Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Efallai y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn clywed bod trafodaethau cychwynnol wedi’u cynnal rhwng nifer o sefydliadau cymorth lleol i nodi ffyrdd y gallwn gydweithio i helpu ein cymunedau yn ystod yr argyfwng costau byw.

 

Cyfarfu cynrychiolwyr – sydd hyd yma wedi cynnwys y cyngor, BAVO, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Tai y Cymoedd i’r Arfordir a Heddlu De Cymru – yn ddiweddar i drafod cydlynu a rhannu gwybodaeth am y cymorth amrywiol sydd ganddyn nhw i’w gynnig ar gyfer trigolion.

 

Mae buddsoddiad hefyd yn cael ei wneud i ddatblygu gwefan o’r enw “Cryfach Gyda’n Gilydd Pen-y-bont” a fydd unwaith y bydd y wefan wedi’i chwblhau yn darparu adnodd ar-lein a fydd yn cyfeirio pobl at gymorth sy’n amrywio o weithgareddau am ddim yn eu cymunedau i fan cynnes i gyfarfod.

 

Er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei drefnu a’i gydlynu’n effeithlon, rydym wedi hwyluso secondiad dros dro i aelod o’r tîm Cyflogadwyedd i oruchwylio a chydlynu gweithgareddau’r gr?p.

 

Drwy weithio’n agos ochr yn ochr â chydlynwyr cymunedol y cyngor a BAVO a staff cefnogol cymunedau, byddwn yn cysylltu â thrigolion lleol i ddatblygu rhaglen gymorth gyd gysylltiedig.

 

Ar yr un pryd, fe fyddan nhw’n osgoi dyblygu ymdrechion, er enghraifft, mewn ardaloedd lle y gallai banc bwyd neu leoliad cynnes fod yn weithredol eisoes. Fe fyddan nhw hefyd yn sicrhau bod trigolion lleol yn manteisio’n llawn ar yr holl gymorth presennol sydd ar gael. Cymorth sy’n amrywio o gludiant cymunedol i grantiau ar gyfer gwisg ysgol.

 

Gyda chynllun gweithredu yn cael ei baratoi, bydd mentrau newydd yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r prosiect hwn yn fuan iawn.

 

Yn dilyn y clod o gael eu cydnabod â Gwobr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am y rôl arweiniol y maen nhw wedi’i chwarae mewn achos amlwg yn ymwneud â lles anifeiliaid, mae’r Gwasanaeth Rheoleiddiol sy’n cael ei Rannu wedi’i gydnabod ymhellach gyda gwobr cenedlaethol Paw Prints yr RSPCA 2022.

 

Y tro hwn, cyflwynwyd statws lefel aur i’r bartneriaeth am eu gwaith yn y categorïau ymdrin â ch?n strae ynghyd â materion trwyddedu sy’n ymwneud ag anifeiliaid.

 

Cawsant lwyddiant hefyd yn y categori c?n cenel lle cyflwynwyd gwobr efydd iddyn nhw

 

Efallai y bydd Aelodau’n cofio bod y gwasanaeth hefyd wedi sgorio’n uchel yng ngwobrau 2021, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill gwobr aur yn y categori trwyddedu anifeiliaid, yr unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru i wneud hynny.

 

Rwy’n si?r y bydd yr aelodau am ymuno â mi i longyfarch y tîm, ac i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.

 

Efallai y bydd yr Aelodau hefyd am atgoffa eu hetholwyr bod y cynnig parcio am ddim y mae’r cyngor wedi’i gynnal drwy gydol y pandemig bellach wedi’i ymestyn hyd at 1 Ebrill 2023.

 

Mae’r trefniant hwn wedi’i anelu at gefnogi busnesau a siopwyr lleol wrth i ni ymgodymu â’r pandemig a’r argyfwng costau byw ac mae’n golygu y bydd y tair awr gyntaf am ddim ym maes parcio aml-lawr y Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a rhwng hanner dydd a 3pm yn John Street, Porthcawl.

 

Mae parcio am ddim hefyd ar gael ym maes parcio aml-lawr Llynfi Road ym Maesteg a maes parcio Ffordd Penprysg ym Mhencoed, a bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu eto cyn dechrau’r haf y flwyddyn nesaf.