Agenda item

Rhybudd o Gynnig a Gynigiwyd gan y Cynghorydd Alex Williams

Bod y Cyngor hwn:

 

Yn gofyn i’r Cabinet gynnal adolygiad o Bolisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion CBS Pen-y-bont ar Ogwr 2020/2021; a Pholisi Teithio gan Ddysgwyr 2016 ac:

 

  1. Yn nodi bod Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) yn caniatáu i rieni ddewis naill ai addysg gyfrwng Saesneg, addysg gyfrwng Cymraeg neu addysg seiliedig ar ffydd ar gyfer eu plentyn.
  2. Yn nodi’r adroddiad i’r Cabinet ar y 23ain o Orffennaf 2019 sy’n datgan ym mharagraff 4.35: “Ar gyfer disgyblion sy’n dymuno elwa ar addysg gyfrwng Cymraeg, byddai cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol yn berthnasol i’r ysgol gyfrwng Cymraeg agosaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”
  3. Yn nodi nad yw’r adroddiad ar Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol i’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg 2 ar y 5ed o Chwefror 2020 yn sôn mai i’r ysgol gyfrwng Cymraeg agosaf o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unig y byddai cludiant o’r cartref i’r ysgol yn berthnasol.
  4. Yn nodi na chafodd y polisi hwn ei weithredu’n iawn ym mis Medi 2020 a bod disgyblion wedi cael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol a ariannwyd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn anghywir, ac mai dim ond ym mis Hydref 2021 y canfuwyd y gwall hwn.
  5. Yn nodi bod cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol ar gael i ddysgwyr sy’n byw yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr sy’n dymuno mynychu ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg (YGG Llangynwyd) ond yn gresynu am y cam-gyfathrebu gwallus â rhieni a gofalwyr ar y 13eg o Fehefin 2022 a barodd i rieni, gofalwyr a Phenaethiaid Ysgol Gynradd Dolau ac Ysgol Gyfun Llanhari gredu bod dysgwyr yn gymwys i gael cludiant o’r cartref i’r ysgol, cyn darganfod yn annisgwyl ddiwedd mis Awst na fyddent yn derbyn cludiant o’r cartref i’r ysgol, wythnos cyn i’r plant ddechrau yn yr ysgol uwchradd ac ar ôl iddynt eisoes fynychu gweithgareddau pontio Blwyddyn 6/Blwyddyn 7 a’r rhieni/gofalwyr hefyd wedi prynu gwisg ysgol.
  6. Yn gresynu nad oedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn teimlo bod angen cyfleu'r gwall gweinyddol a ganfuwyd ym mis Hydref 2021 i Ysgol Gynradd Dolau; Ysgol Gyfun Llanhari a rhieni / gofalwyr er mwyn iddynt allu cynllunio ar gyfer yr effaith y byddai dileu cludiant o’r cartref i’r ysgol yn ei chael ar addysg plant wrth drosglwyddo ym mis Medi 2022.
  7. Yn croesawu’r ffaith y bydd dysgwyr sydd eisoes wedi trosglwyddo o Ysgol Gynradd Dolau i Ysgol Gyfun Llanhari cyn i’r polisi newid yn parhau i dderbyn cludiant o’r cartref i’r ysgol a ariennir gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr i Ysgol Llanhari nes iddynt gwblhau eu haddysg ysgol uwchradd gan fod darpariaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol eisoes wedi'i darparu ac, o ganlyniad, na allai CBS Pen-y-bont ar Ogwr gyfiawnhau dileu'r ddarpariaeth.
  8. Yn nodi bod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth ynghylch hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; yn nodi bod “Teithio gan Ddysgwyr: darpariaeth statudol a chanllawiau gweithredol (2014)” Llywodraeth Cymru yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol hyrwyddo mynediad at addysg gyfrwng Cymraeg; ac nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn cau allan gludiant o'r cartref i'r ysgol y tu allan i'r sir.
  9. Yn croesawu’r uchelgais hirdymor i roi cymhelliad i addysg Gymraeg yn y sir ond yn gresynu at effaith ymarferol Polisïau Mynediad i Ysgolion a Theithio i Ddysgwyr CBSP sydd, gyda’i gilydd, wedi peri (mewn rhai achosion) bod rhieni yn dewis tynnu eu plant allan o addysg Gymraeg oherwydd diffyg cyfathrebu ac effaith emosiynol negyddol y cynnwrf hwn yn gwahanu grwpiau cyfeillgarwch a gwahanu brodyr a chwiorydd.
  10. Yn nodi bod Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol yn dal ar gael o Ysgol Gynradd gyfrwng Saesneg Abercedin yn Evanstown i Ysgol Gymunedol Tonyrefail fel rhan o Bolisi Derbyn i Ysgolion presennol CBS Pen-y-bont ar Ogwr (a threfniadau cysylltiedig), sy’n groes i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn yr ystyr ei fod yn gwahaniaethu’n weithredol yn erbyn y Gymraeg drwy wrthod i ddisgyblion o CBS Pen-y-bont ar Ogwr a oedd yn derbyn addysg gynradd yn Ysgol Gynradd Dolau neu Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail gael mynediad i Gludiant tebyg o’r Cartref i’r Ysgol y tu allan i’r sir i Ysgol Gyfun Llanhari wrth drosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd.
  11. Yn annog CBS Pen-y-bont ar Ogwr i weithio ar y cyd â CBSRhCT i ymgysylltu’n gynnar a chyfleu i holl rieni a gofalwyr y dysgwyr hynny yn Ysgol Gynradd Dolau sy’n byw yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd NA fyddant yn gymwys i gael cludiant o’r cartref i’r ysgol i Ysgol Gyfun Llanhari pan fyddant yn trosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus ar gyfer addysg eu plant yn y dyfodol.
  12. Yn nodi bod awdurdodau lleol eraill ar hyn o bryd yn cynnig rhai ‘seddau talu’ ar eu cerbydau cludiant o’r cartref i’r ysgol ac yn galw ar CBS Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau bod pob tendr contract yn y dyfodol ar gyfer gweithredwyr cludiant ysgol yn gofyn am gydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) i ganiatáu ar gyfer seddau y telir amdanynt ar gludiant ysgol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Williams welliant i’w Rybudd o Gynnig gwreiddiol, fel yr amlinellwyd yn Eitem 18 ar Raglen y cyfarfod heddiw, yn dilyn peth ymgynghori a chydweithio adeiladol gyda’r Aelod Cabinet - Addysg. Arweiniodd y gwelliant hwn at ddisodli’r cynnig gwreiddiol gyda’r hyn a gynigiwyd fel a ganlyn:-

 

‘Bod y Cyngor hwn yn:

 

Yn cadarnhau y bydd y Cabinet yn adolygu Polisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Polisi Teithio ar gyfer dysgwyr a bod y Cabinet yn cydnabod yr holl bwyntiau a godwyd ganddo yn y cynnig gwreiddiol a fyddai i gyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad. ‘

 

Fel rhan o'i sylwadau, dywedodd y Cynghorydd Williams ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn gohebiaeth gan y Cabinet ar amserlen yr adolygiad, fel y gellir craffu ar y ddau bolisi drwy gyfrwng y broses Trosolwg a Chraffu maes o law.

 

Fel dull o gydsynio, fe gefnogodd aelodau'r Cyngor y Rhybudd o Gynnig diwygiedig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Williams.