Agenda item

Adroddiad Alldro Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd:

 

• Cydymffurfio â gofyniad ‘Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ (y Cod) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth i gyflwyno trosolwg o weithgareddau’r trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

 

• Cyflwyno adroddiad o wariant gwirioneddol o Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021-22.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndirol a oedd yn cynnwys nodyn atgoffa i’r Aelodau mai Arlingclose oedd ymgynghorwyr rheolaeth i’r trysorlys ar gyfer y Cyngor.

 

Roedd y gwasanaethau presennol a ddarperir i’r Cyngor yn y trefniant hwn yn cynnwys:

 

• cyngor ac arweiniad ar bolisïau, strategaethau ac adroddiadau perthnasol;

• cyngor ar benderfyniadau buddsoddi;

• hysbysiad am statws credyd a newidiadau;

• gwybodaeth arall am ansawdd credyd;

• cyngor ar benderfyniadau rheoli dyled;

• cyngor cyfrifo;

• adroddiadau ar berfformiad y trysorlys;

• rhagolygon o gyfraddau llog; a

• chyrsiau hyfforddi

 

O ran y sefyllfa bresennol, cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod yr adferiad economaidd parhaus yn dilyn pandemig coronafeirws, ynghyd â’r rhyfel yn yr Wcrain, chwyddiant cynyddol, a chyfraddau llog uwch yn faterion pwysig yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22.  Roedd cyfradd Sylfaen y Banc ar ddechrau'r cyfnod adrodd yn 0.1%. Gwelodd misoedd Ebrill a Mai 2021 yr economi yn cynyddu momentwm wrth i'r cyfyngiadau yn ystod y pandemig gael eu lleddfu. Er gwaethaf gwell rhagolygon, disgwyliadau'r farchnad oedd y byddai Banc Lloegr yn gohirio codiadau mewn cyfraddau llog tan 2022. Fodd bynnag, fe welwyd cynnydd mewn chwyddiant sy'n parhau i gynyddu. Roedd CPI y Deyrnas Unedig yn 0.7% ym mis Mawrth 2021 ond mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu’n raddol ers hynny. Cafodd chwyddiant ei sbarduno i ddechrau gan gynnydd mewn prisiau ynni a chwyddiant mewn sectorau fel manwerthu a lletygarwch a oedd yn ailagor ar ôl y cloeon y pandemig. Credwyd ar y pryd mai dros dro y byddai cynnydd mewn chwyddiant. Fodd bynnag, ar gyfer Chwefror 2022 fe welwyd ffigwr o 6.2% flwyddyn ar ôl blwyddyn, i fyny o 5.5% yn ystod y mis blaenorol yn ôl y Prif Swyddog Cyllid.

 

O ran y cyd-destun ariannol, fe eglurodd, bod cynyddu cyfradd Sylfaen y Banc o 0.1% i 0.25% ym mis Rhagfyr 2021 fe gododd Banc Lloegr y gyfradd ymhellach i 0.5% ym mis Chwefror 2022 a chynnydd pellach i 0.75% ym mis Mawrth 2022. Yn ystod mis Mawrth fe wnaeth Pwyllgor Polisi Ariannol (MPC) ddatgan bod goresgyniad yr Wcrain wedi achosi cynnydd sylweddol pellach mewn prisiau ynni a nwyddau eraill, gyda’r disgwyl y bydd y gwrthdaro yn gwaethygu’r gadwyn gyflenwi ledled y byd ac yn gwthio chwyddiant CPI i tua 8% yn ddiweddarach yn 2022.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod Trysorlys Ei Fawrhydi ym mis Awst 2021 wedi diwygio’n sylweddol y canllawiau ar gyfer cyfleuster benthyca PWLB. Bydd Awdurdodau sy'n prynu neu'n bwriadu prynu asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer arenillion, neu enillion ariannol, ni fydd yn gallu cael mynediad i'r PWLB ac eithrio i ail gyllido benthyciadau presennol neu i allanoli benthyciadau mewnol. Mae defnydd derbyniol o fenthyca PWLB yn cynnwys darparu gwasanaethau, tai, adfywio, gweithredu ataliol, ail-ariannu a rheoli’r trysorlys. Dangoswyd mwy o wybodaeth mewn perthynas â hyn ym mharagraff 4.2.2 o’r adroddiad.

 

O ran Alldro Rheoli’r Trysorlys, dywedodd fod crynodeb o weithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer 2021-22 wedi’i ddangos yn Atodiad A o'r adroddiad. Dangoswyd sefyllfa’r ddyled a buddsoddiad allanol y Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 yn Nhabl 1 o’r adroddiad. Rhoddwyd mwy o fanylion yn Atodiad A, Adran 2, Strategaeth ac Alldro Benthyca, ac Adran 3, Strategaeth Fuddsoddi ac Alldro. Ni chymerwyd unrhyw fenthyca hirdymor yn 2021-22 ac ni chyflawnwyd unrhyw aildrefnu dyled gan nad oedd unrhyw arbedion sylweddol i'w gwneud. Fodd bynnag, pe bai cyfle i aildrefnu unrhyw fenthyciadau ar gyfradd ffafriol, byddai hyn yn cael ei wneud. Mae llifoedd arian ffafriol wedi darparu arian dros ben ar gyfer buddsoddi a’r balans ar fuddsoddiadau ar 31 Mawrth 2022 oedd £84.07 miliwn, gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.43%. Roedd hyn yn gynnydd o’r balansau ar 31 Mawrth 2021, pan oedd y balans yn cael ei nodi fel £51.55 miliwn ar gyfradd llog gyfartalog wedi’i phwysoli o 0.21%.

 

Roedd Tabl 4 yn Atodiad A yn manylu ar symudiadau’r buddsoddiadau yn ôl mathau parti i gontract ac yn dangos y balansau cyfartalog, llog a dderbyniwyd, hyd gwreiddiol a chyfraddau llog ar gyfer 2021-22.

 

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad cyfeiriodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid at yr arian a fuddsoddwyd gyda Chyngor Thurrock, gan fod nifer o aelodau wedi codi'r mater hwn gyda'r maes gwasanaeth.

 

Eglurodd fod buddsoddiadau wedi'u gwneud gyda'r Cyngor hwnnw yn flaenorol a bod yr arian bob amser wedi'i ddychwelyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol â'r cytundeb a wnaed. Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch lleoliad y benthyciadau presennol gyda Chyngor Thurrock, oherwydd eu hanawsterau ariannol a gofynnwyd am sicrwydd y byddai'r arian yn cael ei ddychwelyd i'r Awdurdod.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod gosod yr arian wedi'i wneud yn unol â'r Strategaeth Rheoli Trysorlys y cytunwyd arni a bod cadarnhad wedi'i dderbyn gan Gyngor Thurrock y bydd y symiau perthnasol yn cael eu had-dalu ar y dyddiadau dyledus.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Cyngor:

 

  1. Yn nodi’r gweithgareddau rheoli blynyddol y trysorlys ar gyfer 2021-22.

 

  1. Yn  nodi Dangosyddion Rheoli Trysorlys (gwirioneddol) ar gyfer 2021-22 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021-22.

 

Dogfennau ategol: