Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a’i bwrpas oedd cyflwyno i'r Cyngor Adroddiad Blynyddol drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2021/22. Gofynnodd i'r Aelodau i gadarnhau'r adroddiad, y dadansoddiad o'r adroddiad, y cryfderau a’r meysydd i’w gwella o fewn gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Nodwyd hefyd y camau nesaf.

 

Fel cyd destun, fe eglurodd fod Llywodraeth Cymru, yn dilyn gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (SSWBA) 2014, wedi paratoi fframwaith perfformiad gyda’r nod o sicrhau bod awdurdodau’n adrodd ar berfformiad ac yn cael ei werthuso yn ei erbyn canlyniadau'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ddau amcan polisi allweddol:

 

• gwella'r canlyniadau llesiant i bobl sydd angen gofal a chymorth;

• a diwygio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mae hefyd yn ceisio:

 

• trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl a rhoi llais cryfach a rheolaeth iddyn nhw;

• hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth ym maes gofal cymdeithasol;

• a, gwella rôl ataliol gofal cymdeithasol ac iechyd, gan nodi dyletswyddau llesiant trosfwaol i leihau neu ohirio'r angen am ofal a chymorth.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod SSWBA yn rhoi pwyslais cryf ar hyrwyddo lles pobl sydd angen gofal a chymorth a hefyd gofalwyr sydd angen cymorth. Mae’n bwysig bod barn a llais pobl a’u gofalwyr yn cael eu clywed.

 

Nod yr Adroddiad Blynyddol ychwanegodd (Atodiad 1 i'r adroddiad) oedd rhoi trosolwg o ofal cymdeithasol i'r Cyngor a phobl sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ei nod yw tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn ystod 2021/22 a bod yn glir ynghylch cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella, a nodi blaenoriaethau ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod paratoi'r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad, yn seiliedig ar dystiolaeth o effeithiolrwydd. Roedd y gweithlu ar draws y gwasanaethau wedi cyfrannu at baratoi'r adroddiad hwn ac mae tystiolaeth yn yr adroddiad o adborth gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr ynghyd ag adborth gan bartneriaid trydydd sector.

 

Mae’r canllawiau ar gyfer yr adroddiad yn nodi’r adrannau mewn perthynas â’r chwe safon ansawdd genedlaethol ar gyfer llesiant:

 

• Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl am eu cyflawni;

• Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hybu iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol pobl;

• Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed;

• Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas;

• Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthynas ddomestig, teuluol a phersonol iach yn ddiogel;

• Gweithio gyda phobl a'u cefnogi i gyflawni mwy o les economaidd, i gael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy'n diwallu eu hanghenion.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r prif gyflawniadau yn 2021/22 gan ystyried yr heriau a wynebwyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu'r blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn 2022/23.

 

Roedd yr adroddiad yn tystio i ddatblygiadau gwasanaeth allweddol a gwelliannau a wnaed yn ystod 2021/22, tra’n cydnabod y meysydd hynny lle mae angen gwelliannau a newid. Nododd yr adroddiad hefyd y risgiau a'r heriau sylweddol a wynebwyd wrth i'r Cyngor symud ymlaen. Mae’r wybodaeth hon wedi llywio blaenoriaethau allweddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2022/23.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at rywfaint o wybodaeth allweddol am ddadansoddiad Rheoleiddiol o berfformiad, gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant o'r diwedd fod y blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 wedi'u manylu yng Nghynllun Busnes y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Dangoswyd y 10 blaenoriaeth gyffredinol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn 2022/23 yn fanylach ym mharagraff 4.10 yr adroddiad.

 

Nodwyd y camau nesaf penodol ychwanegol ar ddiwedd pob un o'r 6 safon yr adroddir arnyn nhw.

 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn fanylach am agweddau o Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-22 a disgwyliadau, nodau ac amcanion y dyfodol trwy gyflwyniad PowerPoint ategol.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yn dymuno cofnodi ei diolch i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i thîm am yr hyn a fu’n 12 mis hynod o anodd ar draws y Gyfadran, o ganlyniad i alw sylweddol gan breswylwyr ac effaith uniongyrchol y rhain ar staff a'r preswylwyr eu hunain.

 

Roedd heriau parhaus y byddid yn mynd i'r afael â nhw wrth i'r Gyfarwyddiaeth symud yn ei blaen. Mae’r heriau hyn yn sylweddol a’n bod ni hefyd yn gweithredu o fewn cyfyngiadau'r argyfwng costau byw, canlyniad y rhyfel yn Wcráin, yn ogystal âg effeithiau Covid ar iechyd ein dinasyddion.

 

Y prynhawn yma, byddai eitemau eraill ar yr agenda yn parhau i roi blas ar yr heriau a wynebodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nid yn unig o ran y prosesau pennu cyllideb, ond hefyd o ran recriwtio a chadw staff allweddol.

 

Ychwanegodd, ers iddi gael ei phenodi i'w rôl yn y Cabinet, ei bod wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o'r heriau hyn a oedd yn ein hwynebu. Bu'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ers dros 30 mlynedd ac nid oedd erioed wedi profi'r diffyg cyllid a oedd i ddod ar ôl blynyddoedd o brofi cyni.

 

Nid oedd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol erioed o'r blaen wedi profi'r gofynion presennol gan breswylwyr, ac nid oedd hi erioed o'r blaen wedi profi'r anawsterau wrth recriwtio staff gofal cymdeithasol cymwys a phrofiadol.

 

Fel Aelod Cabinet ar gyfer y portffolio hwn, daeth i ben drwy ddweud y byddai’n parhau i gynghori a diweddaru’r Aelodau ar y pwysau parhaus yma, yn ogystal â bod ar gael i drafod gydag unrhyw Gynghorydd y tu allan i’r cyfarfod, os bydden nhw’n dymuno trafod y materion hyn ymhellach, mewn mwy o fanylder.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 71 o'r adroddiad a nododd, mai dim ond 20 o ofalwyr oedd wedi cymryd rhan yn y gwelliannau Llesiant a gofynnodd pam fod y nifer mor isel. Gofynnodd hefyd sut y gallem gysylltu ymhellach â gofalwyr ifanc, er mwyn derbyn eu barn ar yr uchod ac edrych ar ffyrdd o ganfod mwy o ofalwyr ifanc yn gyffredinol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol fod cysylltu ag 20 o ofalwyr ifanc newydd yn gam cyntaf o raglen tymor hir. Roedd y cynllun i’w weld yn gweithio gydag ysgolion uwchradd a’u bod bellach yn symud i ysgolion cynradd hefyd yn ogystal â’r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc. Gan fod y gwaith datblygu yn symud ymlaen, roedd y cysylltiad â gofalwyr ifanc wedi cynyddu o 20 i 190.

 

Roedd yr Aelod hefyd yn bryderus ynghylch y nifer cynyddol o atgyfeiriadau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r pwysau ar staff sydd eisoes dan bwysau i gefnogi'r rhain, gan gynnwys ym maes Iechyd Galwedigaethol. Nododd yn arbennig fod pwysau o ran pobl yn ceisio dod i gysylltiad cychwynnol â staff, er enghraifft dros y ffôn. Gofynnodd felly a fyddai'r bwriad am recriwtio pellach yn cynnwys hyn yn ogystal â defnyddio'r System Atgyfeirio.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod maes gwaith Therapi Galwedigaethol wedi dangos rhai gwelliannau, fel amseroedd aros am asesiadau a chafodd hyn ei gydnabod gan Archwiliad Mewnol a gynhaliwyd a chafwyd canlyniad rhagorol. Fodd bynnag, roedd heriau mewn perthynas â’r System Deleffon yn ein pwynt(iau) mynediad cyffredin ‘drws ffrynt’. Ychwanegodd y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod lefelau cyswllt cychwynnol yn gwella.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod ein darpariaeth gofalwyr ifanc yn esblygu i gyd-fynd â chynnydd mewn angen a bod yr Awdurdod a’i bartneriaid allweddol yn ymdrechu i ganfod mwy o ofalwyr ifanc yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Gofynnodd yr Aelod gwestiwn dilynol pellach, sef a yw’r Cyngor yn ceisio lleihau nifer staff asiantaethau ac yn edrych i recriwtio mwy o weithwyr cymdeithasol fel gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â ‘denu ein pobl ein hunain’ o fewn y gweithlu.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant drwy ddweud bod meysydd o’r gwasanaeth yn dal i fod yn ddibynnol iawn ar staff Asiantaeth, yn enwedig o ran ein gwasanaeth ‘drws ffrynt’ sydd 60% yn uwch nag y dylai fod ar hyn o bryd. Roedd yn her ceisio lleihau'r ddibyniaeth hon ar staff o'r fath dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig gan nad oedd pobl â chymwysterau proffesiynol yn y maes gwaith hwn yn brin ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 46 o'r adroddiad a chroesawodd y Strategaeth mewn perthynas ag Iechyd Meddwl Oedolion a'r traws-gydweithio o ran gweithio gyda Phartneriaid Iechyd i gefnogi hyn. Roedd yn gobeithio y byddai'r gwaith yma er mwyn cyflawni'r Strategaeth orau, wedi'i gynnwys gyda phartneriaid gofal sylfaenol, gan fod rhagnodi cymdeithasol yn darparu cymorth i unigolion sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod gweithio mewn partneriaeth mewn perthynas â chefnogaeth a darpariaeth y Strategaeth yn y dyfodol, yn cynnwys gweithio gyda Meddygon Teulu a rhanddeiliaid allweddol fel BAVO, ac ati.

 

Daeth yr Arweinydd â’r ddadl ar yr eitem hon i ben, drwy ddweud bod pwysau a heriau’n cael eu profi ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol nid yn unig ar lefel Cymru Gyfan, ond ar draws y DU hefyd. Er mwyn ceisio lleddfu’r pwysau hwn, roedd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi sefydlu Pwyllgor Gweithredu Gofal er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau hwn, er mwyn cefnogi gofal i bobl h?n yn ein cymunedau.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ategol: