Agenda item

Derbyn y Cwestiynau canlynol i’r Pwyllgor Gwaith

Cwestiwn gan y Cynghorydd Graham Walter i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

A oes modd i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ddweud wrthyf beth ydym yn ei wneud fel Cyngor i recriwtio pobl i swyddi gwag?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Elaine Winstanley i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

A yw’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn hyderus y bydd modd inni ddiwallu gofynion gofal a chymorth ein preswylwyr agored i niwed yn ystod misoedd y gaeaf?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Davies i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

O ystyried digwyddiadau diweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y soniwyd amdanynt yn y wasg ac mewn rhaglenni dogfen, a yw’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn hyderus bod y Gwasanaethau Plant yn addas i’r diben a bod y gwasanaethau a ddarperir yn ddiogel ac yn effeithiol?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Alex Williams i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

A yw’r Aelod Cabinet dros Gymunedau yn fodlon â’r ffordd y mae gwasanaeth sbwriel ac ailgylchu’r Fwrdeistref Sirol yn cael ei weithredu gan ddarparwr presennol y gwasanaeth; a yw’n fodlon bod y gwasanaeth yn bodloni’r cytundeb a nodir yn nhelerau’r contract; a beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud i ymdrin â’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r gweithredwr yn ystod yr estyniad dros dro i’r contract pan fydd yna fawr ddim cymhelliant masnachol i’r gweithredwr wella’r gwasanaeth a ddarperir?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Ian Williams i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

Mae yna lawer o ddicter tuag at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn sgil y ddarpariaeth hamdden i oedolion a phlant yng Nghaeau Newbridge sydd, i fod yn onest, yn gwbl warthus.

Hoffwn wybod pryd fydd y gwaith i droi ein prif barc yn lle cynhwysol a phleserus i deuluoedd yn dechrau, yn cynnwys gwelliannau i’r maes chwarae eilradd a darparu toiledau a chyfleusterau newid i’r anabl ynghyd ag atyniad addas fel parc sglefrfyrddio i blant h?n a phlant yn eu harddegau.

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd G Walter i'r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ddweud wrthyf beth rydym yn ei wneud fel Cyngor i recriwtio i swyddi gwag?

 

Cadw a recriwtio'r gweithlu gofal cymdeithasol yw'r flaenoriaeth uchaf i'r Cyngor.

 

Mae'n bwysig bod rolau o fewn y Cyngor yn cynnig cyflog teg a chystadleuol gan ystyried y farchnad ar gyfer swyddi mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Cymeradwyodd y Cyngor y polisi taliadau atodol ar sail y farchnad (market supplement policy) ym mis Hydref 2021 ac mae’r atodiad hwnnw wedi’i gymhwyso lle mae’r meini prawf ar ei gyfer wedi’u bodloni ym maes gofal cymdeithasol plant. Yn ogystal, bu adolygiad ehangach o ddisgrifiadau swydd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'n gywir y dyletswyddau a gyflawnwyd. Mae'r adolygiad hwn yn ei dro wedi arwain at werthuso rhai rolau, fel gweithwyr cymdeithasol profiadol, ar radd uwch.

 

Mae'r Cyngor hefyd wedi llunio amrywiaeth o gamau gweithredu i sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn ddeniadol i ddarpar weithwyr. Mae siarteri gweithlu ar gyfer galwedigaethau allweddol mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn cael eu llunio sy'n nodi ymrwymiad y Cyngor i weithwyr fel cyflogwr hyblyg a chefnogol lle gall pobl ddechrau, a datblygu, eu gyrfaoedd. Y sylfaen ar gyfer cymorth i weithlu gofal cymdeithasol yw goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd da a’r cyfle i ddatblygu eu gyrfaoedd a chael mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd rhagorol. Mae'r agweddau hyn yn greiddiol i'r siarter.

 

Mae ffocws mawr ar lesiant y gweithlu gyda mynediad amserol at adnoddau llesiant corfforaethol a chefnogaeth arbenigol pan fo angen. Mae adolygiadau o’r cymysgedd o sgiliau wedi’u cynnal. Mae hyn wedi arwain at greu rolau swyddogion cymorth gwaith arloesol yn y maes cymdeithasol  sy’n golygu bod gweithwyr cymdeithasol â chymwysterau proffesiynol yn cyflawni dyletswyddau y gallan nhw’n unig eu cyflawni a bod cyfleoedd i weithwyr nad ydyn nhw’n weithwyr cymdeithasol symud ymlaen a datblygu eu gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol.

 

Gan gydnabod yr heriau yn y farchnad recriwtio gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi'n sylweddol mewn cynyddu ein gweithlu ein hunain ar gyfer y dyfodol. Mae rolau prentisiaeth mewn gofal cymdeithasol a chymorth busnes hefyd wedi’u creu. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi penodi 16 o bobl fel secondai a hyfforddeion gwaith cymdeithasol i'r cwrs gradd gwaith cymdeithasol. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yng ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu a gweithredu llwybrau gyrfa i ofal cymdeithasol.

 

Mae'r Cyngor yn gyflogwr hyblyg ac mae'n hyrwyddo gweithio hybrid a hyblygrwydd cyfeillgar ar gyfer bywyd teuluoedd ar gyfer y gweithlu  ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y llenyddiaeth ar gyfer recriwtio. Mae staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal uniongyrchol yn y gwasanaethau oedolion a phlant yn cael dewis o oriau cytundebol i adlewyrchu eu hanghenion nhw. Mae cyfnodau pythefnos 9 diwrnod yn cael eu hyrwyddo o fewn timau gwaith cymdeithasol ac mae pecyn adleoli hael ar gael i bobl sy'n symud i ardal Pen-y-bont ar Ogwr i ymgymryd â swydd.

 

Mae rhwystrau i weithio mewn rolau penodol yn derbyn sylw, er enghraifft, bydd rota yn cael ei newid i hwyluso gweithwyr i waith yn y sector gofal cartref. Mae ystwythder hefyd ar gyfer gweithlu sydd ddim yn gyrru. Mae cerbydau trydan hefyd yn cael eu prynu ar gyfer gweithlu sy'n gallu gyrru ond nad oes ganddyn nhw gerbyd ar gyfer y gwaith.

 

Yn ogystal â’r gwaith i ddenu gweithlu o bob rhan o Gymru a’r DU i Ben-y-bont ar Ogwr, mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i recriwtio’n rhyngwladol i swyddi lle mae prinder. Rydym wedi cysylltu ag asiantaeth arbenigol i recriwtio gweithwyr cymdeithasol ac yn ystyried recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol yn rhyngwladol.

 

Lle gallai partneriaid fod mewn sefyllfa well i recriwtio gweithwyr, rydym yn gweithio’n agos gyda nhw ac yn datblygu ein perthynas â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i recriwtio gweithwyr gofal a chefnogi eu gwaith o fewn ein timau integredig.

 

Rydym yn gwella'r ffordd yr ydym yn marchnata ac yn hyrwyddo rolau, gan gydnabod pa mor gystadleuol yw marchnadoedd recriwtio ar hyn o bryd, gan gydnabod bod mwy i'w wneud i hyrwyddo'r cyfleoedd yn gadarnhaol i ddarpar recriwtiaid. Cyfeiriodd un gweithiwr cymdeithasol sydd newydd ei benodi i Ben-y-bont ar Ogwr fel ‘perl cudd’. Mae hyn yn amlygu’r angen i hyrwyddo profiadau cadarnhaol pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol. Mae swydd swyddog marchnata gofal cymdeithasol newydd yn cael ei chreu i gefnogi'r gwaith hwn. Mae ffeiriau recriwtio gofal cymdeithasol pwrpasol yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol yn ogystal â'r ffeiriau recriwtio ar gyfer holl rolau'r Cyngor.

 

Credaf ei bod hefyd yn bwysig nodi bod recriwtio a chadw ein gweithlu yn y gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei drafod o fewn Rhwydwaith Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Cymru, gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ein pryderon dybryd ynghylch ar angen i gynllunio ar gyfer sicrhau gweithlu digonol yn genedlaethol.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd G Walter

 

Pa rôl all y Cyngor ei chwarae, hynny yw'r 51 Aelod, ei wneud wrth gynorthwyo gyda recriwtio?

 

Mae angen i ni edrych ar ein holl brosesau recriwtio a’n mynediad ar y cyfryngau cymdeithasol gyda golwg ar annog ymgeiswyr. Fel Cynghorwyr, mae gan bob un ohonom rôl rhianta corfforaethol a mater i bob un ohonom yw adnabod a chydnabod y rôl hon a’r cyfrifoldebau a ddaw yn ei sgil. Mae’r cyfrifoldeb hwnnw yn cael ei gario gyda chi lle bynnag yr ydych chi ar unrhyw amser. Bydd sesiwn Datblygiad Aelodau ar Rianta Corfforaethol fel rhan o Raglen Datblygiad Aelodau sydd ymlaen ar hyn o bryd ac rwy’n pwyso arnoch i fod yn bresennol. Bydd hwn yn berthnasol ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn Gynghorwyr ers amser gan ei fod yn cynnig hyfforddiant diweddaru yn y maes hynod bwysig yma.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd E Winstanley

 

A oes gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar hyder y byddwn yn gallu bodloni gofynion gofal a chymorth ar gyfer ein preswylwyr sy’n agored i niwed yn ystod misoedd y gaeaf?

 

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel Cynghorau eraill ledled Cymru, mae heriau sylweddol o ran darparu a sicrhau gwasanaethau gofal a chymorth digonol yn y cartref i ddiwallu anghenion gofal asesedig ein preswylwyr mwyaf agored i niwed.

 

Yr wyf yn ffyddiog fod y Cabinet a’r swyddogion yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cefnogi a gwella ein gwasanaethau gofal cartref mewnol a gomisiynir, ond rhaid cydnabod nad ydym bob amser yn gallu diwallu’r angen am wasanaethau mewn modd amserol oherwydd lefel yr angen a heriau’r gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol.

 

Er mwyn cefnogi a helpu i gynyddu capasiti o fewn y sector a gomisiynir, mae darparwyr gofal cartref annibynnol wedi cael £1/awr ychwanegol o fis Awst 2022 hyd at fis Mawrth 2023. Mae meini prawf clir bod yn rhaid i’r cyllid ychwanegol gael ei drosglwyddo i weithwyr gofal i helpu gyda chynnydd mewn costau tanwydd, lle bo angen hynny, a/neu mae'n rhaid eu defnyddio i gynorthwyo gyda recriwtio a chadw staff i gynyddu ein gallu i ddelio gyda’r pwysau presennol ac hefyd yn y dyfodol.

 

O safbwynt gwasanaethau mewnol, mae gwaith parhaus (on-going) ar gyfer gweithwyr gofal yn cynnwys:

 

• Staff presennol yn cael y cyfle i gynyddu oriau eu cytundeb.

 

• Digwyddiadau recriwtio cymunedol/ymgyrchoedd marchnata yn cael eu cynnal.

 

• Mae'r gwasanaeth wedi ystyried ceisiadau gan unigolion nad ydyn nhw’n gyrru a digwyddiadau recriwtio a gynlluniwyd mewn meysydd allweddol ar gyfer unigolion nad ydyn nhw’n gyrru.

 

• Mae cyfraddau teithio â cherbyd wedi cynyddu i £0.50/milltir, sy’n cyd-fynd â newidiadau diweddar ym maes iechyd ac mewn ymateb i’r pwysau sy’n bodoli.

 

• Gweithio gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ganfod cyfleoedd ar gyfer penodiadau ar y cyd i'n timau integredig.

 

Mae rhai opsiynau tymor hirach hefyd yn cael eu hystyried fel dull o wneud gwasanaethau gofal cartref mewnol yn fwy deniadol. Maen nhw’n cynnwys:

 

• Adolygu patrymau gwaith presennol a symud i ffwrdd o drefniant ‘sifftiau hollt’

 

• Ystyried llunio cais o dan y Polisi Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad.

 

• Mae dewisiadau hefyd yn cael eu trafod ar gyfer defnyddio cerbydau trydan cyfun a mwy o recriwtio y ‘cerddwyr’.

 

O ran goruchwylio’r gwaith hwn yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae bwrdd prosiect wedi ei sefydlu ar gyfer edrych ar y pwysau o fewn y gwasanaethau oedolion sefydledig (dan Gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol). Mae hefyd yn monitro ac olrhain cynnydd ac effeithiolrwydd camau gweithredu amrywiol bob pythefnos, yn ogystal â dadansoddi mesurau allweddol, fel gwybodaeth am gapasiti'r gweithlu a rhestrau aros.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Davies

 

O ystyried digwyddiadau diweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr a adroddwyd yn y wasg a thrwy raglenni dogfen’, a oes gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar hyder bod adran Gwasanaethau Plant yn addas at y diben a bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu yn ddiogel ac yn effeithiol?

 

Mae fy ymateb i’r cwestiwn hwn yn cyd-fynd â’r arolygiad gwerthuso perfformiad diweddar o wasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Roedd yr adroddiad arolygu hwnnw’n cydnabod bod y cyd-destun ar gyfer darparu gofal cymdeithasol plant effeithiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn heriol iawn. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn profi ac yn mynd i’r afael â materion y mae llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a thu hwnt yn eu hwynebu.

 

Mae gwasanaethau plant ledled Cymru yn cael eu herio’n arbennig o ran ymateb i anghenion cynyddol plant a theuluoedd yn dilyn y cyfyngiadau symud pandemig, ochr yn ochr â’r anawsterau o sicrhau gweithwyr cymdeithasol parhaol a sicrhau bod digon o lety, gwasanaethau gofal a chymorth ar gael ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal pan fo angen hynny.

 

Rwy’n hyderus bod gennym y blaenoriaethau cywir ar gyfer gwasanaethau plant drwy’r cynllun strategol a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2021. Amlygodd yr arolygiad a gynhaliwyd ym mis Mai fod nifer o welliannau eisoes wedi’u cyflawni ers arolygiad blaenorol a gynhaliwyd y llynedd, ochr yn ochr â’r meysydd i’w gwella’n sylweddol. Fe wnaeth AGC gydnabod fod gan y Cyngor gynllun gweithredu cadarn ar waith, sy’n nodi camau gweithredu dros y 3 blynedd nesaf i wella’r gweithlu, arfer dda, partneriaethau, darpariaeth a sut rydym yn clywed ac yn gweithredu ar lais plant a theuluoedd.

 

Amlygodd yr arolygiad fod yn rhaid i'r Cyngor barhau i sicrhau bod cymorth corfforaethol cadarn ac adnoddau wedi'u blaenoriaethu i gyflawni'r gwelliannau hyn a nodwyd er mwyn mynd i'r afael yn gynaliadwy ag amrywiadau yn ansawdd gwasanaethau ac arferion gwaith cymdeithasol. Mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet a minnau yn parhau i arfer arweinyddiaeth a goruchwyliaeth, ochr yn ochr ag uwch swyddogion atebol, ar gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen.

 

Rwy’n hyderus bod arweinyddiaeth wleidyddol a goruchwyliaeth gan reolwyr yn effeithiol. Drwy’r llywodraethu rydym wedi’i sefydlu drwy’r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant fel ein bod yn cael ein gweld, ac mewn sefyllfa i sicrhau, bod gofal cymdeithasol plant yn cyflawni dyletswyddau statudol ac yn gwella canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd. Mae ‘addasrwydd at y diben’ gofal cymdeithasol plant yn dibynnu’n fawr ar hyn o bryd ar gysylltu â gweithlu interim. Mae Pen-y-bont ar Ogwr, yn gyffredin â Chynghorau eraill, wedi cysylltu â nifer cynyddol o weithwyr asiantaeth ar gyfer timau gwaith cymdeithasol plant er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol a darparu’r cymorth sydd ei angen ar blant a theuluoedd.

 

Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a bu cyfle yn ddiweddar i gyfarfod â’r Dirprwy Weinidog ac rydym yn bwrw ymlaen i wireddu ein blaenoriaethau ar gyfer gwella. Y gweithlu sydd â’r flaenoriaeth uchaf yn ein cynllun gwella 3 blynedd ac fel awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym wedi cymryd camau penodol i gadw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol plant yn y farchnad gyflogaeth heriol iawn ar ôl Covid. Yn ogystal â nifer o gamau gweithredu tymor byr, fel cymhwyso'r taliadau atodol ar sail y farchnad, rydym yn cefnogi mwy o'n gweithlu i ennill cymwysterau proffesiynol, gan gynnwys cynllun meithrin gweithwyr lleol ('grow your own') sy’n sylweddol uwch o secondai a hyfforddeion a recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn rhyngwladol i Ben-y-bont ar Ogwr.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Alex Williams i’r Aelod Cabinet – Cymunedau

 

A yw’r Aelod Cabinet dros Gymunedau yn fodlon â’r ffordd y mae gwasanaeth sbwriel ac ailgylchu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei weithredu gan y darparwr gwasanaeth presennol; yw’n fodlon bod y gwasanaeth yn cyflawni’r cytundeb fel y’i nodir yn nhelerau’r contract; a beth sy'n cael ei wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a wynebir gan y gweithredwr yn ystod yr estyniad ‘stop-gap’ i'r contract lle na fydd llawer o gymhelliant masnachol i'r gweithredwr wella'r gwasanaethau a ddarperir?

 

Mae gan y contract presennol gyda Kier 18 mis ar ôl cyn iddo ddod i ben ar 31 Mawrth 2024. Mae manyleb ar gyfer contract dwy flynedd byr yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd a fydd yn weithredol o Ebrill 2024 - Mawrth 2026. Mae Kier yn tynnu allan o'r farchnad wastraff felly ni fyddan nhw’n gwneud cais am y contract byr hwn.

 

O ran casgliadau a rheolaeth ein 3 CRC, mae Kier yn perfformio’n dda iawn. Mae casgliadau a fethwyd hefyd yn isel iawn ar gyfradd o 43 fesul 100,000 yn gyffredinol ar gyfartaledd. Yn nodweddiadol, gwneir ychydig dros 430,000 o gasgliadau bob mis felly mae cyfradd y casgliadau a fethwyd yn isel. Mae arfer dda nodweddiadol yn y sector hwn yn cael ei gydnabod ar 50 o achosion o fethu bob 100,00 ar gyfer casgliadau wythnosol ac 80 fesul 100,000 ar gyfer casgliadau bob pythefnos.

 

O ran y gost, mae'r gwasanaeth hefyd yn perfformio'n dda. Roedd adroddiad a gyhoeddwyd y mis hwn gan WLGA yn rhestru Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod sydd â'r pedwerydd isaf o ran costau gwastraff cartrefi ac ailgylchu o'r 22 awdurdod yng Nghymru. O gymharu ffigurau Ionawr i Awst eleni â’r llynedd, mae casgliadau ailgylchu a fethwyd wedi gostwng ychydig dros 20%. Mae cwynion a dderbyniwyd bron wedi haneru yn ystod yr un cyfnod.

 

Mae ceisiadau am gynhwysyddion ailgylchu wedi cynyddu 15% o gymharu eleni â'r llynedd sy'n debygol o fod oherwydd bod yr awdurdod yn hyrwyddo'r gwasanaeth yn fwy.

 

Mae perfformiad ailgylchu ein CRCs ar hyn o bryd ar gyfartaledd ychydig dros 90%. Un maes lle cydnabyddir bod Kier wedi cael problemau yw cyflwyno sachau sbwriel glas a bagiau bio, gan arwain at gwynion yn y maes gwasanaeth penodol hwn. Mae hyn wedi digwydd oherwydd materion staffio oherwydd Covid, salwch a'r gallu i recriwtio staff.

 

Ym mis Awst defnyddiwyd adnoddau ychwanegol, gan gynnwys gweithio ar benwythnosau lle'r oedd hynny'n bosibl i ddal i fyny ar yr ôl-groniad. Yn fwy diweddar, roedd problemau staffio parhaus a gwaith dal i fyny ar wyliau banc yn golygu bod y cyflenwadau fesul cam wedi llithro. Er mwyn dal i fyny, dyrannodd Kier 5 rownd i ddosbarthu ar ddydd Sadwrn a dydd Sul er mwyn mynd yn ôl ar y trywydd iawn cyn gynted â phosibl. Rhoddwyd yr adnodd ychwanegol hwn ar waith ar gost i Kier i'w galluogi i ddod yn ôl ar y trywydd iawn. Mae Kier bellach yn ôl lle y dylent fod gyda danfoniadau yn unol â'r amserlen gyhoeddedig. Mae swyddogion yn parhau i fonitro'r rhan hon o'r gwasanaeth yn agos. Dyrennir pwyntiau rhagosodedig hefyd trwy fecanwaith talu'r contract lle na chydymffurfir â nifer o safonau gan gynnwys dosbarthu cynwysyddion.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol i'r pwyllgor craffu, mae arolygon bodlonrwydd y cyhoedd dro ar ôl tro yn dangos lefel uchel amlwg o fodlonrwydd â'r gwasanaeth gwastraff. Bydd ein tîm contract gwastraff yn parhau i fonitro'r gwasanaeth i sicrhau bod hyn yn parhau tan ddiwedd cyfnod y contract gyda Kier ac yn parhau ag unrhyw ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Alex Williams

 

Diolch i’r Aelod Cabinet am ei ymateb ysgrifenedig a nododd hefyd ei werthfawrogiad o’r cysylltiad gydag ef gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau a’i thîm ar y materion a godwyd o fewn y cwestiwn yn y cyfnod rhwng nawr a phan ofynnwyd y cwestiwn gyntaf.

 

Sut fydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod Kier yn bodloni ei rwymedigaethau cytundebol tan ddiwedd eu contract yn 2024 a sut y bydd y fanyleb newydd ar gyfer y contract dwy flynedd o 2024 - 2026, yn sicrhau bod cymhelliad masnachol i gynnal perfformiad uchel mewn rhai ardaloedd (a gwella’r gwasanaethau a ddarperir mewn eraill) er budd trigolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont o ystyried hyd cymharol fyr y contract.

 

Ymateb

 

Mae'r Contract presennol yn cynnwys amodau ynddo sy'n cynnwys cosbau llym os na chaiff yr amodau hyn eu bodloni, fel yr oedd yn ofynnol i'r Contractwr. Byddai'r Contract arfaethedig ar gyfer yr estyniad dwy flynedd o leiaf yn cynnwys yr un amodau llym fel rhan o'r Cytundeb hwnnw, er mwyn sicrhau lefel uchel o berfformiad i’r dyfodol.

 

Nodyn:

 

Roedd yr ymateb i'r cwestiwn olaf i'r Pwyllgor Gwaith oddi wrth y Cynghorydd Ian Williams fel yr amlinellwyd yn Eitem 17 ar yr Agenda wedi'i ddosbarthu'n flaenorol. Nodwyd bod y Cynghorydd Williams wedi colli ei gysylltiad band eang gyda'r cyfarfod ar yr adeg hon yn y trafodion. Nodwyd ymhellach nad oedd unrhyw gwestiynau atodol i'r cwestiwn gwreiddiol a ofynnwyd gan y Cynghorydd Williams.