch wedi gostwng yn ystod COVID, ac mai canlyniad hynny oedd gostyngiad yng nghanran y bobl yr oedd eu hanghenion gofal wedi gostwng. Ar ôl ailalluogi, roeddent wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl nad oedd ganddynt anghenion gofal ar ôl bod drwy'r gwasanaeth ailalluogi. Roedd hon yn enghraifft allweddol a ddangosai pam nad oedd rhai o'r targedau o fewn y cynllun yn ddefnyddiol iawn.  Gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar fesurau mwy ystyrlon yn y dyfodol, a oedd yn rhoi'r darlun cyfan.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Cymunedau at y pwynt ynghylch datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol, a'r gwaith rhagorol a oedd yn digwydd yn y maes hwnnw. Pwysleisiodd y dylai'r targedau a osodir fod yn heriol. Dylai'r targed o 30% ar gyfer ailgylchu fod yn fwy heriol, gan eu bod eisoes wedi cyrraedd 40.7% ar gyfer 21/22. Awgrymodd newid y targed i 40%.

 

Ar ôl ailystyried, eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol nad oedd y targedau yr oeddent yn bwriadu eu gosod yn gysylltiedig â chyflogaeth, addysg a hyfforddiant i'r rhai sy'n gadael gofal yn ddigon uchelgeisiol. Roedd rhywfaint o nerfusrwydd ynghylch gosod targedau uwch gan fod heriau'n bodoli'n gysylltiedig â data yn y maes hwn. Roedd Bwrdd Gwella Canlyniadau i Blant wedi cael ei sefydlu, a oedd yn elwa ar gynghorydd annibynnol, ac ar ôl ailystyried, nid oedd y targedau'n ddigon uchelgeisiol. Roedd y cyflawniadau gwirioneddol yn uwch na'r targed a chynigiodd y dylid newid yr adroddiad er mwyn anelu i gyflawni'r hyn yr oeddent wedi'i wneud yn y flwyddyn gynt o leiaf.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet yn cymeradwyo targedau diwygiedig y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-2023, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad, (yn amodol ar y newidiadau i'r targedau a gynigiwyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau), a'u hargymell i'w cymeradwyo gan y Cyngor ar 19 Hydref 2022.

Dogfennau ategol: