Agenda item

Y Cyfansoddiad a Chanllawiau’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a phwrpas yr adroddiad oedd i'r Cyngor gymeradwyo'r cyfansoddiad diwygiedig a'r canllawiau cyfansoddiad.

 

Eglurodd fod cyfansoddiad enghreifftiol newydd wedi'i ystyried gan bob awdurdod lleol. Mae arddull y cyfansoddiad newydd yn fwy dealladwy i'r cyhoedd ac mae llai o ddyblygu. Er bod y model newydd yn cynnwys darpariaethau manwl, nid yw mabwysiadu'r cyfansoddiad enghreifftiol yn gofyn am fabwysiadu'r holl ddarpariaethau manwl hynny. Ac felly yn dilyn adolygiad lleol gan swyddogion, mae rhai o ddarpariaethau manwl presennol y Cyngor ynghylch rheolau gweithdrefn, codau ymddygiad a phrotocolau wedi'u nodi ac i’w cadw er mwyn cynnal parhad a chadw’r gwaith gwerthfawr sydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd wrth adolygu pob rhan o’r cyfansoddiad presennol.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro, er bod y cyfansoddiad drafft diwygiedig (Atodiad 1 i'r adroddiad) yn edrych yn dra gwahanol i'r fersiwn gyfredol, oherwydd ei natur, roedd y ddogfen yn cynnwys yr un elfennau i raddau helaeth. Mae'r rhain yn cynnwys Rheolau Gweithdrefnol ar gyfer y Cyngor, y Pwyllgor Gwaith a Phwyllgorau Craffu, Rheolau Gweithdrefnau Ariannol, Rheolau Gweithdrefnau Contractau a Chod Ymddygiad Aelodau. Mewn gwirionedd, gweddol fach yw maint y newidiadau mewn gwirioneddol o ran sut mae'r Cyngor yn gweithio gan mai'r farn gyffredinol yw bod elfennau arwyddocaol o'r cyfansoddiad presennol yn parhau i fod yn “addas i'r diben”. O'r herwydd, mae elfennau arwyddocaol o'r adrannau sy'n llywodraethu sut mae'r Cyngor Llawn, y Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgorau Craffu yn gweithredu yn aros i raddau helaeth, os nad yn union yr un fath, â'r fersiwn gyfredol.

 

Ynghlwm yn Atodiad 2 i’r adroddiad hwn roedd canllaw y cyfansoddiad yn seiliedig ar ganllaw model Browne Jacobson a gafodd ei addasu i adlewyrchu trefniadau cyfansoddiadol y Cyngor. Roedd y canllaw yn crynhoi’r cyfan o ddarpariaethau’r cyfansoddiad hefyd ynghlwm fel Atodiad 3.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth yr Aelodau fod y Cyfansoddiad enghreifftiol a'r canllawiau wedi'u hystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 7 Gorffennaf 2022 ac argymhellodd y Pwyllgor y dylid sefydlu Gweithgor gyda chefnogaeth y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i adolygu pob agwedd ar y cyfansoddiad fel rhan o'r daith i welliant.

 

Mae Atodiad 4 yn crynhoi’r materion a adnabuwyd drwy drafodaethau’r Gweithgor ac yn gosod cyfres o argymhellion gan y Gr?p i’w hystyried fel modd o wella llywodraethu da y Cyngor. Ers cyfarfod diwethaf y Gweithgor, dylid nodi bod newidiadau pellach wedi eu gwneud i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Swyddogion (Adran 20) a hynny’n dilyn ymgynghoriad gyda’r Undebau Llafur.

 

Canmolodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fewnbwn y Gweithgor Trawsbleidiol a sefydlwyd i adolygu'r Cyfansoddiad diwygiedig.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 266 o'r adroddiad, paragraff 4.11.4 a chyhoeddiadau gan bwysigion a gofynnodd a ellid ystyried diwygio'r rhan hon o'r Cyfansoddiad, er mwyn caniatáu gofyn cwestiynau gan Aelodau ar hyn.

 

Cyfeiriodd hefyd at dudalen 395 a pharagraff 9.2.2 lle cyfeiriwyd at Bwyllgorau Rheoleiddio a gofynnodd, lle'r oedd yn nodi y gallai cynrychiolydd un Aelod Cabinet fod yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, bod hwn yn cael ei ddileu. Cyfeiriodd hefyd at ddatganiadau chwipio a oedd yn berthnasol ar gyfer Trosolwg a Chraffu, a oedd hefyd yn berthnasol i Bwyllgorau eraill, er enghraifft, y Cyngor Llawn.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro, mewn perthynas â Phwyllgorau Rheoleiddiol, fod awdurdodau lleol yn cael eu llywodraethu gan statud a oedd yn cynnwys y cyfansoddiad a argymhellir o gyrff fel y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (yn unol â'r uchod), ac felly bod yn rhaid i ni gadw at y ddeddfwriaeth hon.

 

Ychwanegodd y byddai cyfleoedd pellach yn y dyfodol lle gallai'r Aelodau ystyried adolygiad pellach o'r Cyfansoddiad fel dogfen waith, pe byddent yn teimlo bod angen hynny.

 

Cyfeiriodd Aelod at Adran 4.20 pwynt 4, paragraff (b) o’r adroddiad a lle cyfeiriwyd at bleidlais o ddiffyg hyder yn Arweinydd y Cyngor, lle dywedwyd bod diswyddo’r Arweinydd yn golygu bod angen ‘dwy ran o dair’ o’r Aelodau i bleidleisio ar yr adeg y gofynnir y cwestiwn. Cynigiodd welliant i hyn, sef newid y cyfeiriad at ‘ddwy ran o dair’ i ‘fwyafrif’ o’r Aelodau sy’n pleidleisio ar yr adeg y gofynnir y cwestiwn. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Aeth y gwelliant i bleidlais, a’r canlyniad oedd fel a ganlyn:-

 

O blaid (y gwelliant) – 16     Yn erbyn – 29       Ymatal - 0

 

Felly ni chafodd y gwelliant ei gefnogi’n ddigonol.

 

Yn dilyn y bleidlais hon, fe benderfynodd yr Aelodau y canlynol:

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cyngor:

 

• Yn cymeradwyo argymhellion Gweithgor y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Atodiad 4 i'r adroddiad);

 

• Yn cymeradwyo ymhellach y cyfansoddiad diwygiedig (Atodiad 1) a'r canllaw (Atodiad 2 a 3) a hynny i fod yn weithredol o 1 Rhagfyr 2022.

 

Dogfennau ategol: