Agenda item

Diweddaru’r Rhaglen Gyfalaf Chwarter 2 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd:

 

• cydymffurfio â gofyniad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ‘The Prudential Code for Capital Finance in Local Authorities’ (argraffiad 2017);

 

• rhoi diweddariad ar sefyllfa'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022-23 ar 30 Medi 2022 (Atodiad A o'r adroddiad);

 

• ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer

2022-23 hyd at 2031-32 (Atodiad B);

 

• nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2022-23 (Atodiad C)

 

Eglurodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyllid cyfalaf a rheolaethau cyfrifyddu, gan gynnwys rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a'r hyn sydd i'w drin fel gwariant cyfalaf. Maen nhw’n addasu arferion cyfrifyddu mewn amrywiol ffyrdd er mwyn atal effeithiau andwyol ar adnoddau refeniw awdurdodau.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y Cyngor ei fod, ar 23 Chwefror 2022, wedi cymeradwyo cyllideb cyfalaf o £69.979 miliwn ar gyfer 2022-23 fel rhan o raglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2022-23 hyd at 2031-32. Cafodd y rhaglen ei diweddaru ddiwethaf a’i chymeradwyo gan y Cyngor ar 20 Gorffennaf 2022.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y canlynol:

 

• Monitro Rhaglen Gyfalaf chwarter 2 2022-23;

• Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 hyd at 2031-32;

• Monitro'r Strategaeth Gyfalaf;

• Dangosyddion darbodus a dangosyddion eraill.

 

O ran diweddariad ar gyfer Chwarter 2 Rhaglen Gyfalaf 2022-23, cyfeiriodd yr Aelodau at baragraff 4.1 o'r adroddiad, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y Rhaglen ar gyfer y cyfnod hwn ers iddi gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, ac a oedd yn ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Cyfanswm y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 ar hyn o bryd yw £89.539 miliwn, a thelir £54.043 miliwn ohono o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda’r £35.496 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid hefyd at y Tablau ar dudalen 191 o’r adroddiad, sef Tabl 1 a oedd yn cynnwys y Rhaglen Gyfalaf fesul Cyfarwyddiaeth ar gyfer 2022-23, gyda Thabl 3 yn crynhoi’r tybiaethau ariannu cyfredol ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf. 2022-23.

 

Roedd Atodiad A i'r adroddiad wedyn yn rhoi manylion y cynlluniau unigol o fewn y Rhaglen Gyfalaf, gan ddangos y gwariant a ragwelir ar 30 Medi 2022 yn erbyn y gyllideb oedd ar gael.

 

Dywedodd fod nifer o gynlluniau eisoes wedi'u nodi fel rhai fydd angen cynnwys llithriad yn y gyllideb i'r dyfodol (2023-24 a thu hwnt). Yn chwarter 2, cyfanswm y llithriad y gofynnwyd amdano yw £7.207 miliwn, a oedd yn cynnwys y cynlluniau a ddangosir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

O ran Rhaglen Gyfalaf 2022-23 ymlaen, cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, ers mis Gorffennaf 2022, fod nifer o gynlluniau newydd a ariennir yn allanol a gymeradwywyd a chynlluniau a ariennir yn fewnol wedi’u hymgorffori yn y Rhaglen Gyfalaf, fel y dangoswyd yn paragraffau 4.5 a 4.6 (yr adroddiad).

 

 

Roedd paragraff 4.7 wedyn yn cyfeirio at y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig yn Atodiad B i'r adroddiad, tra bod Atodiad C yn manylu ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2021-22, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2022-23 a nodir yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a'r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2022- 23 yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig. Mae'r rhain yn dangos bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â'r terfynau cymeradwy.

 

Roedd rhan olaf cyflwyniad y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, yn cyfeirio at faterion yn ymwneud â Monitro Strategaeth Gyfalaf, ac ymhelaethodd arnyn nhw er budd y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cynnig i greu estyniad i Ysgol Gynradd Coety a gofynnodd a oedd cost am y gwaith yn fwy na'r amcangyfrif o £1.6 miliwn, yna a fyddai'r arian ychwanegol hwn yn cael ei ganfod er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn amodol ar y broses ymgynghori ar ehangu’r ysgol y byddai’r gwaith yn mynd rhagddo fel rhan o’r prosesau statudol arferol ar gyfer cynlluniau o’r math hwn a chaniatâd cynllunio ar gyfer yr estyniad arfaethedig i’r ysgol y byddai’r cynllun yn mynd yn ei flaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddyraniad o £500k o Gyllid Cyfalaf i'w ymrwymo ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu a gofynnodd am ddiweddariad ar y cynnydd sydd wedi’i gyflawni.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau nad oedd ganddi'r manylion manwl hyn wrth law, ond byddai'n falch o rannu hyn gyda'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod.

 

Nododd Aelod fod yr adroddiad wedi nodi llithriad o £7 miliwn ar gyfer cynlluniau cyfalaf o'r flwyddyn ariannol hon i'r nesaf. Gofynnodd a oedd y swm hwn hefyd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw gostau chwyddiant a chynnydd mewn costau materol ar gyfer y gwaith a gynigir felly, ac ati.

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod yr adroddiad yn cynnwys y rhesymau pam y bu’n rhaid i rai cynlluniau lithro o’r flwyddyn hon i’r flwyddyn nesaf, gyda rhai ohonyn nhw’n agos iawn at gychwyn, felly roedd hi’n hyderus y byddai’r cynlluniau hyn yn cael eu costio fel y maen nhw wedi cael ei amcangyfrifo. Gellid addasu cynlluniau oedd ymhellach ymlaen ar sail cost, gydag unrhyw newidiadau i'r gwaith yn cael eu newid yn ôl yr angen, felly roedd hi'n hyderus na fyddai'r cynlluniau hyn yn dod ag unrhyw bwysau o ran costau uwch sylweddol i'r Awdurdod.

 

Nododd Aelod hefyd o’r pecyn adroddiadau bod costau amcangyfrifedig gwahanol mewn gwahanol rannau ohono ar gyfer gwaith Cosy Corner ym Mhorthcawl. Gofynnodd am eglurhad pa un o'r rhain oedd y ffigwr cywir, ac ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau mai'r dyraniad oedd ar gael i adeiladu'r cynllun oedd £2.675 miliwn.

 

PENDERFYNWYD:                     Bod y Cyngor:

 

• Yn nodi’r diweddariad ar gyfer Chwarter 2 Rhaglen Gyfalaf 2022-23 y Cyngor hyd at 30 Medi 2022 (Atodiad A i’r adroddiad y cyfeirir ato).

 

• Yn cymeradwyo'r rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (yn Atodiad B).

 

• Yn nodi’r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2022-23 (Atodiad C).

 

Dogfennau ategol: