Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Dogfen Gyflwyno

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, er mwyn i'r Cyngor ystyried Dogfen Gryno Adroddiad Ymgynghori'r Cynllun Adnau (Atodiad 1 o'r adroddiad) a'r fersiwn cyflwyno arfaethedig o'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (RLDP) fel y'i diwygiwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus (Atodiadau 2 a 3) a chytuno i’r RLDP Newydd gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ogystal â’r Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w harchwilio’n annibynnol.

 

Dywedodd fod Strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol yn cwmpasu'r cyfnod 2018 i 2033 a dyma un o'r strategaethau pwysicaf y bydd y Cyngor hwn yn ei baratoi i fynd i'r afael â heriau allweddol poblogaeth sy'n tyfu ac i sicrhau gwydnwch hirdymor y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd y Strategaeth wedi’i datblygu dros gyfnod o 4 blynedd a hynny ers 2018. Bu dau ymgynghoriad cyhoeddus helaeth yn 2019 ac ym mis Gorffennaf 2021 a Sesiwn Graffu ar y strategaeth sy’n cael ei ffafrio cyn y pandemig.

 

Roedd hefyd wedi'i baratoi gyda sylfaen o dystiolaeth fanwl a grynhoir ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad. Roedd hyn yn cynnwys nifer o werthusiadau pwysig gan gynnwys Cynaladwyedd ac Asesiad o'r Effaith ar Iechyd. Roedd hefyd yn seiliedig ar dros 40 o ddogfennau ategol sy'n rhoi manylion am feysydd fel Asesiadau Trafnidiaeth, Astudiaethau Economaidd, Asesiadau Manwerthu, Archwiliad Gwyrdd ac Astudiaethau Demograffig. Roedd y rhain yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, i gyd yn hanfodol i sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn esblygu’n unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr Aelodau bod proses i'w dilyn o hyd. Er bod y Cynllun Datblygu Lleol wedi bod trwy nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus, pe bai'n cael ei gymeradwyo heddiw, byddai'n symud ymlaen i Lywodraeth Cymru lle bydd Arolygydd Cynllunio annibynnol yn cael ei benodi i gynnal Archwiliad Cyhoeddus. Felly, byddai’r Cynllun Datblygu Leol yn craffu ar ei bolisïau, ei gynlluniau a’i dystiolaeth ategol ar raddfa genedlaethol a bydd modd i’r cyhoedd, datblygwyr ac Aelodau fynychu’r Archwiliad a chyflwyno sylwadau os ydyn nhw’n dymuno.

 

Ychwanegodd ymhellach y byddai'r Arolygydd Cynllunio, os yw'n fodlon â'r Cynllun ar ôl yr Archwiliad Cyhoeddus, wedyn yn ei gyfeirio at y Gweinidog i'w gymeradwyo. Yn dilyn hyn, byddai'n cael ei gyfeirio'n ôl at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'w fabwysiadu. Gallai hyn gymryd lle yn ystod yr haf flwyddyn nesaf pe bai'n cael ei gymeradwyo heddiw.

 

O ran pam fod y Cynllun Datblygu Lleol mor bwysig eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, y rheswm pam fod y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cyfoes yn rhan hanfodol o system gynllunio a arweinir drwy fabwysiadu cynlluniau penodol yng Nghymru ac yn ddyletswydd statudol ar bob Awdurdod Lleol i’w weithredu.

 

Mae’r Cynllun yn gosod fframwaith i sicrhau bod y system gynllunio’n cyfrannu at gyflawni datblygiad cynaliadwy mewn modd cyd gysylltiedig, gan alluogi’r gallu i ddatrys problemau yn ehangach nag a fyddai’n bosibl drwy ddelio â materion lleol ar wahân.

 

Felly, heb Gynllun Datblygu Lleol cyfredol, byddai'n dod yn gynyddol anodd i'r Cyngor ganolbwyntio ar integreiddio a mynd i'r afael â phryderon defnydd aml-bwrpas o’r tir, gan arwain at broses gynllunio leol a fyddai’n mynd yn ddarniog sydd heb ei chydlynu ac yn adweithiol.

 

O fewn y Cynllun Datblygu Lleol mae darpariaeth ar gyfer dros £116m o gyfraniadau ariannol gan ddatblygwyr i gyflawni’r cynllun a phe na bai gennym Gynllun Datblygu Lleol mabwysiedig newydd fyddem ni ddim yn gallu ysgogi’r cyfraniadau hyn.

 

Roedd hefyd yn bwysig nodi bod poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn tyfu'n gyflym, a hynny o’i gymharu ag awdurdodau lleol cyfagos eraill yng Nghymru.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod Cynllun Datblygu Lleol  presennol Pen-y-bont ar Ogwr (hyd at 2021 bellach wedi dyddio). Oherwydd hyn roedd y pwysau a oedd ynghlwm wrth hyn a'r sylfaen o dystiolaeth wedi lleihau'n raddol bellach gan fod cyfnod y cynllun gwreiddiol wedi dod i ben. Paratowyd peth o'r dystiolaeth hon dros ddegawd yn ôl ac ni ellir dibynnu ar y dystiolaeth honno i gyfiawnhau penderfyniadau cynllunio i'r un graddau ag y bu.

 

Felly, bydd diffyg gweithredu yn rhoi'r Cyngor mewn sefyllfa gynyddol anodd, yn agored i her gan y diwydiant datblygu, a bydd goblygiadau parhaus ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio rhesymegol, cyd gysylltiedig a chyson ar draws y Fwrdeistref Sirol yn fwy fwy anodd. Mae hyn wedi bod yn wir yng Nghyngor Sir Caerffili lle na chafodd y Cynllun Datblygu Lleol ei fabwysiadu gan y Cyngor ac maen nhw bellach yn wynebu’r sefyllfa lle mae gwaith datblygu heb fod yn gydlynus ac ni ellir ysgogi cyfraniadau S106 hyd at y lefelau a argymhellir gan nad oes Cynllun Datblygu Lleol yn ei le i ddarparu sylfaen o dystiolaeth.

 

Roedd y Datganiad Ysgrifenedig yn yr adroddiad yn Atodiad 2, yn amlinellu'r polisïau cynllunio lleol, dyraniadau defnydd tir a chyfiawnhad cysylltiedig yn seiliedig ar y dystiolaeth ategol.

 

Mae’r map o gynigion hefyd wedi'i gynnwys yn Atodiad 2, yn dangos y dyraniadau tir, y dynodiadau cynllunio ar gyfer ffiniau aneddiadau a gynigir yn y cynllun wedi’u nodi. Mae hyn yn wybodaeth allweddol i gyflawni'r strategaeth ofodol.

 

Pennod 1 – Cyflwyniad

Pennod 2 Cyd-destun Gofodol a Strategol – proffil a chyd-destun ardal

Pennod 3 – Materion a Sbardunau Allweddol sef y pethau hynny sydd wedi sydd wedi bod mewn llunio gweledigaeth ac amcanion y cynllun yn uniongyrchol.

Pennod 4 - Yn nodi’r Fframwaith Strategol – Dyma’r weledigaeth y mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn gweithio tuag ati.

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau grynhoi’r elfennau allweddol o Bennod 4 er gwybodaeth i'r Aelodau. Roedd y crynodeb yn cynnwys:-

 

• Strategaeth Twf a Gofodol (Creu Lleoedd)

• Manylion am y Strategaeth Tir Cyflogaeth:

• Enghreifftiau o Welliannau Seilwaith Strategol ehangach a Buddsoddiad Cymunedol, byddai'r Cynllun Datblygu Lleol wedi'i ddiweddaru yn darparu:

• Darpariaeth addysg:

• Materion Isadeiledd Priffyrdd:

• Opsiynau ar gyfer tai fforddiadwy:

• Darpariaeth ar gyfer Mannau Agored Cyhoeddus:

• Cynigion ar gyfer Gofal Iechyd:

• Dyraniadau Preswyl a'u seilwaith ategol newydd:

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau grynodeb o bob un o'r elfennau hyn o'r Cynllun, er budd yr Aelodau.

 

Yna, ailadroddodd hefyd fod dogfen yr RLDP yn ddogfen strategol hollbwysig i'r Cyngor. Mae wedi cael ei pharatoi dros 4 blynedd gyda sylfaen o dystiolaeth sylweddol o ran paratoi’r ddogfen.

 

Roedd hefyd wedi bod drwy nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus a, phe bai’r ddogfen yn cael ei chymeradwyo heddiw, byddai’n destun Archwiliad Cyhoeddus gan Arolygydd annibynnol o Lywodraeth Cymru.

 

Fe ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau bod cyfle i gyflwyno sylwadau yn yr Archwiliad Cyhoeddus gan y trigolion, datblygwyr neu aelodau lleol os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Byddai'r rhain yn cael eu hystyried gan yr Arolygydd cyn i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r cynllun.

 

Byddai'r Cyngor wedyn yn gyfrifol am fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol, ar ddiwedd y broses hon.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a'r gwaith a ymrwymwyd i hyn gan Swyddogion o'r Adran Gynllunio. Byddai'r ddogfen ddiwygiedig yn sicrhau tua £116 miliwn o gyfraniadau Adran 106, yn ogystal â chynnydd net sylweddol hefyd mewn mannau agored gwyrdd hygyrch. Heb weithredu'r Cynllun Datblygu Lleol fe bwysleisiodd y byddai'r Cyngor yn profi datblygiad fyddai heb ei reoli, yn ogystal â chynllunio trwy apêl.

 

Teimlai rhai Aelodau ei bod yn anffodus bod y weinyddiaeth newydd, a oedd yn newydd i’r gwaith, yn gorfod gwneud penderfyniad ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Teimlai rhai o Gynghorwyr newydd yn y Fwrdeistref Sirol y dylai hyn fod wedi bod yn gyfrifoldeb yr Awdurdod blaenorol.

 

Yna gwnaeth yr Aelodau yn eu tro y sylwadau canlynol a gofyn y cwestiynau canlynol mewn perthynas â’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd:

 

• Mae 5 Safle Ymgeisiol yn ardal Trelales. Croesewir y gwaith uwchraddio i gylchfan Broadlands. Mae cysylltedd o ardaloedd Island Farm a thir i’r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr gyda mwy o ddatblygu yn cael ei gynnig yno, yn golygu bod angen sefydlu llwybr Teithio Llesol (Active Travel Route) cyn i waith adeiladu gael ei ddatblygu er diogelwch plant wrth feicio o Drelales i Broadlands;

 

• A oes modd egluro pam fod cynigion ar gyfer Datblygiad y Glannau, Porthcawl, yn ystyried uchafswm o 1,100 o unedau preswyl ac y bydd unrhyw gynigion ar gyfer Datblygiad y Llyn Halen yn y dyfodol yn gydnaws â graddfa’r adeilad ac uchder yr adeilad;

 

• Mewn perthynas â'r 850 o dai a gynigir ar gyfer y maes syrcas, Trelales a'r sefyllfa o ran tagfeydd traffig yn Bryn Hill a Stryd y Parc ynghyd â'r sefyllfa bresennol o ran ansawdd aer yn yr olaf, a fydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ceisio lliniaru’r tagfeydd traffig yn ogystal â’r gostyngiad yn safon yr aer o ganlyniad i lygredd y mae'r datblygiad ychwanegol yn debygol o'u creu;

 

• A allech gadarnhau y bydd y moratoriwm ar gyfer y groesfan reilffordd ym Mhencoed yn cael ei gadw yn y CDLl Newydd ac y bydd y safle preswyl newydd arfaethedig i’r dwyrain o Pencoed yn dod â llwybr Teithio Llesol er mwyn sicrhau bod cysylltedd i/o’r datblygiad, yn ogystal â sicrwydd ar gysylltiadau/ymyriadau trafnidiaeth addas eraill;

 

• Mae tai cymdeithasol a fforddiadwy ar lefel isel hanfodol yn lleol ac yn genedlaethol. A oes unrhyw ganran neu ganllawiau ar faint o'r math hwn o ddatblygiad y bwriedir ei gynnwys mewn gwahanol leoliadau o fewn y Fwrdeistref Sirol yn y CDLl;

 

• O ran Gofal Iechyd Sylfaenol, a allai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gysylltu ag Awdurdod Iechyd Cwm Taf Morgannwg i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnal a'i gwella o bosibl, yn enwedig mewn perthynas â'r Ganolfan Iechyd Cymunedol Integredig a gynigir ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr ac yng Ngogledd Corneli a Porthcawl (South Road);

 

• Mae’n braf nodi bod safleoedd Adfywio tymor hir wedi’u cynllunio o fewn Maesteg yn Ffordd Coegnant a safle Golchfa Maesteg. Gobeithir y bydd ymdrechion pellach i gael cyllid allanol yn golygu y bydd gwaith yn dechrau yn y safleoedd hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach;

 

• Mae angen mawr am dai yn y dyfodol yng Nghwm Llynfi ac ni ddylai hyn gael ei gynnig ond hefyd ei wireddu. Mae diffyg darpariaethau Addysg a Hamdden yn ardal Cwm Llynfi hefyd;

 

• O ran tir i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr, os bydd y cynllun hwn yn symud ymlaen, bydd hyn yn cyfrif am Ysgol Gynradd yn y tymor byr, ynghyd â darpariaeth Addysg Uwchradd yn fwy tymor hwy;

 

• Ystyrir ardal Porth y Cymoedd yn y CDLl fel ardal lle na fydd fawr ddim Twf Preswyl, os o gwbl. O ran Atodiad 43 i’r adroddiad – Asesiadau Trafnidiaeth Strategol, sut mae’r asesiad hwn a’r CDLl Newydd ei hun yn mynd i’r afael â’r mater cronig o ran traffig mewn perthynas â’r M4/Cyffordd 36 a’r A4061 dilynol, sy’n cysylltu a rhywfaint o gymunedau Porth y Cymoedd. A fyddai unrhyw welliannau i’r A4061 sydd o fewn awdurdod yr awdurdod lleol hefyd yn arwain at fesurau canlyniadol ar gyfer gwelliannau i gyffordd yr M4;

 

• Mae nifer o ddatblygiadau yng Nghoety Uchaf wedi arwain at fod yn fwy na'r hyn a gafodd ei gynnig ar y dechrau, e.e. Parc Derwen yn ogystal â rhai safleoedd yn y lleoliad yn cael eu datblygu yn groes i’r ddarpariaeth sydd o fewn y CDLl presennol, e.e. Ffordd Cadfan. Mae angen dysgu gwersi yma ar gyfer y CDLl Newydd a datblygwyr yn cael eu dwyn i gyfrif ar eu cynigion gwreiddiol a ddylai gydymffurfio â'r CDLl newydd. Mae angen darparu mwynderau dinesig hefyd allan o arian Adran 106 yn unol â maint adeiladu tai newydd. Fe ddylid eu darparu lle bynnag y bo modd, yn ystod camau cynnar y gwaith adeiladu;

 

• Mynegwyd pryder ynghylch yr effaith y gallai problemau traffig gormodol a llygredd aer yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr ei chael ar Wardiau cyfagos. Dylai arian Adran 106 hefyd gael ei ddyrannu a'i wario yn y Wardiau perthnasol yn hytrach nag mewn mannau eraill;

 

• A fyddai modd rhoi ystyriaeth yn yr RLDP i ddarparu Llwybr Diogel i'r Ysgol trwy gysylltu ochr orllewinol Broadlands, ar hyd Gypsy Lane i Trelales.

 

Ymatebwyd i'r pwyntiau a'r cynrychioliadau uchod gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Swyddogion Cymunedau a Chynllunio. Mae rhagor o fanylion am yr ymatebion hyn ar gael drwy'r ddolen ganlynol - Cyngor

 

Yna cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd drwy gydsyniad, y dylid cynnal pleidlais electronig ar argymhelliad yr adroddiad.

 

Roedd canlyniad y bleidlais fel a ganlyn:-

 

O blaid - 39         Yn erbyn - 4          Ymatal - 2

 

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cyngor:

 

(1)  Wedi ystyried y Ddogfen Gryno o Adroddiad Ymgynghori’r Cynllun Adnau (Atodiad 1 o’r adroddiad) a’r fersiwn cyflwyno arfaethedig o’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd fel y’i diwygiwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus (Atodiadau 2 a 3) bod cytundeb ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd diwygiedig ac ymhellach fos y Cyngor yn cytuno bod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i'w harchwilio'n annibynnol.

 

) Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i wneud unrhyw newidiadau i'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, papurau cefndir ategol a thystiolaeth dechnegol ofynnol, cyn cyflwyno'r cynllun i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Dogfennau ategol: