Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 A phwysigion eraill, fel a ganlyn: Gan mai hwn yw cyfarfod cyntaf y Cyngor llawn ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, hoffwn gymryd eiliad i gydnabod yr achlysur difrifol. Y Frenhines Elizabeth II oedd ein brenhines Brydeinig hiraf a deyrnasodd, ac er bod ei marwolaeth yn golled enfawr i’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, mae’n gadael etifeddiaeth barhaol o gryfder ac ysbrydoliaeth ar ei hôl. Cyn gynted ag y clywsom am ei marwolaeth, mynegodd yr awdurdod ei gydymdeimlad diffuant â'i Fawrhydi, y Brenin Siarl, a'r Teulu Brenhinol. Chwifiwyd baneri ar hanner mast y tu allan i’n hadeiladau dinesig, ac fel arwydd o barch, roedd y Swyddfeydd Dinesig, Pafiliwn y Grand a Neuadd y Dref yn Maesteg i gyd wedi’u goleuo gyda’r nos mewn porffor, hoff liw’r diweddar sofran. Roedd llyfrau cydymdeimlad ar gael mewn byr dro i alluogi’r gymuned leol i gofnodi eu negeseuon personol. Fe glustnodwyd ardal o dan bolyn y faner yn y Swyddfeydd Dinesig ar gyfer arddangos y teyrngedau blodau yr oedd llawer o bobl am eu cyflwyno. Gwelsom gyfres o ddigwyddiadau ffurfiol fel rhan o'r cyfnod o alaru cenedlaethol, gan gynnwys seremoni'r Cyhoeddiad Brenhinol a gynhaliwyd y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig. Er mwyn sicrhau bod pob un ohonom yn gallu cymryd rhan yn angladd y wladwriaeth, aildrefnwyd nifer enfawr o wasanaethau’r cyngor a oedd yn cynnwys ysgolion, swyddfeydd y cyngor, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau gwastraff, ailgylchu ac eraill. Ar ran yr holl Aelodau, Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a dinasyddion y Fwrdeistref Sirol, fe hoffwn ddiolch i staff a rheolwyr am eu hymdrechion i ddarparu ar gyfer hyn oll, ac am drefnu nifer sylweddol o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod cenedlaethol o alar a sicrhaodd fod pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu talu teyrnged mewn modd priodol ac effeithiol tra'n dal i elwa ar y gwasanaethau hanfodol.

 

Fe hoffwn ddiolch yn arbennig i dîm y Gwasanaethau Democrataidd am y gefnogaeth a gefais yn bersonol fel Maer. Roedd y gefnogaeth hon o'r radd flaenaf ym mhob ffordd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu hymdrechion parhaus.

 

Yn ystod angladd y Frenhines, tawelodd y genedl wrth i ni i gyd gynnal munud o dawelwch. Fe hoffwn hefyd wahodd aelodau i ymuno â mi nawr i gynnal munud arall o dawelwch er cof am y Frenhines Elizabeth.

 

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Fe hoffwn dynnu sylw’r aelodau at fenter newydd sydd wedi’i lansio fel rhan o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Fe’i cynlluniwyd i helpu plant a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gofalu fel gofalwyr di-dâl i berthynas, cymydog neu ffrind.  Mae’r gwasanaeth yn rhoi cymorth uniongyrchol iddyn nhw yn ogystal â chyngor ymarferol, arweiniad a llawer mwy.

 

Mae’r ganolfan ar eu cyfer mewn canolfan newydd ar Five Bells Road. Dyma ganolfan sy’n gofalu am iechyd a lles gofalwyr ifanc yn ogystal â chynnig cyfleoedd iddyn nhw ennill cymwysterau newydd, datblygu sgiliau bywyd pwysig a chymryd rhan mewn gweithdai sy’n seiliedig ar faterion sydd o bwys iddyn nhw yn ogystal â chyfeirio at gefnogaeth bellach.

 

Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu clwb ieuenctid gyda gweithgareddau cymdeithasol amrywiol. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth cludiant cartref sy'n sicrhau bod y gwasanaeth a'i gyfleusterau yn parhau i fod ar gael i bob gofalwr ifanc yn wythnosol.

 

Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg mewn partneriaeth sy’n bodoli rhwng Whitehead-Ross Education, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r gwasanaeth yn rhan o’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, sydd fel y gwyddoch yn cefnogi’r plant a’r oedolion mwyaf agored i niwed o fewn ein cymunedau.

 

Mae’r gwasanaeth newydd gwych hwn eisoes wedi profi’n ffynhonnell werthfawr o gefnogaeth. Rydym yn awyddus y bydd Aelodau’n helpu i ledaenu’r wybodaeth am y gwasanaeth..

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor ynghyd â chymorth a chyngor pellach i ofalwyr di-dâl o bob oed.

 

Gan ei bod yn Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol, hoffwn hefyd sôn yn fyr fod yna amrywiaeth eang o weithgareddau yn cael eu cynnal i nodi’r achlysur, gan gynnwys cyfres addysgiadol o bodlediadau sef ‘Truth Be Told’ sydd ar gael i’w gweld ar-lein.

 

Mae’r rhain yn dilyn set o deuluoedd sydd wedi mabwysiadu a’r plant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Mae’r podlediadau hyn yn cynnig gwybodaeth gwirioneddol ddefnyddiol i unrhyw un a allai fod yn ystyried mabwysiadu. Maen nhw’n ddefnyddiol iawn hefyd os yw aelodau’n ymwybodol o unrhyw unigolion, cyplau neu deuluoedd o fewn eu wardiau a allai fod yn awyddus i dderbyn mwy o wybodaeth.

 

Gallwch weld y podlediadau a deall mwy am yr Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol trwy ymweld â'u gwefan yn www.adoptcymru.com.

 

Fe hoffwn hefyd ddiolch i’r gofalwyr maeth y treuliais y diwrnod gyda nhw yn trafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw fel unigolion, yn ogystal â materion yn ymwneud â pholisïau newydd a gweithredu’r rhain. Hefyd yn destun trafodaeth, oedd y cynnydd mewn lwfansau, y ddarpariaeth ar gyfer seibiant 2 wythnos sy’n cael ei dalu a'n Siarter Gofalwyr Maeth er enghraifft.

 

Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost ers y diwrnod hwnnw, yn diolch i mi am gysylltu ac yn mynegi pa mor werthfawr y maen nhw’n teimlo nawr ein bod yn datblygu ein darpariaeth.

 

Er ein bod yn cydnabod yr her o ran ein darpariaeth gofal cymdeithasol, bu’r Sesiwn Rhianta Corfforaethol gyda’n rhanddeiliaid ledled y Fwrdeistref Sirol yn hynod fuddiol, gan fod hyn nid yn unig wedi ehangu eu dealltwriaeth o’r cyfrifoldebau rhianta corfforaethol, ond a oedd hefyd yn cynnwys gwrando ar leisiau gyda phrofiad o ofal plant a’n bod yn llawn sylweddoli’r cyfleoedd y gall eu sefydliad eu cynnig i’r plant hynny, a hynny er mwyn cyfoethogi eu bywydau ifanc.

 

Aelod Cabinet – Adnoddau

 

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr aelodau i gyd yn dilyn yr anawsterau parhaus sy’n cymryd lle o fewn Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.

 

Yn sgil y gyllideb fach (mini-budget), mae papurau newydd fel y Financial Times eisoes yn sôn am ddychwelyd mesurau llymder, ac mae’r canghellor newydd sef Jeremy Hunt wedi ein rhybuddio i ddisgwyl penderfyniadau llym ar wariant a threthi.

 

Yn erbyn y cefndir hwn, ni ddylai fod yn syndod i chi fel aelodau fod yn rhaid i’n hymgynghoriad cyllidebol ni ar gyfer 2023-24 hefyd fod yn rhybudd llym iawn.

 

 

Yn seiliedig ar y rhagfynegiadau presennol, mae'n edrych yn debygol y bydd yn rhaid i ni wneud gostyngiadau yn y gyllideb. Mae ein modelu ariannol presennol yn dangos diffyg o £20 miliwn yn y gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a bydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd ein hunain er mwyn cyflawni ein cyfrifoldeb cyfreithiol o ddarparu cyllideb ar gyfer y cyngor sy’n gwbl gytbwys. .

 

Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y gostyngiadau yn y gyllideb yr ydym eisoes wedi’u gwneud dros y deng mlynedd diwethaf, gostyngiadau sy’n dod i gyfanswm enfawr o chwe deg dau miliwn o bunnoedd.

 

Nid yw gwneud gostyngiadau pellach yn mynd i fod yn hawdd o gwbl. Rydym eisoes yn wynebu galw cynyddol ar lawer o’r 800 o wasanaethau gwahanol a ddarparwn, gan gynnwys niferoedd digynsail o atgyfeiriadau i’n timau gwasanaethau cymdeithasol a’r nifer uchaf erioed o bobl ddigartref sy’n ceisio llety dros dro.

 

Pan fyddwch chi'n ystyried yr adferiad parhaus o'r pandemig, yr argyfwng costau byw presennol, chwyddiant cynyddol a chostau ynni cynyddol, mae cyllid y cyngor dan straen aruthrol.

 

Dyna pam y bydd mor bwysig i bawb sy’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyllideb sydd ar ddod i gadw golwg realistig.

 

Mae angen inni fod yn glir iawn na fydd gan y cyngor unrhyw ddewis ond gwneud penderfyniadau eithriadol o anodd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Er y bydd y penderfyniadau hyn bob amser yn ceisio amddiffyn yr aelodau mwyaf agored i niwed yn y gymuned, mae'n anochel y bydd yn rhaid i ni edrych ar leihau gwasanaethau a symleiddio ein gweithrediadau.

 

Dyma hefyd pam mae adborth ar osod cyllideb gan ein cymunedau lleol mor bwysig.

 

Rydym am sicrhau ein bod yn gallu gwneud penderfyniadau realistig, ymarferol ar gyfer ein bwrdeistref sirol, ac rydym am gyflawni hyn drwy gydweithio'n agos.

 

Mae'r ymgynghoriad ar y gyllideb yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd, a gall aelodau ddisgwyl cael mwy o wybodaeth amdano yn fuan iawn.

 

Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Rwy’n si?r y bydd yr aelodau wedi nodi, ychydig wythnosau’n ôl, bod y cyngor a’n partneriaid wedi llwyddo i ddod o hyd i lety amgen ar gyfer tri deg naw o drigolion digartref ymhen pedwar diwrnod, a oedd wedi cael llety o’r blaen mewn dau westy glan môr yn Porthcawl fel rhan o’r ymateb cenedlaethol i bandemig COVID-19.

 

Roedd hyn yn ganlyniad cadarnhaol o sefyllfa lai na delfrydol a osodwyd ger ein bron heb fawr o rybudd, a hoffwn anfon fy niolch i dîm tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phawb a’n helpodd i sicrhau bod modd dod o hyd i’r llety mor gyflym.

 

Nawr, gyda’r tywydd yn dechrau troi’n oerach, fe hoffwn ofyn i’r aelodau atgoffa preswylwyr y gallan nhw adrodd yn ôl ar gyfer unrhyw un y maen nhw’n meddwl allai fod yn cysgu ar y stryd i’r tîm tai a’n helpu ni i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at gefnogaeth a chymorth.

 

Y ffordd hawsaf a symlaf o wneud hyn yw ymweld â gwefan Streetlink lle gallwch ddarparu manylion gan gynnwys lleoliad y sawl sy’n cysgu ar y stryd yn ogystal â disgrifiad. Gellir dod o hyd i'r wefan yn: www.streetlink.org.uk

 

Yna bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu â thîm y cyngor lleol ac asiantaethau digartrefedd fel y gellir cynnig cymorth priodol iddyn nhw.

 

Diolch byth, mae nifer y rhai sy’n cysgu allan sydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar unrhyw un adeg yn gymharol fach.

 

Mae'r unigolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gyffredinol yn adnabyddus i'r gwasanaethau sy'n parhau i geisio eu helpu, ac i gydbwyso eu hanghenion, sy'n aml yn gymhleth, ag anghenion y gymuned ehangach.

 

Rydym yn gweithio’n agos ochr yn ochr â nifer o bartneriaid i sicrhau bod unrhyw un sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref yn gallu cael cymorth cynhwysfawr.

 

Mae gwefan y cyngor ei hun yn cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud i atal pobl rhag gorfod cysgu allan, ac os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn cyfarwyddo â’r manylion.

 

Aelod Cabinet – Addysg

 

Efallai y bydd yr aelodau am roi gwybod i’w hetholwyr bod ceisiadau ar gyfer derbyniadau i ysgolion uwchradd ym mis Medi 2023 bellach ar agor.

 

Mae rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr disgyblion cynradd sydd ym Mlwyddyn 6 ar hyn o bryd yn cael eu hysbysu mai’r ffordd gyflymaf a hawsaf o gyflwyno cais yw trwy lenwi ffurflen ar-lein sydd ar gael yn yr adran ‘Fy Nghyfrif’ ar wefan y cyngor.

 

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys tudalen derbyniadau ysgol sy'n cynnig gwybodaeth am wneud cais am le mewn ysgol uwchradd leol, gan gynnwys mapiau o’r dalgylch a llawer mwy.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais fydd 4pm ar 20 Ionawr 2023, a bydd hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi ar 1 Mawrth 2023.

 

Sylwch, gan nad oes derbyniad awtomatig neu warantedig i unrhyw ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol, mae perygl y bydd ceisiadau nad ydyn nhw’n cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, sef 20 Ionawr, ddim yn gallu dewis ar gyfer eu dewis ysgol.

 

Mae hyn yn cynnwys pob ysgol ac eithrio Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, lle mae proses ychydig yn wahanol ar waith.

 

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais i’r ysgol hon gysylltu â nhw’n uniongyrchol i ofyn am ffurflen gais.

 

Aelod Cabinet – Adfywio

 

Roeddwn wrth fy modd yn mynychu agoriad diweddar ar gyfer yr Hwb Cymorth newydd sydd wedi sefydlu i geiswyr gwaith yn ardal Porthcawl.

 

Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei redeg gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ac wedi'i leoli ym Meddygfa Old Portway, yn cynnig cyngor, cymorth a mentora arbenigol i bobl leol ar draws pob agwedd ar hyfforddiant a datblygu sgiliau newydd, chwilio am swyddi newydd, a sicrhau cyflogaeth newydd.

 

Mae'r Hwb ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth, a dydd Iau rhwng 9:30am a 2:30pm. Mae’r Hwb hefyd yn bwriadu cynnal boreau coffi misol ar gyfer ffoaduriaid Wcrain a'u teuluoedd sy’n eu lletya.

 

Mae hyn i gyd yn dilyn agoriad yn ystod yn haf diwethaf Hwb Cymorth arall i geiswyr gwaith, mae’r ganolfan hon wedi’i leoli yn Nh? Llynfi ym Maesteg. Mae’r Ganolfan ar agor ar ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9:30am a 3:30pm.

 

Mae gan y ddwy ganolbwynt ystafelloedd hyfforddi, clwb swyddi, mynediad i adnoddau TGCh a llawer mwy. Gobeithio y bydd yr aelodau'n helpu i ledaenu'r neges am y canolfannau hyn.

 

Ers 2016, mae menter Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi mwy na phum mil o unigolion, gan gynnwys 740 o bobl ifanc.

 

Maen nhw hefyd wedi darparu hyfforddiant i 1,800 o unigolion ac wedi helpu i sicrhau 360 o swyddi gwirfoddol, ac wedi cefnogi 1,740 i mewn i swyddi newydd.

 

Mae’r canolfannau newydd hyn yn cynnig cyfle i bobl elwa ar gyngor a chymorth arbenigol, a hoffwn ddiolch i dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr am eu gwaith da.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Rwy’n si?r y bydd yr aelodau wedi clywed am y digwyddau diweddar lle achosodd glaw trwm i garthffosiaeth gael ei ollwng oddi ar arfordir Porthcawl.

 

Arweiniodd hyn at osod gorchymyn ‘dim nofio’ rhagofalus o 48 awr. Yn ddealladwy felly fe arweiniodd hynny at bryder eang ymysg trigolion lleol.

 

Ar ôl i'r gwastraff gael ei ollwng, fe wnaethom ysgrifennu at D?r Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch pam y digwyddodd, ac i ofyn a oes unrhyw gamau'n cael eu cymryd i osgoi hyn.

 

Mae eu hymateb wedi egluro bod y broblem wedi digwydd oherwydd bod llawer o'r system ddraenio bresennol yn dyddio o'r cyfnod Edwardaidd neu Fictoraidd, felly mae rhai draeniau sydd wedi'u cynllunio i gludo d?r wyneb hefyd yn bwydo i mewn i'r system caethion budr.

 

 

Mae hyn yn golygu, yn ystod cyfnodau pan fu glawiad arbennig o drwm, y gall y gorlifiadau storm ollwng er mwyn atal cartrefi a busnesau rhag cael eu gorlifo.

 

Efallai bod hyn yn dderbyniol pan gyflwynwyd y system, ond mae’n amlwg nad yw’n addas bellach.

 

Fodd bynnag, mae D?r Cymru hefyd yn gwneud gwaith i fynd i'r afael â'r holl orlifo o ganlyniad i’r stormydd a’r niwed amgylcheddol.

 

Gyda mwy na £840 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn rheoli d?r gwastraff rhwng nawr a 2025, mae’r cwmni wedi datgan ei ymrwymiad i liniaru effaith gorlifoedd ar draethau a chyrsiau d?r.

 

Gan weithio gyda rheoleiddwyr amgylcheddol i flaenoriaethu buddsoddiad mewn meysydd sydd wedi gweld yr effaith fwyaf andwyol, mae’r cwmni wedi gwneud ymrwymiad pellach ar orlifo o ganlyniad i stormydd i Lywodraeth Cymru ac mae cynlluniau ar waith i fuddsoddi £130 miliwn ychwanegol drwy ‘hyblygrwydd ariannol’.

 

Mae ei Gynllun Rheoli Draenio a D?r Gwastraff, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn nodi sut mae D?r Cymru yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â chynghorau lleol i ymdrin â materion fel llifogydd, newid yn yr hinsawdd, tynnu d?r arwyneb o’r rhwydwaith carthffosydd, gwella’r amgylchedd a mwy.

 

Rwy’n si?r y bydd yr aelodau’n croesawu’r ymrwymiad hwn. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiad pellach.

 

A gaf i hefyd roi gwybod i'r aelodau na fydd gwasanaeth Shopmobility ar gael dros dro o ganlyniad i waith adfer brys ym maes parcio Brackla One yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae defnyddwyr y gwasanaeth eisoes wedi cael gwybod am y mesur dros dro hwn, sy'n angenrheidiol i sicrhau eu diogelwch parhaus. Gwneir pob ymdrech i'w alluogi i ailddechrau unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

 

Prif Weithredwr

Mae gennyf ddiweddariad cryno iawn a fydd, yn fy marn i, o ddiddordeb i’r aelodau.

 

Byddwch yn ymwybodol, fel rhan o raglen yr awdurdod lleol ar gyfer Darparu Gwasanaethau yn y Dyfodol, fod cryn dipyn o waith wedi’i wneud i gefnogi ein dyheadau i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau.

 

Mae rhan bwysig o hyn wedi cynnwys sicrhau bod ein hystafelloedd cyfarfod wedi'u darparu'n briodol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gweithio hybrid, gan gynnwys yn siambr y cyngor a'r prif ystafelloedd pwyllgora.

 

Mae'n dda gennyf gadarnhau bod hyn bellach yn ei le, a bod yr uwchraddio wedi'i gwblhau.

 

Cyn bo hir bydd aelodau'n derbyn amserlen newydd ar gyfer cyfarfodydd lle byddwch yn gallu mynychu naill ai'n rhithwir neu wyneb yn wyneb.

 

Bydd yr amserlen gychwynnol yn cwmpasu gweddill y mis cyfredol a mis Tachwedd cyfan, a gallwch ddisgwyl derbyn amserlenni pellach wedi hynny.